Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Rwyf yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud yn y pum mlynedd ers i Lywodraeth y DU ddatganoli cyfrifoldeb dros etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd, drwy gyfrwng Deddf Cymru 2017. Rydym wedi deddfu i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg, gan roi llais i bobl iau yn y ffordd y mae eu gwlad yn cael ei rhedeg. Rydym wedi etholfreinio gwladolion tramor cymwys, i gydnabod cyfraniad pawb sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt.

Rydym hefyd wedi dechrau gosod y sylfeini ar gyfer system bleidleisio yr unfed ganrif ar hugain, gan gynnwys gwneud mwy o ddefnydd o offer digidol yn etholiadau lleol mis Mai 2022, a set glir o egwyddorion i lywio ein rhaglen ddiwygio tymor hwy: tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwella profiad dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb.

Dyma’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’n gweledigaeth ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Maent yn adlewyrchu blaenoriaeth glir y llywodraeth hon i sicrhau mwy o gyfranogiad gan bleidleiswyr a sicrhau bod pob dinesydd yn gallu chwarae ei ran lawn yn ein democratiaeth. Maent hefyd yn gwrthgyferbynnu â llawer o’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU, sydd, i bob golwg, wedi’u cynllunio i’w gwneud yn anoddach i bobl bleidleisio yn etholiadau’r DU.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau wrth ddatblygu ein gweledigaeth. Mae hon yn weledigaeth hirdymor, ac ni fydd popeth yn y papur hwn yn cael ei gyflawni dros nos. Nid yw’r ddogfen hon yn ymwneud â’r trefniadau newydd y mae’r Senedd wedi pleidleisio drosti ei hun i’w galluogi i wasanaethu pobl Cymru’n well, ond mae llawer o’r cynigion sydd yma’n helpu i redeg etholiadau’n fwy llyfn ac yn dod ag Aelodau’r Senedd yn nes at y cyhoedd.

Wrth gyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, hoffwn ddiolch i ddau grŵp o bobl yn benodol: yn gyntaf, pob person sy’n cyflwyno’i hun i weithio i’w cymuned. Mae’r mwyafrif llethol o bobl yn cael eu cymell go iawn gan wasanaeth cyhoeddus, ac rydym yn gweld hyn yn y gwaith bob dydd mewn cymunedau ledled Cymru. Yn ail, y bobl sy’n gweithio mor galed y tu ôl i’r llen drwy gydol y flwyddyn i wneud yn siŵr bod ein prosesau democrataidd yn gweithio’n ddidrafferth.

Mick Antoniw AS.

Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Pennod 1: cyflwyniad

Polisi etholiadau datganoledig

Cafodd y cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd ei ddatganoli drwy Ddeddf Cymru 2017. Yn y ddogfen hon drwyddi draw, cyfeirir at y rhain fel “etholiadau datganoledig”. Llywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am bolisi sy’n ymwneud ag etholiadau i Dŷ’r Cyffredin ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Cyfeirir at y rhain fel “etholiadau a gadwyd yn ôl” yn y ddogfen hon.

Yn 2017, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar flaenoriaethau i’w diwygio’n ddi-oed ym Mhapur Gwyn Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau datganoledig i 16 ac etholfreinio mwy o wladolion tramor sy’n byw yng Nghymru.

Cafodd y blaenoriaethau hyn eu deddfu drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. O ganlyniad i’r ddwy Ddeddf hyn, mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud ar gyfer etholiadau datganoledig, gan gynnwys:

  • Mae’r etholfraint wedi cael ei hymestyn i bobl ifanc 16 a 17 oed, a gwladolion tramor cymwys.
  • Gall awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle system y Cyntaf i’r Felin. Bydd rheolau drafft ar gyfer etholiadau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn eu cylch cyn bo hir. Rhaid i unrhyw Gyngor sy’n dymuno newid ei system bleidleisio ymgynghori’n lleol a phasio cynnig gan ddwy ran o dair o’i holl aelodau erbyn mis Tachwedd 2024, os yw’n dymuno cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cyffredin 2027.
  • Diweddaru’r gyfundrefn anghymhwyso fel bod gweithwyr llywodraeth leol nad ydynt mewn swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol yn gallu sefyll i gael eu hethol i’w cynghorau eu hunain heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf.

Mae’n bryd i ni gyflymu ein hagenda ddiwygio a dechrau gwireddu ein huchelgais i foderneiddio proses gweinyddu etholiadol yng Nghymru. Yn Rhaglen Lywodraethu 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd”. Mae’r Papur Gwyn hwn yn nodi beth fydd y diwygiadau hynny’n ei olygu, ond bydd llawer o’r cynigion hefyd yn cefnogi gwelliannau i Etholiadau’r Senedd.

Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol

Ar 15 Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio etholiadol. Roedd hwn yn egluro sut y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r diwygiadau ar draws y DU sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth San Steffan, a beth fyddai’n sail i ddiwygio etholiadau datganoledig yn y dyfodol.

Yn ganolog i’r fframwaith hwn roedd y chwe egwyddor ganlynol, a bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i feincnodi diwygio etholiadol ac arwain ein gwaith i gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad democrataidd. Mae’r egwyddorion hyn yn adlewyrchu sut mae system etholiadol gadarn yn rhan o’n hymdrechion i wella canlyniadau i bawb, gan gynnwys Nodau Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Rydym yn gwahodd sylwadau ar yr egwyddorion hyn.

  1. Tegwch: rhaid galluogi pob person sy’n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny, a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus, er mwyn i’n sefydliadau fod yn amrywiol ac yn gynrychioladol o’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
  2. Hygyrchedd: dylai newidiadau i systemau etholiadol a'r gyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, gan feithrin gallu i ganiatáu i hynny ddigwydd a hybu creadigrwydd ar bob lefel o ddemocratiaeth.
  3. Cyfranogiad: rydym am i gynifer o bobl â phosibl arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Rôl pawb sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadol yw cynyddu nifer y bobl sy'n dod i bleidleisio mewn etholiadau.
  4. Gwella profiad dinasyddion: Dylid rhoi'r adnoddau i ddinasyddion lunio eu cymunedau a'u gwlad drwy ymgysylltu, cynrychioli a chyfranogi.
  5. Symlrwydd: rhaid moderneiddio'r system etholiadol weinyddol a'r gyfraith etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cofrestru i bleidleisio, pleidleisio a chymryd rhan yn symlach i ddinasyddion.
  6. Uniondeb: rhaid i uniondeb a thryloywder fod yn sail i'r holl ddiwygiadau etholiadol yng Nghymru. Rhaid i ni gael system y mae dinasyddion yn ymddiried ynddi a rhannu gwybodaeth o ffynonellau dilys.

Diwygio’r Senedd

Ochr yn ochr ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio etholiadol, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i fwrw ymlaen â Diwygio’r Senedd, fel rhan o’i Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Ym mis Mehefin 2022, pleidleisiodd y Senedd dros gymeradwyo’r argymhellion yn Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru, adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol ar Ddiwygio’r Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i baratoi deddfwriaeth i roi’r argymhellion hyn ar waith. Mae hyn yn cynnwys un ar bymtheg o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd, pob un yn dychwelyd chwe aelod drwy system d’Hondt sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhanbarthau’r Senedd, ac ymrwymiadau i sicrhau amrywiaeth o aelodau.

Nid yw’r Papur Gwyn hwn yn trafod y ddeddfwriaeth i weithredu diwygiadau’r Senedd y cytunir arnynt, ond mae meysydd lle mae’r Papur Gwyn hwn yn ystyried y trefniadau newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd a newidiadau ehangach a fyddai’n cefnogi’r system newydd.

Strwythur y Papur Gwyn

Yn gyntaf, mae’r Papur Gwyn hwn yn nodi’r weledigaeth tymor hwy ar gyfer diwygio etholiadol.  Mae’n gofyn am farn ynghylch pa newidiadau a fyddai’n ddymunol yn y dyfodol ac y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried ymhellach. Wedyn, mae penodau yn nodi agweddau ar yr hyn ddylid ei ddiwygio’n ddi-oed, yn gyntaf symleiddio cofrestru etholiadol ac adnabod yn gliriach pwy yw etholwyr Cymru ym Mhennod 3. Wedyn, mae cynigion i wella prosesau gweinyddu etholiadau datganoledig ym Mhennod 4. Mae dulliau gweithredu i gefnogi pleidleiswyr ac ymgeiswyr i gymryd rhan mewn etholiadau wedi’u nodi ym Mhennod 5. Ym Mhennod 6, ceir ffyrdd y gellir moderneiddio etholiadau i ystyried gofynion newydd o ran technoleg a dinasyddion, ac yn olaf mae Pennod 7 yn nodi gwelliannau ehangach o ran sut mae democratiaeth leol yn gweithredu y tu hwnt i etholiadau.

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am bob agwedd ar y ddogfen hon, ond rydym hefyd wedi nodi meysydd o’r ddogfen sy’n debygol o fod o ddiddordeb arbennig i wahanol bobl er mwyn ei gwneud yn haws i chi ymateb. Efallai y bydd gweinyddwyr etholiadol am ganolbwyntio ar Benodau 3, 4 a 6 sy’n amlinellu ein cynigion ar gyfer symleiddio proses cofrestru etholiadol, cryfhau gweinyddu etholiadol a moderneiddio etholiadau Cymru. Gallai pleidleiswyr edrych yn benodol ar rannau o benodau 3, 5 a 6 sy’n ymwneud â’n cynigion ar gyfer cofrestru awtomatig, gwella cofrestru myfyrwyr a phobl ifanc, a gwella mynediad at y broses ddemocrataidd. Bydd gan ymgeiswyr ac aelodau etholedig ddiddordeb yn llawer o bennod 4 ar gryfhau proses gweinyddu etholiadol a rhannau o benodau 5 a 7 yn enwedig cynigion ar ddiogelwch ymgeiswyr, gwella amrywiaeth, hyfforddiant i aelodau etholedig a rheolau ynghylch cynghorwyr yn gwasanaethu fel aelodau o’r Senedd.

