Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi bod dros £600,000 wedi’i ddyfarnu i wasanaeth sy'n darparu cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff ym maes addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn ymestyn y Gwasanaeth Llesiant Ysgolion, sy'n cael ei redeg gan Education Support. Bydd hyn yn gwella cyrhaeddiad a dyfnder y rhaglen.

Education Support yw'r unig elusen yn y DU a chanddi arbenigedd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y gweithlu addysg.

Mae'r Gwasanaeth Llesiant Ysgolion yn darparu cyngor a chymorth am ddim i ysgolion ledled Cymru gan ganolbwyntio ar lesiant staff. 

Mae cynghorwyr llesiant yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu adnoddau a chyngor ar bolisïau, arferion a strategaethau sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant staff.

Bydd y cyllid ychwanegol gwerth £600,000 a gyhoeddwyd heddiw yn cynyddu’r nifer o gynghorwyr llesiant fydd yn gallu cefnogi ysgolion er mwyn trawsnewid eu diwylliant a gwella llesiant staff. Mae'r cynghorwyr newydd eisoes wedi eu recriwtio ac mae disgwyl i’r rhaglen estynedig gael ei lansio ar 30 Ionawr. Mae gwaith i ddatblygu cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer cynorthwywyr addysgu hefyd wedi'i gomisiynu.

Mae'r rhaglenni yn cynnig dau fath o gymorth.

  • Mynediad at 'Wasanaeth Cynghori Ysgolion' sy'n rhoi’r cyfle i ysgolion gymryd rhan mewn sgyrsiau agored, gonest ac anfeirniadol am sut i wneud gwelliannau, gyda chefnogaeth cyngor a chymorth ymarferol.
  • Y gwasanaeth 'Cefnogi a Datblygu Llesiant' sy'n darparu cyfleoedd datblygu trylwyr i gynnal brwdfrydedd, diddordeb ac effeithiolrwydd staff yn eu swyddi. 

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Rwy'n falch ein bod ni yng Nghymru yn arloesi gyda'n Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant. Mae dysgu am iechyd meddwl a llesiant emosiynol bellach yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob ysgol.

Mae llesiant emosiynol y gweithlu addysg hefyd yn hanfodol ac rydym yn bwriadu cynyddu'r gefnogaeth hon o flwyddyn i flwyddyn tan 2025.

Bydd y Gwasanaeth Llesiant Ysgolion yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gefnogi'r gweithlu ac rwy'n falch iawn y bydd Education Support yn cyflwyno'r rhaglen arbennig hon eto. Mae nifer o ysgolion eisoes wedi elwa ar y gwasanaeth ac rwy'n annog pob ysgol i ddysgu sut gall y rhaglen estynedig eu helpu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Mae'r Gwasanaeth Llesiant Ysgolion yn darparu cymorth sydd wedi’i deilwra i anghenion ein gweithlu addysg er mwyn eu helpu i gael cymorth yn haws, pe bai ei angen arnynt.

Dyna yn union yw nod ein Dull Ysgol Gyfan - gwneud yn siŵr bod pawb yn yr ysgol yn cael ei gefnogi, gan gynnwys dysgwyr a staff hefyd. Rwy'n falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei hestyn i hyd yn oed rhagor o ysgolion, fel y gall mwy fyth o bobl elwa arni.

Faye McGuinness, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Education Support:

Mae athrawon, arweinwyr a staff yr ysgol yn chwarae rhan hanfodol o ran llywio bywyd plant a phobl ifanc, ac mae iechyd meddwl ac emosiynol da wrth wraidd eu gallu i wneud eu swyddi'n effeithiol.

Mae er budd pawb - disgyblion, rhieni a Chymru gyfan – i sicrhau bod addysgwyr yng Nghymru yn ddigon iach yn feddyliol ac yn emosiynol i arwain ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. 

Er mwyn i iechyd meddwl staff ffynnu, rhaid i ddiwylliant yr ysgol flaenoriaethu hynny. Er mwyn sicrhau brwdfrydedd a diddordeb y staff, rhaid iddynt barhau i ddatblygu eu harbenigedd a chynnal eu hangerdd am y swydd. Dyna pam rydym yn falch o allu ehangu'r gwasanaethau hyn i gyrraedd hyd yn oed mwy o staff yr ysgol gyda chyfleoedd datblygu, ochr yn ochr â'n Gwasanaeth Cynghori Ysgolion presennol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.