Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd gan Ran 1 Pennod 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.

Mae'n gofyn am eich barn ar gynigion ar gyfer gwneud rheoliadau i:

  • ragnodi'r terfyn amser ar gyfer darparwr gwasanaethau i gyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan
  • galluogi hysbysiad cosb i gael ei gyflwyno am y drosedd o fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol
  • nodi'r wybodaeth sydd ei hangen pan fydd darparwr gwasanaethau yn gwneud cais i ganslo ei gofrestriad

Cefndir

Cafodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("deddf 2016") y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Diwygiodd y drefn reoleiddio ac arolygu ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Nod deddf 2016 yw darparu mwy o dryloywder a chymaroldeb ledled gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ail-gydbwyso'r atebolrwydd yn y system fel bod asiantaethau neu unigolion priodol yn cael eu dwyn i gyfrif o dan y gyfraith, a symud y tu hwnt i ddull gweithredu sy'n seiliedig ar gydymffurfio tuag at un sy'n adlewyrchu ansawdd darpariaeth. 

Mae'r system hon o reoleiddio gwasanaethau, a sefydlwyd o dan ddeddf 2016, wedi bod yn weithredol ers i ddarparwyr perthnasol ddechrau ailgofrestru eu gwasanaethau gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn 2018.

Derbyniodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ("deddf 2025") Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2025, ac mae'n gwneud nifer fach o ddiwygiadau i ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol, er mwyn helpu'r fframwaith rheoleiddio i weithredu'n fwy effeithiol (gweler rhan 1, pennod 2). 

Mae gwefan Cyfraith Cymru yn darparu trosolwg o ddeddf 2025 a'i datblygiad. Mae hyn yn cynnwys dolenni i'r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022, a Memorandwm Esboniadol sy'n cynnig esboniad manwl o'r newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan ddeddf 2025, ynghyd ag asesiad o'r effeithiau rheoleiddiol ac effeithiau eraill a nodwyd.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Er mwyn cynorthwyo'r gwaith o weithredu'r diwygiadau a wnaed i ddeddf 2016 drwy ddeddf 2025, mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y bwriad i arfer pwerau gwneud rheoliadau er mwyn:

  • rhagnodi'r terfyn amser ar gyfer darparwr gwasanaethau i gyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan
  • galluogi hysbysiad cosb i gael ei gyflwyno am y drosedd o fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol
  • nodi'r wybodaeth sydd ei hangen pan fydd darparwr gwasanaethau yn gwneud cais i ganslo ei gofrestriad o dan ddeddf 2016

Bwriedir i'r rheoliadau hyn ddod i rym o 1 Ebrill 2026.

Terfyn amser ar gyfer darparwr gwasanaethau i gyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan

Mae adran 10 o ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru (yn ymarferol, i AGC) ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae wedi'i gofrestru ar ei chyfer. Hefyd, mae'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ddatganiad blynyddol ei chynnwys, gan gynnwys manylion allweddol am weithrediad gwasanaeth(au) darparwr a datganiad o gydymffurfedd â gofynion yn ymwneud â safon y gofal a’r cymorth sydd i'w darparu. Yn ogystal, mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi ffurf datganiad blynyddol a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiad blynyddol, ac mae'n nodi bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob datganiad a gyflwynir iddynt.

Mae adran 10 o ddeddf 2016 yn newid hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyhoeddi eu datganiad blynyddol ar eu gwefan eu hunain a sicrhau bod copïau ohono ar gael ar gais. Mae pŵer newydd i wneud rheoliadau yn cael ei greu hefyd, gan ganiatáu i Weinidogion Cymru ragnodi terfyn amser ar gyfer cyhoeddi datganiad blynyddol. 

Felly, pan fydd Adran 14 o ddeddf 2025 yn cychwyn, bydd yn ofynnol o hyd i ddarparwyr gwasanaethau gwblhau a chyflwyno datganiad blynyddol i AGC erbyn y dyddiad cau penodedig, sef 26 Mai, ond bydd rhaid iddynt hefyd gyhoeddi'r datganiad hwnnw ar eu gwefan o fewn terfyn amser rhagnodedig. Hefyd, bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod copïau o'u datganiad blynyddol ar gael ar gais, er enghraifft, ar gyfer unigolion sy'n defnyddio eu gwasanaeth(au) neu eu cynrychiolwyr.

