Ymgynghoriad ar y newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Hoffem gael eich barn i Reolau drafft Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026 a Gorchymyn drafft Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026
Mae’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau lleol yng Nghymru wedi’u nodi yn Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (“y Rheolau Prif Ardaloedd”) ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (“y Rheolau Cymunedau”) ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Yn y ddogfen hon, cyfeiriwn at y ddwy set hyn o reolau fel “Rheolau 2021”.
Cafodd Rheolau 2021 eu hailddrafftio a’u moderneiddio’n llawn yn 2021. Yn 2023, cawsant eu diweddaru ymhellach i alluogi cynnal etholiadau o dan y system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, pe bai unrhyw brif gyngor yn mabwysiadu’r system honno o dan y pŵer yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Nid ydym felly yn cynnig gwneud newidiadau sylweddol i Reolau 2021, ar wahân i rai newidiadau, sydd i raddau helaeth yn rhai technegol, neu’r rhai sy’n ofynnol i ystyried newidiadau i bolisi a deddfwriaeth arall.
Mae’r prif newidiadau a gynigir yn ymwneud â diweddaru Rheolau 2021 i sicrhau eu bod yn ddwyieithog, a’u bod yn adlewyrchu’r newidiadau diweddar a wnaed i reolau etholiadau i’r Senedd sydd wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (“y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”).
Rydym yn ymgynghori ar offeryn statudol drafft i ddiwygio Rheolau 2021.
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi ailddrafftio unrhyw un o’r ffurflenni sydd wedi’u rhagnodi yn Rheolau 2021, ond rydym yn gofyn cwestiynau yn yr ymgynghoriad ynglŷn â chyflwyniad dwyieithog y ffurflenni.
Y newidiadau a gynigir yw testun yr ymgynghoriad hwn ac maent wedi’u nodi’n fanylach isod.
Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026
Ar gyfer etholiadau i’r Senedd, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i sicrhau y gellir mynd i dreuliau rhesymol i ddarparu ar gyfer diogelwch personol ymgeiswyr a diogelwch eu heiddo. Mae angen darn o ddeddfwriaeth ar wahân i ddod â gwariant ymgyrchu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn gydnaws â’r newidiadau diweddar a wnaed ar gyfer etholiadau i’r Senedd gan Orchymyn Cynnal Etholiadau a Rheoliadau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Eithriadau ac Amrywio Terfynau Gwariant Ymgyrch) (Cymru) 2025.
Mae’r newid hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddiwygio paragraff 13A o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”). Bydd y diwygiad yn sicrhau na fydd ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol, yn rhan o’u treuliau etholiadol, yn gorfod cyfrif am dreuliau rhesymol yr eir iddynt wrth ddarparu ar gyfer eu diogelwch personol a diogelwch eu heiddo.
Rheolau 2021
Yr hyn nad yw’n newid
Mae’r Rheolau Diwygio drafft yn ddogfen fawr a dylai darllenwyr fod yn ymwybodol y bydd y mwyafrif o Reolau 2021 a’r prosesau cysylltiedig yn aros yr un fath â’r hyn oeddent ar gyfer etholiadau lleol blaenorol.
Beth sy’n newid?
Gofynion o ran y Gymraeg a’r effaith bosibl ar y Gymraeg
Ein nod yw annog defnydd cyfartal o’r Gymraeg a’r Saesneg mewn etholiadau ac adlewyrchu hyn yn effeithiol mewn deddfwriaeth drwyddi draw. Gwnaeth y Gorchymyn Cynnal Etholiadau newidiadau i sicrhau bod ffurflenni a gweithdrefnau cysylltiedig yn ddwyieithog ar gyfer etholiadau i’r Senedd, a bod y Gymraeg yn dod o flaen y Saesneg pan fo gofynion i ddarparu ffurflenni ar gyfer etholiadau yn Gymraeg a Saesneg. Cynigiwn adlewyrchu’r newidiadau hyn yn y Rheolau ar gyfer etholiadau lleol, a hynny er mwyn sicrhau cysondeb ar draws deddfwriaeth etholiadau a sicrhau y caiff etholiadau eu cynnal yn ddwyieithog lle bynnag y bo modd.
