Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn cael ei gyflwyno i glybiau rygbi ar draws Cymru wrth i bryderon gynyddu am y nifer cynyddol o ddynion sy'n brwydro mewn tawelwch.
Mae'r cwrs yn helpu timau, hyfforddwyr a chwaraewyr i adnabod yr arwyddion pan fo pobl yn profi anawsterau iechyd meddwl, a chynnig cefnogaeth iddynt.
Mae'r cyfraddau hunanladdiad uchaf yng Nghymru ymhlith dynion rhwng 35 a 55 oed. Rhagwelir y bydd yn fuddiol cynnig gofod iddynt sy'n canolbwyntio ar lesiant meddyliol a chorfforol cadarnhaol.
Mae mwy na £2 filiwn hefyd yn cael ei fuddsoddi yn y Canolfan Genedlaethol ar gyfer ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae mwy na 400 o glybiau pêl-droed ar draws Cymru eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y cwrs ar-lein, sy'n cael ei gynnal gan UK Coaching a'r elusen iechyd meddwl Mind.
Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn gallu darparu mannau cefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
Yn siarad mewn uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, anogodd y Gweinidog Iechyd Meddwl Sarah Murphy glybiau rygbi i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant:
Mae'n hanfodol bod gan ddynion fynediad at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng.
Gall chwaraeon chwarae rhan werthfawr o ran cyrraedd dynion sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Rydyn ni eisiau i fwy o glybiau chwaraeon ddysgu sut i gefnogi eu chwaraewyr, eu timau a'u staff ar gam cynnar.
Bydd sefydliadau gan gynnwys y Dreigiau, Chwaraeon Cymru, y Samariaid, Mind, Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, Lads and Dads a 2Wish yn bresennol heddiw mewn uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ehangu hyfforddiant iechyd meddwl i glybiau chwaraeon yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau yn Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru, a lansiwyd y llynedd ac sydd wedi'i chynllunio i wella mynediad at gymorth ac i leihau stigma.
Mae cynnydd wedi'i wneud o ran gwella mynediad at wasanaethau cymorth heb yr angen am atgyfeiriad, gyda mwy na 230,000 o bobl yn cysylltu â gwasanaeth iechyd meddwl 111 dewis 2 ers ei lansio yng Nghymru yn 2022.
Dywedodd Rhys Blumberg, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi'r Dreigiau:
Roeddem yn falch iawn o gynnal yr uwchgynhadledd ar atal hunanladdiad ymhlith dynion yn Rodney Parade gan ein bod ni o ddifrif ynghylch iechyd meddwl ein chwaraewyr, ein hyfforddwyr a'n staff.
Fel clwb rygbi proffesiynol sy'n cynrychioli ardal enfawr yng Nghymru, rydym bob amser yn awyddus i ehangu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gynnig cyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl.
Rydym yn croesawu'r newyddion bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno i glybiau rygbi ar draws Cymru i roi'r sgiliau i bobl roi cefnogogaeth yn y ffordd fwyaf priodol ac rydym yn ymuno â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill gan annog pob clwb i fanteisio ar yr adnodd newydd hanfodol hwn.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Chwaraeon:
Mae clybiau chwaraeon yn llawer mwy na lleoedd i chwarae – maen nhw'n lleoedd lle mae cyfeillgarwch yn cael eu ffurfio, lle mae pobl yn cael ymdeimlad o berthyn, a lle gallwn gadw llygad ar ein gilydd.
Gyda mwy na 400 o glybiau pêl-droed eisoes wedi cofrestru, rwy'n gwybod y bydd ein clybiau rygbi hefyd yn croesawu'r cyfle hwn gyda'r un brwdfrydedd, ac rwy'n eu hannog i gymryd rhan.