Ymgynghorwyd ar y diwygiadau hyn fel rhan o ymgynghoriad 2022 ar newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac fe’u cyflwynwyd i Adran 10 o Ddeddf 2016 er mwyn sicrhau bod y darparwr gwasanaethau yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol am yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn ei ddatganiad blynyddol a bod gwybodaeth amserol, dryloyw a chymaradwy am ei wasanaeth(au) ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd.

Beth rydym yn ei gynnig?

Rydym yn cynnig defnyddio'r pŵer gwneud rheoliadau newydd yn Adran 10 (4A) o ddeddf 2016 i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyhoeddi datganiad blynyddol ar eu gwefan ar neu cyn 91 diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn berthnasol iddi. Hynny yw, erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn.

Nod yr amserlen arfaethedig hon yw darparu cyfnod rhesymol ar ôl i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno eu datganiad blynyddol i AGC erbyn 26 Mai, trwy eu cyfrif ar-lein AGC, iddynt gyhoeddi'r copi PDF o'r datganiad a gynhyrchir yn awtomatig ar eu gwefan eu hunain erbyn 30 Mehefin.

Mae pennu terfyn amser ar gyfer cyhoeddi datganiadau blynyddol yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddarparwyr gwasanaethau ynglŷn â natur y gofyniad, a bydd yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth hygyrch am wasanaethau rheoleiddiedig yn gyfredol ac yn gyfoes ledled Cymru.

Pryd fydd hyn yn dod i rym?

Rydym yn bwriadu cychwyn adran 14 o Ddeddf 2025, a diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017, fel bod y gofyniad hwn yn berthnasol yn y lle cyntaf i ddatganiadau blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026. Felly, bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyhoeddi'r datganiadau hynny ar eu gwefan ar neu cyn 30 Mehefin 2026.

Er mwyn cydymffurfio â'r gofyniad cyfreithiol hwn, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau fod â'u gwefan eu hunain. Codwyd y mater hwn fel rhan o ymgynghoriad 2022 ar newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac mae'n cael sylw yn y bennod ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y Memorandwm Esboniadol (ym mharagraffau 7.213 i 7.236).

Mae AGC yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad hwn gyda darparwyr gwasanaethau drwy gyfathrebu'n uniongyrchol â nhw a thrwy ddarparu cymorth, er mwyn paratoi ar gyfer pan fydd y gofyniad hwn yn dod i rym.

Galluogi hysbysiad cosb i gael ei gyflwyno am y drosedd o fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol

Mae adran 14 o ddeddf 2025 hefyd yn diwygio adran 48 o ddeddf 2016, gan nodi ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaethau fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan o fewn y terfyn amser rhagnodedig. Ymgynghorwyd ar y mater hwn hefyd fel rhan o ymgynghoriad 2022 ar newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac mae'n adlewyrchu'r drosedd bresennol yn adran 48, sef methu â chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

Felly, pan fydd adran 14 o ddeddf 2025 yn cychwyn, bydd yn parhau i fod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chyflwyno datganiad blynyddol i AGC ar neu cyn 26 Mai, a bydd yn dod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan oddi mewn i'r terfyn amser rhagnodedig (cynigir 30 Mehefin, uchod).

O ganlyniad i hyn, mae adran 52 o ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i ragnodi troseddau y gellir ymdrin â nhw drwy roi hysbysiad cosb os ydynt wedi'u bodloni bod y person wedi cyflawni'r drosedd honno. Mae'r pŵer hwn wedi'i arfer drwy Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru (yn ymarferol, AGC) roi hysbysiad cosb os ydynt wedi'u bodloni bod darparwr gwasanaethau wedi methu â chyflwyno ei ddatganiad blynyddol mewn pryd. Y gosb am y drosedd hon yw swm sy'n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa dirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod (£2,500 ar hyn o bryd).

Gellir rhoi hysbysiadau cosb yn hytrach na dwyn achos ar gyfer erlyn trosedd. Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ar y person y mae'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo i dalu'r swm, byddai gwneud hynny'n rhyddhau unrhyw atebolrwydd am euogfarn ar gyfer y drosedd. Felly, pe bai hysbysiad cosb yn cael ei roi i ddarparwr gwasanaethau, byddai’n cael y cyfle i dalu'r swm penodedig, ac ni ellid ei erlyn am y drosedd wedyn. Os nad yw darparwr gwasanaethau yn cytuno bod y drosedd wedi'i chyflawni, gall wrthod talu'r hysbysiad cosb, ac mewn sefyllfa o'r fath byddai Gweinidogion Cymru yn ystyried dwyn achos troseddol.

