Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

At ddibenion trethi lleol, mae eiddo naill ai'n cael ei ddosbarthu'n eiddo domestig (y mae'r dreth gyngor yn daladwy amdano) neu'n eiddo annomestig (y mae ardrethi annomestig yn daladwy amdano). Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o eiddo, mae'r gwahaniaeth rhwng defnydd domestig a defnydd annomestig yn glir. Mae angen diffiniad penodol i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion trethi lleol, am ei bod yn bosibl y gallai'r un eiddo gael ei ddefnyddio naill ai at y diben hwn neu fel annedd ddomestig. Dosberthir eiddo o'r fath yn eiddo domestig, oni fydd yn bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud â'i weithgaredd gosod masnachol.

Ers 1 Ebrill 2023, mae eiddo hunanddarpar wedi'i ddosbarthu'n eiddo domestig:

  • os bydd ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy yn y 12 mis canlynol;
  • os bydd buddiant y talwr ardrethi yn yr eiddo yn ei alluogi i'w osod am gyfnodau o'r fath;
  • os bu ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod sy'n cael ei ystyried; 
  • os oedd y cyfnodau byr pan gafodd ei osod yn fasnachol mewn gwirionedd yn dod i gyfanswm o 182 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw (gellir cymryd cyfartaledd ar draws dwy neu dair blynedd ac ar draws sawl uned).

Cynyddwyd y trothwyon gosod mewn ymateb i bryderon ynghylch y nifer cynyddol o eiddo hunanddarpar a pha mor hawdd ydoedd i berchnogion ail gartrefi osgoi atebolrwydd i dalu'r dreth gyngor. Dros y degawd rhwng 2013 a 2023, gwnaeth nifer yr eiddo a oedd wedi'i restru ar gyfer ardrethi annomestig bron â threblu, o tua 4,000 i fwy na 11,000. Codwyd pryderon bod gorgyflenwad o eiddo hunanddarpar, yn enwedig mewn rhai ardaloedd, yn cyfyngu ar ei gyfraniad economaidd, a'r stoc dai a oedd ar gael i gymunedau lleol.

Yn dilyn cyflwyno'r trothwyon gosod uwch a rhywfaint o addasu, mae tua 8,000 o eiddo hunanddarpar bellach wedi'u rhestru ar gyfer ardrethi annomestig, sef 70% o'r uchafbwynt yn 2023. Nid yw hyn yn adlewyrchu unrhyw fudd ychwanegol i weithredwyr o'r cynigion mireinio a roddwyd ar waith ar 1 Ebrill 2026. Mae'r mireinio hwn yn galluogi gweithredwyr i ddibynnu ar gyfartaledd o ddiwrnodau y gosodwyd eiddo dros y ddwy neu dair blynedd flaenorol a chyfrif hyd at 14 diwrnod y flwyddyn o roddion elusennol ar ffurf seibiannau byr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i adolygu'r trothwy o osod eiddo am 182 diwrnod a chreu eithriadau newydd clir a rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn cael ei ystyried yn gartref preifat.. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y materion hyn. 

Adolygu'r trothwy o 182 diwrnod

Er bod amcanion y trothwy gosod uwch yn cael eu derbyn yn gyffredinol, bu trafodaeth barhaus ynghylch lefel y cynnydd a'r effaith ar fusnesau hunanddarpar gwirioneddol. Cydnabyddir nad yw rhai eiddo hunanddarpar sefydledig sy'n cael eu gosod am bron i hanner y flwyddyn ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at eu heconomïau lleol wedi cyrraedd y trothwy o osod eiddo am 182 diwrnod. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r trothwy o 182 diwrnod.

Rhaid cydnabod hefyd bod rhai o'r eiddo nad ydynt wedi cyrraedd y trothwy uwch ond yn cael eu gosod am ychydig dros 10 wythnos (70 diwrnod) y flwyddyn, o bosibl gan weithredwyr hapfasnachol yn hytrach na busnesau gwirioneddol sy'n ceisio gosod eu heiddo am gynifer o ddiwrnodau â phosibl. Mewn llawer o achosion, efallai y byddai'n well defnyddio'r eiddo hyn fel cartrefi parhaol i aelodau o'r gymuned leol. Gall perchnogion ddewis eu defnyddio fel eiddo hunanddarpar am ran o'r flwyddyn, gan dderbyn y bydd eu cyfraniad i'r gymuned leol yn cael ei wneud neu ei ategu drwy'r dreth gyngor. 

