Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cefndir

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau”) wedi creu’r fframwaith i gael trefn gyson ar gyfer cydweithio rhanbarthol rhwng llywodraeth leol, sef Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy Reoliadau.

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru (“y Rheolau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a sefydlwyd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol ar 1 Ebrill 2021.

Bydd y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Byddant hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Yn wahanol i drefniadau cyd-bwyllgorau eraill, mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforaethol ar wahân sy’n gallu cyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau.

Un o’r prif egwyddorion sy'n sail i ddatblygiad fframwaith deddfwriaethol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw y dylid trin Cyd-bwyllgor Corfforedig fel aelod o’r ‘teulu llywodraeth leol’ a, lle bo hynny’n briodol, dylai fod yn rhwym i raddau helaeth wrth yr un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y mae’n gweithredu. Y bwriad yw osgoi, cyn belled ag y bo modd, gofyn i Gyd-bwyllgorau Corfforedig wneud pethau mewn ffordd sy’n anghyfarwydd i’r rheini mewn llywodraeth leol neu greu gweithdrefnau, rhwymedigaethau, pwerau ac ati newydd ac anghyfarwydd a allai gynyddu beichiau gweinyddol.

Un cynhwysfawr cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Rheoliadau Sefydlu drafft a sefydlodd y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol ledled Cymru a’r drefn reoleiddio ehangach a fyddai’n berthnasol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig hynny.

Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2021. Roedd cefnogaeth aruthrol, yn enwedig gan awdurdodau lleol, i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fod yn ddarostyngedig i’r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y maent yn gweithredu; bod â’r un fframwaith llywodraethu a gweinyddu yn fras; a bod â disgresiwn priodol ynghylch manylion trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.

Mae’r dull o ddatblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig hyd yma wedi bod yn un o gyd-ddatblygu a chydweithio â llywodraeth leol. Y bwriad yw parhau â’r dull gweithredu hwn wrth roi Rheoliadau’r Sefydliad ar waith ac wrth ddatblygu unrhyw ganllawiau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, rydym hefyd wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae’r canllawiau drafft yn egluro’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd ynghylch sut dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu, a’r materion y bydd aelodau am eu hystyried wrth roi’r trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol ar waith. Dylai unrhyw sylwadau a safbwyntiau ar yr ymgynghoriad ar ganllawiau'r drafft gael eu cyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw, ac ni fyddant yn cael eu hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Dull cyffredinol o ymdrin â’r rheoliadau

Roedd y Rheoliadau Sefydlu yn rhan o’r cam cyntaf o gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol y byddai'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei ddilyn. Cafodd y Rheoliadau Sefydlu eu gwneud ochr yn ochr â nifer o offerynnau statudol, a oedd yn sicrhau y byddai’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig o’r diwrnod cyntaf yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau y byddai disgwyl iddynt fod yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru; a hefyd i sicrhau llywodraethu a goruchwyliaeth briodol (a restrir yn Atodiad A er hwylustod).

Bydd y cam nesaf hwn, a phwnc yr ymgynghoriad hwn, yn darparu ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, swyddogaethau ‘swyddogion gweithredol’ penodol i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig, sef y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a’r Prif Swyddog Ariannol, ac i swyddogaethau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, yn ogystal â rhywfaint o ddarpariaeth gyffredinol o ran staff y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.  Maent hefyd yn gwneud nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau hyn.

Bydd trydydd cam, yr ymgynghorir yn ei gylch yn Hydref 2021, yn sefydlu rhagor o ddeddfwriaeth ar gyfer gweithredu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’u swyddogaethau, gan gynnwys craffu a llywodraethu a darpariaeth bellach ar staffio.

Bydd pedwerydd cam wedyn yn rhoi ar waith unrhyw ddarpariaethau sydd ar ôl y gallai fod eu hangen ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig ond y mae’n annhebygol y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn dechrau cyflawni eu swyddogaethau.  Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yng Ngwanwyn 2022.

