Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Ebrill 2025.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae ymateb terfynol ar gael erbyn hyn [GOV.UK].
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU yn gofyn am fewnbwn ar gynigion i ymestyn ETS y DU y tu hwnt i ddiwedd Cam I am hanner nos ar 31 Rhagfyr 2030.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae hyn yn cyflawni’r ymrwymiad a wnaed ym mis Rhagfyr 2023 o fewn llwybr hirdymor Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i ymgynghori ar ymestyn y Cynllun. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig opsiynau ac yn ceisio barn ar y canlynol:
- ymestyn ETS y DU i ail gam, o 1 Ionawr 2031 ymlaen,
- hyd Cam II ar ôl 2030,
- a ddylid caniatáu i lwfansau allyriadau (UKAs) gael eu bancio rhwng Cam I a Cham II y Cynllun ôl-2030.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
