Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir yr ymgynghoriad hwn

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau”) wedi creu’r fframwaith i gael trefn gyson ar gyfer cydweithio rhanbarthol rhwng llywodraeth leol, sef Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig drwy Reoliadau.

Cafodd y rheoliadau a oedd yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru (“y Rheoliadau Sefydlu”) eu gwneud ar 17 Mawrth 2021, a chafodd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig canlynol eu sefydlu ar 1 Ebrill 2020.

Bydd y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yma'n cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Byddant hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Yn wahanol i strwythurau cyd-bwyllgorau eraill sy’n bodoli mewn statud, mae
Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforaethol ar wahân sy’n gallu cyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau.

Mae adran 86 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau yn amodi ei bod yn rhaid i brif gynghorau a Chyd-bwyllgorau Corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â Rhan 5, Penodau 3, 4 a 5 o’r Ddeddf honno, ac mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol, sy’n ymwneud â Rhan 5, Penodau 4 a 5.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ar y canllawiau drafft ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig o dan ran 5 y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Cafodd y Rheoliadau Sefydlu eu gwneud fel rhan o’r cam cyntaf o gyflwyno'r fframwaith deddfwriaethol y bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei ddilyn wrth weithredu.  Gwnaed y rhain law yn llaw â nifer o offerynnau statudol a oedd yn sicrhau bod gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, o’r diwrnod cyntaf, y dyletswyddau y byddech chi’n disgwyl iddynt fod yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, a bod gan y Cyd-bwyllgorau y prosesau llywodraethu a goruchwylio priodol y byddech chi’n eu disgwyl gan gorff cyhoeddus. 

Bydd y cam nesaf yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddi ‘swyddogion gweithredol’ penodol – Prif Weithredwr, Swyddog Monitro a Phrif Swyddog Ariannol,  i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgorau.

Mae ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 wedi cael ei lansio ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, fel rhan o’r cam hwn yn natblygiad y ddeddfwriaeth Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Dylai unrhyw sylwadau a safbwyntiau ar y rheoliadau drafft gael eu cyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw, ac ni fyddant yn cael eu hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Bydd y trydydd cam yn rhoi deddfwriaeth bellach ar waith ar gyfer gweithredu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’u swyddogaethau, Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yn ystod Hydref 2021.

Bydd pedwerydd cam wedyn yn rhoi ar waith unrhyw ddarpariaethau sydd ar ôl y gallai fod eu hangen ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig, ond y mae’n annhebygol y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn dechrau cyflawni eu swyddogaethau, Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yn ystod Gwanwyn 2022.

Mae’r canllawiau drafft hyn wedi cael eu paratoi fel rhan o’r broses fesul cam yma. Fel gyda phob cam o ddatblygu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mae dwy egwyddor allweddol yn llywio’r broses o ddatblygu’r canllawiau ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig:

  • dylid trin Cyd-bwyllgor Corfforedig fel aelod o’r ‘teulu llywodraeth leol’ a, lle bo hynny’n briodol, dylai fod yn rhwym i raddau helaeth wrth yr un pwerau a dyletswyddau â phrif gynghorau yn y ffordd y mae’n gweithredu
  • dylai’r manylion ynghylch sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gweithredu yn ymarferol gael eu gadael i aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei hun benderfynu arnynt.

Oherwydd y dull fesul cam o ddatblygu’r ddeddfwriaeth Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mewn rhai achosion nid yw’r ddeddfwriaeth llywodraeth leol berthnasol wedi cael ei rhoi ar waith ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig eto. Yn yr achosion hyn, mae’r canllawiau’n ceisio egluro neu adeiladu ar fwriad y polisi – gan adlewyrchu’r egwyddor sylfaenol o drin y Cyd-bwyllgor Corfforedig fel aelod o ‘deulu Llywodraeth Leol’. Wrth i weddill y ddeddfwriaeth gael ei rhoi ar waith, efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o fân newidiadau i’r canllawiau hyn er mwyn sicrhau bod y canllawiau’n adlewyrchu’r darpariaethau’n llawn.

Nid yw’r canllawiau drafft yn ceisio darparu dadansoddiad manwl o / canllawiau ar bob agwedd ar y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol, neu a fydd yn berthnasol, i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Yn hytrach, bwriad y canllawiau hyn, yn y lle cyntaf, yw cefnogi’r broses o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac yn benodol, ystyried y meysydd hynny lle mae’r ddeddfwriaeth yn cynnig hyblygrwydd i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae’r canllawiau drafft yn egluro’r gwerthoedd a'r egwyddorion craidd ynghylch sut dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig weithredu, a’r materion y bydd aelodau am eu hystyried wrth roi’r trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol ar waith.

Mewn nifer o leoedd, bydd y canllawiau yn gweithredu fel canllawiau ‘interim’, cyn, a chan ragdybio, cyhoeddi’r Llawlyfr Democratiaeth, a ddisgwylir ddechrau 2022. Bydd llawer o’r Llawlyfr yr un mor berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ag y bydd i awdurdodau lleol. Lle bynnag y bo modd, bydd y canllawiau’n adlewyrchu’r dull sydd i’w ddilyn yn ôl y llawlyfr hwnnw, neu byddant yn cyfeirio’n uniongyrchol at y llawlyfr hwnnw pan fydd wedi cael ei gyhoeddi.

