Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno Hysbysiad Cynllunio Morol (MPNs) sy'n nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs) fel rhan o waith cynllunio morol i Gymru.

Mae SRAs yn cael eu cynnig ar gyfer ynni ffrwd lanw.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 5 Mehefin 2024.

Atebwch yr ymgynghoriad hwn yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon at cynlluniomorol@llyw.cymru.
  • lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a’I phostio i:

Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu'n cynrychioli barn sefydliad.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ 

E-bost: cynlluniomorol@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: https://www.gov.wales/strategic-resource-areas-marine-planning

Cyflwyniad

O dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009), Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cynllunio morol ar gyfer rhanbarthau glannau ac alltraeth Cymru.

Mabwysiadwyd Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019. Mae’n disgrifio polisi Llywodraeth Cymru i lywio datblygiad cynaliadwy ein moroedd lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy er lles cenedlaethau heddiw ac yfory. Yn sgil cyhoeddi'r Cynllun Morol, cyflwynwyd system gynllunio newydd ar gyfer moroedd Cymru.

Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru’n gwneud darpariaeth, trwy gyhoeddi Hysbysiad Cynllunio Morol (MPN), ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs).

Mae MPNs yn darparu canllawiau cynllunio ffurfiol ar weithredu polisi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Bydd yr holl MPNs arfaethedig yn destun ymgynghoriad cyn iddynt gael eu cyflwyno. Ar ôl eu cyflwyno, bydd MPNs yn ystyriaeth berthnasol i awdurdodau cyhoeddus sy'n gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'r ardal forol.

Mae SRAs yn ardaloedd adnoddau ar wahân y mae polisi diogelu SAF_02 y Cynllun Morol yn berthnasol iddynt.

SAF_02: Diogelu adnoddau strategol

Rhaid i gynigion a allai gael effeithiau niweidiol arwyddocaol ar ragolygon unrhyw sector a gwmpesir gan y cynllun hwn i ddefnyddio adnoddau strategol cynaliadwy yn y dyfodol (o adnoddau a nodwyd gan SRA) ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â materion cydnawsedd â'r defnydd potensial hwnnw o adnoddau.

Rhaid i gynigion na allant ddangos cydnawsedd digonol gyflwyno achos clir ac argyhoeddiadol dros fwrw ymlaen.

Dylid dangos cydnawsedd, yn nhrefn blaenoriaeth:

  • osgoi effeithiau niweidiol arwyddocaol ar y defnydd potensial hwn o adnoddau strategol, a/neu
  • lleihau'r effeithiau niweidiol lle na ellir eu hosgoi; a/neu
  • lliniaru effeithiau niweidiol lle na ellir eu lleihau

Mae polisi SAF_02 yn weithredol, wrth gael ei gymhwyso i SRA, o'r adeg y caiff ei gyflwyno trwy gyhoeddi MPN.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno MPN sy'n nodi SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw.

Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs)

Amcan mapio SRAs yw gwneud yn siŵr nad yw gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion yn diodde’n amhriodol oherwydd penderfyniadau cynllunio a chydsynio tymor byr. Mae SRAs yn ardaloedd lle ceir adnoddau naturiol a allai fod â'r potensial i gefnogi defnydd yn y dyfodol gan sectorau morol penodol (y cyfeirir atynt fel 'sectorau ffocws’). Bydd polisi SAF_02 y Cynllun Morol yn cael ei gymhwyso i SRAs a nodwyd. Nod hyn yw sicrhau nad yw datblygiad newydd yn rhwystro'r potensial – mewn ffordd amhriodol a heb ystyriaeth ofalus – i'r sectorau ffocws gyflwyno ceisiadau yn y dyfodol am ganiatâd i leoli gweithgarwch yn yr ardaloedd hyn.

