Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Drwy'r ymgynghoriad hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar gynigion i fireinio'r ffordd y caiff eiddo hunanddarpar eu trin at ddibenion trethi lleol. 

O 1 Ebrill 2023, mae'n ofynnol bod eiddo hunanddarpar wedi bod ar gael i'w osod am 252 diwrnod a'i fod wedi cael ei osod mewn gwirionedd am 182 diwrnod o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, er mwyn cael ei ddosbarthu yn eiddo annomestig (gydag ardrethi annomestig yn daladwy) yn hytrach nag eiddo domestig (gyda'r dreth gyngor yn daladwy). Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am asesu cydymffurfiaeth â'r meini prawf gosod ac am ddosbarthu eiddo at ddibenion trethi lleol. 

Ar ôl i'r meini prawf newydd gael eu rhoi ar waith yn llawn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, roedd tua 6,500 o eiddo hunanddarpar wedi aros ar y rhestr ardrethu. Mae hyn yn cyfateb i 60% o'r nifer a restrwyd ym mis Ebrill 2023 ac nid yw'n llawer llai na'r 7,000 a restrwyd cyn y cynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo a oedd yn bodloni'r meini prawf gosod blaenorol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2023. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dau gynnig penodol i fireinio'r ffordd y caiff y meini prawf gosod eu cymhwyso a gofynnodd am farn hefyd ar fanteision proses bontio fesul cam i'r dreth gyngor ar gyfer eiddo a gaiff ei ailddosbarthu'n eiddo domestig. Mae'r cynigion hyn yn ymateb, yn y ffordd a ystyrir yn briodol, i faterion a godwyd gan y sector hunanddarpar wrth i'r meini prawf gosod newydd gael eu rhoi ar waith.

Roedd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos, o 28 Awst tan 20 Tachwedd 2025.

Cwestiynau ac ymatebion

Cafwyd cyfanswm o 1,211 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys nifer mawr o weithredwyr hunanddarpar unigol. Ceir rhestr lawn o'r ymatebwyr yn atodiad a.

Caiff crynodeb o'r ymatebion a gafwyd ei ddarparu isod, sy'n canolbwyntio ar y pwyntiau sy'n uniongyrchol berthnasol i bob cwestiwn unigol. Caiff sylwadau ehangach am y meini prawf gosod a materion cysylltiedig, fel eu heffeithiau a phrosesau gweinyddol, eu crynhoi gyda'r ymatebion i gwestiwn 7. Nid yw'r crynodeb yn ceisio nodi pob pwynt a wnaed gan ymatebwyr, ond tynnu sylw at y prif themâu.

Ni wnaeth rhai ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Mae pob canran yn seiliedig ar ymatebion i'r cwestiwn perthnasol, yn hytrach na chyfanswm nifer yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad cyffredinol.

Cwestiwn 1: A ydych yn cefnogi'r cynnig i'w gwneud yn bosibl i nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo gael eu cyfartaleddu dros sawl blwyddyn?

Cafodd y cwestiwn hwn ei ateb gan 1,198 o ymatebwyr ac o'r rhain, dywedodd 63% eu bod yn cefnogi'r cynnig a dywedodd 35% nad oeddent yn ei gefnogi. Darparodd y gweddill (2%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cefnogi'r cynnig. Cafwyd sylwadau penodol gan 885 o ymatebwyr. 

Cadarnhaodd llawer o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig y byddai'n ddefnyddiol i weithredwyr sy'n gosod eiddo am fwy na 182 diwrnod yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd, ond sydd weithiau'n syrthio'n is o drwch blewyn. Cyfeiriwyd at amrywiaeth o resymau dros fethiannau posibl i gydymffurfio, gan gynnwys newidiadau dros dro yn y galw, achosion o ganslo'n hwyr a natur dymhorol twristiaeth.