Rydym yn ceisio’ch barn ynghylch a yw’r Rheolau drafft yn annog yn effeithiol ddefnydd cyfartal o’r Gymraeg, ynghyd ag unrhyw sylwadau sydd gennych ynghylch eu goblygiadau posibl o ran y Gymraeg. Bydd asesiad llawn o’r effaith ar y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â’r Rheolau terfynol.
Dyma fanylion y diwygiadau sydd wedi’u cynnwys yn y Rheolau drafft:
- Mae rheolau 8, 36, 65 a 90 yn diwygio Rheolau 2021 o ran papurau pleidleisio i’w gwneud yn ofynnol cynnwys y geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” ar y papur pleidleisio fel rhan o ddisgrifiad pan fo ymgeisydd wedi gofyn iddynt gael eu defnyddio yn ystod y broses enwebu.
- Mae rheolau 15, 43, 72 a 97 yn disodli’r rheolau yn Rheolau 2021 sy’n nodi’r cwestiynau y gellir eu gofyn i bersonau sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio. Mae’r rheolau hyn wedi’u diwygio i’w gwneud yn glir y gellir gofyn y cwestiynau yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’r rheolau diwygiedig yn nodi testun y cwestiynau yn y ddwy iaith.
- Mae rheolau 20, 21, 48, 49, 77 a 102 yn diwygio Rheolau 2021 o ran datgan canlyniadau’r etholiad i’w gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau roi’r datganiad a darparu’r hysbysiad cyhoeddus o’r canlyniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae newidiadau pellach hefyd yn cael eu hystyried i sicrhau bod yr holl ffurflenni, a ddarperir fel atodiadau yn Rheolau 2021, yn ddwyieithog. Fodd bynnag, nid oes diwygiadau penodol wedi’u cynnwys yn y Rheolau drafft sy’n destun yr ymgynghoriad hwn.
Diweddaru ffurflenni rhagnodedig
Mae’r atodiadau i Reolau 2021 yn cynnwys y testun rhagnodedig ar gyfer rhai o’r ffurflenni i’w defnyddio mewn etholiadau llywodraeth leol.
Diwygiodd Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 (“y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy”) Reolau 2021 drwy fewnosod adrannau newydd ac atodiadau newydd i’r Rheolau. Mae’r Rheolau drafft wedi’u diwygio i ystyried mân newidiadau a gyflwynwyd gan y Rheolau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â diweddaru geiriad y ffurflenni er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch a dealladwy. Er enghraifft, cynnwys y gair ‘pleidleisio’ yn yr ymadrodd ‘blwch pleidleisio’ fel y gall defnyddwyr ddeall cyfarwyddiadau’n haws.
Mae newidiadau eraill wedi’u gwneud i’r atodiadau i Reolau 2021 er mwyn adlewyrchu diwygiadau a wnaed i’r rheolau sylweddol, ac i egluro rhai elfennau o’r ffurflenni. Er enghraifft, mae’r ffurflenni cydsynio ag enwebiad wedi’u diwygio i ddarparu cyfarwyddiadau cliriach i ymgeiswyr pan fyddant yn llunio’r datganiadau ynghylch aelodaeth o blaid.
Mae rheolau 23 i 30, 51 i 58, 79 i 84 a 104 i 109 o’r Rheolau drafft yn cynnwys y newidiadau arfaethedig i’r ffurflenni yn Rheolau 2021.
Dyletswydd ynghylch cyfarpar hygyrch
Roedd Deddf Etholiadau 2022 yn gosod dyletswydd ar swyddogion canlyniadau i ddarparu cyfarpar sy’n rhesymol i sicrhau ei bod yn haws i bobl anabl bleidleisio. Wrth arfer y swyddogaeth hon, rhaid i swyddogion canlyniadau ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Cyflwynwyd y newid hwn yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau ar gyfer etholiadau i’r Senedd.
