Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ym mis Mawrth 2021, comisiynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd adolygiad annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol (“y Fframwaith”)  ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 “Deddf 2000”). Ceir trosolwg o’r Fframwaith yn Atodiad 2. Mae’n cwmpasu cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cyd-bwyllgorau corfforedig, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub a chynghorau cymuned a thref. Pan ddefnyddir y termau cyngor/cynghorau yn y ddogfen hon mae hynny’n cynnwys hefyd bob aelod o’r cyrff a enwir uchod.

Nid oes fawr o newid wedi bod i’r Fframwaith dros yr ugain mlynedd diwethaf, felly teimlid bod adolygiad annibynnol yn bwysig er mwyn cynnal hyder yn y system a sicrhau bod datblygiadau o ran gwaith cynghorwyr a’u bywydau cyhoeddus yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd y mae’n gweithredu.

Mae fframwaith moesegol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl a chynghorwyr o bob cefndir yr hyder i ymgysylltu â democratiaeth leol neu sefyll am swydd etholedig. Mae’n rhan o wneud Cymru’n genedl amrywiol a chynhwysol ac mae ei adolygu yn gam gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Ar ben hynny, mae’n hanfodol bod y Fframwaith yn adlewyrchu’r deddfwriaeth sylweddol sydd wedi’i gwneud ers ei sefydlu, yn benodol Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). Mae’r ddogfen hon yn cynnwys dolenni i’r ddeddfwriaeth wreiddiol. Mewn rhai achosion, mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei diwygio ers hynny ac mae dolenni i’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig wedi’u cynnwys yn y llyfryddiaeth ar ddiwedd y ddogfen hon.

Cyflwynodd Deddf 2021 nifer o fesurau i ategu’r fframwaith presennol. Yn gyntaf, gosododd ddyletswydd newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau eu grŵp. Wrth wneud hynny, rhaid i arweinydd grŵp gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor wrth arfer ei swyddogaethau i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel. Yn ei dro, mae gan bwyllgor safonau swyddogaethau newydd o dan Ddeddf 2021 uchod i sicrhau bod arweinwyr grwpiau yn gallu cael gafael ar gyngor a hyfforddiant i gefnogi eu dyletswyddau newydd ac i fonitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau â’r dyletswyddau hynny.

Yn ail, ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, bydd yn ofynnol i bwyllgorau safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i’r cyngor yn disgrifio sut mae swyddogaethau’r pwyllgor wedi cael eu cyflawni ac yn rhoi trosolwg o faterion ymddygiad o fewn y cyngor. Bydd yn rhaid i’r cyngor ystyried yr adroddiad ac unrhyw argymhellion o fewn 3 mis i’w dderbyn.

Cylch Gorchwyl yr Adolygiad

Cynhaliwyd yr adolygiad annibynnol (“yr Adolygiad”) gan Richard Penn, cyn-brif weithredwr awdurdod lleol a chyn-gadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Roedd telerau’r adolygiad fel a ganlyn:

  • archwiliad o’r codau ymddygiad a fabwysiadwyd gan yr holl awdurdodau gofynnol yn erbyn y Cod Ymddygiad Enghreifftiol i ganfod unrhyw amrywiadau lleol
  • dadansoddiad o effeithiolrwydd y Fframwaith o ran meithrin safonau uchel o ran ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru a hyder y cyhoedd yn y trefniadau hynny
  • ystyried a yw’r Fframwaith yn dal yn ‘addas at ei ddiben’, gan gynnwys a yw’r deg egwyddor ymddygiad yn dal yn berthnasol ac a oes angen diweddaru’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol. Roedd hyn yn cynnwys nodi meysydd lle gellid / y dylid gwella’r trefniadau presennol
  • ystyriaeth o rôl pwyllgorau safonau, gan gynnwys eu rôl yng nghyswllt cynghorau cymuned ac a yw sefydlu is-bwyllgorau yn cael unrhyw effaith ar y broses o gefnogi cynghorau cymuned a delio â chwynion
  • dadansoddiad o’r trefniadau a’r protocolau sydd ar waith o fewn awdurdodau i gefnogi aelodau a staff i atal yr angen i faterion  a) godi yn y lle cyntaf, a b) gael eu gwaethygu y tu hwnt i ddatrysiad lleol. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel cyfathrebu a chyfeirio clir, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth a dull yr awdurdodau o fynd i’r afael â phryderon.
  • ystyried y sancsiynau presennol ac a ydynt yn dal yn briodol

Casgliadau’r Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol

Daeth yr Adolygiad i’r casgliad bod y Fframwaith presennol yn ‘addas at ei ddiben’ a’i fod yn gweithio’n dda yn ymarferol. Awgrymodd y gallai rhai newidiadau arwain at roi mwy o bwyslais yn y Fframwaith ar atal cwynion, gwella’r ffordd yr ymdrinnir â chwynion a sicrhau bod safonau moesegol sy’n uchel eisoes yn cael eu gwella ymhellach. 

Datblygu’r Papur Ymgynghori hwn

Ers cyhoeddi’r Adolygiad, rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys swyddogion monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’i swyddfa, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Un Llais Cymru. Fe wnaethom wrando’n ofalus hefyd ar y drafodaeth am argymhellion yr Adolygiad yng Nghynhadledd Safonau Cymru Gyfan ym mis Chwefror 2022. Ar ben hynny, rydym yn ddiolchgar i’r pwyllgorau safonau sydd wedi ysgrifennu atom gyda’u barn. Mae’r papur ymgynghori hwn yn adeiladu ar argymhellion yr Adolygiad gan ystyried y trafodaethau hyn a dulliau cyfathrebu eraill.

Ystyried Argymhellion yr Adolygiad

Argymhelliad 1

Nid yw'r Cod yn cynnig unrhyw drothwy o ran datgan unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant perthnasol na mantais. Dylai'r trothwy gael ei nodi yn y Cod er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Ystyried Argymhelliad 1

Mae’r Adolygiad yn nodi nad yw’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol (“y Cod Enghreifftiol”) yn cynnwys trothwy ar gyfer datgan rhoddion, lletygarwch, buddiant perthnasol na mantais. O ganlyniad, lle mae cynghorau wedi penderfynu cynnwys trothwy yn eu codau eu hunain, gwelwyd amrywiad eang, yn amrywio o £21 i £100. Mae Cod Ymddygiad Model yn atodiad i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008, fel y'i diwygiwyd.