Nid yw nodi SRAs yn golygu y byddai datblygiad yn yr ardaloedd hyn yn cael ei gefnogi. Nid yw'n golygu chwaith bod yn rhaid i sector leoli mewn SRA. Bydd angen o hyd i bob datblygwr (p’un a yw’n gofyn am ganiatâd i leoli yn yr SRA neu’r tu allan iddi) wneud cais am ganiatâd perthnasol fydd yn cynnwys dangos ei fod yn cydsynio â pholisïau’r Cynllun Morol ar ddiogelu’r amgylchedd ac ar faterion cymdeithasol fel dod â buddiannau i gymunedau glan-môr a threftadaeth a’u cryfhau rhag newid arfordirol. Bydd angen i bob datblygwr hefyd gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol yn y ffordd arferol. Yn hytrach, bydd nodi SRAs yn sicrhau bod gallu cenedlaethau'r dyfodol i gael mynediad at adnoddau yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan awdurdodau cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â rheoli a chydsynio morol (e.e. wrth benderfynu ar geisiadau am drwydded forol).

Mae mapio SRAs yn ein helpu i ddeall lleoliad ardaloedd o adnoddau naturiol sydd â'r potensial i gefnogi defnydd yn y dyfodol a'u cysylltiad â sensitifrwydd amgylcheddol. Yn y modd hwn, mae mapio SRAs yn gam canolraddol pwysig i helpu i sicrhau bod gwaith cynllunio morol yn y dyfodol yn gallu deall ble a faint o ddatblygiad a allai fod yn bosibl yn ein moroedd, ac archwilio sut mae gwaith cynllunio morol yn gallu helpu i leoli gweithgarwch y tu allan i'r ardaloedd mwyaf amgylcheddol sensitif.

Hysbysiad Cynllunio Morol Drafft

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar Hysbysiad Cynllunio Morol (MPN) drafft yn ymwneud ag SRAs arfaethedig ar gyfer ynni ffrwd lanw.

Gan fod SRAs yn adnodd cynllunio morol newydd, rydym yn ymgynghori ar yr SRAs, ar gyfer ynni ffrwd lanw. Bydd yr ymgynghoriad cyntaf hwn yn ein helpu i ddeall ac ystyried barn rhanddeiliaid a chymunedau, gan lywio’n penderfyniadau ynghylch yr SRAs ynni ffrwd lanw hyn ac wrth ymgynghori ar SRAs ar gyfer sectorau eraill.

Mae’r penderfyniad i ymgynghori yn gyntaf ar ynni ffrwd lanw yn adlewyrchu’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei rhoi i gefnogi datblygu cynaliadwy. Mae’r sector ynni ffrwd lanw yn dibynnu ar ardaloedd o adnoddau sy’n gymharol fach rydym yn eu hadnabod yn dda, gan olygu eu bod yn addas ar gyfer eu diogelu. 

Nid yw'r ffaith nad ydym yn ystyried SRAs ar gyfer sectorau eraill fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol hwn yn golygu na fyddai unrhyw fudd mewn gwneud hynny. Fel proses gynllunio integredig, mae’n bwysig bod cynllunio morol yn digwydd mewn ffordd holistig ar draws sectorau, gan gynnwys mewn sectorau sydd wedi ennill eu plwyf yn ogystal â’r rheini sy’n cynnig cyfleoedd newydd sy’n tyfu, gan gynnwys i’n cymunedau arfordirol. Byddwn felly yn parhau i weithio i ddatblygu mapiau a deall potensial datblygu SRAs ar gyfer sectorau eraill.

Yn benodol, a chan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddwn am weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ar gyfer SRAs mewn dyframaethu erbyn diwedd 2024 ac ymgynghori arnyn nhw. Byddwn yn gweithio hefyd gydag Ystadau’r Goron i ddatblygu mapiau a deall potensial SRAs ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol yn y môr ac yn ystyried manteision SRAs ar gyfer agregau morol. Law yn llaw â hyn, byddwn yn gweithio i ddeall yr adnoddau a’r lle sydd eu hangen ar gyfer ynni’r tonnau ac ynni amrediad y llanw, er mwyn gallu ystyried manteision cynnig SRAs ar gyfer y sectorau hyn.