Pennod 2: gweledigaeth hirdymor ar gyfer etholiadau datganoledig

Mae’r Papur Gwyn hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer diwygio etholiadau datganoledig ar unwaith. Mae’n garreg filltir bwysig ar daith tymor hwy. Yn y dyfodol, bydd gennym ragor o uchelgeisiau.

Cyfnerthu’r gyfraith ar gyfer hygyrchedd a symlrwydd

Mae gennym uchelgais i gyfnerthu’r llyfr statud ar gyfer Cymru lle gallwn, i ddarparu fframwaith deddfwriaethol hygyrch a dwyieithog. Rydym yn cymryd y camau isod i gydgrynhoi’r gyfraith etholiadol yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig, fel rhan o’n nod tymor hwy o foderneiddio cyfraith etholiadol.

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, (“y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”) yn nodi'r rheolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau i Senedd Cymru. Mae’n nodi’r ffordd i gynnal yr etholiad a’r ymgyrch etholiadol, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer herio’r etholiad yn gyfreithiol.

Mae’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau wedi cael ei adolygu a’i ddiwygio cyn pob etholiad i’r Senedd. Cafodd ei wneud yn wreiddiol a’i ddiwygio wedyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, cyn i’r swyddogaeth o wneud y Gorchymyn gael ei throsglwyddo i Weinidogion Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017.

Gan fod y Gorchymyn gwreiddiol wedi’i wneud yn 2007, mae hwn yn gyfle gwerthfawr i ni gydgrynhoi ac ail-ddatgan y gyfraith fel rhan o fframwaith hygyrch a dwyieithog am y tro cyntaf. Wrth wneud hynny, byddwn yn ystyried yr egwyddorion sydd wedi’u nodi yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ac yn ceisio llunio Gorchymyn sy’n defnyddio iaith fodern a chlir sydd ar gael yn rhwydd i’r darllenydd.

Byddwn yn ceisio ymgynghori ar Orchymyn Cynnal Etholiadau cyfunol a dwyieithog ac ail-wneud y gorchymyn hwn cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026. Wrth ail-wneud y Gorchymyn, byddwn yn adlewyrchu unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i fwrw ymlaen â chynigion polisi a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod y Gorchymyn yn gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaethol sy’n ofynnol wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r cynigion y cytunwyd arnynt gan y Senedd ar gyfer diwygio’i hun yn ei dadl ar 8 Mehefin 2022.

Etholfreinio rhai carcharorion o Gymru

Roedd Papur Gwyn 2017 yn gofyn am farn ynghylch a ddylai rhai carcharorion o Gymru allu pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, gyda hanner cant y cant o’r ymatebwyr o blaid newid o’r fath a phedwar deg wyth y cant yn gwrthwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i etholfreinio rhai carcharorion o Gymru, oherwydd byddai cymryd rhan mewn democratiaeth yn cefnogi eu proses adsefydlu. Cefnogwyd hyn hefyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y pumed Senedd.

Bwriad Llywodraeth Cymru oedd cyflwyno gwelliant i’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn ystod ei daith drwy’r Senedd yn 2020 a fyddai wedi etholfreinio rhai carcharorion o Gymru ar gyfer etholiadau lleol. Ond, ar ôl gohirio proses craffu ar Gam 2 y Bil yn sgil argyfwng y Coronafeirws, cadarnhaodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd na fyddai’r gwelliant hwn yn cael ei osod gerbron y Senedd, ac ystyried y cymhlethdod wrth weithredu newid o’r fath ar adeg mor heriol.

Mae hyn yn dal yn flaenoriaeth ond mae gweithredu’n gofyn am berthynas fwy cydweithredol ac adeiladol gyda’r system cyfiawnder neilltuedig na’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd.  Mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu, mewn egwyddor, i garcharorion gael pleidleisio ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd cael cynnydd pellach. Felly, rydym wedi penderfynu peidio â chynnwys hyn yn ein rhaglen ddiwygio i ddigwydd yn awr, ond byddwn yn parhau i’w hystyried yn flaenoriaeth yn y tymor hwy. 

Pleidleisio electronig o bell/pleidleisio absennol ar-lein

Y ffordd symlaf o fynegi ein hegwyddorion Tegwch a Hygyrchedd yw y dylai pawb sy’n gymwys ac yn dymuno pleidleisio allu gwneud hynny. Ni ddylai neb golli eu cyfle i bleidleisio oherwydd yr anhwylustod ymarferol o wneud hynny.

I lawer o bleidleiswyr, byddai system fodern, ddiogel a hygyrch ar gyfer pleidleisio o bell ar-lein gan ddefnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar yn cael ei hystyried yn safon aur hwylustod. Roedd adroddiad y Comisiwn Etholiadol ym mis Hydref 2021 ‘The Future of Voting’ yn tynnu sylw at hyn fel yr opsiwn mwyaf poblogaidd ar gyfer moderneiddio etholiadau a bod disgwyliad ymhlith pleidleiswyr iau i gael yr opsiwn hwn.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r pryderon ynghylch diogelwch ac aros yn ddienw. Er nad yw’r lefel bresennol o dechnoleg a’r systemau etholiadol presennol o reidrwydd yn darparu’r sicrwydd a’r diogelwch angenrheidiol i gynnal etholiadau ar lefel genedlaethol, mae datblygiadau arloesol a thechnolegol yn parhau i gau’r bwlch.

Felly, nid ydym yn bwriadu deddfu ar gyfer pleidleisio electronig o bell yn y tymor byr. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod manteision posibl pleidleisio ar-lein, a byddwn yn parhau i ystyried potensial system o’r fath fel nod hirdymor.

Yn y cyfamser, byddwn yn ystyried sefydlu set o feini prawf ymarferol y byddai angen i system eu bodloni er mwyn ystyried ei gweithredu. Byddai’r rhain yn seiliedig ar ein hegwyddorion diwygio gan roi ystyriaeth benodol i degwch, uniondeb a chyfranogiad, a byddai tryloywder hefyd yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw system o’r fath.

Hyrwyddo Amrywiaeth mewn Democratiaeth

 Ar ôl cael sêl bendith y Senedd, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd integredig, gyda rhestrau ‘am yn ail’ gorfodol. Cynigiodd y Pwyllgor Diben Arbennig nifer o argymhellion eraill hefyd i gefnogi’r gwaith o gynyddu amrywiaeth aelodau’r Senedd fel cyhoeddi data ar amrywiaeth yr ymgeiswyr ac y dylid annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth ymysg aelodau etholedig lleol hefyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae aelodau etholedig lleol mewn sefyllfa freintiedig: maen nhw’n cael cyfleoedd i ystyried materion, eu trafod, pwyso a mesur y dystiolaeth o blaid gweithredu penodol ac ystyried goblygiadau’r camau hynny i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Mae cymunedau’n cynnwys unigolion, pob un ag anghenion a dyheadau gwahanol, o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol, ar draws ystod o oedrannau. Mae’n bwysig bod y rhai sy’n cael eu hethol i gynrychioli cymunedau yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon fel bod cymunedau’n hyderus bod pob persbectif a safbwynt yn cael eu hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n effeithio ar eu bywydau.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth leol ac mae wedi cynnal dau gam o’r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Arweiniodd hyn at newidiadau deddfwriaethol fel ymestyn darpariaethau absenoldeb teuluol ar gyfer cynghorwyr, rhannu swyddi ar gyfer aelodau gweithrediaeth, creu rôl cynorthwyydd gweithrediaeth a gwneud y ddarpariaeth ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad yn barhaol. Cafwyd gweithredu anneddfwriaethol hefyd, megis cynlluniau mentora ac ymgyrchoedd cyfathrebu.

Cyn hyn, roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi creu arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol, yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau holi eu cynghorwyr ynghylch amseriad cyfarfodydd, yn ogystal â chreu rôl pennaeth gwasanaethau democrataidd a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod cynghorwyr yn cael gafael ar gymorth i gyflawni eu rôl. Yn ddiweddar, rydym wedi cryfhau’r canllawiau statudol sy’n ymwneud â’r materion hyn. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi a gweithio’n frwd gyda phartneriaid i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol.

Cronfa Ddata Cymru

Mae Cronfa Ddata Cymru yn cynnig manteision posibl o ran cywirdeb data, canfod cofnodion dyblyg ar draws sawl cofrestr, codau adnabod unigryw unigol a swyddogaethau chwilio ledled Cymru. Mae’r manteision hyn yn arbennig o ddefnyddiol o ran diwygio etholiadol posibl yn y dyfodol megis cynlluniau pleidleisio yn unrhyw le a phleidleisio ymlaen llaw.

Roedd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cynnwys darpariaethau a oedd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu cronfa ddata Cymru o ddata cofrestru etholiadol. Cafodd hyn ei ddileu fel rhan o’r broses o ailasesu blaenoriaethau deddfwriaethol mewn ymateb i argyfwng y Coronafeirws.