Mae gwaith archwilio pellach gyda rhanddeiliaid yn awgrymu mai’r rheswm am hyn yw bod gwahanol gynghorau o wahanol feintiau a chyfansoddiad. Hefyd, mae amgylchiadau lleol yn effeithio ar a yw cynghorau wedi penderfynu cynnwys trothwy yn eu cod eu hunain ai peidio ac, os felly, beth yw’r trothwy. Efallai na fydd trothwy o £100 neu £150, er enghraifft, yn briodol ar gyfer rhai cynghorau, gan y gallai fod yn rhy uchel i rai, ac yn rhy isel i eraill

Nid ydym yn cynnig diwygio'r Model Enghreifftiol, ond gan gydnabod bod y dulliau o fynd ati i fonitro rhoddion a lletygarwch yn faterion sensitif yn aml, rydym wedi argymell yn ein Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau Cymru ategu darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y dylai’r dull o fynd ati gael ei adolygu a’i gytuno o fewn prif gynghorau unigol ac y dylai’r adolygiad rheolaidd o drothwyon ar gyfer datgan anrhegion, lletygarwch, buddiant perthnasol neu fantais, yn cael ei gynnwys yn adroddiad blynyddol y pwyllgor safonau. Bydd hyn yn helpu o ran tryloywder y trefniadau.

Fel rhan o’r canllawiau, rydym wedi awgrymu bod hwn yn fater y dylid ei drafod fel mater o drefn gan y swyddogion monitro a chadeiryddion grwpiau pwyllgorau safonau.

Argymhelliad 2

Mae'n ofynnol i aelodau gynnwys eu cyfeiriad cartref yng Nghofrestr Buddiannau eu Cyngor. Cytunir na ddylai'r Cod ei gwneud yn ofynnol i Gynghorwyr ddatgelu eu cyfeiriad cartref ac y dylai'r Cod gael ei ddiwygio'n briodol.

Ystyried Argymhelliad 2

Nid yw'r Cod Enghreifftiol fel y’i nodir yn y rheoliadau yn gofyn yn benodol am ddatgelu manylion cyfeiriad cartref cynghorwyr pan gaiff buddiant ei ddatgan o ran eu cartref.

Fodd bynnag, o ystyried y gofynion yn y Cod Ymddygiad i aelodau fod yn agored ac yn dryloyw wrth drin materion yn ymwneud â'u buddiannau personol, gan gynnwys yr eiddo y maent yn berchen arno ac yn byw ynddo, roedd canllawiau a ddarparwyd gan swyddfa’r Ombwdsmon yn cynghori cynghorwyr i gynnwys y cyfeiriad. Yn dilyn trafodaethau â rhanddeiliaid, cytunwyd ei bod yn ofynnol i gynghorwyr ddatgan y buddiant, ond ers hynny mae canllawiau’r Ombwdsmon wedi'u diweddaru 'Y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru'  gan gynghori aelodau bod darparu enw stryd neu god post yr eiddo yn unig yn ddigon. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â materion ymarferol o ran cyhoeddi cyfeiriad cartref cynghorydd yn unig. Mae'n parhau’n ddyletswydd ar gynghorwyr i sicrhau eu bod yn datgan buddiannau personol a rhagfarnol mewn materion sy'n ymwneud ag unrhyw ran o fusnes y Cyngor sy'n effeithio ar eiddo y maent yn berchen arno neu'n byw ynddo.

Yn ogystal, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972") a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") gan ddileu'r gofyniad i gynghorau sir yng Nghymru gyhoeddi manylion cyfeiriadau cartref personol cynghorwyr.

Yng ngoleuni’r uchod, mae’r mater wedi’i ddatrys erbyn hyn ac felly rydym yn cynnig nad oes angen cymryd camau pellach yng nghyswllt yr argymhelliad hwn.

Argymhelliad 3

Ni chaiff 'person' ei ddiffinio yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 nac yn y Cod. Argymhellir y byddai'n fuddiol cael diffiniad clir o ystyr 'person' ar wyneb y ddeddfwriaeth neu yn y Cod.

Ystyried Argymhelliad 3

Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (a Deddf Dehongli 1978) yn darparu diffiniadau o ‘berson’ sydd yn union yr un fath i bob pwrpas. Mae’r dull gweithredu hwn ar gyfer un diffiniad o dermau a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddrafftio deddfwriaeth yn bwysig er mwyn sicrhau nad yw deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn frith o ddiffiniadau o dermau cyffredin, a’r diffiniadau hynny’n gwrthdaro, yn gwrth-ddweud ei gilydd, neu’n ddiangen o hir.  

Er ein bod yn cydymdeimlo â’r esiampl a nodwyd yn yr Adolygiad, nid ydym yn bwriadu gweithredu ar yr argymhelliad hwn.

Argymhelliad 4

Nid yw Paragraff 4a o'r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i aelod: 'cyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau gan roi sylw dyladwy i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo'u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd' yn cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig. Dylai'r ddarpariaeth yn y Cod gael ei hymestyn i gynnwys pob un o'r naw nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ystyried Argymhelliad 4

Mae Adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (‘Deddf 2010’) yn darparu ar gyfer y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Cafodd y Cod Enghreifftiol ei ddrafftio cyn bodolaeth y darpariaethau hyn ac, er bod yr egwyddorion sydd wedi’u nodi yn y Cod Enghreifftiol yn gydnaws ag ysbryd Deddf 2010, cadarnhaodd trafodaethau gyda rhanddeiliaid y byddai cysoni’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol â’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf 2010 nid yn unig yn rhoi eglurder ond hefyd, yn bwysig iawn, yn anfon neges gref bod disgwyl i gynghorwyr hyrwyddo a chynnal y safonau ymddygiad uchaf.

Rydym felly’n cynnig diwygio’r diffiniad ym mharagraff 4a o’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol (Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008) i gyd-fynd â’r diffiniad o nodweddion gwarchodedig yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Byddwn hefyd yn diwygio’r diffiniad o gydraddoldeb a pharch yn adran 7 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.

Argymhelliad 5

Mae'r posibilrwydd o dorri'r Cod yn sgil y defnydd helaeth a chynyddol o'r cyfryngau cymdeithasol gan aelodau etholedig yn destun pryder. Dylai'r canllawiau defnyddiol ar y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol gan CLlLC ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael eu ffurfioli drwy ddiwygiadau priodol i'r Cod.