Beth rydym yn ei gynnig?

Rydym yn cynnig defnyddio'r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 52 o ddeddf 2016 i ganiatáu i'r drosedd o fethu â chyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig gael ei thrin drwy roi hysbysiad cosb. 

Rydym yn cynnig y dylid gosod lefel y gosb ar swm sy'n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol. Y swm ar hyn o bryd yw £2,500.

Mae hyn yn gyson â'r dull gweithredu a ddefnyddir i fynd i’r afael â’r drosedd bresennol o fethu â chyflwyno datganiad blynyddol mewn pryd, a byddai'n galluogi AGC i ddewis rhoi hysbysiad cosb, pe bai'n fodlon bod darparwr wedi methu â chyhoeddi ei ddatganiad blynyddol o fewn y terfyn amser. Heb yr opsiwn o roi hysbysiad cosb yn yr achosion hyn, pe bai achos troseddol yn cael ei gynnal yn y llys ynadon, byddai person sy'n cael ei ddyfarnu'n euog yn atebol am ddirwy ddiderfyn yn dilyn euogfarn ddiannod. 

Yn ymarferol, mae polisi ar sicrhau gwelliant a gorfodi AGC yn amlinellu dull cymesur y rheoleiddiwr o sicrhau gorfodaeth, ac mae rhoi hysbysiadau cosb yn rhan o hyn. Mae'n debygol y bydd darparwyr gwasanaethau yn cael rhybudd ac yn cael amser i ymdrin â diffyg cydymffurfiaeth cyn i unrhyw hysbysiadau cosb gael eu rhoi.

Gwybodaeth i'w darparu fel rhan o gais darparwr gwasanaethau i ganslo ei gofrestriad

Mae adran 14 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i ddarparwr gwasanaethau wneud cais i Weinidogion Cymru am ganslo ei gofrestriad os yw'n bwriadu rhoi'r gorau i weithredu yn gyfan gwbl. Mae adran 15 o ddeddf 2025 yn diwygio hyn, er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi ffurf cais o'r fath a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddo.

Mae'r pŵer gwneud rheoliadau hwn wedi'i ychwanegu at adran 14 o ddeddf 2016 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru (yn ymarferol, AGC) i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu gwybodaeth am sut y byddant yn parhau i gydymffurfio â gofynion yn ymwneud â safon y gofal a'r cymorth sydd i'w darparu, nes eu bod yn rhoi'r gorau i weithredu.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan AGC wybodaeth berthnasol am weithrediad bwriedig y gwasanaeth(au) a sicrwydd yn ymwneud â gofal, diogelwch a llesiant parhaus unigolion sy'n defnyddio neu'n byw yn y gwasanaeth(au), er mwyn galluogi AGC i gyflawni ei dyletswyddau rheoleiddiol yn effeithiol yn ystod y cyfnod cau. 

Beth rydym yn ei gynnig?

Rydym yn cynnig defnyddio'r pŵer gwneud rheoliadau newydd yn adran 14(1A)(a) o ddeddf 2016 i'w gwneud yn ofynnol i gais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaethau gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  1. Y dyddiad arfaethedig ar gyfer canslo cofrestriad y darparwr gwasanaethau;
  2. Y rheswm dros wneud y cais
  3. Ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir, datganiad am sut mae'r darparwr gwasanaethau yn bwriadu cydymffurfio â'r rheoliadau a wneir o dan adran 27 o ddeddf 2016 (safon y gofal a'r cymorth sydd i'w darparu) nes bod y cofrestriad wedi'i ganslo
  4. Ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir, manylion am unrhyw hysbysiad a roddir am y bwriad i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau; i'r awdurdod lleol yn yr ardal lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu; i'r Bwrdd Iechyd Lleol yn yr ardal lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu; ac i unrhyw berson arall
  5. Os yw'r darparwr gwasanaethau yn gwneud cais i ganslo ei gofrestriad lai na 3 mis cyn y dyddiad dod i rym arfaethedig, adroddiad yn ymwneud ag a yw unrhyw un o'r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae'n eu darparu neu unrhyw fan y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono, neu mewn perthynas ag ef wedi peidio neu'n debygol o beidio â bod yn ariannol hyfyw o fewn y 12 mis nesaf

Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 pan fydd darparwr gwasanaethau yn gwneud cais o dan adran 11 o ddeddf 2016 i amrywio ei gofrestriad, er mwyn dileu un neu fwy o wasanaethau o'i gofrestriad. 