Er bod rhanddeiliaid a Phwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Senedd yn croesawu’r ddarpariaeth ar gyfer cronfa ddata o’r fath i Gymru, codwyd materion yn ymwneud â phreifatrwydd, colli arbenigedd lleol wrth ymwneud â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a chost cronfa ddata o’r fath.

Mae’n debyg y byddai cronfa ddata ar gyfer Cymru yn ddefnyddiol i foderneiddio systemau cofrestru etholiadol er y gallai fod yn gryn gost ariannol ac amharu ar wasanaethau cofrestru. Bydd angen ystyried y dull gweithredu a’r manteision ychwanegol posibl y gallai system o’r fath eu cynnig.

Byddwn yn parhau i ystyried pa mor fanteisiol yw cronfa ddata Cymru a’r angen i ddeddfu ar gyfer darpariaeth o’r fath. Byddai’n dda clywed safbwyntiau’r gymuned etholiadol ynghylch pa mor fanteisiol fyddai cronfa ddata o’r fath a’r manteision neu’r costau posibl.

Monitro effaith deddfwriaeth bresennol

Mae meysydd yr hoffem ddeall barn pobl am oblygiadau ac effeithiolrwydd deddfwriaeth ddiweddar sy’n effeithio ar sut y caiff etholiadau yng Nghymru eu cynnal. Mae’r canlynol o ddiddordeb arbennig.

Etholiadau’n cyd-daro neu gyfuniadau o etholiadau: Deddf Diddymu a Galw Senedd y DU 2022

Mae etholiadau i’r Senedd a llywodraeth leol wedi bod yn wahanol bob amser i etholiadau Aelodau Senedd y DU, ond mae’r gwahaniaethau wedi dod yn fwy amlwg dros amser. Yn unol â Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011, roedd etholiadau San Steffan, i bob golwg, yn dilyn amserlenni mwy rhagweladwy, a symudodd etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol i gylchoedd tebyg er mwyn osgoi etholiadau i senedd San Steffan, a fyddai’n ddryslyd i bleidleiswyr ac yn gymhleth i weinyddwyr pe baent yn cyd-daro neu’n cael eu cyfuno.

Fe wnaethom ddadlau’n gryf gyda Llywodraeth San Steffan na ddylai diddymu’r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol, drwy Ddeddf Diddymu a Galw Senedd y DU 2022, arwain at gynnal etholiadau San Steffan ar yr un diwrnod ag etholiadau datganoledig. Yn ystod dadl yr ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi, ymrwymodd Gweinidog y DU y byddai’r Prif Weinidog yn ystyried dyddiadau etholiadau sydd wedi’u trefnu i ddeddfwrfeydd datganoledig. Byddwn yn parhau i bwyso am osgoi cyfuno neu gyd-daro rhwng etholiadau a gadwyd yn ôl a rhai sydd wedi’u datganoli.

Argraffnodau digidol: Deddf Etholiadau 2022

Gellir crynhoi darpariaethau Llywodraeth y DU a gyflwynwyd yn Neddf Etholiadau 2022 yn fras fel cyflwyno cyfundrefn argraffnodau digidol newydd, sy’n mynnu bod ymgyrchwyr gwleidyddol yn dangos yn benodol pwy ydyn nhw ac ar ran pwy maen nhw’n hyrwyddo deunydd ymgyrchu digidol. Unwaith y bydd mewn grym, bydd angen i bob deunydd gwleidyddol digidol y telir amdano gael argraffnod, ni waeth pwy sy’n ei hyrwyddo. Hefyd, bydd angen i rai ymgyrchwyr, fel cynrychiolwyr etholedig a phleidiau gwleidyddol gael argraffnod digidol ar eu deunydd organig os yw’n ddeunydd etholiad digidol, deunydd refferendwm neu ddeunydd deiseb adalw.

Ym mis Mawrth 2022, rhoddodd y Senedd ei chaniatâd i’r darpariaethau ar gyfer argraffnodau digidol fod yn berthnasol i etholiadau datganoledig. Mae hyn yn golygu bod cysondeb yn y gofynion sy’n berthnasol i ddeunydd ymgyrchu digidol a ddefnyddir yn etholiadau’r Senedd, llywodraeth leol, San Steffan a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi argymell rhoi caniatâd i’r gofynion hyn fod yn berthnasol i etholiadau datganoledig, er mwyn i etholiadau fod yn symlach i bleidleiswyr ac ymgeiswyr neu asiantau. Fe wnaethom ddatgan hefyd, gan fod y cyfrifoldeb dros etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd wedi’i ddatganoli, ei bod yn briodol i’r Senedd graffu ar reolau etholiadau o’r fath.

Os caiff y drefn ledled y DU ei gweithredu yn ôl y disgwyl drwy is-ddeddfwriaeth, nid ydym yn disgwyl y byddai angen i ni lunio gofynion gwahanol ar gyfer deunydd ymgyrchu digidol mewn etholiadau datganoledig.

Er ein bod yn gosod safon uchel ar gyfer ystyried rheolau gwahanol yn y maes hwn, ac ystyried y gallai hyn beri dryswch a chymhlethdodau sylweddol o ran gorfodi lle gallai fod yn aneglur a yw deunydd ymgyrchu digidol yn ymwneud ag etholiadau datganoledig neu etholiadau a gadwyd yn ôl, efallai y bydd angen i ni ddod yn ôl at hyn os nad yw’r drefn ledled y DU yn mynd rhagddi yn ôl y disgwyl.

Enwebiadau Ar-lein - Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021/Rheolau 2021

Ar gyfer yr etholiadau lleol ym mis Mai 2021, roedd modd ffeilio enwebiadau ymgeiswyr ar-lein. Mae’r datblygiad newydd hwn wedi cael ei drafod yn helaeth gyda gweinyddwyr etholiadol, yn enwedig y cydbwysedd rhwng hwylustod a chyflymder yn erbyn cywirdeb a’r heriau a ddaw yn sgil ffeilio enwebiadau electronig yn hwyr.

Mewn rhai ardaloedd, cafodd porth ar-lein ei ddefnyddio ar gyfer enwebiadau. Roedd yn ymddangos bod hyn yn helpu i leihau gwallau ac yn gwella’r broses ar gyfer gweinyddwyr etholiadol ac ymgeiswyr neu asiantau. Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru wedi cynnal adolygiad i edrych ar yr opsiynau posibl ar gyfer hyn, ac efallai y bydd angen i ni ddiweddaru deddfwriaeth i gefnogi datblygiadau newydd yn y maes hwn.

Hyd tymor: Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Mae prif gynghorau a Chynghorau Tref a Chymuned yn gweithredu erbyn hyn am gyfnod o bum mlynedd rhwng etholiadau. Cafodd hyn ei gyflwyno i gyd-fynd â chylchoedd etholiadau eraill, gyda’r bwriad o leihau’r tebygolrwydd y bydd etholiadau’n cyd-daro roedd hyn cyn i Ddeddf Diddymu a Galw Senedd y DU 2022 gael gwared ar reoleidd-dra etholiadau Tŷ’r Cyffredin.

Er bod cefnogaeth eang i’r ddarpariaeth hon wrth graffu ar Ddeddf 2021, mae safbwyntiau gwahanol o hyd ynghylch a fyddai cyfnod o bedair neu bum mlynedd yn well ar gyfer aelodau llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys y cydbwysedd o bleidleiswyr yn cael eu grymuso i gadw golwg ar eu cynrychiolwyr etholedig, a gallu’r cynghorau o ran cynllunio yn y tymor hwy i wneud newidiadau sylweddol yn lleol. Byddai cyfnod byrrach rhwng etholiadau hefyd yn cyfyngu ar y potensial i gynnal adolygiadau etholiadol (a drafodir isod), a’r amser i brif gynghorau ddewis y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, ac mae’n rhaid gwneud y penderfyniad ynghylch hyn erbyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn dair blynedd cyn yr etholiad cyffredin nesaf (tua deunaw mis ar ôl etholiad yn y cylch 5 mlynedd presennol).

Pennod 3: symleiddio cofrestru etholiadol yng Nghymru

Ailddatgan yr etholfraint

Er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio mewn Senedd neu etholiad lleol yng Nghymru, rhaid i berson

  • fod yn gymwys i gael ei gofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth
  • bod o oedran pleidleisio 16 oed ar ddiwrnod pleidleisio
  • peidio â bod yn anghymwys i bleidleisio yn ôl y gyfraith
  • bodloni un o’r meini prawf canlynol ar genedligrwydd:
    • bod naill ai’n ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys yn y Gymanwlad neu’n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon;
    • yn ddinesydd tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon (gyda chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU neu ddim angen caniatâd o’r fath)
    • yn ddinesydd un o wledydd yr UE

Mae’r etholfraint bresennol ar gyfer etholiadau datganoledig, fel y nodir uchod, yn adlewyrchu’r diwygiad drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ers datganoli’r cyfrifoldeb dros etholiadau. Roedd y ddwy Ddeddf hyn yn diwygio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gyda chysylltiad â Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae'r darpariaethau presennol sy’n nodi’r etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yn ddi-drefn, ac mae hyn yn creu cymhlethdod i’r rheini sy’n gyfrifol am ddehongli’r ddeddfwriaeth a’r rheini sy’n gyfrifol am weinyddu etholiadau.