Ystyried Argymhelliad 5

Mae trafodaethau â rhanddeiliaid wedi cynnwys ystyried sut mae hyfforddiant, boed hynny'n hyfforddiant cynefino a hyfforddiant parhaus, yn cael ei ddarparu i aelodau etholedig ar y Cod Ymddygiad, gan gynnwys ei ddefnyddio yn achos cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r trafodaethau ynghylch y nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant ar ôl etholiadau mis Mai 2022 wedi bod yn gadarnhaol ac rydym yn credu y bydd hyfforddiant a’r nifer sy’n manteisio ar hyfforddiant yn fwy effeithiol o ran mynd i’r afael â’r mater hwn na diwygio’r Cod Enghreifftiol. Mae’r Cod Enghreifftiol yn berthnasol i ymddygiad cynghorydd mewn nifer o amgylchiadau, ac rydym yn teimlo felly nad yw’n briodol cyfleu un cyd-destun yn hytrach nag eraill yn y Cod Enghreifftiol ei hun.

Felly, nid ydym yn bwriadu diwygio’r Cod Enghreifftiol ond byddwn yn parhau i weithio gyda CLlLC, Un Llais Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a swyddogion monitro i hyrwyddo hyfforddiant fel y ffordd fwyaf priodol o atal ymddygiad amhriodol drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym hefyd wedi cynnwys cyfeiriad penodol at hyfforddiant ar y Cod Enghreifftiol ac yn defnyddio’r Cod yng nghyd-destun cyfryngau cymdeithasol yn ein canllawiau statudol diwygiedig ar hyfforddi a datblygu aelodau a gyhoeddwyd o dan adran 7 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac yn y canllawiau ar y cynlluniau hyfforddi y mae’n ofynnol i gynghorau tref a chymuned eu paratoi o dan Ddeddf 2021.

Argymhelliad 6

Mae 6(1)(b) o'r Cod Ymddygiad yn rhwymo aelodau etholedig i adrodd ar ymddygiad troseddol pobl eraill ond nid eu hymddygiad troseddol eu hunain. Dylai'r Cod Ymddygiad gael ei ddiwygio'n briodol fel bod yr aelod yn gorfod adrodd ar ei ymddygiad troseddol ei hun.

Ystyried Argymhelliad 6

Mae ymddygiad troseddol yn faes cyfreithiol gymhleth. Yn gyntaf, mae angen gwybod pryd y dylai’r aelod ‘adrodd’ ar ei ymddygiad troseddol ei hun. A ddylid rhoi gwybod pan fydd yr aelod yn cael ei gyhuddo neu pan fydd yr aelod yn cael gwybod bod ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal. Sut byddai hyn yn effeithio ar egwyddorion sylfaenol cyfiawnder naturiol a’r posibilrwydd y byddai’r aelod yn rhagfarnu achosion neu ymchwiliadau yn ei erbyn ei hun.

A ddylai fod angen adrodd pan fydd euogfarn wedi’i gwneud, er y gallai apêl fod ar y gweill neu pan fydd pob llwybr apêl wedi’i ddilyn. Y naill ffordd neu’r llall byddai’r argymhelliad fel y’i gwnaethpwyd yn gosod safon uwch ar gyfer hunan-adrodd nag ar gyfer rhoi gwybod am aelod arall lle mae ‘ymddiriedaeth resymol’ yn cael ei osod fel safon.

Cwestiwn arall yw sut y byddai’r dull hwn yn cyd-fynd â’r drefn anghymhwyso ar gyfer aelodaeth o awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, nid yw aelodau wedi’u gwahardd nes y bydd pob apêl wedi’i disbyddu neu os nad ydynt wedi bod mewn cyfarfod awdurdod lleol am fwy na chwe mis, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

Hefyd, credwn fod yr egwyddorion a nodir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 yn ddigon cryf i ddibynnu ar aelod yn hunan-adrodd ar unrhyw gamau y gallai fod wedi’u cymryd a allai fod yn groes i’r egwyddorion a’r Cod cysylltiedig.

Felly, rydym yn cynnig peidio â chymryd unrhyw gamau pellach yng nghyswllt yr argymhelliad hwn.

Argymhelliad 7

Hyfforddiant gorfodol ar y Cod Ymddygiad i holl aelodau prif gynghorau a chynghorau cymuned. Cynnwys ymrwymiad i gwblhau'r hyfforddiant angenrheidiol yn y Datganiad Derbyn Swydd y mae'n ofynnol i bob aelod etholedig ei lofnodi o dan Orchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004.

Ystyried Argymhelliad 7

Mae hyfforddiant hygyrch o ansawdd uchel, a’r nifer sy’n manteisio arno, wedi bod yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn ein trafodaethau â rhanddeiliaid. Mae Un Llais Cymru a CLlLC wedi canolbwyntio ar hyn yn y cyfnod cyn ac ar ôl etholiadau mis Mai 2022. Mae swyddogion monitro hefyd wedi bod yn blaenoriaethu hyfforddiant ar y cod ymddygiad ar gyfer aelodau sydd newydd eu hethol a rhai sy’n dychwelyd.

Hyfforddiant yw un o’r meysydd y byddwn yn gofyn i bwyllgorau safonau adrodd yn ei gylch. Hefyd, mae’n ofynnol i bwyllgorau safonau weithio gydag arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu dyletswydd statudol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grwpiau gwleidyddol mewn canllawiau statudol a gyhoeddir o dan 2021. Rydym felly wedi archwilio'r mater hwn ymhellach fel rhan o'r ymgynghoriad diweddar ar weinyddu a diwygio etholiadol Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 10 Ionawr. Mae'r ymatebion a dderbynnir yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a byddant yn llywio’r polisi yn y dyfodol ar y mater hwn.

Nid yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004  wedi ei ddiddymu na’i ddiwygio ers ei wneud yn 2004. Mae’r datganiad derbyn swydd wedi’i gynnwys yn Atodlen 2 fel a ganlyn:

  • Yr wyf i [(1)], a minnau wedi fy ethol i swydd [(2)] [(3)], yn datgan fy mod yn cymryd arnaf fy hun y swydd honno, ac y byddaf yn cyflawni dyletswyddau’r swydd yn briodol ac yn ffyddlon hyd eithaf fy marn a’m gallu.
  • Yr wyf yn ymrwymo i barchu’r cod ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac sy’n bodoli am y tro ac a allai gael ei adolygu o dro i dro [(4)].
  • Llofnodwyd     Dyddiad    
  • Cafodd y datganiad hwn ei wneud a’i lofnodi ger fy mron
  • Llofnodwyd

Swyddog priodol y cyngor (5)

(1) Mewnosoder enw’r person sy’n gwneud y datganiad.
(2) Mewnosoder “aelod” neu “Maer” fel y bo’n briodol.
(3) a (4) Mewnosoder enw’r awdurdod y mae’r person sy’n gwneud y datganiad yn aelod ohono neu’n faer yr awdurdod.
(5) Pan wneir y datganiad gerbron person arall a awdurdodwyd gan adran 83(3) neu (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, dylid datgan, yn lle hynny, yn rhinwedd pa swydd y mae’r person hwnnw’n derbyn y datganiad.