Yn ogystal, mynegodd cyfran fawr o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig eu barn bod y gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod yn rhy uchel ac y dylid ei ostwng. Awgrymodd rhai ymatebwyr lwfansau ychwanegol i roi cyfrif am amgylchiadau penodol (e.e. tywydd gwael a gwaith cynnal a chadw eiddo), ac roedd nifer bach ohonynt o'r farn y dylid gallu cyfartaleddu dros gyfnod hwy. Roedd rhai sylwadau o blaid y cynnig wedi codi pryderon am ba mor hawdd fyddai i'w weinyddu. 

Y prif bryder i'r rhan fwyaf o ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r cynnig oedd bod y gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod yn rhy uchel yn eu barn nhw. Yn hytrach na mynegi gwrthwynebiad pendant i'r cynnig, yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr hyn o'r farn y byddai cyfartaleddu nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo dros sawl blwyddyn o fudd cyfyngedig i'r sector hunanddarpar ac na fyddai'n mynd i'r afael â'u prif bryder. Nid oedd nifer bach o ymatebwyr fel pe baent yn deall nad gofyniad newydd yw'r cynnig ac mai dim ond i weithredwr na fyddai'n cydymffurfio fel arall ar sail ei flwyddyn osod ddiweddaraf y gallai'r cynnig hwn fod yn fuddiol. 

Nid oedd rhai ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig am eu bod o'r farn y dylai gweithredwyr orfod bodloni'r meini prawf yn ystod pob blwyddyn. Roedd yr ymatebwyr hyn yn poeni y gallai unrhyw hyblygrwydd gyfyngu ar effeithiolrwydd y newidiadau polisi a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2023. 

Cwestiwn 2: A ydych yn cefnogi'r cynnig i ganiatáu i roddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod?

Cafodd y cwestiwn hwn ei ateb gan 1,181 o ymatebwyr ac o'r rhain, dywedodd 70% eu bod yn cefnogi'r cynnig a dywedodd 29% nad oeddent yn ei gefnogi. Darparodd y gweddill (1%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cefnogi'r cynnig. Cafwyd sylwadau penodol gan 704 o ymatebwyr. 

Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig y byddai'n fuddiol i weithredwyr hunanddarpar a'r cyhoedd yn ehangach. Cadarnhaodd rhai gweithredwyr eu bod eisoes yn gwneud rhoddion elusennol, a'u bod yn croesawu'r cynnig i ganiatáu i roddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod. Cafwyd rhai awgrymiadau y dylid diffinio'r lwfans arfaethedig yn ehangach (e.e. i gynnwys rhoddion a wneir drwy sefydliadau eraill neu'n uniongyrchol i deuluoedd ag amgylchiadau penodol), a chynigiodd nifer bach o ymatebwyr lwfans o fwy na 14 diwrnod. Gwnaed sylwadau hefyd am effaith ariannol gwneud rhoddion elusennol, gan nodi y byddai'r rhain yn gostus i weithredwyr ac yn opsiwn llai ffafriol na gosod eiddo ar sail fasnachol. Cafwyd awgrymiadau hefyd ynghylch lwfansau ychwanegol i gwmpasu amrywiaeth o amgylchiadau eraill nad ydynt yn arwain at osod eiddo (e.e. busnes yn cael ei orfodi i gau, adnewyddu eiddo a salwch). Cododd nifer bach o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynigion bryderon am ba mor hawdd fyddai'r lwfans i'w weinyddu. 

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r cynnig yn weithredwyr a oedd o'r farn na fyddai'n fuddiol iddynt, am nad ydynt yn gwneud rhoddion elusennol. Canolbwyntiodd sylwadau penodol ar y costau i'r gweithredwr os bydd yn gosod eiddo am  ddim (e.e. colli enillion, cyfleustodau, golchi, glanhau a thraul). Roedd nifer bach o wrthwynebiadau i'r cynnig yn seiliedig ar gamddealltwriaeth y byddai darparu rhoddion elusennol yn ofyniad penodol, yn hytrach na lwfans dewisol i weithredwyr. Cododd rhai sylwadau bryderon am gymhlethdod ychwanegol neu sut y byddai'r cynnig yn cael ei weinyddu.