Hefyd, gan nad yw’r DU bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE), nid yw’r sail gyfreithiol dros roi hawliau pleidleisio awtomatig a hawl ymgeisio i holl ddinasyddion yr UE yn bodoli mwyach.  Felly, rydym yn ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i’r etholfraint i adlewyrchu’r ffaith nad oes gan ddinasyddion yr UE hawl awtomatig i bleidleisio yn y DU mwyach.  Un opsiwn yw trin dinasyddion yr UE yn yr un ffordd ag yr ydym yn trin dinasyddion tramor o wledydd eraill, ac opsiwn arall yw cysoni hawliau pleidleisio â statws mewnfudo.  Efallai y bydd angen i ni hefyd ystyried effaith y cytundebau hawliau pleidleisio ac ymgeisio cyfatebol. 

Rydym yn ystyried ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau Cymru mewn un Ddeddf ddwyieithog a diweddaru’r etholfraint a hawliau ymgeisyddiaeth ar gyfer dinasyddion yr UE gan fod y DU wedi gadael yr UE.

Cofrestru awtomatig

I fod ar y gofrestr etholiadol, rhaid i bleidleiswyr yn y DU gymryd rhan yn y broses Cofrestru Etholiadol Unigol yn flynyddol ar hyn o bryd. Mae’r system hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gysylltu â phob aelwyd naill ai i wirio’r data etholiadol presennol neu i weld a oes pleidleiswyr newydd, a fydd yn cael eu gwahodd wedyn i wneud cais i fod ar y gofrestr.

Yn 2017 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ehangu’r dulliau sydd ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Roedd yr ymgynghoriad Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru  yn gofyn, “A ddylai swyddogion cofrestru etholiadol fod â mwy o ddewis o ffynonellau ar gael iddynt i helpu dinasyddion i gael eu hychwanegu i’r gofrestr?”.
 Roedd y cwestiwn hwn yn cynnwys cofrestru awtomatig fel opsiwn. Roedd 77 y cant o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai fod ystod wych o ffynonellau ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, gan gynnwys cofrestru awtomatig.

Cafodd y cynigion hyn eu datblygu yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn gwneud darpariaeth i Swyddog Cofrestru Etholiadol mewn awdurdod lleol gofrestru pleidleisiwr heb gais gan ddefnyddio data lleol i adnabod y person. Nid oedd y darpariaethau hyn yn orfodol ac nid ydynt wedi cychwyn eto. Nid yw’r opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd.

Ni chafodd y darpariaethau eu cychwyn oherwydd y newidiadau mawr a oedd yn digwydd i’r broses canfasio flynyddol, ac fe wnaethom gefnogi ymdrechion i ganolbwyntio ar weinyddu’r gwaith o ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig. Roeddem hefyd yn awyddus i sicrhau bod y pleidleiswyr mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu gan unrhyw system gofrestru awtomatig a bod y prosesau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mor syml â phosibl.

Ar ôl ystyried hyn ymhellach, rydym nawr yn cynnig rhai newidiadau i’r darpariaethau presennol a’i gwneud yn orfodol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Byddai hyn yn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu unrhyw un at gofrestr etholiadol llywodraeth leol (sydd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Senedd) gan ddefnyddio data sydd gan yr awdurdod lleol. Credwn y byddai hyn o fudd arbennig i’r rhai 16 a 17 oed sydd newydd gael eu hetholfreinio a dinasyddion tramor cymwys yng Nghymru, a fydd yn cael eu cefnogi drwy’r broses hon i sicrhau eu hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig. Rydym hefyd yn credu y bydd gwneud y broses cofrestru yn fwy syml ar gyfer y grwpiau hyn yn eu helpu i ddatblygu eu perthynas â democratiaeth yng Nghymru, a gallai hyn gynyddu cyfranogiad yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.

Ar ôl edrych yn fanwl ar y defnydd o gofrestrau etholiadol, rydym yn cynnig dileu’r gofrestr agored ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu na fyddai modd gwerthu data pleidleiswyr ar y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru i rai trydydd partïon. Ond, byddai’r data’n dal ar gael i’r sefydliadau a’r asiantaethau hynny y mae’r gyfraith yn darparu ar eu cyfer ar hyn o bryd (er enghraifft, at ddibenion etholiadol, archwiliadau statws credyd a dibenion gorfodi’r gyfraith).

Rydym yn gofyn am farn am y ffordd orau o wneud y broses gofrestru awtomatig mor hawdd â phosibl i’r pleidleiswyr ond gan ddiogelu’r rheini a fyddai’n dymuno cofrestru’n ddienw. Rydym hefyd yn gofyn am farn ynghylch y ffordd orau o gasglu a defnyddio data a gedwir yn lleol i sicrhau bod cofrestr etholiadol llywodraeth leol yn aros mor gywir â phosibl ac yn defnyddio data o’r ansawdd gorau.

Rydym yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i gynnal cyfres o gynlluniau peilot yn y dyfodol ar gofrestru etholwyr yn awtomatig. Bydd y cynlluniau peilot hyn yn canolbwyntio ar y ffordd orau o gasglu data, sut mae defnyddio’r data presennol yn fwyaf effeithiol i adnabod etholwyr a chadarnhau pwy ydyn nhw, a’r ffordd orau o gyfathrebu ag etholwyr. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan awdurdodau lleol a fyddai’n fodlon cymryd rhan yn y cynlluniau peilot hyn er mwyn iddyn nhw allu gweithio gyda ni i ddatblygu’r rhaglen dros y misoedd nesaf.

Gwella cyfraddau cofrestru ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc

Mae cyfraddau cofrestru a chyfranogiad myfyrwyr prifysgol yng Nghymru mewn etholiadau yn is ar gyfartaledd. Gall nifer o rwystrau atal myfyrwyr rhag bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, er enghraifft, mae symud cyfeiriad yn fwy rheolaidd yn golygu bod ymdrechion traddodiadol i gofrestru, fel Llythyrau Hysbysu i Gartrefi, yn llai effeithiol.

Rydym yn cynnig rhoi cyfle i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio yn ystod eu hwythnos gofrestru yn y coleg drwy gytundeb rhannu data rhwng eu prifysgol ac Awdurdod Lleol perthnasol y myfyriwr. Gallai hyn ddigwydd ar unwaith drwy gynnwys ffurflen gwahoddiad i gofrestru i bleidleisio yn y pecyn gwybodaeth y mae myfyrwyr yn ei gael yn ystod y cyfnod cofrestru yn y coleg. Gallai prifysgolion gael y ffurflen hon a’i gwirio cyn ei hanfon at Dîm Gwasanaethau Etholiadol yr Awdurdod Lleol perthnasol a fyddai’n gallu ychwanegu’r myfyriwr at y gofrestr. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y broses hon yn effeithiol iawn o ran ymgysylltu â myfyrwyr, gan eu helpu i fod yn ymwybodol o’u hawliau yn yr ardal maen nhw’n cael eu haddysgu ynddi, a’u helpu i gofrestru i bleidleisio. Dywedodd Cyngor Caerdydd fod eu cytundeb rhannu data â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 wedi arwain at gofrestru 8,340 o fyfyrwyr.

Rydym yn awyddus i weithio gydag Awdurdodau Lleol a  sefydliadau yn y sector addysg uwch yng Nghymru i sefydlu model lle mae cytundebau rhannu data, ar gyfer y broses cofrestru i bleidleisio yn unig, ar waith ledled Cymru. Hefyd, byddai mwy o rannu data yn gallu helpu gyda chofrestru awtomatig fel y nodir uchod.

Mae nifer y myfyrwyr prifysgolion sy’n cofrestru i bleidleisio yn bryder, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am hyn ac am ddefnyddio’r dull hwn i geisio mynd i’r afael â’r broblem. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â’r cynlluniau peilot arfaethedig ar gyfer cofrestru awtomatig hyd nes i’r gwaith hwnnw fynd y tu hwnt i’r cyfnod peilot. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gwaith cofrestru myfyrwyr prifysgolion yn dod yn rhan o gofrestru awtomatig.

Pennod 4: cryfhau gweinyddu etholiadol

Y Bwrdd Rheoli Etholiadol

Ar hyn o bryd, nid oes corff statudol yn gyfrifol am gydlynu etholiadau ar gyfer Cymru. Sefydlwyd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (WECB) yn 2017 gyda chylch gwaith o gydlynu digwyddiadau a gweithgarwch etholiadol, moderneiddio a diwygio. Mae hefyd yn hyrwyddo ac yn cefnogi mwy o gydweithio rhwng Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid allweddol eraill. Fel arfer, mae’n cynnwys y pum Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol, sydd â rôl ffurfiol ar hyn o bryd mewn perthynas â phum rhanbarth etholiadol y Senedd.

Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn gorff anstatudol, gwirfoddol a hwylusir gan y Comisiwn Etholiadol. Nid yw’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau gymryd rhan nac ystyried trafodaethau neu argymhellion y Bwrdd. Yn yr Alban, y corff sy’n chwarae rôl debyg ond mwy swyddogol yw Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban, a sefydlwyd gan Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol Leol (Yr Alban) 2011. Mae gan y Bwrdd swyddogaethau cyffredinol o gydlynu’r gwaith o weinyddu etholiadau seneddol yr Alban, ac etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban.

Rydym yn cynnig deddfu i sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol yng Nghymru (“y Bwrdd”) a fyddai’n cyflawni swyddogaethau yn annibynnol ar y llywodraeth sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Gallai’r swyddogaethau a gyflawnir gan y Bwrdd ddatblygu dros amser yn unol â diwygio etholiadol yn y dyfodol.

Yn ein cynnig, byddai’r Bwrdd yn dod â chynrychiolwyr o’r gymuned etholiadol broffesiynol ynghyd gan fod yn atebol i’r Senedd. Byddai ei rôl yn wahanol i waith y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, ond byddai’n ategu’r gwaith hwnnw.