Yr ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd ym mis Hydref 2020 a oedd yn ystyried y dull gweithredu cyffredinol ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y cam nesaf hwn o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw. Yn benodol, rydym yn gofyn am sylwadau ar y Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Mae’r offerynnau hyn yn darparu ar gyfer:

  • swyddogaethau rhai ‘swyddogion gweithredol’ i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • rhai darpariaethau cyffredinol o ran staff y Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • cyflawni swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig gan unigolion eraill (is-bwyllgorau, staff ac ati)
  • rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a oedd yn angenrheidiol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth (gan gynnwys y rheoliadau a sefydlodd Gyd-bwyllgorau Corfforedig) o ganlyniad i gyflwyno’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae rhagor o fanylion am y Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 wedi’u hamlinellu isod.

Trosolwg o'r Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Cyffredinol

Gall y fframwaith deddfwriaethol sy’n rheoleiddio’r gwaith o weinyddu a llywodraethu awdurdodau lleol fod yn gymhleth ac mae’n cynnwys darpariaethau amrywiol ar draws nifer sylweddol o offerynnau. Y bwriad, lle bynnag y bo modd, yw cyfuno darpariaeth am bynciau unigol yn yr un set o reoliadau, gan gyfyngu ar nifer y setiau o reoliadau cyffredinol sy’n ofynnol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn cyd-fynd â’r Rheoliadau Sefydlu, ac roedd yn cynnwys y set gyntaf o ddarpariaethau sy’n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyffredinol. Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer yr ail set.

Mae’n werth nodi, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen gosod gorchmynion a rheoliadau ategol/annibynnol ochr yn ochr â’r rheoliadau mwy cyffredinol uchod i ddarparu’n llawn y sail ddeddfwriaethol sy’n ofynnol ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ond bydd y rhain yn cael eu cadw i’r lefel isaf bosibl.

Mae pum rhan i Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

  • Rhan 1: swyddogion gweithredol
  • Rhan 2: darpariaethau cyffredinol o ran staff
  • Rhan 3: cyflawni swyddogaethau gan unigolion eraill
  • Rhan 4: cyfarfodydd a thrafodion
  • Rhan 5: diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Rhan 1: swyddogion gweithredol

Mae Rhan 1 yn darparu bod rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru benodi swyddogion gweithredol, sef Prif Swyddog Gweithredol, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro, ac mae’n rhoi rhagor o fanylion am y swyddogaethau sydd i’w harfer gan bob deiliad swydd yng nghyd-destun y cyd-bwyllgor corfforaethol. Mae Rhan 1 hefyd yn dwyn aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwr y Cyd-bwyllgorau Corfforedig o fewn cylch gwaith Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn darparu bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i’r un gofynion ag awdurdodau lleol o ran datganiadau polisi cyflogau.

Yn yr ymgynghoriad blaenorol ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, cynigiwyd y byddai gan Gyd-bwyllgor Corfforedig hefyd Brif Swyddog Llywodraethu a fyddai’n gyfrifol am nifer fach o swyddogaethau cefnogi a chynghori Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn awdurdod lleol. Roedd yr adborth i’r ymgynghoriad hwnnw’n awgrymu y gallai’r dull gweithredu arfaethedig achosi dryswch wrth gymharu â rôl Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn awdurdodau lleol, ac nad oedd y swyddogaethau’n gwarantu rôl swyddog ar wahân. Yn hytrach, cynigiwyd y gallai’r nifer fach o swyddogaethau a nodwyd gael eu cyflawni gan y Swyddog Monitro Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae rheoliad 9, ‘Swyddogaethau Cymorth a Chyngor y Swyddog Monitro’, felly, yn darparu ar gyfer ymgymryd â swyddogaethau cymorth a chyngor perthnasol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd awdurdod lleol gan y Swyddog Monitro Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Rhoddir sylw i gefnogaeth ar gyfer trefniadau craffu yn y cam nesaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rhan 2: darpariaethau cyffredinol o ran staff

Mae Rhan 2 yn cynnwys nifer fach o ddarpariaethau cyffredinol o ran staff y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Er enghraifft, mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gymhwyso darpariaethau sy’n ymwneud â datgymhwyso a chyfyngu gwleidyddol ar swyddogion penodol i gyd-bwyllgorau corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforedig i fabwysiadu rheolau sefydlog o ran staff ac mae’n cymhwyso’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar atebolrwydd cyflogau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Rhan 3: cyflawni swyddogaethau gan unigolion eraill

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth sy'n caniatáu i Gyd-bwyllgorau Corfforedig wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan unigolion eraill. Caiff Cyd-bwyllgorau Corfforedig awdurdodi pedwar categori o unigolyn i gyflawni ei swyddogaethau ar ei ran. Mae'r rhain yn cynnwys staff, is-bwyllgorau, Cyd-bwyllgorau Corfforedig eraill ac awdurdodau lleol (ni waeth a ydynt yn gynghorau cyfansoddol ai peidio). Ym mhob achos mae’r pŵer yn gymwys nid yn unig i’r swyddogaeth a roddir i’r awdurdod ond i unrhyw swyddogaethau ategol neu achlysurol hefyd.

