Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer lluosydd gwahaniaethol ardrethi annomestig
Rydym yn ceisio eich barn ar gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig (ardrethi busnes).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Treth leol yw ardrethi annomestig, a elwir weithiau'n ‘ardrethi busnes’, sy'n helpu i dalu am wasanaethau lleol. Codir ardrethi ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, gan gynnwys eiddo sy'n berchen i'r sector cyhoeddus a sefydliadau nid-erelw neu'n cael ei gweithredu ganddynt, nid dim ond ar eiddo a ddefnyddir at ddibenion masnachol. Mae ardrethi annomestig yn cyfrannu dros £1.1 biliwn bob blwyddyn tuag at gyllido gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan lywodraeth leol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ystod o ddiwygiadau i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd.
Mae'r lluosydd yn un o benderfynyddion allweddol y biliau ardrethi annomestig y mae'n ofynnol i dalwyr ardrethi eu talu. Mae atebolrwydd ardrethi annomestig, cyn i unrhyw ryddhad gael ei gymhwyso, yn cael ei gyfrifo drwy gymryd gwerth ardrethol yr eiddo, fel y'i pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol, a'i luosi â'r lluosydd a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae lluosydd sengl ar hyn o bryd yn gymwys i bob eiddo yn y sylfaen drethu.
Mae gwahanol systemau o luosyddion yn bodoli mewn mannau eraill yn y DU. Yn Lloegr, mae lluosydd is yn gymwys i eiddo bach (sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000) ac mae pob eiddo arall yn ddarostyngedig i'r lluosydd safonol. O 2026 i 2027 ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno lluosyddion is pellach ar gyfer eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch a lluosydd uwch ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol o £500,000 ac yn uwch. Yn yr Alban, mae un o dri lluosydd yn gymwys yn seiliedig ar werth ardrethol eiddo, ar ffurf cyfradd sylfaenol (hyd at £51,000), cyfradd ganolraddol (£51,001 i £100,000), a chyfradd uwch (dros 100,000). Yng Ngogledd Iwerddon, mae lluosyddion yn cael eu gosod yn lleol, ond mae cyfradd ganolog yn cael ei chydategu gan gyfradd a bennir yn ardal pob cyngor dosbarth.
Rhoddodd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 y gallu i Lywodraeth Cymru gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol i Gymru gan ddefnyddio rheoliadau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Lluosydd manwerthu
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno lluosydd is ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig. Mae'r cynnig hwn yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu ‘brics a morter’ yn enwedig gan eu bod yn destun cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein. Mae cyfanswm y gofod y mae ei angen ar siopau manwerthu o fewn y sylfaen drethu ardrethi annomestig yn fawr, ond mae pob eiddo yn gwasanaethu marchnad leol. I'r gwrthwyneb, mae gan fanwerthwyr ar-lein ôl troed ffisegol cymharol fach, effeithlon a chost isel, yng nghyd-destun y raddfa genedlaethol neu ryngwladol a chyrhaeddiad eu busnes (a adlewyrchir yn bennaf yn y defnydd o warysau dosbarthu mawr).
Gan mai treth ar eiddo yw ardrethu annomestig, nid eir i'r afael â'r anghydbwysedd hwn yn naturiol dros amser drwy ailbrisio'r sylfaen drethu yn rheolaidd. Bwriad lluosydd fyddai helpu i ail-gydbwyso’r system ardrethi annomestig o blaid siopau manwerthu, i gefnogi hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y sector. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried rhai ymatebion posibl eraill i'r her hon y mae rhanddeiliaid wedi'u cynnig, megis treth gwerthiannau ar-lein, gan nad ydynt yn ymwneud â maes polisi datganoledig.
Byddai'r lluosydd manwerthu arfaethedig yn gymwys i eiddo sydd â gwerthoedd ardrethol o dan £51,000 ac sy'n cael eu nodi fel siopau, ciosgau neu swyddfeydd post yn ôl eu disgrifiad mewn rhestr ardrethu leol. Mae hyn yn cynnwys bron 95% o'r holl siopau, ond mae'n hepgor yn fwriadol siopau mawr, siopau adrannol, hyperfarchnadoedd ac archfarchnadoedd. Byddai tua 13,000 o eiddo (yn ogystal â'r 50,000 o eiddo sy'n cael eu meddiannu gan fusnesau bach ledled Cymru sydd eisoes yn denu rhyddhad llawn) yn elwa o luosydd manwerthu gyda'r cwmpas arfaethedig.