Gellid dadlau bod cynnwys cyfeiriad at hyfforddiant yn y datganiad derbyn swydd yn gwneud hyfforddiant yn orfodol, i bob pwrpas, ac felly nid ydym yn cynnig gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo ar hyn o bryd.

Byddwn fodd bynnag yn:

  • parhau i weithio gyda chynghorau, CLlLC ac Un Llais Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd hyfforddiant a’r nifer sy’n manteisio arno ymysg cynghorwyr
  • parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau hawdd eu defnyddio er mwyn galluogi hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein
  • ystyried sut mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei nodi fel rhan o’r asesiad hyfforddi a datblygu a gynhaliwyd gan benaethiaid gwasanaethau democrataidd a phwyllgorau gwasanaethau democrataidd mewn prif gynghorau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac fel rhan o gynlluniau hyfforddi a luniwyd o dan Ddeddf 2021 mewn cynghorau tref a chymuned

Byddwn hefyd:

  • yn ymgysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’i swyddfa i asesu lefel a natur y cwynion sy’n cael eu derbyn ac a yw peidio â mynd ar hyfforddiant wedi cyfrannu at yr ymddygiad gwael a adroddir ac i ba raddau y mae hyfforddiant yn cael ei argymell fel rhan o’r ateb
  • yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau safonau fonitro ac adrodd ynghylch a yw cynghorwyr sydd wedi bod yn destun cwyn a gadarnhawyd wedi mynychu sesiwn hyfforddi ar y cod ymddygiad ai peidio. Rydym wedi cynnwys y gofyniad hwn mewn canllawiau statudol i bwyllgorau safonau a ddyroddwyd o dan adran 63 o Ddeddf 2021

Argymhelliad 8

Datrys mwy o gwynion yn lleol. Dylai'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol gael ei ddiwygio'n briodol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ystyried datrys cwyn yn lleol cyn ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ystyried Argymhelliad 8

Bwriad protocolau datrys lleol yw ymdrin â’r hyn a elwir weithiau’n gwynion ‘lefel is’ a wneir dan y cod ymddygiad gan un aelod am aelod arall, ac weithiau, os yw’n briodol, cwynion tebyg a wneir gan swyddogion neu aelodau o’r cyhoedd. Mae’r rhain fel arfer yn gwynion am fethu dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.

Yn gyntaf, nid ydym yn credu ei bod yn briodol delio ag UNRHYW gŵyn a wneir o dan y cod ymddygiad drwy benderfyniad lleol yn gyntaf. Nid ydym yn credu mai bwriad yr argymhelliad mewn unrhyw achos yw y byddai pob cwyn yn cael ei datrys yn lleol yn gyntaf.

Yn ail, rydym yn awgrymu bod yr enw ‘Cod Enghreifftiol’ yn dangos yn glir mai dyna ydyw cod enghreifftiol sy’n nodi’r gofyniad cyfreithiol sylfaenol ar gyfer ei gynnwys yn y cod ymddygiad y mae cyngor yn ei fabwysiadu. Ym marn Llywodraeth Cymru, byddai’n gwbl ymarferol i gynghorau gynnwys y gofyniad i gael protocol datrys lleol yn eu codau fel y’u mabwysiedir.

Fodd bynnag, credwn gwneud y broses yn weladwy i’r cyhoedd, swyddogion ac aelodau yn bwysig ac felly rydym wedi cynnwys gofyniad yn ein canllawiau statudol i bwyllgorau safonau ar eu hadroddiadau blynyddol i ystyried gweithrediad y protocol lleol ac asesiad o’i effaith. Pan na fydd protocol lleol wedi’i fabwysiadu, byddwn yn gofyn i bwyllgorau safonau ystyried a fyddai mabwysiadu protocol o’r fath yn cefnogi ei swyddogaethau yng nghyswllt hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad moesegol.

Argymhelliad 9

Pwerau estynedig i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Byddai mwy o ddefnydd o ddisgresiwn yr Ombwdsmon ym maes atgyfeirio na'r hyn a geir ar hyn o bryd yn cael ei groesawu gan Swyddogion Monitro a Chadeiryddion Pwyllgorau Safonau. Byddai ymestyn ei bŵer i atgyfeirio cwynion yn ôl at ddatrysiad lleol yn newid buddiol i'r fframwaith presennol

Ystyried Argymhelliad 9

Nododd yr Adroddiad fod ymddygiad gwael (hyd yn oed os nad yw’n bodloni trothwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer ymchwiliad llawn) yn cael effaith niweidiol ar hyder y cyhoedd ac aelodau etholedig yn y system. Mynegwyd y farn hon eto yng nghyd-destun cwynion ‘lefel isel’ nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ymchwiliad llawn gan yr Ombwdsmon.

Cytunwn â’r casgliadau bod camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r math hwn o ymddygiad yn hanfodol er mwyn cynnal hyder yn y system. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod angen newid y gyfraith.

Pan fydd achos yn bodloni trothwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru  ar gyfer ymchwiliad a phan fydd yr Ombwdsmon yn dechrau ymchwiliad, mae adran 70(4) o Ddeddf 2000 yn datgan, pan fydd yr Ombwdsmon yn rhoi’r gorau i ymchwiliad o dan adran 69 cyn iddo gael ei gwblhau, y caiff  yr Ombwdsmon gyfeirio’r materion sy’n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw. Hyd yn oed pan nad ymchwilir i achosion, dull yr Ombwdsmon yw rhannu pob achos â’r swyddogion monitro. Mae hyn, wrth ystyried y newidiadau i Ddeddf 2000 a fewnosodwyd gan Ddeddf 2021, sy’n cryfhau rôl arweinwyr grwpiau gwleidyddol a phwyllgorau safonau i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg aelodau, yn golygu bod modd mynd i’r afael â’r mater hwn drwy drafodaethau rhwng yr Ombwdsmon, swyddogion monitro a phwyllgorau safonau.

Mae’r Ombwdsmon wedi cytuno i archwilio sut y gall gefnogi swyddogion monitro a phwyllgorau safonau gyda’u rôl ehangach, ac felly nid ydym yn bwriadu cymryd unrhyw gamau pellach.