Mae’r MPN drafft yn amlinellu'r sail resymegol a'r cyd-destun polisi cynllunio morol ar gyfer cyflwyno SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw, ac mae'n nodi'r ardaloedd a gwmpesir gan yr SRAs arfaethedig.

Ategir yr MPN drafft gan adroddiad tarddiad sy'n amlinellu'r broses fapio a'r manylion technegol a ddefnyddiwyd i nodi'r SRAs arfaethedig.

Proses fapio SRAs

Mae'r SRAs arfaethedig wedi cael eu mapio yn unol â meini prawf lefel uchel a amlinellir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae'r gofynion lefel uchel hyn yn cael eu hategu gan egwyddorion dylunio SRA penodol er mwyn helpu i lywio'r broses fapio, sydd ar gael yn y ddogfen Nodi Ardaloedd Adnoddau Strategol: egwyddorion dylunio. Gyda'i gilydd, mae'r meini prawf lefel uchel a'r egwyddorion dylunio yn darparu fframwaith i sicrhau bod SRAs a phroses fapio'r SRAs yn gwneud y canlynol:
 

  • yn cyd-fynd yn briodol ag amcanion a pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru;
  • yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael;
  • yn canolbwyntio mesurau diogelu ar adnodd sy'n dechnegol hyfyw;
  • yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydfodolaeth ac yn lleihau gwrthdaro posibl rhwng cyfleoedd mewn gwahanol sectorau;
  • yn sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau'r sector ffocws â'r baich rheoleiddiol ar sectorau eraill sy'n deillio o gyflwyno SRAs;
  • yn gymesur â graddfa gweithredu sector ar hyn o bryd a'r gyfradd dwf bosibl; ac
  • yn darparu eglurder o ran diogelu; gan sicrhau SRAs cymesur, cydlynol sydd â ffocws gofodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â rhanddeiliaid, gan gynnwys ei Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol, i fapio SRAs posibl.

Man cychwyn proses fapio'r SRA oedd yr Ardaloedd Adnoddau eang a nodwyd gan Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer sectorau amrywiol. Mae'r Ardaloedd Adnoddau hyn yn ardaloedd eang lle mae adnoddau naturiol, fel ynni morol, i’w cael ac yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu y gallent (o ran ymarferoldeb technegol) fod ar gael i'w defnyddio mewn ffordd gynaliadwy gan sector penodol. 

Adnodd gwybodaeth yn unig yw mapiau Ardaloedd Adnoddau ac maent yn cael eu dangos ar Borthol Cynllunio Morol Cymru. Fel y nodir yn y Cynllun Morol, gall dosbarthiad gofodol yr ardaloedd adnoddau hyn newid wrth i'r dystiolaeth wella neu wrth i dechnoleg y sector ddatblygu.

Cwblhawyd y gwaith mapio technegol i fireinio'r Ardaloedd Adnoddau hyn gan ABPMer ar ran Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad amrywiaeth eang o randdeiliaid. Roedd y broses yn cynnwys:

  • cytuno ar sectorau ffocws ac unrhyw israniadau sector ar sail natur y gweithgaredd neu'r dechnoleg a ddefnyddir;
  • dilysu'r Ardaloedd Adnoddau sylfaenol, gan ystyried y dystiolaeth sydd ar gael a nodweddion sector-benodol; a
  • nodi ac eithrio ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau caled h.y. ffactorau fel seilwaith neu weithgaredd sefydlog presennol (gan gynnwys mannau tanio byw'r Weinyddiaeth Amddiffyn neu lwybrau morgludo prysur) sy'n golygu nad yw datblygiad newydd ar gyfer sector penodol yn ymarferol.

Roedd y broses hon yn ymdrin â mapio mewn perthynas â'r sectorau ffrwd ac amrediad llanw, ynni'r tonnau, gwynt alltraeth arnofiol, agregau morol a dyframaeth (dwygragennog a gwymon). Ar gyfer pob un o'r sectorau hyn, roedd yn bosibl nodi Ardaloedd Adnoddau wedi'u Mireinio h.y. ardaloedd lle gallai amodau technegol fod yn briodol i gefnogi defnydd yn y dyfodol, y mae ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau caled wedi'u dileu ohonynt.