Mae'r darpariaethau yn y rhan hon, ynghyd â nifer o newidiadau i'r Rheoliadau Sefydlu a nodir yn rhan 5, yn disodli'r hyn a oedd wedi'i gynnwys yn flaenorol yn Rheoliad 15 o'r Rheoliadau Sefydlu.  . Mae’r diwygiadau’n rhoi darpariaeth debyg ar waith i adran 101 Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gallu dirprwyo materion i staff neu is-bwyllgorau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn gweithredu’n effeithiol a darparu mwy o eglurder ar swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y gall unigolion eraill eu cyflawni

Rhan 4: cyfarfodydd a thrafodion

Mae Rhan 4 yn rhoi manylion am y modd y cynhelir cyfarfodydd a thrafodion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, er enghraifft lleoliad cyfarfodydd a mynediad at ddogfennau. Mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn atgynhyrchu i raddau helaeth y darpariaethau a geir yn Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodlen 12 i’r Ddeddf honno.

Bydd y darpariaethau yn Rhan 4 yn gymwys i gyfarfod o is-bwyllgor i Gyd-bwyllgor Corfforedig fel y byddent i gyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei hun (rheoliad 24). Mae cyfeiriadau at aelod o Gyd-bwyllgor Corfforedig yn Rhan 43 yn cynnwys cyfeiriadau at berson a gyfetholir i gymryd rhan yng ngweithgareddau Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Rhan 5: diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Mae Rhan 5 yn nodi nifer o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a oedd yn angenrheidiol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddarpariaethau Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Mae'r rhan hefyd yn cynnwys nifer o ddiwygiadau i'r Rheoliadau Sefydlu yng ngoleuni'r darpariaethau a gymhwysir yn gyffredinol i'r holl Gyd-bwyllgorau Corfforedig drwy'r rheoliadau drafft hyn, gan gynnwys, er enghraifft; egluro hawliau pleidleisio ac aelodaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol; egluro natur a dull o gyfethol pobl; darparu ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan unigolion eraill; a diwygio rheoliad 15 a nifer o ddarpariaethau eraill yn y rheoliadau sefydlu i adlewyrchu cynnwys Rhan 3 a Rheoliad 14 drafft y rheoliadau uchod.

Mae'r darpariaethau ynghylch staffio yn yr Atodlen i bob un o'r Rheoliadau Sefydlu hefyd wedi'u diwygio ychydig o ganlyniad i'r darpariaethau yn y rheoliadau drafft hyn ynghylch swyddogaethau swyddogion gweithredol. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn dal i allu gwneud trefniadau ar gyfer staffio fel y mae’n credu sy’n briodol ond mae’n rhaid iddo nawr sicrhau bod y trefniadau hyn yn cynnwys cyflawni’r swyddogaethau hyn yn briodol gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Y Gymraeg

Ceisio Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig barn am yr effaith y byddai sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei chael ar yr iaith Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Wrth ystyried sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ystyried y fframwaith rheoleiddio ehangach o dan yr egwyddor y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’.

Darllenwch y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg yn yr un modd â’u cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y cyrff rhestr a chategorïau o gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â’r safonau.

Yn ddiweddarach eleni, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rheoliadau diwygio i ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, gan sicrhau bod y safonau hynny’n berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fel y maent i awdurdodau lleol. Cynigir gosod y rheoliadau diwygio hyn ar yr un pryd â Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn ceisio cymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith deddfwriaethol yr ymgynghorwyd arnynt eisoes yn gyffredinol ac, o’r herwydd, mae’n ddogfen dechnegol gan mwyaf. Fel offeryn annibynnol, mae Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar y defnydd o’r Gymraeg ac mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad blaenorol ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn debygol o fod yn berthnasol i’r rheoliadau hyn hefyd.

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai’r Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, byddem yn croesawu eich barn.