Argymhelliad 10

Newidiadau i bwerau a phrosesau Panel Dyfarnu Cymru.

Ystyried Argymhelliad 10

Roedd argymhelliad yr Adroddiad yn cynnwys sawl cynnig ar gyfer newid gweithdrefnau’r Panel fel a ganlyn.

Gorchmynion Adrodd Cyfyngedig

Ni all y Panel reoli’r broses o adrodd am unrhyw achos gan y wasg. Mae Llywydd y Panel o’r farn y byddai’r pwerau fel y rhai sydd ar gael i Dribiwnlys Cyflogaeth, i osod Gorchymyn Adrodd Cyfyngedig naill ai hyd ddiwedd achos neu Orchymyn Adrodd Cyfyngedig estynedig, yn briodol i bob un o Dribiwnlysoedd  Panel Dyfarnu Cymru lle mae tegwch y tribiwnlys neu ddiogelwch tystion, aelodau panel neu staff o bosibl yn cael ei danseilio.

Felly, rydym yn gofyn am eich barn ynghylch a ddylem wneud darpariaeth ddeddfwriaethol i alluogi’r Panel i gyhoeddi gorchmynion adrodd cyfyngedig, ac mae cwestiwn ar hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Anhysbysrwydd tystion

Gall y Llywydd gyhoeddi canllawiau i sicrhau cysondeb a thryloywder, ond mae’r Panel o’r farn y byddai pŵer penodol i fod yn ddienw, a ddefnyddir yn gymesur i sicrhau diogelwch tystion, yn briodol ar gyfer tribiwnlysoedd achos ac apêl.

Felly, rydym yn gofyn am eich barn ynghylch a ddylid cael darpariaeth gyfreithiol benodol ar gyfer y Panel er mwyn sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw, ac mae cwestiwn ar hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Datgelu

Nodwyd mater yn ymwneud â datgelu'r deunydd heb ei ddefnyddio a ddelir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a swyddogion monitro yn yr Adroddiad. Cytunwyd i ddiwygio proses yr Ombwdsmon ei hun yn y cyswllt hwn, gyda Chyfarwyddyd Ymarfer/Canllawiau Llywyddol ar ddatgelu ac ar rôl y Swyddog Monitro yn gyffredinol.

Mae’r mater hwn bellach wedi’i ddatrys drwy newid y Canllawiau Llywyddol ac felly nid oes angen cymryd camau pellach.

Trefn y Tribiwnlys Apêl

Mae Llywydd y Panel Dyfarnu yn credu y dylid gwneud diwygiadau i drefn y Tribiwnlys Apêl i gynnwys pŵer datganedig i alw tystion i Dribiwnlys Apêl.

Hefyd, mae rheoliad 9(2) o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") yn ei gwneud yn ofynnol i'r pwyllgor safonau ystyried argymhelliad o benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru y dylid rhoi cosb wahanol i'r penderfyniad gwreiddiol. Nid yw rhai rhanddeiliaid yn cefnogi'r broses hon er bod Llywydd y Panel yn ei gefnogi gan fod y pwyllgor safonau yn parhau i fod yn gyfrifol ac y gall adlewyrchu ei ymateb i benderfyniad y Panel yn y sancsiwn y mae'n penderfynu ei osod.

Mae'r trefniadau presennol mewn perthynas ag apeliadau wedi'u nodi yn Rheoliadau 2001 ac mewn Canllawiau Llywyddol. Hefyd, ceir Cyfarwyddyd Ymarfer gan Banel Dyfarnu Cymru sy’n nodi gwybodaeth berthnasol am weithdrefnau’r Panel mewn ymateb i gyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Canllawiau a’r Cyfarwyddiadau Ymarfer ar gael ar wefan y Panel, drwy ddilyn y ddolen hon Panel Dyfarnu Cymru. Gweler hefyd Ganllawiau a Chyfarwyddiadau Llywyddol y Panel yma Dogfennau Ymarfer.

Felly, mae gennym ddiddordeb yn eich barn ynghylch a ddylid darparu ar gyfer pŵer datganedig i alw tystion i dribiwnlysoedd apêl, ac a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r weithdrefn gan gyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl at bwyllgorau safonau. Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Gweithdrefn y Tribiwnlys Achosion

Mae Llywydd y Panel o’r farn bod y rheoliadau wedi dyddio ac mae wedi cynnig nifer o ddiwygiadau i wneud gweithdrefn y tribiwnlys achosion yn fwy effeithlon a thecach i dystion.

Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â’r canlynol:

  • darparu darpariaeth ddatganedig ar gyfer gwrandawiadau preifat rhannol gyhoeddus a rhannol breifat
  • a ddylid ailystyried y gofyniad i ddarparu saith niwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad i'r aelod a gyhuddir
  • y broses ar gyfer ceisio caniatâd i apelio

Mae’r broses bresennol ar gyfer ceisio caniatâd i apelio wedi’i nodi yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Dirymiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016.

Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd, neu ei enwebai, wneud penderfyniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn cais i apelio. Os bydd y Llywydd yn gofyn am ragor o wybodaeth, mae gan yr ymgeisydd 14 diwrnod i ymateb, ac yna mae gan y Llywydd 14 diwrnod o dderbyn yr wybodaeth bellach i wneud penderfyniad. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd gwahanol ddeongliadau o effaith cais am wybodaeth ychwanegol ar yr amserlen gan nad yw’n glir o bosibl a yw’r ‘cloc’ ar y 21 diwrnod yn dod i ben tra bo’r wybodaeth ychwanegol yn cael ei cheisio.

Ar ben hynny, nid yw’r rheoliadau’n rhoi cyfle i’r Ombwdsmon gyflwyno sylwadau a chynnal gwrandawiad rhagarweiniol i benderfynu a yw caniatâd i apelio yn bosibl os oes ‘amgylchiadau arbennig’, ond nid oes estyniad yn yr amser y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau i ganiatáu ar gyfer hyn.

