Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (Mawrth 9), cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is dros y Pasg a'r Sulgwyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cyllid yn seiliedig ar gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

A'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar deuluoedd ledled Cymru, mae £9 miliwn wedi'i ddarparu i gynnig pryd ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pob un o wyliau banc y cyfnod hwn.

Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol ar 9 Mawrth, sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bwyta'n iach a lles plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol drwy annog ysgolion ledled Cymru i ddathlu prydau ysgol a hybu maeth da.

Yn 2020, Cymru oedd cenedl gyntaf y DU i warantu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau'r ysgol. Awdurdodau lleol unigol sy'n penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd.

Mae Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn ystod y tymor erbyn 2024. Mae dros dair miliwn o brydau wedi cael eu gweini ers dechrau cyflwyno’r cynllun ym mis Medi 2022.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Mae llawer o deuluoedd ledled Cymru yn teimlo effaith prisiau cynyddol a'r argyfwng costau byw. Dw i'n gobeithio y bydd ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau tan hanner tymor mis Mai yn rhoi tawelwch meddwl i'r rhai sy’n gymwys.

Rydyn ni'n gwybod bod bwyd yn cael effaith enfawr ar allu plant i ganolbwyntio a’u lles cyffredinol. Dw i am i blant a phobl ifanc allu mwynhau eu gwyliau ysgol a pheidio gorfod poeni am fwyd.

Mae'r cyhoeddiad newydd hwn ynghyd â'r newyddion bod 3 miliwn o brydau bwyd wedi'u gweini drwy gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd.

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:

Yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, rydyn ni’n gweithredu i sicrhau y bydd pryd ysgol maethlon ar gael yn rhad ac am ddim i bob plentyn yn ein hysgolion cynradd yn ystod y tymor, gan leddfu'r pwysau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Drwy weithio gyda'n gilydd, mi allwn ni gyhoeddi hefyd estyniad pellach ar brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i'r rhai o deuluoedd incwm is, buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer.

Mae ein Cytundeb Cydweithio yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd y mae ei hangen yn fawr, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.