Asesiad Effaith

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar wahân wedi cael ei baratoi ynghylch yr ymgynghoriad hwn na Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru 2021 wedi asesu’r costau a’r buddion posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau.

Wrth asesu’r costau a’r manteision posibl, roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried bwriad cyffredinol y polisi y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach. Ystyriwyd y costau sy’n gysylltiedig â chais i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig am yr agweddau ar y fframwaith rheoleiddio sydd yn Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 felly fel rhan o’r asesiad effaith rheoleiddiol ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig eu hunain.

Mae copi o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru 2021 ar gael ar Wefan y Senedd fel rhan o’r dogfennau perthnasol i gyd-fynd â’r Rheoliadau hynny.

Asesiad Effaith Integredig

Cynhaliwyd Crynodeb o’r Asesiad Effaith Integredig hefyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rheoliadau uchod. Roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn asesu effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau. Yn yr un modd â’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn ystyried bwriad cyffredinol y polisi y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu trin fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys effaith cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach ar gyfer llywodraeth leol, wrth asesu effeithiau sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Cyhoeddwyd crynodeb o gasgliadau’r asesiad hwn fel rhan o’r ymgynghoriad ar sefydlu’r reoliadau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Asesiad Effaith Integredig yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Ni fwriedir ymgynghori eto ar y dogfennau hyn.

Atodiad A

Offerynnau a osodir ochr yn ochr â Rheoliadau Sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Cafodd y rheoliadau/gorchmynion canlynol eu gosod ochr yn ochr â’r Rheoliadau Sefydlu a’u gwneud ar 17 Mawrth 2021.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn ceisio sicrhau, fel rhan o’r defnydd ehangach o fframwaith moesegol llywodraeth leol, bod aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol. Mae’r rheoliadau cyffredinol hefyd yn ceisio sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhwym wrth drefn briodol o ran cyfrifyddu, archwilio a rheolaeth ariannol. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 hefyd yn gwneud nifer fach o fân ddiwygiadau i; gefnogi’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau rhwng y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau lleol; i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn trin aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gyfartal; ac i ddarparu ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig i ddal a gwaredu asedau.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

Mae’r Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021  (“rheoliadau diwygio”) yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn agored i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o fewn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 (“Gorchymyn Diwygio”) yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 (“rheoliadau diwygio”) yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 lle bo’n berthnasol

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021 (“Gorchymyn diwygio”) yn diwygio’r rhestr o gyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn adran 12(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru a materion cysylltiedig.  Mae Rhan 2 yn ymwneud â chyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rhan 2 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.  Mae'r gorchymyn diwygio hefyd yn gwneud darpariaeth mân, canlyniadol ac atodol.

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021 (“rheoliadau diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“rheoliadau 2014”) a wnaed o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.  (Cafodd hyn ei wneud ar 18 Mawrth 2021, yn amodol ar y weithdrefn negyddol). Mae’r rheoliadau diwygio’n darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 2014 lle bo hynny’n berthnasol.

Cafodd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 hefyd eu gwneud ochr yn ochr â Rheoliadau Sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac roeddent yn darparu ar gyfer yr addasiadau perthnasol i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sy’n ofynnol er mwyn i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig arfer y swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Fel y trafodwyd eisoes, mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd yn flaenorol ar y dull cyffredinol o ddatblygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y cam nesaf o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw. Yn benodol, rydym yn gofyn am farn ar y Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Cwestiwn 1

Ydy’r rheoliadau drafft yn glir

Cwestiwn 2

A ydynt yn darparu’n glir ar gyfer:

  1. swyddogaethau rhai ‘swyddogion gweithredol’ (Prif Weithredwr, Swyddog Monitro a Phrif Swyddog Ariannol) i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig: Rhan 1.
  2. darpariaethau cyffredinol o ran staff Cyd-bwyllgor Corfforedig: Rhan 2. 
  3. cyflawni swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig gan unigolion eraill: Rhan 3. 
  4. rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion Cyd-bwyllgor Corfforedig: Rhan 4.  
  5. y nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a nodwyd, gan gynnwys y newidiadau i’r rheoliadau sy’n sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig:Rhan 5. 

Cwestiwn 3

Oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai’r Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, byddem yn croesawu eich barn.

Cwestiwn 4

Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi nodi’r rheini hefyd.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 6 Medi 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG43034

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.