Er mwyn sicrhau cysondeb ar draws pob etholiad yng Nghymru, y bwriad yw gosod y ddyletswydd hon ar swyddogion canlyniadau mewn etholiadau llywodraeth leol.
Mae rheolau 11, 39, 68 a 93 hefyd yn diwygio’r gofynion o ran y cyfarpar y mae rhaid ei ddarparu i gynorthwyo pobl i bleidleisio’n annibynnol.
Mae diwygiadau i’r iaith ynghylch anabledd hefyd wedi’u cynnwys yn y Rheolau drafft. Mae rheolau 16, 17, 44, 45, 73, 74, 98 a 99 yn cynnwys diwygiadau sy’n disodli’r holl gyfeiriadau at ddallineb gyda chyfeiriadau at amhariad difrifol ar y golwg.
Disgrifiadau ar y cyd
Mae’r Rheolau drafft yn cynnwys diwygiadau i sicrhau y caiff ymgeiswyr ddefnyddio disgrifiadau ar y cyd, fel y’u cofrestrwyd â’r Comisiwn Etholiadol.
Mae rheolau 4, 32, 61 a 86 yn diwygio Rheolau 2021 ynghylch papurau enwebu i ganiatáu i ymgeiswyr gynnwys disgrifiad yn eu papurau enwebu sy’n ddisgrifiad ar y cyd sydd wedi’i gofrestru gan fwy nag un blaid wleidyddol gofrestredig.
Gweithio’n ddigidol
Mae’r Rheolau drafft yn cynnwys mân ddiwygiadau i ystyried cofrestrau digidol, ac i sicrhau bod hyn yn gydnaws â gweithdrefnau cyfatebol o ran etholiadau i’r Senedd yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau.
Mae rheolau 6, 34, 63 ac 88 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau i sicrhau y gellir archwilio papurau enwebu pan fônt wedi’u danfon yn electronig.
Mae rheolau 7, 35, 64 a 89 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau i sicrhau y gall y personau cymhwysol archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref pan fônt wedi eu danfon yn electronig.
Mae rheolau 11, 39, 68 a 93 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau o ran defnyddio fersiynau electronig o’r cofrestrau etholwyr, y rhestrau pleidleiswyr drwy’r post a phleidleiswyr drwy ddirprwy a’r rhestrau rhifau cyfatebol.
Mae rheolau 12, 13, 40, 41, 69, 70, 94 a 95 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau ynghylch penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif er mwyn hwyluso’r defnydd o gyfeiriadau e-bost ar gyfer yr asiantiaid hyn.
Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus
Er mwyn dod â Rheolau 2021 yn gydnaws â’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau, mae rheolau 9, 37, 66 ac 91 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau ynghylch defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus at ddibenion cynnal y pôl. Mae’r diwygiadau yn sicrhau nad yw defnyddio ystafell mewn adeilad heb ei feddiannu at y diben hwnnw yn peri bod person yn agored i dalu unrhyw dreth gyngorneu ardrethi annomestig.
Cywiriadau a mân ddiwygiadau
Mae’r Rheolau drafft yn cynnwys nifer o fân ddiwygiadau drafftio, er enghraifft, i adlewyrchu newidiadau sydd wedi’u rhoi ar waith o ran etholiadau i’r Senedd drwy’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau.
Nodir y mân newidiadau hyn isod.
- Eglurhad o bwerau’r swyddog llywyddu mewn gorsaf bleidleisio i ddelio ag aflonyddwch: mae rheolau 10, 38, 67 a 92 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau ynghylch penodi swyddogion llywyddu a chlercod i egluro na chaiff swyddog llywyddu awdurdodi clercod i orchymyn i unrhyw berson gael ei arestio mewn gorsaf bleidleisio. Mae hwn yn newid technegol, er cysondeb â’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau, ac mae’n cywiro gair coll mewn drafftio blaenorol.