Roedd nifer bach o'r ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r cynnig yn poeni y gallai unrhyw hyblygrwydd neu lwfans ychwanegol i weithredwyr gyfyngu ar effeithiolrwydd y newidiadau polisi a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2023. 

Cwestiwn 3: A yw'r cynnig i fynnu bod rhoddion yn cael eu cyflwyno drwy elusen gofrestredig yn cyflawni bwriad y polisi?

Cafodd y cwestiwn hwn ei ateb gan 1,130 o ymatebwyr ac o'r rhain, dywedodd 36% eu bod yn cytuno bod y gofyniad arfaethedig yn cyd-fynd â bwriad y polisi a dywedodd 62% eu bod yn anghytuno. Darparodd y gweddill (2%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cytuno ai peidio. Cafwyd sylwadau penodol gan 555 o ymatebwyr. 

Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr a oedd yn cytuno y byddai'r gofyniad i roddion elusennol gael eu cyflwyno drwy elusen gofrestredig yn cyd-fynd â bwriad y polisi wedi gwneud sylwadau pellach neu gwnaethant gadarnhau eu barn y byddai hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'r lwfans yn cael ei gamddefnyddio. Cafwyd nifer bach o sylwadau cefnogol a oedd o blaid ehangu'r cwmpas i gynnwys rhoddion a gyflwynir drwy sefydliadau eraill nad ydynt yn elusennau cofrestredig o bosibl, fel ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau eglwysig. 

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno yn perthyn i ddau grŵp gwahanol. Roedd y grŵp mwyaf (36% o ymatebwyr) o blaid y lwfans arfaethedig yn gyffredinol, ond roeddent o'r farn y dylid ehangu'r cwmpas i gynnwys mathau eraill o sefydliadau nad ydynt yn elusennau o bosibl neu roddion uniongyrchol gan weithredwyr i fuddiolwyr o'u dewis. Nid oedd y grŵp lleiaf (26% o ymatebwyr) yn cefnogi'r lwfans arfaethedig yn gyffredinol, yn seiliedig ar eu hymateb i gwestiwn 2. Roedd rhai o'r ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r lwfans arfaethedig yn poeni y gallai gael ei gamddefnyddio, hyd yn oed pe bai'n cael ei gyfyngu i roddion a gyflwynir drwy elusen gofrestredig. Fel yr ymatebion i gwestiwn 2, roedd nifer bach o wrthwynebiadau yn seiliedig ar gamddealltwriaeth y byddai darparu rhoddion elusennol yn ofyniad penodol, yn hytrach na lwfans dewisol. 

Roedd nifer bach o ymatebwyr yn ansicr a fyddai'r dull gweithredu arfaethedig yn cyflawni bwriad y polisi. Gofynnodd rhai am fwy o ganllawiau fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n cyfateb i rodd elusennol gymwys.

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno â bwriad Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i gefnogi gweithredwyr hunanddarpar y mae eu heiddo wedi symud o ardrethi annomestig i'r dreth gyngor, drwy godi cyfradd safonol y dreth gyngor am 12 mis cyn i unrhyw bremiwm allu cael ei godi?

Cafodd y cwestiwn hwn ei ateb gan 1,180 o ymatebwyr ac o'r rhain, dywedodd 84% eu bod yn cefnogi'r cynnig a dywedodd 15% nad oeddent yn ei gefnogi. Darparodd y gweddill (1%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cefnogi'r cynnig. Cafwyd sylwadau penodol gan 761 o ymatebwyr. 

Cadarnhaodd cyfran fawr o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig eu bod o'r farn y dylid rhoi amser i weithredwyr addasu i'r costau ychwanegol, os bydd y dreth gyngor yn dod yn daladwy. Roedd llawer o weithredwyr yn poeni am effaith gorfod talu unrhyw bremiymau'r dreth gyngor ar unwaith os nad oeddent yn bodloni'r meini prawf gosod mwyach, ac awgrymodd nifer bach ohonynt gyfnod pontio o fwy na 12 mis. 