Wrth hwyluso cydweithrediad a chyd-gefnogaeth rhwng swyddogion cofrestru etholiadol a swyddogion canlyniadau, byddai’r Bwrdd mewn sefyllfa dda i gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch gallu timau etholiadau lleol. Drwy roi sail statudol i’r Bwrdd, rydym hefyd yn cynnig y byddai modd i gadeirydd y Bwrdd, ar ôl ymgynghori ag aelodau eraill, allu gwneud cyfarwyddiadau a rhoi cyngor mewn meysydd lle byddai sefyllfa gyson ar gyfer Cymru yn fuddiol. Dyma sy’n digwydd gyda Chynullydd Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban. Un enghraifft lle gallai pŵer cyfarwyddo fod yn ddefnyddiol fyddai wrth ddehongli a defnyddio canllawiau fel y gwelwyd mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Byddai’n gweithredu’n annibynnol ar y llywodraeth, ac o’r herwydd mae’n bosibl i’r Bwrdd ddarparu llwyfan niwtral ar gyfer cynnal gwybodaeth a chyfeirio at ffynonellau dibynadwy eraill o wybodaeth etholiadol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth i bleidleiswyr am sut mae cofrestru neu fwrw eu pleidlais, neu am ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau. Byddai hyn yn cefnogi ein huchelgais i wella hygyrchedd drwy ddarparu gwybodaeth sydd ar gael yn hawdd i unrhyw un sydd ei hangen. Pe byddem yn bwrw ymlaen â’r cynnig hwn, byddem am ddiogelu’r Bwrdd rhag y cyfrifoldeb dros blismona cynnwys y deunydd y mae’n ei gynnal, er enghraifft ar ran ymgeiswyr.

Rôl arall y gallai’r Bwrdd ei chwarae fyddai comisiynu a chyhoeddi data ac ymchwil. Byddai hyn yn galluogi’r Bwrdd i gynghori Gweinidogion Cymru a’r Senedd ar faterion sy’n ymwneud â chyflwr democrataidd y wlad er enghraifft, y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau, ac yn enwedig cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Ar ôl cwblhau’r rhaglen deng mlynedd o adolygiadau etholiadol prif gynghorau yn ddiweddar, arweiniodd hyn at well trefniadau etholiadol ar gyfer pleidleiswyr a chynghorau ledled Cymru. Ar ôl ei chwblhau, yn sgil trafodaethau gyda llywodraeth leol, CLlLC a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn), nodwyd gwelliannau posibl i’r broses adolygu a allai gefnogi’n well y nod o gael llywodraeth leol effeithiol a hwylus.

Mae rhan o’r diwygiadau y mae’r Senedd wedi cytuno arnynt ar ei chyfer hi ei hun yn effeithio ar y Comisiwn. Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd ailsefydlu ac ailenwi’r Comisiwn i adlewyrchu swyddogaeth newydd o gynnal adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd. Nid yw’r materion hyn yn cael eu hystyried yn y papur ymgynghori hwn.  Ond, rydym yn cynnig newid enw Pwyllgor Archwilio presennol y Comisiwn yn Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio, a diwygio ei swyddogaethau mewn unrhyw ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r Papur Gwyn hwn. Byddai hyn yn sicrhau bod craffu o fewn y Comisiwn yn seiliedig ar yr arferion gorau presennol.

Adolygiadau Etholiadol o’r Prif Gynghorau

Cyfnod ar gyfer gwneud Gorchmynion Adolygiadau Etholiadol

Mae adran 29(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 (Deddf 2013) yn gwahardd y Comisiwn rhag cyhoeddi unrhyw adolygiadau etholiadol o brif gynghorau yn ystod y cyfnod o naw mis neu lai cyn diwrnod etholiad cyffredin cynghorau. Pwrpas y ddarpariaeth hon oedd sicrhau bod y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal prif gyngor yn sicr, fel bod gan brif gynghorau, timau etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac eraill ddigon o amser i baratoi ar gyfer yr etholiadau gyda ffydd yn y sicrwydd hwnnw.

Ond, nid oes darpariaeth debyg i atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud gorchmynion adolygiadau etholiadol yn ystod y cyfnod hwn. Er y gall Gweinidogion Cymru ddewis peidio â gwneud adolygiadau o dan adran 37(1)(b) o Ddeddf 2013 a bod confensiwn Gould yn awgrymu na ddylid gwneud deddfwriaeth etholiadol chwe mis neu lai cyn etholiad, nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud gorchymyn adolygiad etholiadol yn ystod y cyfnod hwn. Nid ydym yn credu bod deddfwriaeth bresennol a’r confensiwn yn rhoi digon o sicrwydd i bleidleiswyr, ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, na rhanddeiliaid eraill na fydd gorchmynion yn cael eu gwneud cyn etholiadau cyffredin cynghorau. Felly, rydym yn cynnig cadarnhau mewn deddfwriaeth na chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion adolygiad etholiadol mewn unrhyw gyfnod o chwe mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cynghorau, a bydd hyn yn dileu unrhyw ansicrwydd posibl.

O ganlyniad i hyn, rydym yn bwriadu diwygio’r amserlen a bennir yn adran 29(8) o Ddeddf 2013 fel na allai’r Comisiwn gyhoeddi adroddiadau terfynol neu argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif gynghorau o fewn cyfnod penodol (naill ai deuddeg neu bymtheg mis) cyn etholiad cyffredin cynghorau. Mae angen i ni sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth yn rhoi digon o amser i Weinidogion Cymru ystyried adroddiadau terfynol y Comisiwn, gan gynnwys a gofynnwyd i’r Comisiwn ailedrych ar ran o adolygiad (gweler adrannau 4.33 i 4.34). Byddai’r ddarpariaeth sy’n atal Gweinidogion Cymru ar hyn o bryd rhag gwneud penderfyniadau a gorchmynion yn ystod y cyfnod o chwe wythnos o ddyddiad derbyn adroddiad terfynol (Adran 37(3) o Ddeddf 2013) yn cael ei chadw (pwrpas y cyfnod hwn yw rhoi cyfle i bleidleiswyr ac eraill gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch adroddiad terfynol y Comisiwn). Rydym hefyd yn cynnig egluro’r diben hwn yn y gyfraith (gweler adran 4.32).

Y Cyfnodau Mwyaf ar gyfer Cynnal Adolygiad a Gwneud Penderfyniadau

Ar hyn o bryd, nid yw Deddf 2013 yn cynnwys unrhyw gyfnod mwyaf ar gyfer cynnal adolygiad na chyfnod mwyaf ar ôl derbyn adroddiad terfynol pan fydd yn rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a fyddant yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu’n penderfynu peidio â gweithredu.

Er bod trefniadau etholiadol newydd, yn dilyn casgliad adolygiad etholiadol, yn dod i rym yn ymarferol yn etholiad cyffredin nesaf cynghorau, gall cyfnodau adolygu estynedig ac absenoldeb penderfyniadau greu ansicrwydd etholiadol. Felly, rydym yn cynnig mai 15 mis ddylai’r cyfnod mwyaf fod ar gyfer cynnal adolygiad etholiadol gan y Comisiwn, a dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau naill ai i weithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau neu hebddynt, neu dylid gwneud penderfyniadau i beidio â gwneud gorchymyn o fewn tri mis i dderbyn yr adroddiad terfynol gan y Comisiwn. Byddai hyn yn helpu i ymgysylltu’n ystyrlon ac yn benodol gyda rhanddeiliaid yn ystod cyfnod yr adolygiad ac yn sicrhau bod y trefniadau etholiadol mor gyfoes a pherthnasol ag y bo modd.

Gohirio Adolygiadau

Mae adran 14 o Ddeddf 2013 yn rhoi pŵer cyfarwyddo cyffredinol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r Comisiwn, ac mae adran 48 o'r Ddeddf honno yn nodi pwerau penodol Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau mewn perthynas â chynnal yr holl ddosbarthiadau adolygu a nodir yn Rhan Tri o'r Ddeddf honno. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys pŵer i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiadau etholiadol o brif gynghorau mewn trefn ar wahân i’r hyn sy’n ymddangos yn eu rhaglen deng mlynedd a gyhoeddir, ac i gyfarwyddo bod adolygiad o dan Ran Tri o Ddeddf 2013 yn cael ei atal. Ond, nid yw’r pwerau hyn yn darparu’n benodol i Weinidogion Cymru ohirio adolygiad etholiadol.

Mae argyfyngau diweddar yn iechyd y cyhoedd yn awgrymu y gallai fod o fudd i Weinidogion Cymru gael pwerau mwy penodol yn hyn o beth. Rydym yn cynnig mai ‘stopio’r cloc’ dros gyfnod yr adolygiad fyddai effaith y gohirio, ac yna pan gaiff ei ailgychwyn, byddai angen cwblhau’r adolygiad yn ystod gweddill y cyfnod mwyaf yn hytrach nag ymestyn y cyfnod mwyaf ar gyfer cwblhau adolygiad. 

Rhaglen Ddeng Mlynedd o Adolygiadau Etholiadol

Mae adran 29(1) a (2) o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad etholiadol o drefniadau etholiadol pob prif ardal o leiaf unwaith bob deng mlynedd, a pharatoi a chyhoeddi rhaglen ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau hynny.

