Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynodd Erthygl 4 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 Ran 1A newydd i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (Gorchymyn 2012). Mae Rhan 1A yn disgrifio'r rheolau newydd ynghylch y gofyn statudol i ymgynghori neu hysbysu cyn gwneud cais am ddatblygiad mawr.

Ymgynghori â Gweinidogion Cymru

Yn ôl y Rhan 1A newydd, mae gofyn i ddatblygwr ymgynghori â'r awdurdod, y corff neu'r person a nodir yn Atodlen 4 Gorchymyn 2012 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r rhestr a ganlyn yn nodi'r paragraffau perthnasol yn Atodlen 4 lle bydd yn rhaid ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

Mae rhannau gwahanol o Lywodraeth Cymru yn ystyried cynigion gwahanol.

Paragraff E

Datblygiad sy'n debygol o o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig:

  • sy'n ymuno â'r gefnffordd neu sy'n ymadael â'r gefnffordd; neu 
  • sy'n defnyddio croesfan dros reilffordd.

Cyfarwyddiaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru fydd yn ystyried y cynigion hyn.

Dylid anfon cynigion ar gyfer y De a'r Gorllewin at: LGC_Development_Control-South@llyw.cymru

Dylid anfon cynigion ar gyfer y Gogledd a'r Canolbarth at: NorthandMidWalesDevelopmentControlMailbox@llyw.cymru

Paragraff I

  • Datblygiad sy'n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig. 
  • Datblygiad sy'n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol:  
    • bod o fewn pellter o 0.5 cilometr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig; 
    • bod o fewn pellter o 1 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 15 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.2 hectar neu fwy; 
    • bod o fewn pellter o 2 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 50 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy;
    • bod o fewn pellter o 3 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 75 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy; neu
    • bod o fewn pellter o 5 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 100 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy.
  • Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar safle parc neu ardd hanesyddol gofrestredig neu ei (l)leoliad; 
  • Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y bydd angen Asesu'r Effaith ar yr Amgylchedd; neu 
  • Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar werth Cyffredinol Eithriadol Safle Treftadaeth y Byd

Cadw fydd yn ystyried y cynigion hyn. Dylid anfon cynigion at cynlluniocadw@llyw.cymru

Paragraff S

Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu:

  • colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu 
  • colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.

Cyfarwyddiaeth Amaeth Llywodraeth Cymru fydd yn ystyried y cynigion hyn. Dylid anfon cynigion at LQAS@llyw.cymru

Hysbysu Gweinidogion Cymru

Mae Rhan 1A yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i ddatblygwr roi cyhoeddusrwydd i'r cais arfaethedig, gan gynnwys ysgrifennu at unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Os mai Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y tir, dylech anfon yr hysbysiad at estatesprofessionalservices@llyw.cymru