O ganlyniad i'r ystyriaethau croes hyn, mae angen cael cydbwysedd gofalus wrth adolygu'r trothwy o 182 diwrnod ac ni fyddai unrhyw ddewis amgen posibl yn bodloni pob rhanddeiliad. Yng nghyd-destun y duedd hirdymor o ran nifer yr eiddo hunanddarpar, bydd terfyn ar lefel y gostyngiad y gallai Llywodraeth Cymru fod am ei ystyried. Mae risg y byddai gostyngiad o fwy na phedair wythnos y flwyddyn (a fyddai'n golygu trothwy gosod o 154 diwrnod), er enghraifft, yn tanseilio'r nod yn sylweddol. Cydnabyddir bod rhai gweithredwyr wedi dadlau dros drothwy llawer is, ond gallai hyn gymell gorgyflenwad o eiddo hunanddarpar a pheidio â sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd wedi'i chasglu ar y mater hwn dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r sector hunanddarpar ac awdurdodau lleol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cyfrannu at yr adolygiad drwy geisio barn ar yr effeithiau y gallai gostyngiad yn y trothwy gosod eu cael ar weithredwyr hunanddarpar a gallu awdurdodau lleol i ymateb i'r materion sy'n codi o unrhyw orgyflenwad. Bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, er mwyn i unrhyw newid a fabwysiedir o ganlyniad gael ei roi ar waith fel blaenoriaeth gynnar.

Eithriadau arfaethedig

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na ellid defnyddio rhai eiddo hunanddarpar fel cartrefi parhaol. Cynigir pum math o eithriad rhag cymhwyso'r meini prawf gosod hanesyddol, mewn perthynas â'r amgylchiadau canlynol:

  1. Eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach;
  2. Eiddo aml-uned mawr;
  3. Eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol;
  4. Eiddo o fewn cwrtil cartref y perchennog; 
  5. Eiddo ar fferm y perchennog.

Byddai'r ddau gynnig cyntaf yn efelychu eithriadau a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn Lloegr. Mae a wnelo'r tri chynnig arall ag amgylchiadau eraill sydd (mewn llawer o achosion neu ym mhob achos) yn golygu na ellid defnyddio'r eiddo fel cartref parhaol. 

Mae'n bwysig y gall gweithredwyr ddarparu tystiolaeth gyson ar gyfer yr eithriadau arfaethedig ac y gall yr eithriadau arfaethedig gael eu cymhwyso gan Swyddfa Brisio CThEF, gan leihau unrhyw risg o ganlyniadau anfwriadol. Rhoddir esboniad o bob cynnig isod.

Dim ond petai'n parhau i gael ei ddefnyddio i ddarparu llety hunanddarpar y byddai eiddo yn yr amgylchiadau hyn wedi'i eithrio rhag cael ei ddosbarthu'n eiddo domestig. Ni fwriedir i eithriadau fod yn gymwys i eiddo sy'n wag neu eiddo sy'n cael ei feddiannu'n achlysurol fel ail gartref yn unig. Bydd y Swyddfa Brisio yn parhau i geisio tystiolaeth y bydd eiddo ar gael i'w osod fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod o leiaf yn y flwyddyn sydd i ddod.

1. Eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach

Byddai'r eithriad hwn yn gymwys i unedau hunanddarpar sy'n rhan annatod o fath arall o fusnesau a gynhelir yn yr un eiddo annomestig. Mae enghreifftiau yn cynnwys llety i westeion parc hamdden neu leoliad priodasau. Mae'r un eithriad wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar yn Lloegr.

Ni fyddai amgylchiadau lle nad oes unrhyw gysylltiad swyddogaethol rhwng yr uned hunanddarpar a'r busnes arall (e.e. fflat uwchben siop) wedi'u cwmpasu gan yr eithriad hwn. O dan amgylchiadau o'r fath, nid yw'r llety yn benodol ar gyfer cwsmeriaid y busnesau eraill (e.e. y siop, sy'n weithgaredd ar wahân). Ni fyddai agosrwydd at y busnes arall yn atal yr eiddo rhag cael ei werthu neu ei osod ar wahân fel cartref parhaol.

2. Eiddo aml-uned mawr

Byddai'r eithriad hwn yn gymwys i eiddo, a elwir yn westai fflatiau neu'n llety â gwasanaeth, sef blociau fflatiau tebyg i westy sy'n cynnwys nifer o unedau hunanddarpar sy'n destun un asesiad cyfun at ddibenion ardrethi annomestig. Gan fod pob fflat yn rhan o eiddo mwy o faint a ddefnyddir at yr un diben masnachol, cynigir y byddai'r eithriad yn gymwys i eiddo sy'n cynnwys pum uned hunanddarpar neu fwy. Mae'r un eithriad wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar yn Lloegr.

Gallai rhai mathau eraill o eiddo aml-uned mawr hefyd gael eu cwmpasu gan yr eithriad hwn, o dan amgylchiadau lle y byddai'r unedau'n cael eu trin fel un asesiad at ddibenion trethi annomestig. Ni fyddai'n gymwys i nifer o eiddo sy'n rhan o'r un busnesau, ond a asesir ar gyfer ardrethi annomestig ar wahân.

3. Eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol

Byddai'r eithriad hwn yn gymwys i eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio sy'n ei atal rhag cael ei feddiannu'n barhaus fel cartref parhaol neu sy'n nodi bod yn rhaid iddo gael ei ddefnyddio fel llety gwyliau yn unig. Byddai'r diffiniad arfaethedig yn efelychu eithriad presennol rhag premiwm treth gyngor.

Cydnabyddir bod cyfyngiadau cynllunio perthnasol yn gymwys i rai eiddo hunanddarpar yng nghartref neu ar fferm y perchennog, ond nid pob un. Am y rheswm hwn, mae'r ddau eithriad pellach a ddisgrifir isod hefyd yn cael eu hystyried.

4. Eiddo o fewn cwrtil cartref y perchennog

Byddai'r eithriad hwn yn gymwys i unedau hunanddarpar ar dir sydd hefyd yn cynnwys prif breswylfa'r perchennog o dan yr un weithred eiddo cofrestr. Gall enghreifftiau gynnwys rhandai sydd ynghlwm wrth yr eiddo, adeiladau allanol wedi'u haddasu, cabanau gwyliau neu unrhyw annedd ar wahân arall ar dir yr eiddo.

Cydnabyddir y gallai rhai eiddo mewn amgylchiadau tebyg fod ar dir ger cartref y perchennog o dan deitl cofrestr ar wahân. Mae eu gwerthu neu eu gosod am gyfnod hir fel cartref parhaol yn debygol o fod yn opsiynau mwy ymarferol ar gyfer eiddo o'r fath. Byddai eithriad a fyddai'n ceisio darparu ar gyfer y senario hwn yn gymwys yn ehangach nag a fwriadwyd (e.e. i'r tŷ drws nesaf i gartref gweithredwr, pe bai'n cael ei brynu fel buddsoddiad a'i osod fel llety hunanddarpar).

5. Eiddo ar fferm y perchennog

Byddai'r eithriad hwn yn gymwys i unedau hunanddarpar sy'n cael eu gweithredu gan berchennog neu feddiannwr tir neu adeiladau amaethyddol cyfagos (sydd wedi'u heithrio rhag trethi annomestig). Gallai enghreifftiau gynnwys adeiladau allanol wedi'u haddasu ac anheddau ar wahân eraill ar dir fferm, sydd fel arfer yn rhan o weithgareddau arallgyfeirio ffermydd.

Cydnabyddir y gallai rhai eiddo o dan yr amgylchiadau hyn fod yn addas i'w gwerthu neu eu gosod am gyfnod hir fel cartref parhaol. Byddai hyn yn farn oddrychol mewn achosion unigol, yn hytrach na mater o ffaith a allai gael ei adlewyrchu'n glir yn y diffiniad o'r eithriad.

Y camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn a chanfyddiadau'r adolygiad o'r trothwy o 182 diwrnod. Yn amodol ar y penderfyniadau sy'n deillio o hynny, bwriedir i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i roi'r newidiadau ar waith ddod i rym ar 1 Ebrill 2027. 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 

Yn eich barn chi, a ddylai Llywodraeth Cymru ystyried gostyngiad bach yn y trothwy gosod?

Dylai

Na ddylai

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 2 

Yn eich barn chi, pa effeithiau y byddai gostyngiad bach yn y trothwy gosod yn eu cael ar weithredwyr hunanddarpar?

Cwestiwn 3

Yn eich barn chi, pa effeithiau y byddai gostyngiad bach yn y trothwy gosod yn eu cael ar allu awdurdodau lleol i ymateb i'r materion sy'n codi o unrhyw orgyflenwad o eiddo hunanddarpar?

Cwestiwn 4

A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig ar gyfer eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach?

Ydw

Nac ydw

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig ar gyfer eiddo aml-uned mawr?

Ydw

Nac ydw

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 6

A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig ar gyfer eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol?

Ydw

Nac ydw

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 7

A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig ar gyfer eiddo sydd o fewn cwrtil cartref y perchennog?

Ydw

Nac ydw

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 8

A ydych yn cytuno â'r eithriad arfaethedig ar gyfer eiddo sydd ar fferm y perchennog?

Ydw

Nac ydw

Rhowch resymau dros eich barn:

Cwestiwn 9

A ydych yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau eraill lle na ellid defnyddio eiddo fel cartref parhaol y dylid eu hystyried ar gyfer eithriadau?

Ydw 

Nac ydw

Os ydych, rhowch fanylion

Cwestiwn 10

Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

  1. A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
  2. A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi? 

Cwestiwn 11

Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn:

  1. cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
  2. liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 12

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 23 Hydref 2026, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol.

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig a Deddfwriaeth 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth 

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif : WG54979

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.