Neidio i'r prif gynnwy

Gall ffermwyr Cymru nawr wneud cais am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) am y tro cyntaf, wrth i'r Ffurflen Cais Sengl (SAF) agor heddiw, 2 Mawrth 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ffenestr SAF yn rhedeg rhwng 2 Mawrth a 15 Mai 2026. Trwyddi, gall ffermwyr roi gwybod i Lywodraeth Cymru a ydynt yn hawlio'r SFS neu'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

Anogir ffermwyr sy'n ystyried ymuno â'r SFS yn gryf i ddechrau eu cais yn gynnar. Bydd dechrau'n gynnar yn caniatáu amser i ddatrys unrhyw ymholiadau cyn y dyddiad cau ar 15 Mai.

Os oes angen diweddaru data caeau - megis cywiro ffiniau tir - rhaid i ffermwyr wneud hyn trwy'r broses Rheoli Fy Nhir cyn cyflwyno eu SAF.

Dylai ffermwyr ymgyfarwyddo â'r Gweithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i'w busnes. Mae llawer eisoes yn cyflawni gweithredoedd perthnasol, gan gynnwys profi pridd, meincnodi a rheoli cynefinoedd, ond mae digon o amser o hyd i gwblhau'r Gweithredoedd Cyffredinol trwy gydol y flwyddyn.

Gall ffermwyr wirio cynefinoedd a nodweddion tir eraill ar eu map SFS ar RPW Ar-lein.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Mae hon yn foment nodedig i ffermio Cymru a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud i ofalu am ein tir a'n hamgylchedd wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Rwy'n annog pob ffermwr cymwys i ddechrau eu cais yn gynnar - mae'r gefnogaeth yno, ac felly hefyd yr amser.

Bydd rhagor o fanylion am yr haenau Opsiynol a Chydweithredol yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2026, gan helpu ffermwyr i gynllunio eu camau nesaf. Ni fydd ceisiadau ar gyfer llawer o Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol yn agor tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae gwybodaeth allweddol lawn a dyddiadau ar gyfer Haen Gyffredinol yr SFS ar gael a Gwybodaeth ymgeisio ar gael yma Ffurflen Cais Sengl.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy: negeseuon allweddol (Chwefror 2026)