Felly, mae’r Llywydd wedi cynnig dull gwahanol fel a ganlyn:

  • cynghorydd yn anfon apêl; ni phennir dyddiad cau ar gyfer penderfyniad gan Banel Dyfarnu Cymru
  • y Llywydd/y Cofrestrydd yn gwirio bod yr apêl wedi amgáu penderfyniad y Pwyllgor Safonau ac os nad yw, mae’n rhoi 7 diwrnod i’r cynghorydd ei darparu (ac mae ganddo’r pŵer i ofyn i’r swyddog monitro a yw’n dymuno gwneud hynny am y penderfyniad ac unrhyw wybodaeth arall)
  • yr apêl yn cael ei hanfon at yr Ombwdsmon sy’n cael 14 diwrnod i roi sylwadau;
  • yr apêl, penderfyniad y pwyllgor safonau ac unrhyw sylwadau gan yr Ombwdsmon yn cael eu rhoi gerbron y Llywydd (neu ei enwebai) ar gyfer penderfyniad ar y papurau; unwaith eto, ni fyddai dyddiad cau yn cael ei bennu ar gyfer penderfyniad;
  • gall y Llywydd neu ei enwebai gyfarwyddo bod gwrandawiad rhagarweiniol yn cael ei gynnal os ydynt o'r farn ei bod er 'budd cyfiawnder' i wneud hynny yn hytrach nag 'amgylchiadau arbennig'

Byddem yn croesawu eich barn am y newidiadau arfaethedig hyn i’r weithdrefn caniatâd i apelio. Yn yr un modd, ynghylch a ddylid cael darpariaeth benodol i alluogi cynnal rhan neu’r holl wrandawiad yn breifat, a hefyd a ddylid cadw’r gofyniad i ddarparu dim llai na saith niwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad.

Mae cwestiynau am yr uchod wedi’u cynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Pwerau dedfrydu

Mae’r pwerau sydd ar gael i Banel Dyfarnu Cymru yn gyfyngedig ac roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylid cael opsiwn i osod sancsiynau mwy amrywiol yn yr un modd â chyn-Banel Dyfarnu Lloegr.

Pan fo tribiwnlys achos yn penderfynu bod aelod wedi methu cydymffurfio â'r cod ymddygiad, nodir y sancsiynau y caiff eu gosod yn adran 79 o Ddeddf 2000. Caiff y tribiwnlys atal aelod dros dro am gyfnod o hyd at ddeuddeng mis neu ei wahardd am gyfnod o hyd at 5 mlynedd.

Mae gennym ddiddordeb yn eich barn ynghylch a ddylai ystod ehangach o sancsiynau fod ar gael i’r Panel ac os felly, beth ddylai’r rhain fod? Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Tribiwnlysoedd Achosion Interim

Mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i wneud atgyfeiriadau interim i’r Panel os yw er budd y cyhoedd ac os oes tystiolaeth prima facie fod yr unigolyn wedi methu cydymffurfio â’r cod ymddygiad, y mae ei natur yn debygol o arwain at anghymwyso.

Mae rhanddeiliaid o’r farn bod y trothwy ar gyfer bodloni’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer atgyfeiriad interim yn rhy uchel, ond byddai unrhyw newid i’r pwerau hyn yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol gan Lywodraeth Cymru.

Y cynnig yw y dylid symleiddio’r broses gyfan drwy gymhwyso prawf tebyg i’r un a ddefnyddir gan y Tribiwnlysoedd Rheoleiddio megis y Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol. Byddai hwn yn ddiwygiad cymharol fach i’r prawf budd y cyhoedd presennol ond byddai’n gwneud y dull gweithredu i’w fabwysiadu a’r diffiniad o fudd y cyhoedd yn llawer cliriach. Byddai angen deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Hyd yma, ni fu unrhyw dribiwnlysoedd dros dro. Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu mai’r rheswm pennaf am hyn yw bod y broses yr un fath ag ar gyfer tribiwnlys achos llawn. Felly ceir tybiaeth fod Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 yn rhwystr i’w diben bwriedig.

Mae adrannau 76, 77 a 78 o Ddeddf 2000 yn nodi aelodaeth tribiwnlysoedd interim, gallu'r person sy'n destun y dyfarniad i gael cynrychiolaeth briodol a'r sancsiwn y caiff tribiwnlys interim ei roi (uchafswm o ataliad unwaith-ac-am-byth, chwe-mis neu ataliad rhannol).

Felly, mae’n ymddangos nad yw’r broses a nodir ar hyn o bryd yn addas at y diben o gydbwyso, a pheidio â rhagfarnu, mynediad aelod etholedig at gyfiawnder mewn tribiwnlys achos, a budd y cyhoedd.

Felly, awgrymwyd bod y broses yn cael ei symleiddio drwy ddefnyddio prawf tebyg i’r un a ddefnyddir gan Dribiwnlysoedd Rheoleiddio megis y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol. Byddai’r tribiwnlys achos interim yn bwrw ymlaen ag aelod cyfreithiol yn eistedd ar ei ben ei hun, ac yn ystyried y cais ar sail y papurau’n unig, ond gyda’r gallu i wahodd sylwadau llafar gan y partïon pe bai’r aelod o’r farn bod hynny er budd cyfiawnder.

Fel nawr, byddai’r broses hefyd yn galluogi’r Ombwdsmon i gyflwyno cyfeiriad at Lywydd y Panel gydag adroddiad yn nodi’r cefndir a pham y ceisiwyd ataliad dros dro.

Ar y mwyaf, dim ond gwaharddiad o chwe mis (rhannol neu lawn) fyddai’n bosibl a gellid ei adnewyddu hyd at gyfanswm o hyd at dair gwaith (18 mis i gyd). Byddai’r aelod a gyhuddir yn cael cyfle i gyflwyno pam na ddylid gwneud yr ataliad dros dro, ond ni fyddai tystiolaeth yn cael ei galw a byddai adroddiad yr Ombwdsmon yn cael ei ystyried yn ei rinwedd ei hun, yn yr un modd ag adroddiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn y Gwasanaeth Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol.  

Dyma ddull posibl o ymdrin ȃ’r prawf budd y cyhoedd. Byddai’n briodol gwahardd neu wahardd aelod yn rhannol os yw’n ymddangos i’r tribiwnlys achos interim:

  • y byddai tribiwnlys achos mewn gwrandawiad terfynol yn debygol o ddyfarnu bod methiant wedi bod i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol dan sylw
  • a bod natur y methiant hwnnw yn golygu ei fod yn debygol o arwain at anghymhwyso o dan adran 79(4)(b) o Ddeddf 2000
  • a’i bod er budd y cyhoedd i atal neu atal yn rhannol yr aelod a gyhuddir ar unwaith er mwyn diogelu aelodau o’r cyhoedd, cynnal ffydd y cyhoedd mewn llywodraeth leol, cynnal safonau ymddygiad priodol, neu alluogi ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gael ei gwblhau

Er mwyn cyflawni’r newid hwn yn llawn, byddai angen diwygio Deddf 2000 a Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001.