Roedd yr Ardaloedd Adnoddau wedi'u Mireinio yn fan cychwyn ar gyfer defnyddio egwyddorion dylunio SRA ymhellach wrth fapio SRAs posibl. Roedd y broses yn cynnwys dileu ardaloedd bach ac ynysig neu ddarniog er mwyn osgoi ardaloedd rhy gymhleth neu ddarniog. Hefyd, roedd yn cynnwys defnyddio ystyriaethau polisi gofodol er mwyn, gan gynnwys:

  • canolbwyntio'r broses fapio ar ardaloedd sydd fwyaf tebygol o fod yn ffocws realistig i'r sectorau ffocws, gan ddileu ardaloedd alltraeth ac ardaloedd sy'n agos iawn at y glannau nad ydynt yn debygol o fod yn realistig neu'n ymarferol hyfyw ar hyn o bryd; a
  • sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau'r sector ffocws â'r baich rheoleiddiol posibl ar sectorau eraill sy'n deillio o gyflwyno SRA.

Yn ogystal, nodwyd amrywiaeth eang o gyfyngiadau meddal sy'n berthnasol i bob sector ffocws. Mae cyfyngiadau meddal yn ffactorau (fel ecoleg, morweddau a gweithgarwch morol fel pysgota neu gychod hamdden) a fydd yn ystyriaeth debygol wrth gynllunio prosiectau ac a allai ddylanwadu ar y posibilrwydd o sicrhau caniatâd mewn ardal benodol. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall rhai cyfyngiadau meddal weithredu fel cyfyngiad arwyddocaol iawn i'r potensial ar gyfer datblygu mewn SRA. Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd eraill, gall mesurau dylunio, lliniaru a/neu ddigolledu fod yn opsiwn ar gyfer caniatáu i brosiect fynd rhagddo heb effeithiau niweidiol amhriodol mewn ardal sydd â chyfyngiadau meddal amrywiol, sy'n golygu nad yw cyfyngiad meddal yn cyfyngu ar ddatblygiad ym mhob sefyllfa o reidrwydd.

Penderfynwyd, mewn cytundeb â rhanddeiliaid, na fyddai'r cyfyngiadau meddal hyn yn cael eu defnyddio i nodi neu fireinio ffiniau SRAs posibl. Bydd gwaith mapio cyfyngiadau meddal yn cael ei wneud ochr yn ochr ag unrhyw SRAs, gan hwyluso dealltwriaeth well o ragolygon sector yn y dyfodol, y posibilrwydd o sicrhau cydfodolaeth mewn ardal benodol, a'r lleoliad gorau ar gyfer rhai defnyddiau mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Roedd data gofodol a ystyriwyd drwy'r broses fapio’n amrywio gan ddibynnu ar y sector. Mae'r fethodoleg fapio fanwl i'w gweld yn adroddiad tarddiad yr SRA, sydd wedi'i gyhoeddi law yn llaw â'r ddogfen ymgynghori hon.

Penderfyniad i fwrw ymlaen ag SRAs arfaethedig

Fel sy'n ofynnol gan Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru, wrth ystyried yr angen am SRAs, wedi rhoi sylw i faterion fel y canlynol:

  • y posibilrwydd y bydd angen i sector ehangu;
  • yr adnoddau y mae sector yn dibynnu arnynt yn cael eu heffeithio gan sector aral, a 
  • mantais gymharol cyflwyno SRA o gymharu â pheidio â gwneud hynny. 

Yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bod yna fanteision i gynnig cyflwyno SRAs. Fodd bynnag, am fod SRAs yn adnodd cynllunio morol newydd, byddwn yn gwneud hyn yn ofalus a fesul cam, gan ystyried barn ein rhanddeiliaid a chymunedau.

