Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddir gyrwyr, trigolion ac aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar y gwelliannau arfaethedig i ddarn o ffordd ar yr A40.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn dwy gyfres o Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd ynghynt eleni, a oedd yn dangos y rhestr fer o opsiynau, mae ymgynghoriad newydd wedi agor ar gynlluniau i wneud newidiadau i'r ffordd rhwng Cylchfan Penblewin a Redstone Cross. 

Mae tair rhan i'r gwaith:

  • yr ateb a ffefrir a nodwyd yn y lle cyntaf
  • gwelliannau y gellid eu gwneud i'r ateb a ffefrir
  • mesurau teithio llesol y gellid eu hymgorffori o bosibl.

Mae nifer o broblemau wedi cael eu nodi yn dilyn y gwaith o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a data. Roedd y dystiolaeth a'r data a gasglwyd yn cynnwys arolygon geoffisegol, arolygon o fioamrywiaeth, cyfrifiadau traffig, dibynadwyedd amserau siwrneiau, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, data traffig tymhorol, data ar ddifrifoldeb damweiniau, data economaidd-gymdeithasol a chyfyngiadau amgylcheddol. 

Mae wyth amcan i'r cynllun, gan gynnwys cadernid y rhwydwaith a mynediad gwell, gwella diogelwch Cyffwrdd Redstone Cross, ac o ganlyniad lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau, hyrwyddo teithio llesol drwy annog pobl i feicio, marchogaeth a cherdded i gynnig cyfleoedd ar gyfer ffyrdd iach o fyw a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gan integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol er mwyn creu cysylltiadau gwell rhwng cymunedau lleol a chanolfannau trafnidiaeth allweddol.

Gan ystyried yr heriau hyn, rhoddwyd pedwar opsiwn ar restr fer i'w hystyried ymhellach.

  • opsiwn 1A – Llwybr gogleddol â Chyffordd-T Groesgam yn Redstone Cross
  • opsiwn 1B – Llwybr gogleddol (dim Cyffwrdd yn Redstone Cross)
  • opsiwn 2A – Llwybr deheuol â Chyffordd-T Groesgam yn Redstone Cross
  • opsiwn 2B – Llwybr deheuol (dim Cyffwrdd yn Redstone Cross)

Mae'r holl opsiynau’n cael eu hamlinellu'n glir yn yr ymgynghoriad.

Bydd Digwyddiad Ymgynghori yn cael ei gynnal yn Neuadd y Frenhines yn Arberth ar 2 Medi 2019, rhwng 12pm a 8pm.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates: 

"Mae heriau amlwg yn gysylltiedig â chyflawni'r prosiect hwn, ac rydyn ni am wneud yn siŵr y bydd pawb y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw'n cael y cyfle i fynegi eu barn ar yr opsiynau sydd ar gael.

"Hoffwn i annog pawb sy'n gweithio neu'n byw yn yr ardal i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.