Felly, rydym yn gofyn am eich barn am y cynnig hwn a cham canolradd posibl i ddiwygio’r rheoliadau dim ond i symleiddio’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim tan y cyfryw amser, os cefnogir y cynnig, y gellir newid y ddeddfwriaeth sylfaenol. Gallai diwygio’r rheoliadau gynnwys atodlen newydd yn benodol ar gyfer proses fyrrach, symlach ar gyfer tribiwnlysoedd dros dro. Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Argymhelliad 11:  Rôl Pwyllgorau Safonau

Pwerau ychwanegol i’w gwneud yn ofynnol i aelodau gael hyfforddiant angenrheidiol a’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i aelod ymddiheuro i’r achwynydd.

Dylai fod Fforwm Cymru gyfan ar gyfer Cadeiryddion Annibynnol Pwyllgorau Safonau a dylid ailsefydlu'r Gynhadledd flynyddol ar gyfer Cadeiryddion Annibynnol ac aelodau Annibynnol o Bwyllgorau Safonau.

Ystyried Argymhelliad 11

Mae’r argymhellion sy’n ymwneud â phwerau pwyllgorau safonau i’w gwneud yn ofynnol i aelodau gael hyfforddiant angenrheidiol ac i fynnu ymddiheuriad i’r achwynydd yn ymwneud â’r rôl a gynigiwyd gan yr Adolygiad ar gyfer pwyllgorau safonau i fynd i’r afael â’r ddwy gŵyn yr ymdrinnir â nhw drwy’r broses datrys lleol ac unrhyw gwynion a gyfeiriwyd yn ôl i’w datrys yn lleol ar ôl eu cyfeirio at yr Ombwdsmon i ddechrau. Nid ydym yn credu bod angen rhagor o bwerau cyfreithiol ar bwyllgorau safonau i arfer y swyddogaethau hyn. Mae’r swyddogaethau a roddwyd iddynt yn Neddf 2000 eisoes yn cynnwys hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad a helpu aelodau ac aelodau cyfetholedig i gydymffurfio â’r cod ymddygiad.

Rydym felly’n cynnig bod y rhain yn faterion y gellid eu hymgorffori mewn codau a phrotocolau lleol heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth. Rydym wedi cynnwys arweiniad ar y materion hyn yn y canllawiau statudol i bwyllgorau safonau mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau newydd a roddir iddynt gan Ddeddf 2021.

Mae CLlLC wedi cytuno i gynnal fforwm Cymru gyfan ar gyfer cadeiryddion annibynnol pwyllgorau safonau ac mae cynhadledd safonau Cymru gyfan wedi cael ei hailsefydlu. Nid mater i Lywodraeth Cymru oedd y camau hyn, ond rydym yn eu cefnogi ac yn croesawu’n fawr sefydlu’r rhwydwaith ac ailgynnull y gynhadledd.

Argymhelliad 12

Hygyrchedd y fframwaith safonau moesegol Gwneud y broses fframwaith yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

Ystyried Argymhelliad 12

Rydym yn cytuno â’r adolygiad bod hyder y cyhoedd yn y Fframwaith yn hanfodol i’n democratiaeth leol. Un o’r camau i sicrhau hyder yw bod y broses yn hygyrch ac yn cael ei defnyddio’n gyson ledled Cymru. Byddwn felly’n gweithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a swyddogion monitro i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Fframwaith a’r hyn y gall y cyhoedd ei ddisgwyl os byddant yn ei ddefnyddio.

Byddem yn croesawu unrhyw farn ynghylch sut y gellid mynd ati i godi ymwybyddiaeth er mwyn cynnwys pawb ledled Cymru. Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Materion cysylltiedig eraill a godwyd mewn trafodaethau gyda rhanddeiliaid ar ôl cyhoeddi Adroddiad Adolygiad Penn

Yn ogystal â’r argymhellion a godwyd yn yr adroddiad ar yr Adroddiad, mae rhanddeiliaid wedi codi nifer o faterion eraill gyda ni ac rydym yn awr yn gofyn am sylwadau ar y canlynol.

Hysbysebu am Aelodau Annibynnol o Bwyllgorau Safonau

Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol bod hysbysebion ar gyfer swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau yn cael eu rhoi mewn papurau newydd lleol. Mae rhai rhanddeiliaid wedi dweud wrthym nad yw hyn yn creu maes o ymgeiswyr a’i fod yn gostus ac yn cymryd llawer o amser. Maent wedi awgrymu bod dulliau eraill o hysbysebu ac estyn allan drwy rwydweithiau cynghorau yn creu maes mwy ac yn cyrraedd ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol. (Gweler rheoliad 13 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001).

Felly, rydym yn gofyn am farn ynghylch a ddylid dileu’r gofyniad i hysbysebu swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau mewn papurau newydd. Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Cyn-weithwyr cyngor yn eistedd fel aelodau annibynnol ar Bwyllgorau Safonau

Ar ôl cyfnod gras o ddeuddeg mis, gall cyn-weithwyr cyngor eistedd fel aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau cynghorau os nad oedd y cyngor hwnnw’n un o’u cyn-gyflogwyr, ond nid ar bwyllgor safonau’r cyngor a fu’n eu cyflogi, hyd yn oed os nad y cyngor hwnnw oedd eu cyflogwr diweddaraf.

Mae hyn yn golygu na all pob cyn-gyflogai, gan gynnwys y rheini a allai fod wedi gweithio’n rhan-amser i’r cyngor, efallai pan oeddent yn fyfyrwyr neu’n gynnar yn eu gyrfaoedd, eistedd fel aelodau annibynnol ar bwyllgor safonau’r un cyngor.

Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu bod hyn yn anghymesur ac yn eithrio nifer fawr o ymgeiswyr o ansawdd uchel posibl rhag cyflwyno’u hunain fel aelodau neu gadeiryddion annibynnol. (Gweler rheoliad 7 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001.)

Felly, rydym yn ceisio barn ynghylch a ddylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar gyn-weithwyr cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o bwyllgor safonau eu cyn-gyflogwr.

Os felly, beth fyddai’n hyd addas ar gyfer cyfnod gras rhwng cyflogaeth a phenodi i bwyllgor safonau ac a ddylai hyn fod yr un fath ar gyfer holl weithwyr cynghorau, neu’n hirach ar gyfer y rheini a oedd mewn swyddi dan gyfyngiadau statudol neu wleidyddol yn y gorffennol fel y'u diffinnir yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, er enghraifft y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid, y Swyddog Monitro a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd?

Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Cyn-gynghorwyr yn eistedd fel aelodau annibynnol ar Bwyllgorau Safonau

Hefyd, ar ôl cyfnod gras o ddeuddeg mis, gall cyn-gynghorwyr eistedd fel aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau cynghorau na chawsant eu hethol iddynt. Fodd bynnag, mae gwaharddiad gydol oes arnynt rhag gwasanaethu fel aelodau annibynnol ar bwyllgor safonau’r cyngor y cawsant eu hethol iddo. (Gweler rheoliad 6 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001.)

Erbyn hyn, nid oes cyfnod gras i gynghorwyr sy’n cael eu cyflogi gan y cyngor y cawsant eu hethol iddo’n ffurfiol ac felly rydym hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar wasanaethu fel aelod annibynnol ar bwyllgor safonau’r cyngor y cafodd cynghorydd ei ethol iddo.

Os ydych chi’n meddwl y dylai fod cyfnod gras, beth fyddai’n gyfnod addas yn eich barn chi? Mae cwestiwn am hyn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Pwyllgorau Safonau Galw Tystion a Sancsiynau

Rôl y pwyllgor safonau yw ystyried adroddiad ac argymhellion gan swyddog monitro neu adroddiad gan yr Ombwdsmon ac, ar ôl clywed sylwadau gan y person yr ymchwilir iddo neu ar ei ran, penderfynu a dorrwyd cod ymddygiad yr awdurdod ai peidio ac, os felly, penderfynu ar y sancsiwn. Gall y pwyllgor safonau hefyd ofyn i'r swyddog monitro neu’r Ombwdsmon ddod ger ei fron er mwyn, ymhlith pethau eraill, esbonio eu hadroddiad. Darperir ar gyfer hyn yn Rheoliad 8(3A) o’r Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol.

Fodd bynnag, nid oes gan bwyllgorau safonau y pŵer o dan naill ai Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 na Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 i alw tystion. Mae yna farn, pe bai'r pwyllgor safonau yn cael y pŵer i alw tystion, y gellir ystyried ei fod yn tresmasu ar rôl yr ymchwilwyr, h.y. y swyddog monitro a’r Ombwdsmon a bod ei rôl fel penderfynwr yn cael ei chymylu.

Mae rhai rhanddeiliaid hefyd wedi awgrymu bod y sancsiynau presennol sydd ar gael i bwyllgorau safonau yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 yn rhy anhyblyg a/neu ddim yn rhwystr digon cryf. Mae'r sancsiynau presennol yn galluogi pwyllgor safonau i geryddu, atal dros dro neu atal aelod yn rhannol am gyfnod o hyd at 6 mis.

Felly, rydym yn gofyn am farn ar y materion hyn ac mae cwestiwn wedi’i gynnwys yn y cwestiynau ymgynghori isod.

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno y dylid diwygio’r rheoliadau perthnasol sy’n ymwneud â’r Fframwaith Safonau Moesegol i gyd-fynd â’r diffiniadau sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac y dylem ddiwygio'r diffiniad o gydraddoldeb a pharch yn adran 7 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001?

Cwestiwn 2

A ddylai Panel Dyfarnu Cymru (y Panel) allu rhoi Gorchmynion Adrodd Cyfyngedig?

Cwestiwn 3

A ddylid cael darpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi’r Panel i sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir yn yr argymhelliad hwn? Os nad ydych, pa opsiynau eraill fyddech chi’n eu hawgrymu?

Cwestiwn 5

A ddylid cael pŵer penodol i’r Panel alw tystion i dribiwnlysoedd apêl?

Cwestiwn 6

A ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r drefn ar gyfer cyfeirio penderfyniadau apeliadau yn ôl i bwyllgorau safonau?

Cwestiwn 7

Ydych chi'n cytuno y dylid cael darpariaeth benodol i alluogi cynnal rhan neu’r cyfan o wrandawiadau tribiwnlys yn breifat?

Cwestiwn 8

Ydych chi’n cytuno y dylid cadw’r gofyniad i roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o ohirio gwrandawiad?

Cwestiwn 9

A ddylai ystod ehangach o sancsiynau fod ar gael i’r Panel, ac os felly, beth ddylai’r sancsiynau fod?

Cwestiwn 10a

Ydych chi o blad y diwygiadau arfaethedig i’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim a amlinellir yn yr argymhelliad hwn? Os nad ydych, esboniwch pam.

Cwestiwn 10b

Os ydych chi o blaid y newidiadau i’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim, ydych chi’n cytuno y dylid sefydlu trefniant canolradd, h.y. drwy fyrhau a symleiddio’r broses ar gyfer tribiwnlysoedd achos interim yn Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001? Os ydych chi, oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid symleiddio’r broses hon o fewn y rheoliadau?

Cwestiwn 11

Oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach ar yr argymhellion a wnaethpwyd yng nghyswllt gweithrediad y Panel?

Cwestiwn 12

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r Fframwaith Safonau Moesegol, yn enwedig ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010?

Cwestiwn 13

Hysbysebu am aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gofyniad i hysbysebu swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau mewn papurau newydd?

Cwestiwn 14a

Cyn-weithwyr cyngor yn eistedd fel aelodau annibynnol o bwyllgorau Safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar gyn-weithwyr cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o bwyllgor safonau eu cyflogwr blaenorol?

Cwestiwn 14b

Os ydych chi, beth, yn eich barn chi, fyddai’n gyfnod gras addas rhwng cyflogaeth a phenodi i bwyllgor safonau, ac a ddylai hyn fod yr un fath ar gyfer holl weithwyr cynghorau, neu’n hirach ar gyfer y rheini a oedd gynt mewn swyddi â chyfyngiadau statudol neu wleidyddol?

Cwestiwn 15

Cyn-gynghorwyr yn eistedd fel aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau: Ydych chi'n cytuno y dylid dileu’r gwaharddiad gydol oes ar wasanaethu fel aelod annibynnol ar bwyllgor safonau’r cyngor y cafodd cynghorydd ei ethol iddo? Os ydych chi, beth fyddai’n gyfnod gras addas yn eich barn chi?

Cwestiwn 16

Pwyllgorau safonau galw tystion a sancsiynau: A ddylai pwyllgorau safonau gael y pŵer i alw tystion?

Cwestiwn 17

Ydych chi'n cytuno y dylid newid neu ychwanegu at y sancsiynau y gall pwyllgor safonau eu gosod? 

Cwestiwn 18 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael yn eich barn chi?

Cwestiwn 19

Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 20

Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gallai’r diwygiadau arfaethedig gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Cwestiwn 21

Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ar y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys ar yr argymhellion hynny yn yr Adroddiad nad oes cwestiwn penodol wedi'i gynnig ynglŷn â hwy?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Mehefin 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG47012

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.