Neidio i'r prif gynnwys

Mae ymgynghoriad wedi'i lansio ar bolisi cynllunio newydd yng Nghymru ar gyfer dull o osod ceblau trydan o dan y ddaear yn gyntaf yn achos llinellau trydan 11-132kV newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Ymgynghoriad wedi'i lansio ar bolisi cynllunio newydd ar gyfer dull o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf yn achos llinellau trydan 11-132kV newydd.
  • Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau trydan datganoledig.
  • Mae angen cynllunio seilwaith yn sensitif er mwyn lleihau effeithiau ar yr amgylchedd a chymunedau.

Byddai'r newid yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau trydan datganoledig yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y ffordd orau o weithredu'r newid, gan ystyried dyluniad a gweithrediad y polisi.

O dan y polisi, dim ond pan fo profion cynllunio penodol yn cael eu bodloni y byddai opsiynau uwch ben yn cael eu defnyddio, a phan fyddent yn cael eu gosod trwy bolion pren isel neu seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol.

Mae'r grid trydan yn hwylusydd hanfodol i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru wrth i Gymru bontio i ddyfodol carbon isel.

Mae sicrhau bod trydan glân, diogel a fforddiadwy ar gael i bweru ein cartrefi, ein busnesau a'n trafnidiaeth nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd eisiau cydbwyso buddiannau amgylcheddol, cymunedol ac economaidd yn briodol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto i roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur a sicrhau mai'r sefyllfa ddiofyn ar gyfer llinellau trydan newydd yng Nghymru yw eu gosod o dan y ddaear.

Mae'r trawsnewid i system ynni carbon isel yn ganolog i'n huchelgais i gyrraedd sero net erbyn 2040 ac i gyflawni ein cenhadaeth cynhyrchiant.

Rydym yn gwybod y bydd angen seilwaith grid newydd ar y newidiadau angenrheidiol yn y ffordd y mae ynni'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yng Nghymru, ond rydym hefyd yn gwybod y gall seilwaith newydd effeithio ar y cymunedau a'r amgylchedd sy'n ei gynnal.

Rydym eisiau gweld seilwaith sydd wedi'i gynllunio'n sensitif i leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n ei gynnal, gan gynnig y manteision mwyaf posibl i Gymru.