Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

At ddibenion trethi lleol, mae eiddo naill ai'n cael ei ddosbarthu’n eiddo domestig (y mae'r Dreth Gyngor yn daladwy amdano) neu'n eiddo annomestig (y mae ardrethi annomestig yn daladwy amdano). Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o eiddo, mae'r gwahaniaeth rhwng defnydd domestig a defnydd annomestig yn glir. Mae angen diffiniad penodol i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion trethi lleol, am ei bod yn bosibl y gallai'r un eiddo gael ei ddefnyddio naill ai at y diben hwn neu fel annedd ddomestig. Dosberthir eiddo o'r fath yn eiddo domestig, oni fydd yn bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud â'i weithgaredd gosod masnachol.

Ers 1 Ebrill 2023, mae eiddo hunanddarpar wedi'i ddosbarthu'n eiddo domestig:

  • os bydd ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy yn y 12 mis canlynol
  • os bydd buddiant y talwr ardrethi yn yr eiddo yn ei alluogi i'w osod am gyfnodau o'r fath
  • os bu ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy'n dod i gyfanswm o 252 diwrnod neu fwy yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod sy'n cael ei ystyried
  • os oedd y cyfnodau byr pan gafodd ei osod yn fasnachol mewn gwirionedd yn dod i gyfanswm o 182 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw

Prif nod y newid polisi hwn oedd sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg a bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud o eiddo, er budd cymunedau lleol. Gallai hyn gynnwys manteision sy'n deillio o gyfraddau deiliadaeth uwch ar gyfer llety a osodir am gyfnodau byr neu ryddhau rhai eiddo i'w gwerthu neu eu rhentu fel cartrefi parhaol i bobl leol. Mae newidiadau i drethi lleol yn rhan o ddull triphlyg Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r effaith y gall nifer mawr o ail gartrefi ac eiddo hunanddarpar ei chael ar gymunedau a'r Gymraeg mewn rhai rhannau o Gymru.

Ers i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith yn llawn, mae 60% o eiddo hunanddarpar wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd. Mae hyn yn uwch na'r lefelau a ragwelwyd gan y sector hunanddarpar ac amcangyfrifon o lefelau deiliadaeth hanesyddol a oedd ar gael pan gyflwynwyd y newidiadau. Mae nifer yr eiddo hunanddarpar sydd bellach ar y rhestr ardrethu yn debyg i'r nifer a gofnodwyd yn 2019, cyn y cynnydd sylweddol ar ddechrau'r 2020au. Cynyddodd nifer yr eiddo hunanddarpar 60%, o 7,000 i fwy na 11,000, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ebrill 2023. Dilynodd hyn gyfnod o amser rhwng 2013 a 2019 pan wnaeth y nifer bron â dyblu, a oedd wedi codi pryderon ynghylch gorgyflenwad a pha mor hawdd ydoedd i berchnogion ail gartrefi osgoi atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor.

Mae llawer o eiddo ym mhob rhan o Gymru wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd, sy'n dangos bod modd gwneud hyn lle nad yw'r cyflenwad yn fwy na'r galw. Bydd y nifer cynyddol o osodiadau a sicrheir gan lawer o weithredwyr yn helpu i sicrhau'r manteision i gymunedau lleol a fwriedir gan y newid polisi. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn, er mwyn i eiddo gael ei ddosbarthu'n eiddo annomestig at ddibenion trethi lleol, y dylai weithredu fel busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.

Gan fod canlyniad y newidiadau i'r meini prawf gosod bellach yn hysbys, mae'n amserol ystyried a ddylid mireinio'r polisïau trethi lleol perthnasol mewn unrhyw ffordd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dau gynnig penodol i fireinio'r ffordd y caiff y meini prawf gosod eu cymhwyso ac mae hefyd yn ceisio barn ar fanteision proses bontio fesul cam i reolau'r Dreth Gyngor ar gyfer eiddo a gaiff ei ailddosbarthu'n eiddo domestig. Mae'r cynigion hyn yn ymateb, yn y ffordd a ystyrir yn briodol, i faterion a godwyd gan y sector hunanddarpar wrth i'r meini prawf gosod newydd gael eu rhoi ar waith.

Cyfartaleddu nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo dros sawl blwyddyn

Mae pob eiddo hunanddarpar sydd bellach wedi'i ddosbarthu'n eiddo annomestig wedi bodloni'r meini prawf gosod newydd. Ar hyn o bryd, rhaid i'r gofyniad bod yn rhaid i eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod gael ei fodloni bob blwyddyn er mwyn i eiddo osgoi cael ei ailddosbarthu'n eiddo domestig. Cydnabyddir y gallai eiddo hunanddarpar yn hawdd fodloni'r gofyniad i osod llety am fwy na 182 diwrnod yn y rhan fwyaf o flynyddoedd ond methu â chyrraedd y trothwy weithiau o drwch blewyn (e.e. oherwydd lleihad dros dro yn y galw neu achosion o ganslo'n hwyr).