Rydym yn bwriadu diwygio’r darpariaethau hyn i egluro bod gofyniad ar y Comisiwn i ymgynghori â’r canlynol wrth baratoi’r rhaglen i gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol:

  • cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
  • cynghorau Tref a Chymuned
  • awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • awdurdodau Tân ac Achub
  • awdurdodau Iechyd Porthladdoedd
  • comisiynydd y Gymraeg
  • undebau Llafur
  • chyrff eraill sydd i'w pennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru

Byddwn yn diwygio’r Ddeddf i ddarparu ar gyfer rhestr gyffredin o ymgyngoreion gorfodol ar gyfer y rhaglen ddeng mlynedd, y broses cyn-adolygu ac ymgynghori ar y cynigion drafft ar gyfer trefniadau etholiadol. Byddwn yn cynnal y ddarpariaeth i’r Comisiwn ymgynghori ag unrhyw bersonau neu sefydliadau eraill a fyddai, yn ei farn ef, â diddordeb yn yr adolygiad.

Hefyd, rydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ei fod yn trefnu adolygiadau etholiadol ddim hwyrach na dwy flynedd ar ôl i adolygiad cymunedol ddod i ben (gweler isod). Bydd hyn yn sicrhau bod y trefniadau etholiadol ar gyfer etholiadau cyffredin nesaf cynghorau yn gyfredol.

Ennyn Diddordeb Pleidleiswyr

Mae Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn hanfodol i bleidleiswyr cymwys (rydym yn golygu pawb sydd â hawl i bleidleisio yn etholiadau’r prif gynghorau, pa un a ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio ai peidio) gael cymaint o gyfle â phosibl i fod yn rhan o’r trefniadau a fydd yn penderfynu yn y pen draw sut y byddant yn cael eu cynrychioli ar eu cynghorau sir neu eu cynghorau bwrdeistref sirol, ac i fod yn rhan o siapio’r trefniadau hynny. Felly, rydym yn bwriadu cryfhau’r gofyniad i’r Comisiwn ddangos bod ganddo drefniadau ar waith i sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl i bleidleiswyr chwarae rhan. Felly, byddwn yn:

  • ychwanegu pleidleiswyr llywodraeth leol at y rhestr o ymgyngoreion gorfodol (ni fydd hyn yn golygu darparu copïau o adroddiadau iddynt)
  • ei gwneud yn ofynnol i’r weithdrefn a’r fethodoleg ar gyfer adolygiadau (adran 34(2) o Ddeddf 2013) gynnwys trefniadau i sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl i geisio barn pleidleiswyr llywodraeth leol yn uniongyrchol
  • darparu mewn canllawiau statudol a wneir o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod prif gynghorau yn nodi yn eu strategaethau cyfranogiad sut y byddant yn ceisio ac yn galluogi i farn pleidleiswyr gael ei chasglu a’i hystyried fel rhan o’r broses adolygu

Enwau Wardiau

Roedd yn glir yn yr ymateb gan y cyhoedd i’r ymgynghoriad ar adroddiadau’r adolygiadau etholiadol drafft a therfynol yn y cylch deng mlynedd a gwblhawyd yn ddiweddar, fod diddordeb a brwdfrydedd mawr ynghylch enwi wardiau etholiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo y dylid rhoi lle mwy canolog i hyn yn y broses adolygu, ac y dylai’r fethodoleg a’r dull o bennu enwau wardiau gael eu nodi’n glir ac y dylid ymgynghori yn eu cylch yng ngweithdrefn a methodoleg y Comisiwn ar gyfer cynnal adolygiadau. Rydym felly’n cynnig cyflwyno deddfwriaeth i wneud hyn yn ofyniad.

Mae adran 29(9)(d) o Ddeddf 2013 yn cynnwys enw unrhyw ward etholiadol yn y diffiniad o drefniadau etholiadol. Rydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol wrth ystyried enw ward etholiadol, fod angen i’r Comisiwn ddangos yn ei adroddiadau ei fod wedi ystyried enw Cymraeg a Saesneg pob ward yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw. Fel rhan o hyn, byddwn yn gofyn i’r Comisiwn gyhoeddi enwau wardiau yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’u hadroddiadau a’u dogfennau. Bydd hyn yn galluogi etholwyr a rhanddeiliaid eraill i ystyried yn haws y dull a ddefnyddir i adnabod yr enwau wardiau a argymhellir.

Ystyriaethau ar gyfer adolygu Trefniadau Etholiadol Prif Ardaloedd

Mae adran 30 o Ddeddf 2013 yn nodi’r ystyriaethau y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried wrth wneud argymhellion mewn perthynas â threfniadau etholiadol prif gyngor.

Mae dwy ran i’r ystyriaethau hyn. Yn gyntaf, mae adran 30(1) yn darparu bod yn rhaid i’r Comisiwn:

  1. ceisio sicrhau bod y gymhareb etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau'r cyngor sydd i'w hethol yr un fath ym mhob ward etholiadol yn y brif ardal, neu cyn agosed ag y bo modd
  2. rhoi sylw i:
    • ba mor fanteisiol yw pennu ffiniau wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod ac a fydd yn parhau i fod yn hawdd eu hadnabod
    • pa mor fanteisiol yw peidio â thorri cysylltiadau lleol wrth bennu ffiniau wardiau etholiadol​

Yn ychwanegol at yr adran hon, mae adran 30(2) yn nodi “At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid ystyried:

  1. unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel y nodir gan ystadegau swyddogol perthnasol)
  2. unrhyw newid i nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad

Mae hyn yn creu argraff mai nifer bresennol yr etholwyr llywodraeth leol cofrestredig yw’r ffactor pwysicaf i’w ystyried, ac nad yw gwahaniaethau rhwng etholwyr cofrestredig a’r boblogaeth neu newidiadau yn y dyfodol mor bwysig a bod modd rhoi llai o bwys iddynt. Nid dyma fwriad y ddeddfwriaeth, gan fod yn rhaid i bob adolygiad etholiadol fod yn ddigon cadarn i ddarparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a hwylus am y deng mlynedd nesaf o leiaf. Er eglurder, rydym yn bwriadu mynegi’r meini prawf hyn mewn ffordd sy’n sicrhau nad oes amheuaeth bod yn rhaid ystyried yr holl ffactorau hyn a’u pwysoli’n gyfartal yn ystod yr ymgynghori a’r trafodaethau ar y trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.

Fel rhan o drafodaethau gyda rhanddeiliaid, nodwyd ystyriaethau pwysig eraill a all effeithio ar nifer y cynghorwyr a maint ward etholiadol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • a oes poblogaeth myfyrwyr
  • a oes nifer sylweddol o ymwelwyr
  • a oes nifer o fusnesau
  • a yw’r ward yn drefol ynteu’n wledig
  • lefelau amddifadedd yn y ward arfaethedig

Felly, rydym hefyd yn bwriadu deddfu i ymestyn yr ystod o ystyriaethau y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu hystyried wrth lunio ei argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol. Byddwn yn gofyn i’r Comisiwn nodi ac ymgynghori ar sut y bydd yn cydbwyso’r ystyriaethau hyn wrth nodi ei argymhellion drafft a therfynol, ac yn ei weithdrefn a’i fethodoleg ar gyfer adolygiadau etholiadol.

Gofyniad i’r Comisiwn nodi’r setiau data a ddefnyddir fel sail i’w adolygiad

Wrth gynnal adolygiadau etholiadol, mae’r Comisiwn yn defnyddio nifer o setiau data ac mae’n debygol y bydd yn rhaid iddo ddefnyddio hyd yn oed mwy o setiau i gyflawni’r gofynion a nodir yn y cynigion hyn. Dylai pawb y mae’r adolygiad yn effeithio arnynt allu deall pa setiau data sy’n cael eu defnyddio. Felly, byddwn yn gofyn i’r Comisiwn nodi’r wybodaeth hon yn ei weithdrefn a’i fethodoleg a’i adroddiadau cynigion drafft a therfynol.

Ymgynghoriad Pellach ar Argymhellion yn yr Adroddiad Terfynol

O’r sylwadau a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru ar nifer o adroddiadau terfynol yn y broses adolygu etholiadol deng mlynedd a gwblhawyd yn ddiweddar, ac o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ehangach, lle mae’r argymhellion terfynol yn cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau etholiadol newydd nad oeddent yn opsiwn yn yr adroddiad cynigion drafft, roedd hi’n glir y dylid ymgynghori’n benodol ac ymhellach â’r pleidleiswyr a’r cynghorwyr yn y wardiau y mae’r cynigion diwygiedig hynny’n effeithio arnynt. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, rydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal ymgynghoriad penodol arall gyda’r pleidleiswyr a’r cynghorwyr hyn cyn gallu paratoi’r adroddiad terfynol a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru. Bydd yn ofynnol hefyd i’r Comisiwn alluogi’r holl ymgyngoreion gorfodol ac eraill sydd, ym marn y Comisiwn, â diddordeb yn yr adolygiad, i gyflwyno ymatebion pellach ar yr elfen hon o’r adolygiad yn unig.