- Selio blychau pleidleisio: mae rheolau 14, 42, 71 ac 96 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau o ran selio blychau pleidleisio i ddiwygio’r cyfeiriad at sêl y swyddog canlyniadau i gyfeiriad at sêl y swyddog llywyddu.
- Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais: mae rheolau 19, 47, 76 a 101 o’r Rheolau drafft yn gwneud diwygiadau sy’n manylu ar y weithdrefn y mae rhaid ei dilyn wrth i’r pôl gau. Mae’r diwygiadau:
- yn ailddatgan paragraff (2) o Reolau 2021 fel ei fod yn gliriach i’r darllenydd
- yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau hefyd roi mewn pecynnau wedi’u selio, unrhyw bapurau pleidleisio drwy’r post ac unrhyw ddatganiadau pleidleisiau drwy’r post sydd wedi eu dychwelyd i’r orsaf bleidleisio ac nad ydynt wedi eu casglu fel arall yn ystod y dydd
- yn ymdrin â selio unrhyw gofrestrau a rhestrau electronig a ddefnyddiwyd yn yr orsaf bleidleisio.
- Datgan canlyniadau: mae rheolau 20, 21, 48, 49, 77 a 102 o’r Rheolau drafft yn diwygio Rheolau 2021 i alluogi’r swyddog canlyniadau i ddefnyddio unrhyw gyfenwau neu unrhyw enwau blaen ymgeiswyr a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniadau ac wrth ddarparu’r hysbysiad cyhoeddus o’r canlyniadau hynny, pan fo’r cyfenwau neu’r enwau blaen hynny a ddefnyddir yn gyffredin wedi’u cynnwys ar y datganiad o bersonau a enwebwyd.
- Danfon dogfennau: mae rheolau 22, 50, 78 a 103 o’r Rheolau drafft yn diwygio Rheolau 2021 sy’n ymwneud â danfon dogfennau at y swyddog cofrestru ar ôl yr etholiad. Mae’r diwygiadau yn egluro bod y dogfennau hynny i’w danfon yn ddiogel ac wedi hynny rhaid eu storio’n ddiogel. Mae’r diwygiadau hefyd yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys ar y pecynnau y mae’r dogfennau yn cael eu danfon felly ynddynt.
- Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu neu ffurflenni cyfeiriad cartref: mae rheolau 5, 33, 62 a 87 o’r Rheolau drafft yn diwygio Rheolau 2021 er mwyn galluogi’r swyddog canlyniadau i gywiro mân wallau mewn papurau enwebu a ffurflenni cyfeiriad cartref. Gan nad yw’r papurau enwebu rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnwys eu rhifau etholiadol, mae’r rheolau sy’n galluogi swyddogion canlyniadau i gywiro mân wallau mewn cysylltiad â rhifau etholiadol wedi’u hepgor.
Llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag mewn cynghorau tref a chymuned Cywiriad “Rheol Chwe Mis”
Ar hyn o bryd, mae Rheolau 2021 yn cynnwys dyddiadau cychwyn gwahanol ar gyfer y cyfnod o chwe mis lle na fyddai swyddi sy’n digwydd dod yn wag mewn prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned yn arwain at is-etholiad. Rydym yn cynnig cysoni’r dyddiadau cychwyn ar gyfer y cyfnod ‘chwe mis’ rhwng y prif gynghorau a’r cynghorau tref a chymuned.
Mae’r anghysondeb hwn yn fach. Mae adrannau 26(3) a 35(2B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn golygu bod cynghorwyr mewn prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned yn ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl dyddiad etholiad cyffredin, a bod y cynghorwyr newydd yn dechrau yn eu swyddi ar yr un diwrnod.