Yn y senario hwn, byddai'r Dreth Gyngor yn daladwy am yr eiddo ar gyfer y cyfnod pan nad oedd yr eiddo wedi cydymffurfio â'r gofyniad. Yna, byddai'n cael ei ailrestru ar gyfer ardrethi annomestig petai'r meini prawf yn cael eu bodloni eto o ryw ddyddiad yn y dyfodol. Gallai hyn arwain at newidiadau mynych i ddosbarthiad yr un eiddo dros amser, lle y sicrheir y lefelau deiliadaeth bwriadedig, ar y cyfan (h.y. ar gyfartaledd). Byddai'r canlyniad hwnnw, yn ei dro, yn creu ansicrwydd ariannol i'r gweithredwr ac awdurdodau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gwneud yn bosibl i nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo dros sawl blwyddyn gael ei gyfartaleddu fel tystiolaeth o gydymffurfedd, os na chyrhaeddwyd y trothwy o 182 diwrnod yn y flwyddyn cyn y dyddiad asesu. Byddai hyn, i bob pwrpas, yn rhoi math o ‘gyfnod gras’ er mwyn cyrraedd y trothwy o osod eiddo am 182 diwrnod eto, cyn y byddai'r Dreth Gyngor, fel arall, yn dod yn daladwy am yr eiddo.

Ystyrir bod angen cyfyngu ar y cyfnod y gellir cyfartaleddu nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo ar ei gyfer, i hyd at dair blynedd cyn y diwrnod y mae'r asesiad yn ymwneud ag ef. Byddai hyn yn cefnogi cyflawnadwyedd gweithredol ac yn sicrhau na all eiddo nad yw'n ailddechrau cydymffurfio â'r gofyniad, ddibynnu ar ei lefelau deiliadaeth hanesyddol am gyfnod estynedig. Gan y gallai cyfartaleddau a gyfrifir dros ddwy neu dair blynedd roi canlyniadau gwahanol, cynigir y gallai cyfartaleddau a gyfrifir dros y naill gyfnod o amser neu'r llall ddarparu tystiolaeth o gydymffurfedd, fesul achos.

O dan y meini prawf presennol, caiff busnes â sawl uned o eiddo hunanddarpar ddefnyddio cyfartaledd nifer y diwrnodau y gosodwyd pob un o'i eiddo fel tystiolaeth o gydymffurfedd cyffredinol â'r gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod, ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol. Byddai'r cynnig hwn hefyd yn gymwys i fusnesau aml-uned, lle y gellid cyfrifo cyfartaledd dros sawl eiddo a blwyddyn.

Byddai'r cynnig hwn yn cefnogi busnesau hunanddarpar sy'n gweithredu, ar y cyfan, ar lefel sy'n cyd-fynd â bwriad y polisi ar gyfer y meini prawf gosod uwch a helpu i sicrhau sefydlogrwydd yn y sylfeini trethu domestig ac annomestig. Gan gydnabod y potensial i flynyddoedd mwy heriol effeithio ar lefelau deiliadaeth dros dro, bwriedir ymateb yn uniongyrchol i newid polisi y mae'r sector hunanddarpar wedi gofyn amdano.

Lwfans â therfyn amser ar gyfer rhoddion elusennol

Mae a wnelo'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo hunanddarpar yn benodol â gweithgareddau gosod masnachol. Nid yw hyn yn atal gweithredwyr rhag cynnig rhoddion elusennol ar ffurf gwyliau byr, ond mae cynrychiolwyr o'r sector wedi nodi bod rhai gweithredwyr yn amharod i wneud hynny, rhag ofn y bydd yn amharu ar eu gallu i fodloni'r meini prawf gosod. Nid yw'n hysbys pa mor gyffredin yw rhoddion o'r fath yn ymarferol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gwneud yn bosibl i lwfans o hyd at 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer rhoddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod. Y bwriad yw osgoi creu anghymhelliad i gynnig rhoddion o'r fath, a fyddai'n cefnogi budd cyhoeddus ehangach i bobl dan anfantais, yn hytrach na'u gwneud yn ofyniad penodol. Er mwyn osgoi unrhyw newid i'r ffordd y mae gweithgareddau blaenorol o'r fath yn cael eu trin, bwriedid i'r cynnig hwn fod yn gymwys i roddion cymwys a gynigir o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Mae'n bwysig sicrhau na ellir camfanteisio ar y lwfans hwn, er enghraifft, gan weithredwyr yn cynnig rhoddion uniongyrchol ar ffurf arosiadau i ffrindiau, aelodau o'r teulu neu bobl y maent yn eu hadnabod na fyddent yn gymwys i gael budd elusennol. Er mwyn sicrhau cyfreithlondeb unrhyw roddion elusennol, sydd wedi'u hategu gan dystiolaeth briodol, cynigir bod yn rhaid eu cynnig drwy elusen gofrestredig er mwyn iddynt gael eu cyfrif. Ceir elusennau cofrestredig sy'n hwyluso rhoddion ar ffurf gwyliau byr mewn llety gwyliau i bobl dan anfantais neu bobl sydd, fel arall, yn eu haeddu.