Cyflwyno Adroddiadau Terfynol i Weinidogion Cymru

Mae adran 37(3) o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru aros am gyfnod o chwe wythnos cyn cymryd camau i weithredu unrhyw argymhellion o’r adolygiad y mae’n gyfrifoldeb arnynt i’w gweithredu neu benderfynu peidio â gweithredu. Mae hyn yn berthnasol i weithredu’r argymhellion naill ai gydag addasiadau neu hebddynt. Cyfeirir at y cyfnod hwn yn aml fel ‘cyfnod sylwadau’ lle gall pleidleiswyr a rhanddeiliaid eraill gyflwyno eu safbwyntiau am yr argymhellion terfynol mewn adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru. Rydym yn bwriadu deddfu i egluro mai ar gyfer y broses hon y mae’r cyfnod o chwe wythnos, ac na fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nac yn gweithredu argymhellion adolygiad hyd nes y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Byddwn hefyd yn egluro na all Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn, penderfynu peidio â gweithredu nac anfon yr adroddiad at y Comisiwn i’w ystyried ymhellach, hyd nes y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Hefyd, ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau maen nhw wedi’u derbyn am yr adroddiad argymhellion terfynol, cyn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn, peidio â chymryd unrhyw gamau neu anfon yr adroddiad at y Comisiwn i’w ystyried ymhellach.

Gweithredu yn dilyn Adolygiad Etholiadol

Mae adran 37 o Ddeddf 2013 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gweithredu’r argymhellion sydd yn adroddiadau terfynol y Comisiwn. Mae’r pwerau’n cynnwys derbyn yr holl argymhellion, gwrthod yr argymhellion, neu eu haddasu. Nid yw addasu’n bosibl oni bai fod Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai hynny’n gwella’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a hwylus ar ôl ystyried y meini prawf y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu defnyddio i gynnal adolygiadau etholiadol fel y nodir yn adran 30 o Ddeddf 2013 (a drafodir uchod).

Ar hyn o bryd, nid oes gan Weinidogion Cymru y pŵer, ar ôl ystyried y meini prawf hyn, i gyfarwyddo’r Comisiwn i ailystyried ac ymgynghori eto ar ran o adolygiad etholiadol. Rydym yn cynnig cyflwyno pŵer o’r fath ond ei fod wedi’i gyfyngu i sefyllfaoedd lle mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion wedi arwain at gynigion ar gyfer llywodraeth leol fwy effeithiol a hwylus ond, ar ôl ystyried y meini prawf a’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod sylwadau o chwe wythnos, fod Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad y gellid gwella trefniadau mewn ward benodol neu gasgliad o wardiau. Rydym o’r farn y byddai hyn yn arwain at ragor o dryloywder yn y broses, gan alluogi ymgynghori’n uniongyrchol â phleidleiswyr a chymunedau y mae’r trefniadau’n effeithio arnynt yn benodol ac iddynt allu rhoi mewnbwn penodol i unrhyw gynigion pellach, yn ogystal â’r holl ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill sydd â diddordeb.

Cyhoeddi a Dosbarthu Copïau Caled o Adroddiadau a Dogfennau eraill

Yn olaf, rydym yn bwriadu dileu unrhyw ofynion sydd yn y ddeddfwriaeth bresennol ar y Comisiwn sy’n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu copïau caled o adroddiadau a dogfennau eraill. Bydd hyn yn cael gwared â baich sylweddol ar y Comisiwn ac yn adlewyrchu’r arferion presennol. Byddwn yn cadw gofyniad i’r Comisiwn sicrhau bod copïau caled, gan gynnwys ar ffurfiau hygyrch, ar gael ar gais.

Adolygiadau Cymunedau

Mae adran 22 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau fonitro'r cymunedau a'u trefniadau etholiadol yn eu hardal. Wrth wneud hynny, rhaid i gynghorau roi sylw i’r rhaglen deng mlynedd o adolygiadau etholiadol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Wrth adolygu’r trefniadau cymunedol a’r trefniadau etholiadol cysylltiedig, rhaid i’r cyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus, rhoi unrhyw wybodaeth i’r Comisiwn y gall fod ei hangen arno ac, unwaith bob deng mlynedd, cyhoeddi adroddiad yn disgrifio sut mae wedi cyflawni’r dyletswyddau hyn, ac anfon copi o’r adroddiad at y Comisiwn.

Mae profiad o’r rhaglen ddiweddar o adolygiadau etholiadol yn awgrymu nad yw’r darpariaethau hyn yn ddigon cadarn i sicrhau bod modd cyflawni llywodraeth leol effeithiol a hwylus gyda threfniadau cymunedol a threfniadau etholiadol prif gynghorau yn y ffordd fwyaf effeithlon neu mewn ffordd sy’n galluogi pleidleiswyr i ymgysylltu â’r broses gan fod yn gwbl ymwybodol o oblygiadau’r ddwy broses.

Felly, rydym yn cynnig cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad llawn o’i holl gymunedau a’u trefniadau etholiadol cysylltiedig unwaith bob deng mlynedd. Byddai’r cyfnod deng mlynedd hwn yn gysylltiedig â’r cyfnod deng mlynedd y mae’r Comisiwn yn ei bennu ar gyfer ei raglen adolygiadau etholiadol, a bydd yn ofynnol i brif gynghorau a’r Comisiwn gyflawni eu dyletswyddau i sicrhau bod y prif gyngor wedyn yn gallu cyflawni ei ddyletswydd i gwblhau adolygiad cymunedol cyn cwblhau adolygiad etholiadol.

Rydym hefyd yn cynnig cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau adrodd yn flynyddol i’w cyngor llawn ynghylch eu cymunedau a’u trefniadau etholiadol cymunedol, gan gynnwys crynodeb o unrhyw orchmynion lleol a wnaed yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal ag anfon copi o’r adroddiad hwn at y Comisiwn, fel maen nhw eisoes yn ei wneud, rhaid anfon copi o’r adroddiad hefyd at Weinidogion Cymru. Credwn fod adroddiad blynyddol yn hanfodol i ddangos ystyriaeth weithredol o’r ddyletswydd i adolygu cymunedau a’u trefniadau etholiadol ac i sicrhau bod pleidleiswyr a chymunedau’n teimlo bod eu pryderon yn cael sylw mewn modd amserol.

Byddwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gyhoeddi unrhyw orchmynion lleol mewn adran benodol ar eu gwefan ac anfon copïau electronig at y Comisiwn ac at Weinidogion Cymru. Mae’r gorchmynion hyn yn gonglfeini hanfodol ar gyfer adolygiadau etholiadol prif gynghorau ac maent yn rhan annatod o allu’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn y cyswllt hwn. Felly, byddwn yn deddfu i sicrhau na fydd y gorchmynion lleol hyn yn gallu dod i rym nes bydd y ddyletswydd i anfon copïau o’r gorchmynion lleol i’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cael ei chyflawni. Ar ben hynny, er mwyn sicrhau tryloywder ac un gronfa ddata o’r gorchmynion hyn, rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi’r gorchmynion ar ei wefan.

Yn ogystal, pan fydd cyngor cymuned yn gofyn am newid enw o dan adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, byddwn yn cadw’r gofyniad i’r prif gyngor ddarparu hysbysiad o’r newid i’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru, ond rydym yn cynnig na all y newid enw ddod i rym hyd nes y bydd y ddyletswydd i roi hysbysiad i’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cael ei chyflawni.  Mae’r wybodaeth hon hefyd yn hanfodol er mwyn galluogi’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas ag adolygiadau etholiadol. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor gadw rhestr gyfredol o ardaloedd cymunedol a’u henwau mewn man penodol ar eu gwefannau. Byddwn hefyd yn gofyn i’r Comisiwn gynnal a chyhoeddi ar ei wefan gofrestr gyfun o enwau ardaloedd cymunedol a chynghorau cymuned.

Mae adolygiadau cymunedol yn cymryd llawer o amser ac mae’n briodol bod cyfnodau hir o ymgynghori yn digwydd â chymunedau lleol. Fodd bynnag, yn yr un modd ag adolygiadau etholiadol, maen nhw’n colli eu gwerth a’u perthnasedd os byddan nhw’n cael eu cynnal dros gyfnod rhy hir. Felly, rydym yn bwriadu pennu cyfnod mwyaf ar gyfer cynnal adolygiad cymunedol o 24 mis a gofyniad o dri mis ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid gweithredu’r argymhellion ar ôl cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

Fel y nodwyd uchod, wrth gyflawni eu dyletswydd o dan adran 22 o Ddeddf 2013 rhaid i brif gynghorau geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Mae adran 33 o Ddeddf 2013 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau ynteu a ddylid cael un etholiad i’r gymuned gyfan. Wrth wneud hyn, rhaid iddo ystyried nifer y pleidleiswyr yn y gymuned ac a yw hyn yn debygol o newid yn ystod y pum mlynedd nesaf, unrhyw anghysondebau rhwng pleidleiswyr cofrestredig a’r boblogaeth, unrhyw gysylltiadau lleol a pha mor fanteisiol yw pennu ffiniau y gellir eu hadnabod yn hawdd.

Fodd bynnag, o ran penderfynu ar ardaloedd cymunedol, nid yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn nodi unrhyw ystyriaethau penodol i’w hystyried. Hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn ynghylch a ddylid cael rhagor o ystyriaethau ac, os felly, beth ddylai’r rhain fod. Gallai enghreifftiau gynnwys ystyriaethau tebyg i’r rheini sy’n ymwneud ag adolygiadau etholiadol: cymunedau trefol a gwledig, myfyrwyr ac ymwelwyr dydd, amddifadedd, nifer y busnesau yn ogystal â pha mor fanteisiol yw pennu ffiniau cymunedol sy’n hawdd eu hadnabod, cysylltiadau cymunedol, poblogaeth heddiw ac yn y dyfodol, a’r gwahaniaeth rhwng pleidleiswyr cofrestredig a’r boblogaeth.