Rydym felly am ddechrau trwy ymgynghori ar SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw. Drwy hynny, cawn ystyried a deall barn ein rhanddeiliaid a chymunedau, gan lywio’n penderfyniadau ynghylch yr SRAs cyntaf a gynigir ar gyfer ynni ffrwd lanw, yr SRAs eu hunain a manteision ymgynghori ar SRAs ar gyfer sectorau eraill.

Mae’r penderfyniad i ymgynghori ar SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw yn y cyfnod cychwynnol hwn yn adlewyrchu’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ynni ffrwd lanw a bod ynni'r llanw’n rhan bwysig o’r Rhaglen Lywodraethu. Ond mae ynni ffrwd lanw’n dibynnu ar ardaloedd adnoddau cymharol fach. Rydym yn deall yr ardaloedd adnoddau hyn yn dda ac maen nhw’n gymharol wasgaredig, sy'n golygu ei bod o bosibl yn addas ar gyfer eu diogelu. Mae yna ddyheadau hefyd i'r sector gynyddu o ran maint, sy'n golygu bod SRAs yn gyfrwng addas ar gyfer diogelu adnoddau. Nodir bod y cyfyngiadau o ran y cysylltu â’r grid yn ystyriaeth ar hyn o bryd ar gyfer SRAs arfaethedig Pen Llŷn a Sir Benfro. Fodd bynnag, mae'r ardaloedd hyn wedi'u cadw o fewn cwmpas yr SRAs arfaethedig oherwydd potensial yr adnodd ffrwd lanw i gefnogi cynlluniau sy'n darparu budd i gymunedau lleol a chyfleoedd am swyddi o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau arfordirol.

Mae Egwyddorion Dylunio SRAs yn cynnwys rhoi sylw i’w hystyried ar gyfer y rhannau sy’n nes at yr arfordir (o fewn 12 milltir forol o’r arfordir). Yn unol â hynny, mae’r SRAs cyntaf sy’n cael eu cynnig ar gyfer ynni ffrwd lanw yn canolbwyntio ar yr ardaloedd sy’n debygol o fod o fwy o ddiddordeb i’r sector nawr, heb gynnwys yr ardaloedd yn y môr mawr sydd fwy na 12 milltir o’r arfordir. Nid yw hynny’n golygu na chaiff yr ardaloedd hyn eu hystyried i’w cynnwys mewn SRAs yn y dyfodol

Nid yw'r ffaith nad ydym yn ystyried SRAs ar gyfer sectorau eraill fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol hwn yn golygu na fyddai unrhyw fudd mewn gwneud hynny. Fel proses gynllunio integredig, mae’n bwysig bod cynllunio morol yn digwydd mewn ffordd holistig ar draws sectorau, gan gynnwys mewn sectorau sydd wedi ennill eu plwyf yn ogystal â’r rheini sy’n cynnig cyfleoedd newydd sy’n tyfu. Felly gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn a barn rhanddeiliaid a chymunedau, byddwn am lunio SRAs ar gyfer sectorau eraill neu gyflwyno canllawiau gofodol mewn ffyrdd eraill fel rhan o’n gwaith cynllunio morol.

Byddwn yn benodol, a chan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn ac yn unol ag Egwyddorion Dylunio SRAs, yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fireinio data gofodol a mapiau er mwyn i ni allu datblygu a pharatoi cynigion ar gyfer SRAs dyframaethu yn ardal y glannau erbyn diwedd 2024. Byddwn yn ystyried hefyd fanteision defnyddio SRAs ar gyfer agregau morol a sectorau pwysig eraill sy’n rhyngweithio â’i gilydd yn ardal glannau’r cynllun. Mae hynny’n cynnwys ynni’r tonnau ac ynni amrediad y llanw, sef sectorau newydd ac arloesol sydd â photensial i gyfrannu at ddatgarboneiddio’n system ynni a chynnig cyfleoedd gwaith yn ein cymunedau arfordirol. Gan fod y sectorau hyn yn gymharol newydd o ran eu datblygiad, byddwn yn parhau i weithio i ddeall yr adnoddau a’r lle sydd eu hangen arnyn nhw, er mwyn i ni allu ystyried manteision cynnig SRAs ar eu cyfer.

