Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cefndir

Creodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau”) y fframwaith i gael trefn gyson ar gyfer cydweithio rhanbarthol rhwng llywodraeth leol, sef Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau). Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy Reoliadau.

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru (“y Rheolau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a sefydlwyd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol ar 1 Ebrill 2021.

Mae gan y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Maent hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Yn wahanol i gyd-bwyllgorau a benodir gan brif gynghorau, mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforaethol annibynnol sy’n gallu cyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau.

Un o’r prif egwyddorion sy'n sail i ddatblygiad fframwaith deddfwriaethol CBC yw bod CBCau yn aelodau o’r ‘teulu llywodraeth leol’ a, lle bo hynny’n briodol, dylent fod yn ddarostyngedig, i raddau helaeth, i'r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau. Y bwriad yw osgoi, cyn belled ag y bo modd, gofyn i Gyd-bwyllgorau Corfforedig wneud pethau mewn ffordd sy’n anghyfarwydd i’r rheini mewn llywodraeth leol neu greu gweithdrefnau, rhwymedigaethau neu bwerau newydd ac anghyfarwydd a allai gynyddu beichiau gweinyddol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cynhwysfawr ar y Rheoliadau Sefydlu drafft a sefydlodd y pedwar CBC rhanbarthol ledled Cymru ac a amlinellodd y drefn reoleiddio sy’n gymwys i’r CBCau. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2021. Roedd cefnogaeth aruthrol, yn enwedig gan awdurdodau lleol, i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fod yn ddarostyngedig i’r un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y maent yn gweithredu; bod â’r un fframwaith llywodraethu a gweinyddu yn fras; a bod â disgresiwn priodol ynghylch manylion trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) drafft 2021 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Hydref 2021. Yn gyffredinol, teimlai ymatebwyr fod y rheoliadau'n adlewyrchu'r egwyddor sylfaenol y dylid trin CBCau fel aelod o'r teulu llywodraeth leol. Cymeradwywyd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 gan y Senedd ar 30 Tachwedd 2021 a daethant i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2021. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Hydref 2022. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cytuno â'r darpariaethau yn y Rheoliadau drafft ac â chynnwys darpariaethau a gynhwyswyd yn y ddogfen ymgynghori a oedd yn cyd-fynd â Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022. Cymeradwywyd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 gan y Senedd ar 22 Mawrth 2022 a daethant i rym ar 25 Mawrth 2022.

Mae’r dull o ddatblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn parhau i fod yn un o gyd-ddatblygu a chydweithio â llywodraeth leol. Y bwriad yw parhau â’r dull gweithredu hwn wrth roi Rheoliadau CBCau ar waith.

Dull cyffredinol o ymdrin â’r rheoliadau

Roedd y Rheoliadau Sefydlu yn rhan o’r cam cyntaf o gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol y byddai'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei ddilyn. Cafodd y Rheoliadau Sefydlu eu gwneud ochr yn ochr â nifer o offerynnau statudol, a oedd yn sicrhau y byddai’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig o’r diwrnod cyntaf yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau y byddai disgwyl iddynt fod yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru; a hefyd i sicrhau llywodraethu a goruchwyliaeth briodol (a restrir yn Atodiad A er hwylustod).

Roedd y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn rhan o ail gam sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer CBCau a bu iddynt ddarparu ar gyfer agweddau ar y trefniadau gweithredol i CBCau. Roeddent yn darparu ar gyfer rolau rhai 'swyddogion gweithredol' penodol i gefnogi gwaith y CBC yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff CBC; i swyddogaethau'r CBC gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, ac ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion. Gwnaethant nifer bach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau. Gwnaed Rheoliadau Rhif 2 Cyffredinol ochr yn ochr â nifer o offerynnau statudol sy'n cwblhau'r modd y cymhwysir y dyletswyddau cyrff cyhoeddus hynny y byddech yn disgwyl eu cymhwyso i gorff cyhoeddus yng Nghymru.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 oedd y trydydd cam o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol y bydd y Pwyllgorau Corfforedig yn gweithredu oddi mewn iddo. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgorau fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a phanel dyfarnu Cymru i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’u haelodau. Maent hefyd yn

  • rhoi modd i Gyd-bwyllgor Corfforedig fasnachu ac ymgymryd â gweithgarwch masnachol,
  • ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig gyhoeddi ei gyfansoddiad a chanllaw i’r cyfansoddiad,
  • cynnwys nifer o fân ddarpariaethau mewn perthynas â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion / dogfennau, materion staffio a'r gweithlu a diwygiadau amrywiol eraill.