Ymhlith ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig (a rhai nad oeddent yn ei gefnogi), roedd llawer ohonynt (dros 220) o'r farn na fyddai awdurdodau lleol yn defnyddio eu pwerau yn ôl disgresiwn fel y cynigiwyd a gwnaethant awgrymu yn hytrach y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer eithriad statudol ychwanegol rhag talu premiwm. O'r 12 awdurdod lleol a ymatebodd, roedd hanner ohonynt yn cytuno â'r cynnig a hanner yn anghytuno. Awgrymodd pum awdurdod lleol, gan gynnwys rhai a oedd yn cefnogi'r cynnig, y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer proses bontio fesul cam i'r dreth gyngor os bwriedir iddi gael ei chymhwyso'n gyson ledled Cymru.

Nid oedd rhai ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig am na fyddai'n mynd i'r afael â'u barn bod y gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod a phremiwm uchaf y dreth gyngor yn rhy uchel, yn hytrach na gwrthwynebiad penodol i'r egwyddor sylfaenol o broses bontio fesul cam. Roedd nifer bach o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r egwyddor, ond nid y cynnig penodol, wedi awgrymu proses bontio o fwy na 12 mis neu lai na 12 mis, yn dibynnu ar eu safbwynt.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi egwyddor y cynnig o'r farn na ddylid darparu proses bontio fesul cam i'r dreth gyngor ac, os na chaiff y meini prawf gosod eu bodloni, y dylai gweithredwyr fod yn atebol i dalu premiwm y dreth gyngor ar unwaith. Awgrymodd nifer bach o ymatebwyr y dylid codi'r dreth gyngor ar bob eiddo hunanddarpar beth bynnag fo'r meini prawf gosod. 

Cwestiwn 5: Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

  1. A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?

  2. A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi? 

Cafwyd sylwadau perthnasol gan 842 o ymatebwyr. Roedd llawer o ymatebwyr o'r farn na fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effeithiau ar y Gymraeg. 

Dywedodd nifer bach o ymatebwyr y byddai'r cynigion, drwy gefnogi sefydlogrwydd yn y sector hunanddarpar, yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg. Cafwyd sylwadau cysylltiedig a oedd yn tynnu sylw at amrywiaeth o fesurau y mae gweithredwyr yn eu defnyddio i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys rhoi deunydd dwyieithog i westeion. 

Cafwyd nifer mawr o sylwadau, gan weithredwyr hunanddarpar yn bennaf, am effeithiau negyddol ar yr iaith yn sgil amrywiaeth ehangach o bolisïau Llywodraeth Cymru sy'n effeithio ar y diwydiant twristiaeth. Tynnodd sylwadau cyferbyniol eraill sylw at bryderon am effaith niferoedd uchel o eiddo hunanddarpar ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. 

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn:

  1. cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu

  2. lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cafwyd sylwadau perthnasol gan 677 o ymatebwyr. Roedd llawer o ymatebwyr o'r farn nad oedd angen unrhyw newidiadau, gan na fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effeithiau ar y Gymraeg. 

Awgrymodd nifer mawr o weithredwyr hunanddarpar y byddai lleihau'r gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod yn gwella sefydlogrwydd yn y sector ac, yn ei dro, yn cael effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg. Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at gamau y gallai gweithredwyr hunanddarpar eu cymryd i wella'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys defnydd gwell o ddeunyddiau dwyieithog. Cyfeiriodd amrywiaeth o sylwadau at ysgogiadau polisi ehangach, fel cefnogi'r diwydiant twristiaeth neu ddarparu mwy o dai. 

Cododd nifer bach o ymatebwyr bryderon y byddai'r cynigion yn effeithio'n negyddol ar y Gymraeg, am y byddai mwy o eiddo hunanddarpar mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn bennaf. 

Cwestiwn 7: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.

