Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhai cleifion yn ei chael yn anodd teithio i gael gofal iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhai cleifion yn ei chael yn anodd teithio i gael gofal iechyd – gall y daith fod yn hir neu'n gymhleth, yn ddrud, neu efallai nad oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael. 

Diben HTCS yw rhoi cymorth ariannol i'r cleifion hynny sydd angen help i dalu eu costau teithio. O dan y cynllun, mae costau teithio i wasanaethau GIG mewn ysbyty yn cael eu had-dalu'n llawn, neu'n rhannol, i gleifion sydd ar incwm isel neu sy'n cael budd-daliadau neu lwfansau cymwys penodol. 

Yn ogystal ag ymestyn HTCS, mae'r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau peilot heddiw i edrych ar fudd darparu llety dros nos i gleifion a fyddai'n gymwys i ddefnyddio gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys ar gyfer triniaeth reolaidd.

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: 

"Rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi ymestyn y Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd.

"Gall cleifion sy'n cael budd-daliadau neu sydd ar incwm isel ei chael yn anodd talu costau teithio i ysbyty am driniaethau neu brofion diagnostig. Gall hyn gynyddu anghydraddoldebau iechyd ac effeithio’n negyddol ar iechyd a lles cleifion yn y tymor hir.

"Mae cleifion cymwys bellach yn gallu cael cymorth at gostau teithio i'r ysbyty am unrhyw wasanaeth ar ôl cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu neu ddeintydd. Bydd y newidiadau hyn yn arbennig o fuddiol i gleifion sy'n byw mewn cymunedau gwledig ac anghysbell – yn enwedig os oes angen iddynt deithio yn bell i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn rheolaidd. 

"Bydd cyhoeddiad heddiw yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion, gan sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn atal pobl rhag mynd i apwyntiadau meddygol angenrheidiol."