Y cam nesaf (a'r pedwerydd cam) yw'r cam sylweddol olaf yn y broses o sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cynnwys:

  • diwygiad o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ddarparu ar gyfer astudiaethau a chyfarwyddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • cymhwyso trefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol o dan Ran 6 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
  • darpariaeth ar drosolwg a chraffu, gan gynnwys; ar drefniadau'r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 
  • darpariaeth ar rai rheolau sefydlog.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys diwygiadau amrywiol a chanlyniadol, gan gynnwys y pedair set o Reoliadau Sefydlu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Yr ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd ym mis Hydref 2020 a oedd yn ystyried y dull cyffredinol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig; yr ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 ym mis Gorffennaf 2021; a'r ymgynghoriad ar Reoliadau Cyffredinol Cyd-bwyllgorau Corfforedig 2022 ym mis Tachwedd 2021.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y cam nesaf hwn o ddatblygu’r fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw. Yn benodol, rydym yn gofyn am sylwadau ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Mae’r offeryn hwn yn darparu ar gyfer;

  • darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgymryd ag astudiaethau blynyddol i wella darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd arfer swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • darpariaethau sy’n ymwneud â threfn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau i CBCau (gydag addasiadau sy’n sicrhau bod y Bennod yn cyd-fynd ag amgylchiadau CBCau)
  • darpariaethau sy’n creu pwerau a dyletswyddau i rannu gwybodaeth at ddibenion gweithredu swyddogaethau penodol mewn perthynas â’r CBCau.
  • darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i CBCau gydweithredu a chynorthwyo pwyllgorau trosolwg a chraffu eu cynghorau os yw’r pwyllgor yn llunio adroddiad neu argymhellion mewn perthynas â’r CBC yn arfer un o’i swyddogaethau,
  • darpariaeth yn ymwneud ag aelodaeth Is-bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio’r CBCau;
  • darpariaeth sy’n rhoi dyletswydd ar y CBCau i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn perthynas â materion gweithdrefnol penodol a materion yn ymwneud â chontractau.

Mae rhagor o fanylion am Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 wedi’u hamlinellu isod.

Trosolwg o Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Cyffredinol

Fel y trafodwyd mewn ymgyngoriadau blaenorol gall y fframwaith deddfwriaethol sy’n rheoleiddio’r gwaith o weinyddu a llywodraethu awdurdodau lleol fod yn gymhleth ac mae'n cynnwys darpariaethau amrywiol ar draws nifer sylweddol o offerynnau. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn cyd-fynd â’r Rheoliadau Sefydlu, ac roedd yn cynnwys y set gyntaf o ddarpariaethau sy’n gymwys i CBCau yn gyffredinol. Roedd y Rheoliadau Cyffredinol Rhif 2 yn darparu ar gyfer yr ail set o ddarpariaethau sy'n gymwys i CBCau yn gyffredinol. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer y drydedd set. Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 fydd y pedwerydd set sylweddol o reoliadau, a’r set derfynol, yn y grŵp hwn.

Mae’n werth nodi, mewn rhai achosion, efallai y bydd angen gosod gorchmynion a rheoliadau ategol/annibynnol ochr yn ochr â’r rheoliadau mwy cyffredinol uchod i ddarparu’n llawn y sail ddeddfwriaethol sy’n ofynnol ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ond bydd y rhain yn cael eu cadw i’r lefel isaf bosibl.

Mae pum rhan i Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Rhan 1: Cyflwyniad   
Rhan 2: Perfformiad a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad
Rhan 3: Trosolwg a chraffu
Rhan 4: Rheolau sefydlog
Rhan 5: Diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Rhan 1: Cyflwyniad

Mae Rhan 1 yn darparu ar gyfer y teitl a rhoi'r rheoliadau ar waith. Y bwriad yw y byddai'r Rheoliadau'n dod i rym cyn gynted ag y bydd y Senedd yn eu cymeradwyo, ar wahân i'r gofyniad i gynnal asesiad panel o berfformiad a ddaw i rym ar gyfer y cylch etholiadol nesaf.

Mae Rhan 1 hefyd yn darparu ar gyfer dehongli'r Rheoliadau.

Rhan 2: Perfformiad a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad

Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer astudiaethau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer gwella darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfarwyddo'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'u perfformiad, yn yr un modd ag y gall ar gyfer cyrff llywodraeth leol eraill.

Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer cymhwyso'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Bydd y darpariaethau perfformiad a llywodraethu yn darparu fframwaith sy'n cefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig, drwy broses adolygu barhaus, i feddwl am eu perfformiad a'u heffeithiolrwydd wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Bydd y drefn perfformiad a llywodraethu yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyd-bwyllgor yng Nghymru barhau i adolygu i ba raddau y mae'n bodloni'r ‘gofynion perfformiad’, hynny yw, i ba raddau:-

  • y mae’n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol;
  • y mae’n defnyddio ei adnoddau yn economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol;
  • y mae ei lywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod.

Y mecanwaith i Gyd-bwyllgor Corfforedig barhau i adolygu ei berfformiad yw hunanasesu, gyda dyletswydd i gyhoeddi adroddiad yn nodi casgliadau'r hunanasesiad unwaith mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol.

I ategu'r hunanasesiad, cynhelir asesiad gan banel unwaith bob cylch etholiadol awdurdod lleol. Bydd hynny'n rhoi'r cyfle i glywed barn allanol (heblaw barn archwilwyr, rheoleiddwyr neu arolygwyr) ar y modd y mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ateb ei ofynion o ran perfformiad. Y bwriad yw gohirio cychwyn y gofyniad hwn tan y cylch etholiadol nesaf (2027-2032)

Mae canllawiau statudol ar gyfer perfformiad a llywodraethu prif gynghorau wedi'u cyhoeddi ar-lein. Rhagwelir y bydd y canllawiau hyn, o’u cymhwyso’n gymesur, yr un mor berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae Rhan 2 hefyd yn rhoi pwerau i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, yn ogystal â darparu ar gyfer rhoi cymorth i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, ac ar gyfer ymyriadau eraill gan Weinidogion Cymru.

Rhan 3: Trosolwg a chraffu

Bydd pwyllgor trosolwg a chraffu mewn cyngor cyfansoddol CBC yn gallu craffu ar waith y CBC drwy ei bwerau presennol o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae adran 21 yn galluogi pwyllgorau craffu cynghorau cyfansoddol i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i gyngor cyfansoddol ar faterion sy'n effeithio ar ardal y cyngor neu drigolion yr ardal honno neu ar faterion sy'n ymwneud â chyllideb y cyngor.

Mae'r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i CBC gydweithredu â phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor cyfansoddol (neu gyd-bwyllgor craffu dau neu fwy o gynghorau cyfansoddol) sy'n gwneud adroddiad neu argymhellion mewn perthynas ag arfer un o'i swyddogaethau gan y cyd-bwyllgor corfforedig. Bydd y darpariaethau hyn hefyd yn rhoi dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforedig i roi sylw dyledus i unrhyw adroddiadau neu argymhellion o’r fath a gyhoeddir gan bwyllgor trosolwg a chraffu mewn cyngor cyfansoddol a hefyd i gyhoeddi datganiad yn amlinellu unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r adroddiad neu argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.

Yn yr ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022, gofynnodd Llywodraeth Cymru am sylwadau ar y dull o graffu. Mae'r darpariaethau yn Rhan 3 yn darparu ar gyfer y bwriad craidd hwnnw. Mae'n werth nodi nad yw Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i CBCau sefydlu na chytuno ar ddull craffu gyda’u cynghorau cyfansoddol. Yn hytrach, mae’n adeiladu ar y pwerau trosolwg a chraffu sydd gan gynghorau cyfansoddol ar hyn o bryd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. O dan y darpariaethau newydd bydd gan CBCau ddyletswydd penodol i gynorthwyo a chydweithredu gyda’r trefniadau craffu yn eu cynghorau cyfansoddol a hefyd i ystyried a bod yn rhan o unrhyw adroddiadau neu argymhellion sy’n cael eu cyhoeddi o ganlyniad. Mae canllawiau statudol diwygiedig a gyhoeddwyd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ar drosolwg a chraffu yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynnwys cyfeiriadau at graffu ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn y canllawiau hyn gan gynnwys ar bwysigrwydd ystyried barn y cyhoedd, a chyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu.

Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch llywodraethu a gweinyddu is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio Cyd-bwyllgorau. Mae hyn yn cynnwys gofynion yn ymwneud â phenodi cadeirydd a dirprwy, trafodion a gweithdrefnau pleidleisio’r is-bwyllgor ac amlder y cyfarfodydd.