Byddai'r cynnig hwn yn cefnogi budd cyhoeddus ehangach yn deillio o roddion elusennol ar ffurf gwyliau byr, lle maent yn digwydd. Bwriedir ymateb yn uniongyrchol i bryder a godwyd gan gynrychiolwyr y sector hunanddarpar. 

Atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor ar gyfer eiddo domestig

Mae pob eiddo hunanddarpar nad yw'n bodloni'r meini prawf i gael ei ddosbarthu'n eiddo annomestig yn cael ei ddosbarthu'n eiddo domestig yn ddiofyn, sy'n golygu y bydd y Dreth Gyngor yn daladwy amdano. Os bydd awdurdod lleol wedi penderfynu gosod premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi, mae'n bosibl y codir swm ychwanegol ar berchnogion oni bai bod eu heiddo yn gymwys i gael ei eithrio, neu fod yr awdurdod wedi dewis peidio â chodi'r premiwm o dan amgylchiadau perthnasol. Mewn rhai achosion, gall hwn fod yn gynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn yr atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, mae'r pwerau i newid premiymau'r Dreth Gyngor yn hyblyg ac yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu pa eiddo y byddant yn codi premiwm arnynt neu ba eiddo na fyddant yn codi premiwm arnynt, er mwyn iddynt allu datblygu polisïau a threfniadau pontio wedi'u teilwra ar gyfer grwpiau trethdalwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at benderfyniad Cyngor Sir Fynwy yn 2024 i greu eithriad lleol rhag talu premiwm y Dreth Gyngor, sy'n rhoi cyfnod gras o 12 mis i eiddo hunanddarpar pan delir cyfradd safonol y Dreth Gyngor amdano ar ôl iddo symud o gael ei ddosbarthu'n eiddo annomestig i gael ei ddosbarthu'n eiddo domestig. Mae'r mesur trosiannol hwn yn arbennig o fuddiol ar gyfer eiddo sy'n methu â chyrraedd y trothwy o osod eiddo am 182 diwrnod o drwch blewyn, gan roi amser i weithredwyr addasu a chynllunio yn unol â hynny.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod cefnogi gweithredwyr hunanddarpar drwy broses bontio fesul cam, drwy godi cyfradd safonol y Dreth Gyngor am 12 mis cyn i unrhyw bremiwm ddod yn gymwys, yn enghraifft o arfer dda. Rydym am annog awdurdodau lleol eraill i ystyried dull gweithredu tebyg yn lleol. Nid oes unrhyw rwystrau deddfwriaethol sy'n atal awdurdodau rhag datblygu polisïau lleol ar bremiymau'r Dreth Gyngor fel hyn. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar fanteision ac anfanteision proses bontio fesul cam o ardrethi annomestig i'r Dreth Gyngor (lle y byddai premiwm fel arall yn gymwys) ar gyfer gweithredwyr hunanddarpar. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o drafodaethau ynghylch y mater hwn ac unrhyw syniadau eraill gyda llywodraeth leol drwy rwydweithiau sefydledig megis Cyngor Partneriaeth Cymru.

Y camau nesaf

Yn amodol ar ystyried y safbwyntiau a gyflwynir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu'r cynigion i fireinio'r ffordd y cymhwysir y meini prawf gosod gael ei chyflwyno ac y byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 

A ydych yn cefnogi'r cynnig i'w gwneud yn bosibl i nifer y diwrnodau y gosodwyd eiddo gael eu cyfartaleddu dros sawl blwyddyn?

Cwestiwn 2 

A ydych yn cefnogi'r cynnig i ganiatáu i roddion elusennol gyfrif tuag at y meini prawf gosod?

Cwestiwn 3

A yw'r cynnig i fynnu bod rhoddion yn cael eu cyflwyno drwy elusen gofrestredig yn cyflawni bwriad y polisi?

Cwestiwn 4

A ydych yn cytuno â bwriad Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i gefnogi gweithredwyr hunanddarpar y mae eu heiddo wedi symud o ardrethi annomestig i'r Dreth Gyngor, drwy godi cyfradd safonol y Dreth Gyngor am 12 mis cyn i unrhyw bremiwm allu cael ei godi?

Cwestiwn 5

Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg yn eich barn chi? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

  1. A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?
  2. A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi? 

Cwestiwn 6

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn:

  1. cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  2. lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 20 Tachwedd 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data
  • (o dan amgylchiadau penodol) i ofyn i'ch data gael eu 'dileu’
  • (o dan amgylchiadau penodol) i gludadwyedd data
  • gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â.

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r  fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth i chi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52866

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.