Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ymgynghoriad ar weithredu a gorfodi gwaharddiad yng Nghymru ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion cosmetig a gofal personol sy'n cynnwys microbelenni plastig yn agor ddydd Llun 16 Hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn ymgynghoriad blaenorol a gynhaliwyd ledled y DU a'r gefnogaeth aruthrol a ddangoswyd o blaid y gwaharddiad, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gyflwyno'r gwaharddiad drwy is-ddeddfwriaeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad, a fydd yn para deuddeng wythnos, yn cynnig cyflwyno'r gwaharddiad ar 30 Mehefin 2018. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn defnyddio'r Adrannau Safonau Masnach fel yr awdurdod gorfodi perthnasol.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae sbwriel yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein moroedd. Rwy'n falch ein bod ninnau, ynghyd â gweddill y DU, yn cymryd camau cadarnhaol i leihau'r deunydd plastig sy’n mynd i’n moroedd.

"Er nad ydym yn meddwl bod pob gweithgynhyrchwr yng Nghymru yn defnyddio microbelenni yn helaeth, diben yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau nad yw deddfwriaeth yn rhoi busnesau Cymru dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch y mater.

"Credaf fod y dyddiad a gynigir ar gyfer cyflwyno'r gwaharddiad sef 30 Mehefin 2018 yn synhwyrol gan ei fod yn rhoi digon o amser i fusnesau baratoi ar ei gyfer. Mae hefyd yn sicrhau bod gennym amserlen realistig ar gyfer drafftio a chyflwyno deddfwriaeth sy'n addas i'r diben ac yn diogelu at y dyfodol".

"Rydym yn hynod falch bod gan Gymru y drydedd gyfradd ailgylchu orau yn y byd. Ond, mae dal i fod digon i'w wneud cyn inni gyflawni ein prif nod o ddod yn wlad ddiwastraff.

“Mae'r gwaharddiad hwn yn rhan o becyn o fesurau yr ydym yn eu hystyried i leihau gwastraff ac i fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan lygredd plastig. Rydym hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o weithredu cynllun Ehangu Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr lle y mae cynhyrchwyr yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y gwastraff a gynhyrchant. Ar ben hynny, mae cyflwyno ardoll ar blastig untro yn un o'r pedwar cynnig newydd ar drethi sydd wedi'u nodi fel materion sy'n werth eu hystyried ymhellach.

"Gallai'r mesurau hyn i gyd gyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith o warchod yr amgylchedd morol. Mae'n amserol ein bod yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar ficrobelenni yn 2018, sef Blwyddyn y Môr yng Nghymru." 

Bydd yr ymgynghoriad ar wahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion cosmetig a gofal personol sy'n cynnwys microbelenni plastig ar wefan Llywodraeth Cymru o ddydd Llun 16 Hydref 2017 ymlaen.