Rhan 4: Rheolau sefydlog

Mae Rhan 4 yn diwygio adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”). Mae adran 20 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau perthnasol (gan gynnwys prif gynghorau) i fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol a amlinellwyd yn y rheoliadau. Mae’r pŵer wedi’i arfer yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) sydd hefyd yn cael eu gwneud o dan adran 8 o Ddeddf 1989. Cafodd adran 8 o Ddeddf 1989 ei chymhwyso mewn perthynas â CBC gan y Cydbwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae rhan 4 yn diwygio adran 20 fel y gellir gwneud rheoliadau o dan y rhan honno sy’n berthnasol i CBCau.

Y bwriad wedyn fyddai diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn eu cymhwyso i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae Rheoliadau 2006 yn darparu bod rhaid i awdurdod perthnasol wneud darpariaeth benodol mewn rheolau sefydlog mewn perthynas â:

  • prif swyddogion
  • cyfarfodydd a thrafodion
  • staff
  • camau disgyblu

Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, byddem yn croesawu sylwadau ar y bwriad i gymhwyso Rheoliadau 2006 i CBCau.

Mae Rhan 4 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CBCau fabwysiadu rheolau sefydlog yn ymwneud â gwneud contractau gan, neu ar ran, CBC

Rhan 5: Diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Mae Rhan 5 yn gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Sefydlu ar gyfer pob un o'r pedwar CBC mewn perthynas â'r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Gwneir newidiadau i Baragraff 16 o’r Rheoliadau Sefydlu i sicrhau bod y gofynion ar gyfer aelodaeth is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio CBCau yn cyd-fynd â’r rheini a nodwyd yn adran 81 ac 82 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 fel y’i diwygiwyd yn ddiweddar gan adran 115 ac 116 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 mewn perthynas â phwyllgorau llywodraethu ac archwilio a benodwyd gan brif gynghorau. Mae’r rhain yn sicrhau bod gan is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o CBC yr un cyfrifoldeb o ran cwynion a rheoli perfformiad â phwyllgor llywodraethu ac archwilio mewn awdurdod lleol.

Mae Rhan 5 hefyd yn cynnwys diwygiadau amrywiol a chanlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Y Gymraeg

Ceisiodd yr Ymgynghoriad ar Reoliadau Sefydlu CBCau farn am yr effaith y byddai sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei chael ar y Gymraeg a chyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Wrth ystyried sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys ystyried y fframwaith rheoleiddio ehangach o dan yr egwyddor y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’.

Darllenwch y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg yn yr un modd â’u cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â’r safonau. Nododd yr ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 y bwriad i gyflwyno rheoliadau yn ddiweddarach eleni i ychwanegu CBCau at Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 sy'n sicrhau bod y safonau hynny'n gymwys i CBCau fel y maent i awdurdodau lleol. Cafodd Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021 eu gosod yn y Senedd ar 9 Tachwedd ac fe fyddant yn dod i rym ar 3 Rhagfyr.

Mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn ceisio cymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith deddfwriaethol yr ymgynghorwyd arnynt eisoes yn gyffredinol ac, o’r herwydd, mae’n ddogfen dechnegol gan mwyaf. Fel offeryn annibynnol, mae Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn annhebygol o gael effaith sylweddol ar y defnydd o’r Gymraeg ac mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad blaenorol ar sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn debygol o fod yn gymwys i’r rheoliadau hyn hefyd.

Er hynny, os oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, byddem yn croesawu eich barn.

Asesiad Effaith

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Fel yn achos yr ymgynghoriad blaenorol ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar wahân mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021 wedi asesu’r costau a’r buddion posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau.

Wrth asesu’r costau a’r buddion posibl, roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried bwriad cyffredinol y polisi y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach. Ystyriwyd y costau sy’n gysylltiedig â chais i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig am yr agweddau ar y fframwaith rheoleiddio sydd yn Rheoliadau drafft y Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 felly fel rhan o’r asesiad effaith rheoleiddiol ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig eu hunain.

Mae copi o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin 2021 ar gael ar Wefan y Senedd fel rhan o’r dogfennau perthnasol i gyd-fynd â’r Rheoliadau hynny.