Ein bwriad yw y bydd ceisiadau i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaethau, o dan adran 14 o ddeddf 2016, yn cael eu gwneud ar ffurf cais ar-lein, a fydd yn cael ei gyrchu drwy wefan AGC.

Mae hyn yn adlewyrchu'r dull gweithredu presennol pan fydd darparwr gwasanaethau yn gwneud cais i amrywio ei gofrestriad, a bydd yn ofynnol o dan y pŵer gwneud rheoliadau newydd yn adran 14(1A)(b) o ddeddf 2016, lle mae darparwr yn ceisio canslo ei gofrestriad yn ei gyfanrwydd.

Y camau nesaf

Bydd eich ymatebion i'r ymarfer ymgynghori hwn a'r dadansoddiad wedi hynny yn llywio cyngor i weinidogion a'r broses o ddrafftio rheoliadau i'w gosod gerbron y Senedd yn gynnar yn 2026. Bwriedir i'r rheoliadau ddod i rym ar 1 Ebrill 2026.

Materion cysylltiedig

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, yn amlinellu rhagor o wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn datganiad blynyddol darparwr gwasanaethau o dan adran 10 o ddeddf 2016. Mae hyn yn galluogi AGC i gasglu data ar staffio, cynllunio'r gweithlu, hyfforddiant a chymwysterau yn ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig.

Mae rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), hefyd yn casglu gwybodaeth debyg gan awdurdodau lleol wrth gasglu data blynyddol ar y gweithlu. Mae'r data hwn yn cynnwys gwybodaeth am y bobl a gyflogir gan wasanaethau gofal cymdeithasol GCC, a data yn ymwneud â sefydliadau a gomisiynir ganddo i ddarparu gofal a chymorth.

O ganlyniad, nodwyd bod ceisiadau data gan AGC a GCC yn gorgyffwrdd mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig. Ar hyn o bryd, mae AGC a GCC yn gweithio i ystyried sut y gellid cysoni eu setiau data a symleiddio ceisiadau am wybodaeth er mwyn lleihau'r baich ar ddarparwyr gwasanaethau, diwallu anghenion gwybodaeth y ddau reoleiddiwr, a datblygu darlun clir a chynhwysfawr o'r gweithlu gofal cymdeithasol cenedlaethol yng Nghymru.

Os yw'r gwaith hwn yn arwain at gynigion i newid y rheoliadau hyn, bydd yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno â'r terfyn amser arfaethedig o 91 diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol (30 Mehefin) ar gyfer darparwyr gwasanaethau i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar eu gwefan?

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno y dylai Gweinidogion Cymru (AGC) gael yr opsiwn o roi hysbysiad cosb i ddarparwr gwasanaethau os ydynt wedi'u bodloni bod y darparwr wedi methu â chyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan o fewn y terfyn amser rhagnodedig?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno bod swm arfaethedig y gosb – lefel 4 ar y raddfa safonol, £2,500 ar hyn o bryd – yn gymesur?

Cwestiwn 4

Ydych chi'n cytuno bod yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaethau yn berthnasol ac yn gymesur?

Cwestiwn 5

Ydych chi'n meddwl y bydd y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol, gan gynnwys ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig?

Cwestiwn 6

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol unrhyw un o'r cynigion ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 7

Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid unrhyw un o'r cynigion er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, megis unrhyw oblygiadau ymarferol i'w hystyried gan ddarparwyr gwasanaethau, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi.

Sut i ymateb

Os gwelwch yn dda, cyflwynwch eich ymatebion erbyn 8 Hydref 2025, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • cwblhau ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, cwblhewch ein ffurflen ymateb a chofrestrwch drwy e-bost i socialcareconsultation@gov.wales (rhowch y cyfeirnod WG52306 ym mhwnc eich e-bost)
  • lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a'i chyflwyno i:

Ymgynghoriad: WG52306 
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52306

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.