Y bwriad yw cyhoeddi Canllawiau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn nes ymlaen eleni (2021).

Mae’r dull o ddatblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig hyd yma wedi bod yn un o gyd-ddatblygu a chydweithio â llywodraeth leol. Y bwriad yw parhau â’r dull hwn wrth i ni weithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru.  Mae elfennau o’r canllawiau drafft yn yr ymgynghoriad hwn wedi cael eu paratoi drwy ymgynghori â llywodraeth leol a thrwy nifer o rwydweithiau proffesiynol ym maes llywodraeth leol, gan gynnwys Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol, Cymdeithas Trysoryddion Cymru a'r Rhwydwaith Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol.

Y canllawiau arfaethedig

Pwrpas y canllawiau yw cynorthwyo Cyd-bwyllgorau Corfforedig i roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn gweinyddu a llywodraethu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn briodol. Nid oes bwriad i’r canllawiau fod yn rhagnodol ynghylch ffurf y trefniadau hyn.  Mae’r canllawiau hefyd wedi’u bwriadu i helpu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ymdrin â threfniadau o’r fath mewn modd cymesur, gan eu haddasu i amgylchiadau lleol. Bwriad y rheoliadau sy’n sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw rhoi hyblygrwydd a galluogi disgresiwn lleol, ac mae’n bwysig bod aelodau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn penderfynu drostynt eu hunain beth sy’n briodol a beth sy’n diwallu eu hanghenion wrth ddatblygu eu trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.

Nid yw’r canllawiau’n bwriadu disodli na thanseilio'r arferion da presennol mewn trefniadau rhanbarthol, ond yn hytrach eu cydnabod a chynorthwyo Cyd-bwyllgorau Corfforedig i adeiladu arnynt. Maent wedi cael eu llywio gan yr ymgynghoriad ar y rheoliadau i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a'r trafodaethau sy’n parhau gyda llywodraeth leol.

Mae’n bwysig nodi mai canllawiau ar drefniadau cyfansoddiadol a gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig yw’r rhain, nid ar y swyddogaethau a fydd yn cael eu cyflawni – bydd canllawiau ar wahân ar baratoi Cynllun Datblygu Strategol a pharatoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Mae’r canllawiau wedi’u rhannu’n benodau fel hyn.

Pennod 1

Canllawiau ar aelodaeth a threfniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gan gynnwys is-bwyllgorau, cynnwys eraill yng ngwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, y fframwaith moesegol, y rheolau sefydlog a dirprwyo.

Pennod 2

Canllawiau ar faterion staffio a gweithlu mewn Cyd-bwyllgor Corfforedig, gan gynnwys telerau ac amodau, atebolrwydd a phensiynau.

Pennod 3

Canllawiau ar gyfarfodydd a thrafodion y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gan gynnwys tryloywder cyfarfodydd, cyfranogiad y cyhoedd, darlledu cyfarfodydd a chyfarfodydd aml-leoliad.

Pennod 4

Canllawiau ar graffu ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig a’u llywodraethu. Mae hyn yn cynnwys perfformiad a llywodraethu, trefniadau goruchwylio a chraffu a’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Pennod 5

Canllawiau mewn perthynas ag ariannu, cyllid a materion cyllidebol, gan gynnwys arferion a rheolaethau cyfrifyddu, archwilio, arferion buddsoddi a benthyca.

Pennod 6

Canllawiau mewn perthynas â dyletswyddau statudol eraill a fydd yn berthnasol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fel corff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dyletswyddau o ran y Gymraeg a safonau’r Gymraeg, dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Yn gyffredinol, a yw’r canllawiau drafft yn rhoi lefel briodol o gefnogaeth i Gyd-bwyllgorau Corfforedig er mwyn iddynt roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith i weinyddu a llywodraethu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn briodol?

Cwestiwn 2

A yw Pennod 1 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar aelodaeth a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Cwestiwn 3

A yw Pennod 2 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar faterion staffio a gweithlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Cwestiwn 4

A yw Pennod 3 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar y ffordd y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnal cyfarfodydd a thrafodion?

Cwestiwn 5

A yw Pennod 4 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar graffu ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig a’u llywodraethu?

Cwestiwn 6

A yw Pennod 5 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar ariannu, cyllid a materion cyllidebol Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Cwestiwn 7

A yw Pennod 6 yn rhoi arweiniad priodol/digonol ar y dyletswyddau statudol eraill a fydd gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig?

Cwestiwn 8

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effaith y byddai’r canllawiau yn ei chael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau posibl yn eich barn chi?  Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 9

Hefyd, esboniwch sut rydych yn credu y gallai’r canllawiau gael eu ffurfio neu eu newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, gan sicrhau nad oes dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am y canllawiau drafft. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i fynegi’ch safbwyntiau.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 4 Hydref 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Is-adran Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG43017

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.