O ran prif gynghorau, mae adran 89(3) o Ddeddf 1972 yn nodi, pan fo swydd sy’n digwydd dod yn wag yn digwydd o fewn chwe mis cyn y diwrnod y byddai’r cynghorydd y mae ei swydd yn wag wedi ymddeol, dim ond os yw cyfanswm y swyddi gwag nad ydynt wedi’u llenwi yn y cyngor yn fwy na thraean o’r aelodau y caiff etholiad ei gynnal. Mewn amgylchiadau eraill, byddai’r swydd wag yn cael ei llenwi yn yr etholiad cyffredin nesaf.
Fodd bynnag, o ran cynghorau tref a chymuned, mae’r rheol chwe mis wedi’i diffinio ychydig yn wahanol yn rheol 5(5) a (12) o Reolau Cymunedau 2021. Mae’r rhain yn defnyddio dyddiad yr etholiad nesaf fel pwynt terfyn y cyfnod o chwe mis.
Mae’r rheol 59 drafft yn cynnwys diwygiad sy’n darparu mai chwe mis olaf cynghorydd yn y swydd yw’r cyfnod o chwe mis sy’n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr tref a chymuned. Bydd hyn yn dod â’r rheol ‘chwe mis’ ar gyfer cynghorau tref a chymuned yn gydnaws â phrif gynghorau.
Diwygio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (eithrio treuliau diogelwch)
Yn unol â Gorchymyn Cynnal Etholiadau (ar gyfer ymgeiswyr unigol) a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr di-blaid), mae treuliau sy’n gysylltiedig â diogelwch wedi’u heithrio rhag terfynau gwariant ymgyrch ar gyfer etholiadau i’r Senedd.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau cysondeb lle bynnag y bo modd ar draws etholiadau datganoledig, ac felly mae’n fwriad sicrhau bod yr eithriad treuliau diogelwch hwn yn gymwys hefyd i ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol. Cynigir y bydd costau sy’n gysylltiedig â diogelwch yn cael eu heithrio rhag terfynau gwariant ymgyrch ymgeiswyr yn yr etholiadau hynny.
Mae angen darn o ddeddfwriaeth ar wahân i ddeddfu’r cynnig hwn, a hynny er mwyn diwygio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Y ddeddfwriaeth hon yw Gorchymyn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026. Bydd y Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 13A o Atodlen 4A i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 er mwyn dileu’r cyfeiriad at etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn drafft yn destun ymgynghoriad ochr yn ochr â’r Rheolau drafft sy’n llywodraethu etholiadau llywodraeth leol.
Adlewyrchu newidiadau a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU
Byddai’n ddefnyddiol cael barn rhanddeiliaid ar wahanol feysydd yn ymwneud â diwygio, y tynnwyd sylw atynt ym mhapur Llywodraeth y DU o dan y pennawd Restoring trust in our democracy: Our strategy for modern and secure elections. Yn arbennig meysydd a fyddai’n cael effaith ar y Rheolau Etholiadau Llywodraeth Leol pe bai darpariaeth debyg yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yn cael ei symud o 4pm i hanner dydd ar ddiwrnod olaf yr enwebiadau ym mhob pôl. Mae’n debyg y byddai hyn yn lleddfu’r pwysau ar swyddogion canlyniadau cyn y dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
Yn rhan o adolygiad Llywodraeth y DU, cafwyd hefyd amryw o argymhellion yn ymwneud â’r broses enwebu a throseddau cysylltiedig (nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rheolau hyn). Mae’r rhain yn cynnwys y dylai deddfwriaeth gael ei chyflwyno i sicrhau y caiff ffurflenni enwebu personau etholedig eu cadw am gyfnod eu tymor yn y swydd. O ran etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, nid yw’r papurau enwebu a’r ffurflenni cyfeiriad cartref ar gael i’w harchwilio o’r diwrnod pôl ymlaen. Rhaid i’r swyddog canlyniadau storio papurau enwebu (ac eithrio’r ffurflenni cyfeiriad cartref) yn ddiogel am flwyddyn rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer deisebau etholiadol ac oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyniadau. Mae argymhellion hefyd yn cynnwys cyflwyno mesurau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr lofnodi datganiad clir iawn ar y cyd â’u henwebiad.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi nodi ei bwriad i sefydlu prosiect i adolygu cynnwys ffurflenni cynnal etholiadau. Ar y pwynt hwn, byddai’n ddefnyddiol cael barn rhanddeiliaid ynghylch cynnal ymarfer o’r fath yng Nghymru, yn arbennig yn sgil diwygiadau i’r ffurflenni a nodir yn y Rheolau drafft a’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau a ddaeth i rym ar 18 Gorffennaf 2025.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi’n cytuno â’r darpariaethau ynglŷn â’r Gymraeg yn y Rheolau drafft?