Mae gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu a chynllun gweithredu manwerthu yn cydnabod bod sector manwerthu cryf yn rhan annatod o strydoedd mawr a chanol trefi bywiog a chynaliadwy. Byddai disgwyl i'r cynnig hwn hefyd fod o fudd anuniongyrchol i sectorau eraill o economi'r stryd fawr, drwy'r hwb a gâi ei roi i nifer yr ymwelwyr gan sector manwerthu hyfyw. I'r gwrthwyneb, gall unrhyw erydu sylweddol ar y sector manwerthu oherwydd heriau i'w hyfywedd parhaus gael canlyniadau i sectorau cydategol yr economi.
Lluosydd uwch
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cyflwyno lluosydd uwch ar gyfer eiddo gwerth uchel, i wrthbwyso'r refeniw a fyddai'n cael ei golli drwy'r lluosydd manwerthu arfaethedig. Byddai lluosydd uwch yn codi swm cymedrol o refeniw ychwanegol o'r eiddo mwyaf (yn ôl gwerth) yn y sylfaen drethu (rhestrau ardrethu leol a chanolog). Byddai hyn yn sicrhau y gellid pennu'r lluosydd safonol, sy'n gymwys i bob eiddo nad oedd yn ddarostyngedig i'r lluosyddion manwerthu neu uwch, ar y lefel isaf bosibl (tra'n sicrhau hefyd nad oes unrhyw newid i swm cyffredinol y refeniw ardrethi annomestig).
Cynigir y byddai lluosydd uwch yn gymwys i eiddo sydd â gwerth ardrethol uwch na £100,000. Cyn belled â phosibl, ni fwriedid i luosydd uwch fod yn gymwys i fathau penodol o eiddo sy'n cael ei feddiannu gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n cael eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau cyllid cyhoeddus. Byddai'r mathau canlynol o eiddo yn cael eu heithrio o luosydd uwch yn seiliedig ar eu disgrifiad mewn rhestr ardrethu leol: ysbytai, meddygfeydd, canolfannau iechyd, ysgolion, colegau, prifysgolion, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden, mynwentydd, amlosgfeydd, gorsafoedd tân, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd heddlu, carchardai, llysoedd a sefydliadau amddiffyn ategol. Ni fyddai modd eithrio mathau mwy generig o eiddo, megis swyddfeydd, lle maent yn cael eu meddiannu gan wasanaethau cyhoeddus.
Byddai'r lluosydd uwch yn gymwys i ryw 3,200 eiddo (2.5% o'r holl eiddo yn y sylfaen drethu). Byddai hyn yn arwain at dri lluosydd i gyd (y lluosyddion manwerthu ac uwch newydd, yn ogystal â'r lluosydd safonol presennol).
Y camau nesaf
Yn ddarostyngedig i ystyried y safbwyntiau a gyflwynir mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau y mae eu hangen i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol a rhoi grym iddynt ar 1 Ebrill 2026.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai cydbwysedd i'w daro wrth bennu unrhyw luosyddion gwahaniaethol, yn enwedig mewn perthynas â'r goblygiadau ar gyfer lefelau'r lluosydd safonol a lluosydd uwch (i gynnal yr un refeniw ardrethi annomestig cyffredinol). Bydd lefelau'r holl luosyddion yn cael eu pennu fel rhan o sefydlu gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026 i 2027, a gaiff ei phennu tua diwedd 2025. Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth canlyniad yr ailbrisiad nesaf o ardrethi annomestig, a gaiff effaith hefyd ar 1 Ebrill 2026.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno lluosydd manwerthu is?
Cwestiwn 2
A ydych yn credu y byddai'r diffiniad arfaethedig ar gyfer lluosydd manwerthu yn cyd-fynd â bwriad y polisi?
Cwestiwn 3
A ydych yn credu y dylai lluosydd uwch fod yn gymwys i eiddo sydd â gwerth ardrethol uwch na £100,000 (Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a ddisgrifir)?
Cwestiwn 4
A ydych yn credu y byddai'r diffiniad arfaethedig ar gyfer lluosydd uwch yn cyd-fynd â bwriad y polisi?
Cwestiwn 5
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau positif?
- Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 6
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 7
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Awst 2025, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol.
- Cwblhewch ein ffurflen ar-lein
- Lawrlwythwch ein ffurflen ymateb, ei llenwi a'i hanfon drwy e-bost i CTaNDR.Ymgyngoriadau@llyw.cymru
- Lawrlwythwch ein ffurflen ymateb, ei llenwi a’i hanfon drwy'r post at:
Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn amlinellu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif Llywodraeth Cymru: WG52232
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