Asesiad Effaith Integredig

Cynhaliwyd Crynodeb o’r Asesiad Effaith Integredig hefyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rheoliadau uchod. Roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn asesu effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy reoliadau. Yn yr un modd â’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, roedd yr Asesiad Effaith Integredig yn ystyried bwriad cyffredinol y polisi y dylid trin Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel rhan o’r ‘teulu llywodraeth leol’, gan gynnwys effaith cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ehangach ar gyfer llywodraeth leol, wrth asesu effeithiau sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Cyhoeddwyd crynodeb o gasgliadau'r asesiad hwn fel rhan o'r ymgynghoriad ar Reoliadau Sefydlu'r Cyd-bwyllgorau.

Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Asesiad Effaith Integredig yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Ni fwriedir ymgynghori eto ar y dogfennau hyn.

Cwestiynau

Fel y trafodwyd eisoes, mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad cynhwysfawr a gynhaliwyd yn flaenorol ar y dull cyffredinol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer CBCau, yr ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Rhif 2) (Cymru) 2021, a'r ymgynghoriad ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y pedwerydd cam, a’r cam terfynol hwn yn natblygiad y fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw. Yn benodol, rydym yn gofyn am farn ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Cwestiwn 1

A yw Rhan 2 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer cymhwyso'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ac astudiaethau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach?

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno y dylid gohirio'r gofyniad i gynnal asesiad panel o berfformiad tan y cylch etholiadol nesaf?

Cwestiwn 3

A yw Rhan 3 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer trosolwg a chraffu ar CBC?

Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach

Cwestiwn 4

A yw Rhan 4 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer mabwysiadu rheolau sefydlog penodol?

Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno y dylid diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 i fod yn gymwys i CBCau? 

Cwestiwn 6

A yw Rhan 5 o'r rheoliadau drafft yn darparu'n glir ar gyfer y nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol a nodwyd?

Os nad ydyw, rhowch fanylion sut gellir ei wneud yn gliriach.

Y Gymraeg

Cwestiwn 7

Os oes gennych unrhyw farn am yr effeithiau penodol y gallai Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, byddem yn croesawu eich barn.

Cwestiwn 8

Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael eu trafod yn benodol, mae croeso i chi ddarparu gwybodaeth am y rheini hefyd.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 23 Mai 2022, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Yr Is-adran Perfformiad a Phartneriaethau
Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhifer: WG44647

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad A : crynodeb o Reoliadau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Rheoliadau Sefydlu: Cam 1

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru (“y Rheolau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a sefydlwyd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol ar 1 Ebrill 2021.

Offerynnau a osodir ochr yn ochr â Rheoliadau Sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Gwnaed y rheoliadau gorchmynion canlynol ochr yn ochr â'r Rheoliadau Sefydlu ym mis Mawrth 2021.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 yn sicrhau, fel rhan o’r defnydd ehangach o’r fframwaith moesegol llywodraeth leol, bod aelodau a chyflogeion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol. Mae’r rheoliadau cyffredinol hefyd yn ceisio sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhwym wrth drefn briodol o ran cyfrifyddu, archwilio a rheolaeth ariannol. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021 hefyd yn gwneud nifer fach o fân ddiwygiadau; yn cefnogi’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau rhwng y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau lleol; i sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn trin aelodau’r Cyd-bwyllgor yn gyfartal; ac i ddarparu i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gadw a gwaredu asedau.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021

Mae’r Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 (“Rheoliadau diwygio”) yn diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn agored i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o fewn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021  (“Gorchymyn diwygio”) yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 (“Rheoliadau diwygio”) yn diwygio Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r rheoliadau diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 lle bo’n berthnasol.

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021

Mae Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021 (“Gorchymyn diwygio”) yn diwygio’r rhestr o gyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn adran 12(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru a materion cysylltiedig. Mae Rhan 2 yn ymwneud â chyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r Gorchymyn diwygio yn darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rhan 2 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Mae'r gorchymyn diwygio hefyd yn gwneud darpariaeth mân, canlyniadol ac atodol.

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2021 (“rheoliadau diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (“rheoliadau 2014”) a wnaed o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. (Cafodd ei wneud ar 18 Mawrth 2021, yn amodol ar y weithdrefn negyddol). Mae’r rheoliadau diwygio’n darparu bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 2014 lle bo hynny’n berthnasol.

Cafodd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 hefyd eu gwneud ochr yn ochr â Rheoliadau Sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig gan ddarparu ar gyfer yr addasiadau perthnasol i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sy’n ofynnol er mwyn i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig arfer y swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021: Cam 2

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn darparu i rolau rhai 'swyddogion gweithredol' gefnogi gwaith y CBC yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff CBC, i swyddogaethau'r CBC gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, ac ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion. Maent hefyd yn gwneud nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i roi effaith lawn i'r darpariaethau hyn.