Cafwyd sylwadau pellach gan 874 o ymatebwyr. Ailbwysleisiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr eu cefnogaeth i'r cynigion neu eu pryderon ynghylch y cynigion, fel y nodwyd mewn ymateb i gwestiynau blaenorol. Mae'r crynodeb isod hefyd yn adlewyrchu safbwyntiau cyffredin a rannwyd mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, nad oeddent yn uniongyrchol berthnasol i'r ffocws penodol. 

Manteisiodd gweithredwyr hunanddarpar yn gyffredinol ar y cyfle a gyflwynwyd drwy'r ymgynghoriad hwn i ailbwysleisio eu gwrthwynebiad i'r gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod. Roedd hon yn thema gyffredin drwy gydol yr ymgynghoriad a godwyd gan fwyafrif mawr o ymatebwyr. Mynegodd ychydig dros 10% o ymatebwyr wrthwynebiad ffurfiol i'r cynnig i barhau â'r gofyniad hwn ar ei ffurf bresennol. Gwnaeth rhai ymatebwyr awgrymiadau penodol ar gyfer dewisiadau amgen is. Lle roedd gweithredwyr yn cefnogi'r cynigion unigol yn yr ymgynghoriad, gwnaethant ychwanegu cafeat yn aml gan ddweud mai dim ond effaith gyfyngedig y byddent yn ei chael ar fynd i'r afael â phrif bryderon y sector hunanddarpar.

Disgrifiodd llawer o weithredwyr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn anos iddynt osod eiddo am 182 diwrnod y flwyddyn (neu wneud hynny'n gyson), gan gynnwys llai o alw am leoliadau gwledig mewndirol ac eiddo mwy, amrywiadau yn niferoedd ymwelwyr, a thueddiadau tuag at arosiadau o lai nag wythnos. Dywedodd rhai bod ceisio cynyddu gosodiadau yn golygu bod yn rhaid gweithio'n llawn-amser i gyflawni'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes hunanddarpar. Gwnaed amrywiaeth o sylwadau am yr effeithiau uniongyrchol ar weithredwyr, gan gynnwys costau uwch os bydd y dreth gyngor yn dod yn daladwy ganddynt, cynnig disgowntiau i gynyddu neu gynnal gosodiadau a mwy o straen. 

Roedd nifer mawr o sylwadau'n canolbwyntio ar bryderon ymhlith y sector hunanddarpar am bolisïau y tu hwnt i'r trethi lleol presennol. Roedd barn gyffredin yn y sector hunanddarpar bod effeithiau cyfunol amrywiaeth o newidiadau polisi datganoledig ac annatganoledig, o'u hystyried ar y cyd, yn amharu ar hyfywedd eu busnesau, o ganlyniad i gostau uwch a beichiau rheoleiddio. Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn rhagweld effeithiau anuniongyrchol ehangach ar dwristiaeth a'r economi leol mewn rhai ardaloedd, os bydd capasiti yn y sector hunanddarpar yn gostwng.

Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at weinyddu'r meini prawf gosod, gan gynnwys pryderon am yr amser a gymerwyd i roi'r newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2023 ar waith yn llawn a biliau'r dreth gyngor wedi'u hôl-ddyddio a dderbyniwyd gan rai gweithredwyr. Mynegwyd pryder cysylltiedig mai nifer bach o awdurdodau lleol sydd wedi defnyddio eu disgresiwn i gyfyngu'r effaith ar weithredwyr gydag amgylchiadau penodol, lle caiff premiymau eu cymhwyso i eiddo hunanddarpar y mae'r dreth gyngor yn daladwy arnynt.

Gwnaed sylwadau hefyd am y dull cyffredinol o ddosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol. Roedd llawer o weithredwyr o'r farn bod y gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod yn ffordd fympwyol o bennu a yw'r dreth gyngor yn daladwy ar eiddo hunanddarpar ac y gallai gael ei drin yn yr un ffordd ag ail gartref lle bo premiwm yn gymwys. Roedd y dulliau amgen a awgrymwyd yn cynnwys gwahaniaethu rhwng eiddo y gellid ond eu defnyddio fel cartrefi gwyliau a'r rhai a fyddai fel arall yn dai lleol fforddiadwy, drwy ystyried ffactorau fel amodau cynllunio.

