Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru o sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Mae'r Cynllun wedi'i seilio ar ymrwymiad i weithio ar draws y Llywodraeth, a chyda rhanddeiliaid, i ddatblygu a chyflwyno cyfres o gamau gweithredu eang, cyfannol sy'n cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer urddas mislif yng Nghymru.

Erbyn 2026 byddwn yn byw mewn Cymru lle:

  • mae’r mislif yn cael ei ddeall, ei dderbyn a'i normaleiddio'n llwyr. Cydnabyddir yn gyffredinol nad yw mislif yn ddewis a bod nwyddau mislif yn eitemau hanfodol
  • mae gan y rhai sy’n cael mislif fynediad at nwyddau o'u dewis, pryd a lle bo’u hangen, yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl
  • mae mynediad teg at ddarpariaeth ledled Cymru, gan ganiatau rhyddid i wneud  trefniadau lleol
  • mae'r stigma, y tabŵau a'r mythau sy'n bodoli wedi'u herio drwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau addysgol. Nid oes neb yn teimlo cywilydd neu swildod am y mislif a gallant siarad yn agored ac yn hyderus amdano, p'un a ydynt yn cael mislif ai peidio
  • mae effaith bosibl mislif a sut y gall newid yn ystod y perimenopos, y menopos ac o ganlyniad i faterion iechyd ehangach yn cael ei deall yn eang
  • ymatebir i'r effaith hon yn sensitif o fewn lleoliadau addysg, cyflogaeth ac iechyd
  • mae mwy o amrywiaeth o nwyddau mislif yn cael eu defnyddio, gan gyfyngu ar effaith amgylcheddol negyddol llawer o nwyddau tafladwy
  • mae pawb sy’n cael mislif:
    • yn deall eu mislif yn llwyr ac yn gwybod beth sy'n arferol iddynt
    • yn hyderus o ran ceisio cymorth a chyngor meddygol, os oes angen
    • yn rhydd rhag unrhyw anghydraddoldebau iechyd wrth geisio cyngor neu gymorth meddygol
    • yn gwybod sut orau i reoli’r mislif er mwyn sicrhau nad yw'n cael effaith negyddol ar eu bywyd
    • yn deall y gwahanol fathau o nwyddau sydd ar gael, sut i’w defnyddio a sut i gael gwared arnynt yn gywir, ac yn gallu dewis y nwyddau mwyaf priodol ar eu cyfer eu hunain
    • â mynediad at gyfleusterau priodol i'w galluogi i reoli eu mislif mewn preifatrwydd, gydag urddas ac mewn ffordd iach.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno â’r weledigaeth ar gyfer urddas mislif a amlinellir yn y cynllun? Sut byddech chi’n ei gwella?

Cwestiwn 2

Pa mor realistig yw gwireddu’r weledigaeth o fewn y pum mlynedd nesaf? Beth fydd yn atal y weledigaeth rhag cael ei gwireddu a beth allai helpu i’w gwireddu?

Cwestiwn 3

Mae’r Cynllun wedi’i strwythuro fesul thema bolisi. Oes yna themâu neu gamau gweithredu penodol sydd ar goll yn y Cynllun? Beth yw’r rhain a chyfrifoldeb pwy ydynt?

Cwestiwn 4

Ydy’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn ymateb yn ddigonol i’r croestoriad rhwng urddas mislif a thlodi mislif i’r rheini â nodweddion gwarchodedig, ac anfantais economaidd-gymdeithasol? Os nad yw, sut y gallwn wella hyn?

Cwestiwn 5

Beth yn rhagor y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud mewn perthynas â materion iechyd ehangach fel y perimenopos, y menopos, endometriosis, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif, a chanserau gynaecolegol. Ydych chi o’r farn y dylid cynnwys y camau hyn yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif neu mewn gwaith polisi arall?

Cwestiwn 6

Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 7

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 8

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Ionawr 2022, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Y Tîm Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43466

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.