Cwestiwn 2
Yn eich barn chi, a oes unrhyw ddiwygiadau i Reolau 2021 a fyddai’n helpu i sicrhau bod y ffurflenni rhagnodedig ar gael yn ddwyieithog?
Cwestiwn 3
Ydych chi’n cytuno â’r diwygiadau arfaethedig i’r ffurflenni rhagnodedig yn Rheolau 2021?
Cwestiwn 4
Ydych chi’n cytuno â’r ddarpariaeth newydd yn y Rheolau drafft i osod dyletswydd ar swyddogion canlyniadau i ddarparu cyfarpar sy’n rhesymol i sicrhau ei bod yn haws i bobl anabl bleidleisio?
Cwestiwn 5
Ydych chi’n cytuno â’r ddarpariaeth newydd yn y Rheolau drafft i ddiwygio’r iaith ynghylch anabledd?
Cwestiwn 6
Ydych chi’n cytuno â’r darpariaethau yn y Rheolau drafft i ddefnyddio disgrifiadau ar y cyd?
Cwestiwn 7
Ydych chi’n cytuno â’r darpariaethau yn y Rheolau drafft o ran gweithio yn electronig, sy’n gydnaws â phrosesau cyfatebol ar gyfer etholiadau i’r Senedd?
Cwestiwn 8
Ydych chi’n cytuno â’r darpariaethau yn y Rheolau drafft o ran defnyddio ystafelloedd cyhoeddus, i’w gwneud yn gydnaws â’r ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer etholiadau i’r Senedd?
Cwestiwn 9
Ydych chi’n cytuno â’r cywiriadau a’r mân ddiwygiadau yn y Rheolau drafft er mwyn adlewyrchu newidiadau eraill mewn mannau eraill, er enghraifft drwy’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau?
Cwestiwn 10
Ydych chi’n cytuno â’r egwyddor o gywiro’r cyfnod o chwe mis, fel bod y broses ar gyfer cynghorau tref a chymuned yr un fath â’r broses ar gyfer prif gynghorau?
Cwestiwn 11
Ydych chi’n cytuno â’r egwyddor o gysoni eithrio treuliau diogelwch rhag terfynau gwariant ymgyrchu ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol?
Cwestiwn 12
Beth yw eich barn ar y diwygiadau posibl a nodir ym mhapur strategaeth Llywodraeth y DU o ran etholiadau a gedwir yn ôl?
Cwestiwn 13
A yw’r ffurflenni presennol yn cyflawni’r pwrpas a fwriedir yn effeithiol?
Cwestiwn 14
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y Rheolau drafft a’r Gorchymyn drafft er mwyn gwneud y canlynol:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 15
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, rhowch wybod inni.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Ionawr 2026, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol.
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho ein ffurflen ymateb, ei llenwi a’i hanfon drwy e-bost i etholiadau.ymgynghoriad@llyw.cymru
- lawrlwytho ein ffurflen ymateb, ei llenwi a’i hanfon drwy’r post i:
Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn amlinellu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif Llywodraeth Cymru: WG53258
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