Cafwyd sylwadau hefyd gan randdeiliaid eraill a oedd yn poeni o hyd am effeithiau niferoedd mawr o eiddo hunanddarpar ar gymunedau a'r Gymraeg mewn rhai ardaloedd. Awgrymodd rhai y dylai trethi lleol fod yn daladwy ar bob eiddo hunanddarpar mewn rhyw ffordd, naill ai drwy'r dreth gyngor neu drwy eu gwneud yn anghymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. 

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rydym yn cydnabod y teimladau cryf ymhlith gweithredwyr hunanddarpar am y system trethi lleol a nodir ein sefyllfa bolisi yn y cyflwyniad i'r ymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn, er mwyn i eiddo gael ei ddosbarthu'n eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol, y dylai gael ei osod am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae ein cynigion penodol yn ymateb i'r materion a godwyd gan y sector hunanddarpar yn ystod o broses o roi'r meini prawf gosod newydd ar waith, a gafodd eu hailadrodd mewn llawer o ymatebion i'r ymgynghoriad gan weithredwyr. 

O safbwynt y cynigion i fireinio'r ffordd y caiff y meini prawf gosod eu cymhwyso, ni allai'r rhain fyth lesteirio gweithredwr y byddai ei gydymffurfiaeth yn dod i ben fel arall, dim ond ei helpu. Y bwriad yw y bydd hyn yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd parhaus yn y sector hunanddarpar. Gallai ystod ehangach o lwfansau ar gyfer amgylchiadau penodol, fel yr awgrymwyd gan rai ymatebwyr, danseilio'r bwriad polisi cyffredinol ar gyfer y meini prawf gosod. Mae'r cynnig i'w gwneud yn bosibl i nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo gael eu cyfartaleddu dros sawl blwyddyn yn ystyried ystod eang o amgylchiadau a allai effeithio ar weithredwyr i raddau amrywiol ac ar adegau gwahanol. Bwriedir i'r lwfans arfaethedig ar gyfer rhoddion elusennol roi sicrwydd i weithredwyr sy'n dymuno darparu'r budd cyhoeddus ehangach hwn heb beryglu eu gallu i fodloni'r meini prawf gosod, gan sicrhau bod hwn yn ddewis hyfyw yn hytrach na rhwymedigaeth. 

Byddai proses bontio fesul cam o ardrethi annomestig i'r dreth gyngor yn cefnogi'r lleiafrif o weithredwyr y bydd eu cydymffurfiaeth â'r meini prawf gosod yn dod i ben o hyd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu deddfu ar gyfer eithriad rhag premiwm y dreth gyngor o'r math a gynigir, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso mewn ffordd gyson ledled Cymru. Bwriedir i'r broses bontio fesul cam ddechrau o 1 Ebrill 2027.

Y camau nesaf

Yn gyffredinol, cafodd cynigion yr ymgynghoriad gefnogaeth y mwyafrif. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i roi'r cynigion ar waith.

Atodiad a: rhestr o'r ymatebwyr

Cafwyd ymatebion gan y canlynol:

  • Awaze
  • Bag of Receipts Bookkeeping Services
  • Barn Court Cottages
  • Barnview Cottage
  • Ben Handford
  • Bodegroes Cottage
  • Bryn Melyn Farm Cottages
  • By the Wye Glamping
  • Bythynnod Benar
  • Bythynnod Cambrian
  • Cae Coryn Cottages
  • Cae Madog Barn
  • Canllefaes Cottages
  • Carys Hutchings
  • Castle Square Apartments Ltd a Llinos & Tyddyn Crwn Letting
  • Castleview Cottages
  • Cnewr Estate Ltd
  • Coedmor Self-Catering Holiday Cottages
  • Croeso Sir Benfro
  • Cwm Irfon Lodge Cottage a Nant y Walch Barn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Sir Penfro
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Tref Abermo
  • Cyngor Tref Llanfair Caereinion
  • Cylch yr Iaith
  • Cymdeithas Fasnach Twristiaeth Bae Abertawe
  • Cymdeithas Lletygarwch Llandudno
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • David Smith
  • Dioni Self-Catering Ltd
  • Dr Phil Swan
  • East Trewent Farm
  • Elizabeth Daley
  • Emma Ashby
  • Emma Enticott, Oakland House
  • Erw Wen Holiday Let
  • Escape to Penllyn
  • Exclusive Cottages Ltd
  • Faircroft Rhosili
  • Faraway Follies
  • Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
  • Ffyllon Fawr Self-Catering Holiday Let
  • Gadlys Coastal Cottages and Camping
  • Gareth Owen
  • Generation Rent
  • Glan Llugwy Holiday Let
  • Glascoed Farm Holiday Cottages
  • Glynis Lloyd
  • Golwg y Graig
  • Gower Lettings Ltd
  • Gray Thomas
  • Great House Farm Luxury Pods and Self-Catering
  • Great Lunnon Farm Cottages
  • Guesthouse Aberdyfi
  • Gwelfor
  • Gwyliau Garth
  • Gwyliau Talwrn Bach Holidays
  • Gwyndaf Pritchard Lettings
  • Haulwen Lewis
  • Hausman Hughes Ltd
  • Hengoed Farm Holidays
  • Hill View Holiday Homes
  • Holiday Property Management (Conwy) Ltd
  • J & E Hawkins Partnership
  • J.A.P. Meulendijk
  • James Dale
  • Joanne Bacon
  • Karen Anfield
  • KILEX Serviced Accommodation Ltd
  • Kilsby House & Cottage
  • Kimley Moor Farm
  • Lucy Clare Whitehead
  • Llainfran Holidays
  • Llandetty Hall Farm Holiday Accommodation
  • Llety Holiday Cottage
  • Llety Self-Catering Cottage
  • Lleyn Properties Ltd
  • M a G Lloyd
  • Mark Bagley
  • Maureen Dale
  • Mega Tyres Ltd
  • Mill Haven Place
  • Nant Helyg Services Ltd
  • Nant Lladron Ltd
  • Nant y Walch Barn, Lleoliad Digwyddiadau a Phriodasau
  • National Trust Cymru
  • Ochr y Rhiw Holiday Cottage
  • Pantycastell Cottages
  • Park Hall
  • Pasture Farm
  • Paul Featherstone
  • Pentrecelyn Barn
  • Penwern Fach Holiday Cottages
  • Penwernfach Holiday Cottages
  • Performance Related Ltd
  • Plas Pantyderi Manor
  • Propertymark
  • Ralph Bacon
  • Ray a Lorraine Thomas, Sutton Barns
  • Rebecca Barlow
  • Red Kite Cottages
  • Rejuvenate Estate Cyf
  • Roger Moss
  • Salt & City Stays
  • Serekinti Ltd
  • South Wales Homes
  • St Brides View
  • Stallion Valley Holiday Cottages
  • Strada Care Ltd
  • Supported Coastal Cottages
  • Sykes Holiday Cottages
  • Top Floor at Cantref House
  • Travel Chapter
  • Twristiaeth Bannau Brycheiniog
  • Twristiaeth Canolbarth Cymru
  • Ty’n y Gwynt Self-Catering Apartments
  • Tygylfinir Holiday Cottage
  • Tynwald
  • The Coach House, Millmoor Cottages
  • The Forest B&B and Cottages
  • The Living Energy
  • The Professional Association of Self-Caterers UK Cymru
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • Velvet Cottage a Jasmine Cottage
  • Williams Rural Commercial Charted Surveyors & Valuers
  • Woody’s Glamping
  • Wren Farm Caravan Park and Holiday Cottages
  • Y Faner
  • Y Gymdeithas Llety Byrdymor
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
  • Ynyswen Cottages

Ni wnaeth 1,070 o ymatebwyr ddweud pwy oeddent neu roeddent am aros yn ddienw.