Ar gyfer ardal y môr mawr, byddwn yn gweithio gydag Ystadau’r Goron i ddatblygu mapiau ac i ddeall manteision posibl cynnig SRAs ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol yn y môr. Mae gan wynt arnofiol yn y môr y potensial i gyfrannu’n sylweddol at ddatgarboneiddio’r system ynni a’n helpu i gyrraedd sero net yng Nghymru. Mae ganddo hefyd y potensial i gynnig gwaith arwyddocaol ac o ansawdd uchel a chyfleoedd yn y cadwyni cyflenwi, gan gynnal ein cymunedau arfordirol. Rydym felly am roi blaenoriaeth i ddatblygu arfau cynllunio morol i wneud yn fawr o’r cyfraniad a’r buddiannau y gall gwynt arnofiol ar y môr eu cynnig, hynny i’n cymunedau ac o ran ein huchelgais i fod yn sero net dros y tymor canolig i hir.

Er y bydd y penderfyniad i gynnig SRAs ar gyfer sectorau eraill yn dibynnu ar ganlyniad y cam cyntaf hwn o’r ymgynghoriad, bydd y dystiolaeth a ddatblygir yn ystod y broses fapio a ddisgrifir uchod ar gael trwy Borthol Cynllunio Morol Cymru. Mae'r dystiolaeth hon yn adnodd pwysig i'w ddefnyddio gan y sectorau gwahanol i'w helpu i gynllunio prosiectau.

Yn ogystal â sicrhau bod y dystiolaeth hon ar gael, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag Ystad y Goron i ddeall sut mae dull gweithredu sy'n seiliedig ar Wely'r Môr Cyfan yn gallu cynorthwyo gwaith cynllunio morol i Gymru, gan gynnwys nodi SRAs posibl eraill. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar fentrau cynllunio morol perthnasol, gan gynnwys y Rhaglen Blaenoriaethu Gofodol Morol sy'n ystyried materion fel cydleoli gofodol, optimeiddio a blaenoriaethu yn nyfroedd Lloegr.

Asesiadau effaith

Gellir ystyried MPN yn 'gynllun' o safbwynt Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (HRA) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA). O ganlyniad, mae ymarferion sgrinio HRA ac SEA wedi'u cynnal, ac mae’n nhw ar gael yma Ardaloedd Adnoddau Strategol: canllaw. Daeth yr asesiadau hyn i'r casgliad nad oes gofyniad am SEA neu Asesiad Priodol HRA, gan nad oes unrhyw botensial i MPN gael effaith arwyddocaol debygol ar amgylchedd neu nodweddion safleoedd gwarchodedig. Roedd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei hun yn destun HRA ac SEA (fel rhan o broses Arfarnu Cynaliadwyedd ehangach), ac maent ar gael yn y dogfennau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: arfarniad o gynaliadwyedd a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru: asesiad o reoliadau cynefinoedd.

Mae SRAs yn cael effaith ar benderfyniadau awdurdodau cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw sector sy'n cynnig gweithgaredd oddi mewn i SRA neu weithgaredd a allai effeithio ar SRA. Aseswyd effaith reoleiddiol bosibl cyflwyno SRAs fel rhan o broses Arfarnu Cynaliadwyedd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sydd ar gael yn y ddogfen Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: arfarniad o gynaliadwyedd. Yn ogystal, cwblhawyd Arfarniad Cynaliadwyedd ar broses fapio'r SRAs er mwyn cefnogi ystyriaethau polisi ar SRAs, ac mae ar gael ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori hon.

Gweld mapiau

Wrth ystyried cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno SRAs, mae'n bosibl y bydd pobl â diddordeb yn dymuno gweld yr SRAs arfaethedig law yn llaw â data gofodol arall er mwyn deall y cysylltiad rhwng haenau gofodol gwahanol (gweithgarwch pobl, adnoddau naturiol a mesurau rheoli).