Offerynnau a osodwyd ochr yn ochr â’r Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Gwnaed y rheoliadau canlynol ochr yn ochr â Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 ym mis Rhagfyr 2021.

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021 yn diwygio Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (“Rheoliadau Rhif 1”). Mae'r Rheoliadau Diwygio'n dod â Chyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir trwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o fewn cwmpas y safonau a bennir gan Reoliadau Rhif 1 ac yn galluogi'r Comisiynydd i wneud hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas â'r corff hwnnw. Effaith hyn yw y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff sy'n atebol i gydymffurfio â Rheoliadau Rhif 1, a bod y safonau cyflenwi gwasanaethau penodedig, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau hybu a safonau cadw cofnodion yn gymwys iddynt o bosibl.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 yn diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Rheoliadau Diwygio'n diwygio ystyr corff cyhoeddus yn adran 6, trwy ychwanegu Cyd-bwyllgor Corfforedig at y rhestr. Effaith hyn yw bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gyrff sy'n gorfod cydymffurfio â Rhan 2 a 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i Ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y rhestr o awdurdodau perthnasol sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021

Mae Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 6 o Ddeddf 2016 i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig o fewn y diffiniad o ‘awdurdod cyhoeddus’ yn adran 6(9) sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd bioamrywiaeth. O ganlyniad i'r rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.

Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy'n effeithio ar dir mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn rhoi sylw i’r dibenion o gadw a gwella harddwch naturiol yr ardal.

Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 er mwyn sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy'n effeithio ar dir, mewn Parc Cenedlaethol, yn rhoi sylw i’r dibenion a bennir yn adran 5(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Y dibenion hyn yw cadw a gwella eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer deall a mwynhau nodweddion arbennig Parciau Cenedlaethol gan y cyhoedd.

Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021

Mae Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r rhestr o awdurdodau Cymreig) 2021 yn diwygio adran 6(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) er mwyn ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y rhestr o awdurdodau perthnasol y mae'n ofynnol iddynt wneud a dangos eu cyfraniad at ddileu tlodi plant yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, felly, baratoi a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru a'r camau gweithredu y mae'n bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion yn y strategaeth.

Rheoliadau Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

Mae Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 yn nodi'r gofynion o ran paratoi, adolygu, adnewyddu, cyhoeddi ac arolygu strategaeth tlodi plant a baratoir gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig o dan adran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae'r Rheoliadau'n nodi hyd y strategaeth gyntaf ar dlodi plant a strategaethau olynol i'w paratoi gan Gyd-bwyllgor Corfforedig, amseriad a dull eu cyhoeddi a'u harolygu, y gofynion o ran adolygu'r strategaeth tlodi plant a'r gofynion ymgynghori. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011 er mwyn datgymhwyso'r rheoliadau hynny i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Gwneir Rheoliadau Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 ar ôl i Reoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio'r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 gael eu gwneud gan fod y pwerau i wneud y gorchymyn wedi'u cynnwys yn adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022: Cam 3

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a phanel dyfarnu Cymru i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac aelodau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Maent hefyd yn darparu ar gyfer Cyd-bwyllgor i fasnachu a chynnal gweithgarwch masnachol; yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyd-bwyllgor gyhoeddi ei gyfansoddiad a chanllaw i’r cyfansoddiad; gwneud darpariaeth ynghylch penodi dirprwyon; yn ogystal â chynnwys nifer o fân ddarpariaethau mewn perthynas â chyllid, trafodion cyfreithiol, cofnodion / dogfennau, materion staffio a'r gweithlu a diwygiadau amrywiol eraill.

Offerynnau a osodwyd ochr yn ochr â Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022

Gwnaed y rheoliadau canlynol ochr yn ochr â Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 ym mis Mawrth 2022.

Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

Mae Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i gynnwys CBCau yn y rhestr o awdurdodau yn adran 17(2) sy'n agored i gydymffurfio ag adran 17(1). O ganlyniad i'r Gorchymyn hwn, bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlwyd o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 roi sylw dyledus i effaith debygol arfer eu swyddogaethau ar droseddu ac anhrefn yn ei ardal, camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yn ei ardal, ac aildroseddu yn ei ardal, a'r angen i wneud popeth o fewn ei allu i’w atal.