Mae Porthol Cynllunio Morol Cymru yn cynnwys yr ardaloedd SRA arfaethedig mewn haen o dan yr hierarchaeth ganlynol: Ymgysylltu > Mapio ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Strategol.

Bydd y dystiolaeth ofodol hon ar gael i gefnogi unrhyw MPN a gyflwynir, gan sicrhau bod modd i ddatblygwyr a phobl â diddordeb weld a deall cyfyngiadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol pwysig i ddatblygiad posibl.

Mae canllaw i ddefnyddiwr ar gael yn y Porthol Cynllunio Morol o dan yr opsiwn 'Cymorth'.

Camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad hwn ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion.

Mae'n bosibl y bydd rhagor o waith mapio’n cael ei wneud, gan ddibynnu ar yr adborth sy'n dod i law, er mwyn mireinio a nodi unrhyw SRAs a gynigir fel rhai terfynol sydd i'w cynnwys mewn MPN terfynol.

Bydd Gweinidog Cymru, gan ystyried y farn a fynegir gan ein rhanddeiliaid a chymunedau trwy’r ymgynghoriad hwn, yn gwneud penderfyniad ar gyflwyno unrhyw SRAs trwy MPN. Bydd unrhyw SRA, a'r broses o gymhwyso polisi SAF_02 i'r SRA honno, yn weithredol o'r adeg pan gaiff ei chyflwyno trwy gyhoeddi MPN.

Byddwn yn parhau i adolygu effaith unrhyw SRAs a gyflwynir. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a pharatoi cynigion ar gyfer ymgynghori ar SRAs ar gyfer dyframaethu erbyn diwedd 2024. Byddwn yn gweithio hefyd gydag Ystadau’r Goron i ddatblygu mapiau ac i ddeall potensial cynnig SRAs ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol yn y môr, a byddwn yn ystyried manteision defnyddio SRAs ar gyfer agregau morol. Law yn llaw â hyn, byddwn yn parhau i weithio i ddeall yr adnoddau a’r lle sydd eu hangen ar ynni’r llanw ac ynni amrediad y llanw, er mwyn gallu ystyried manteision cynnig SRAs ar gyfer y sectorau hyn. Bydd effaith unrhyw SRAs yn cael ei chynnwys yn ein hadroddiad tair blynedd i Senedd Cymru ar effaith Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cwestiynau ymgynghori

Byddai Llywodraeth Cymru’n croesawu unrhyw safbwyntiau ar yr Hysbysiad Cynllunio Morol (MPN) drafft ar gyfer ynni ffrwd lanw, yn enwedig ar y cwestiynau canlynol. Cyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ateb.

Cwestiwn 1 - Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno SRAs ar gyfer ynni ffrwd lanw?

Cwestiwn 2 - Ydych chi'n cytuno â'r cyfyngiadau gofodol sydd wedi'u defnyddio wrth nodi SRAs ynni ffrwd lanw arfaethedig?

Cwestiwn 3 - Ydych chi'n cytuno â ffiniau arfaethedig yr SRAs ynni ffrwd lanw?

Cwestiwn 4 - Ydych chi'n gwybod am unrhyw dystiolaeth ofodol ychwanegol a ddylai fod ar gael ar Borthol Cynllunio Morol Cymru i helpu defnyddwyr i ddeall cyfyngiadau a chyfleoedd perthnasol ar gyfer pob SRA?

Cwestiwn 5 – Ydych chi’n credu y dylai SRAs posibl gael eu datblygu a’u cynnig i ymgynghori arnynt ar gyfer sectorau eraill?

Cwestiwn 6 - A oes gennych unrhyw sylwadau ar ganfyddiadau'r Arfarniad Cynaliadwyedd o waith mapio SRAs?

Cwestiwn 7 - Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol cyflwyno SRAs ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  

Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?  

Cwestiwn 8 - Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y broses o gyflwyno SRAs er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 9 - Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi:

Rhowch eich sylwadau yma:

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, ticiwch yma.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae'n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio'ch manylion cyn cyhoeddi'ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a'i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu 'dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/