Yn ddiweddar, mae’r Comisiwn wedi diwygio ei ganllawiau i brif gynghorau ar gynnal adolygiadau cymunedol, ond rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymgynghori a nodi gweithdrefn a methodoleg ar gyfer adolygiadau cymunedol i’w defnyddio ganddo ef ei hun a phrif gynghorau wrth gynnal adolygiadau, tebyg i’r gofyniad yn adran 34(2) o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiadau etholiadol prif gynghorau. Rydym yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru gael y pŵer i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i adolygiadau cymunedol gael eu cynnal yn unol â chanllawiau a roddir ganddyn nhw neu yn unol ag unrhyw ganllawiau eraill a gyhoeddir gan gyrff eraill, y gall Gweinidogion Cymru eu pennu mewn rheoliadau.

Yn yr un modd ag adolygiadau etholiadol, nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn darparu ar gyfer ail-ymgynghori ar ran o adolygiad cymunedol llawn hynny yw, adolygiad o’r holl ardaloedd cymunedol mewn ardal prif gyngor, cyn gweithredu adroddiad argymhellion terfynol. Nid yw ychwaith yn darparu’n benodol ar gyfer gohirio adolygiad cymunedol llawn (ceir cyfeiriad penodol at atal adolygiad cymunedol). Rydym yn bwriadu deddfu i alluogi cynnal adolygiadau rhannol ar gais y corff sy’n gwneud penderfyniadau, y Comisiwn, neu Weinidogion Cymru, ar ôl cwblhau’r adroddiadau argymhellion terfynol ac ar gyfer gohirio adolygiad cymunedol.

O ran gohirio adolygiad cymunedol llawn, rydym yn cynnig y dylai Gweinidogion Cymru gael pŵer cliriach i ohirio adolygiad cymunedol am yr un rhesymau ag a nodir mewn perthynas ag adolygiadau etholiadol, fel iechyd y cyhoedd neu argyfwng arall.

Byddai’r trefniadau rydym wedi’u hawgrymu uchod ar gyfer adolygiadau etholiadol prif gynghorau mewn perthynas ag ymgyngoreion gorfodol, hefyd yn berthnasol yn achos adolygiadau cymunedol, felly hefyd y cynigion sy’n ymwneud â newidiadau yn yr adroddiad argymhellion terfynol nad ymgynghorwyd arnynt yn yr adroddiad drafft.

Yn yr un modd, rydym yn bwriadu egluro pwrpas y ‘cyfnod sylwadau’ o chwe wythnos yn adran 38 o Ddeddf 2013 yng nghyswllt cynnal adolygiadau cymunedol.  Byddai hyn yn golygu y dylai’r Comisiwn drin y cyfnod chwe wythnos hwn fel cyfnod ymgynghori pellach lle gellir derbyn sylwadau gan bartïon â diddordeb, ac mae’n rhaid iddo wedyn eu hystyried fel rhan o’i broses gwneud penderfyniadau ar argymhellion yr adroddiad terfynol. Ni fyddai ychwaith yn gallu gwneud unrhyw orchmynion na phenderfyniadau i gynnal ei adolygiad ei hun yn ystod y cyfnod hwnnw o 6 wythnos.

Rydym hefyd yn bwriadu dileu unrhyw ofynion sy’n ymwneud â dosbarthu copïau caled o adroddiadau a dogfennau eraill mewn perthynas ag adolygiadau cymunedol, ond byddwn yn cadw gofyniad i gopïau caled, gan gynnwys ar ffurfiau hygyrch, fod ar gael ar gais. Ar ben hynny, byddwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiadau sy’n ymwneud ag adolygiadau cymunedol yn nodi’n glir y setiau data sy’n sail i’w ystyriaethau.

Ffiniau Atfor

Mae adrannau 28 o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth i’r Comisiwn adolygu ffiniau atfor ardaloedd llywodraeth leol (a siroedd a gedwir), tra bo adran 46 yn nodi i ba raddau y mae rhannau o lannau’r môr ac ymestyniadau o’r môr (boed yn naturiol neu’n artiffisial) eisoes yn ffurfio rhan o’r cymunedau maen nhw’n perthyn iddynt.

Cafodd y darpariaethau eu dwyn ymlaen o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a chawsant eu gwneud cyn y posibilrwydd o ddatblygiadau fel môr-lynnoedd llanw. Credwn ei bod yn debygol y gallai Cymru weld mwy o gynigion ar gyfer datblygiadau o’r fath, ac mae’n bwysig bod y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ffiniau atfor yn cael ei hystyried o ran ei haddasrwydd i’r diben i ddarparu ar gyfer datblygiadau o’r fath, a allai gwmpasu ffiniau atfor sawl ardal llywodraeth leol neu fynnu bod ffin atfor ardal neu ardaloedd yn cael ei hymestyn a’i chwtogi wedyn i ddarparu ar gyfer adeiladu. Felly, rydym yn bwriadu adolygu’r darpariaethau hyn i sicrhau bod y sail ddeddfwriaethol ar gyfer adolygiadau ffiniau atfor yn addas i’r diben. Yn benodol, rydym yn cynnig galluogi i’r trefniadau ar gyfer sawl ardal llywodraeth leol ac ehangu a chwtogi ffiniau atfor gael eu gwneud fel rhan o un adolygiad ac i unrhyw argymhellion, os cânt eu derbyn, gael eu gwneud neu eu haddasu mewn un gorchymyn.

Materion yn ymwneud ag Adolygiadau Etholiadol ac Adolygiadau eraill nad oes angen deddfwriaeth ar eu cyfer

Mae adolygiadau etholiadol ac adroddiadau adolygu eraill yn gymhleth ond mae angen iddynt fod ar gael yn rhwydd i amrywiaeth eang o randdeiliaid a phartïon sydd â diddordeb, gan na fydd pawb yn arbenigwyr proffesiynol neu dechnegol. Byddwn felly’n gweithio gyda’r Comisiwn i wella hygyrchedd adroddiadau a data drwy ddefnyddio cyfleoedd digidol fel porth mapio ac arferion gorau mewn dulliau adrodd hygyrch.

Swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Ym mis Hydref 2021, fe wnaethom gyhoeddi Adolygiad Deng Mlynedd o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (yr adolygiad). Roedd yr adroddiad annibynnol yn gwneud argymhellion mewn perthynas â gweithrediad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) a’r gefnogaeth ysgrifenyddol y mae’n ei chael gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cytuno â’r argymhelliad y dylai’r gefnogaeth ysgrifenyddol i’r Panel gael ei darparu gan gorff heblaw Llywodraeth Cymru, a fyddai’n atgyfnerthu annibyniaeth y Panel wrth iddo weithio, ac yn osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau o fewn Llywodraeth Cymru. Rydym felly’n cynnig galluogi’r Comisiwn (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru presennol) i ddarparu cefnogaeth ysgrifenyddol, gan dynnu’r swyddogaeth oddi ar Lywodraeth Cymru. Mae’r Comisiwn eisoes yn gorff corfforaethol, a gall gyflogi staff, dal asedau, llunio cyfrifon, ac mae’n ofynnol iddo gael pwyllgor archwilio. Rydym yn credu, felly, yn ogystal â mynd i’r afael â’r argymhelliad yn yr Adolygiad sy’n ymwneud â’r swyddogaeth ysgrifenyddol, y bydd y trefniadau hyn yn darparu ar gyfer mwy o dryloywder ac effeithlonrwydd o ran y ffordd mae’r Panel yn gweithredu.

Rydym yn cynnig symud cam ymhellach na’r hyn a argymhellir yn yr Adolygiad drwy ddiddymu’r Panel a throsglwyddo ei swyddogaethau i’r Comisiwn. Byddai hyn yn golygu mai un set o gomisiynwyr fyddai’n pennu nifer y cynghorwyr ledled Cymru, y trefniadau etholiadol, a thaliadau cydnabyddiaeth cynghorwyr. Mae cryn synergedd yn y gwaith hwn, sy’n dibynnu ar yr un data sy’n ymwneud â rôl cynghorwyr, y materion sy’n effeithio ar y rôl honno a dealltwriaeth o’r cymunedau y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli.

Byddai’r swyddogaethau sydd i’w trosglwyddo yn cynnwys y rheini sydd wedi’u nodi ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n ymwneud â thaliad cydnabyddiaeth aelodau etholedig awdurdodau perthnasol a swyddogaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (adrannau 142 i 144) (Deddf 2021) sy’n rhoi swyddogaethau penodol i’r Panel os bydd dau brif gyngor neu ragor yn uno’n wirfoddol neu ffurf arall ar ailstrwythuro.

Fel rhan o’r trosglwyddo, rydym yn bwriadu dileu’r swyddogaeth a nodir yn adran 143A o Fesur 2011 mewn perthynas â thaliad cydnabyddiaeth prif weithredwyr prif gynghorau. Cafodd y ddarpariaeth hon ei hychwanegu mewn ymateb i set benodol o amgylchiadau nad ydynt yn berthnasol mwyach, ac erbyn hyn mae dulliau eraill, megis y gofyniad i gyhoeddi datganiadau ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38 i 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn bodoli i sicrhau tryloywder mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer taliadau cydnabyddiaeth i weithiwr lefel uchaf y prif gynghorau.

Rydym hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylid egluro’r swyddogaethau sy’n cael eu trosglwyddo er mwyn galluogi’r Comisiwn i ystyried taliadau ‘parasiwt’ ar gyfer aelodau etholedig lleol fel rhan o becyn taliadau cydnabyddiaeth cyflawn y cynghorwyr. Mae taliadau parasiwt ar gael i aelodau Senedd y DU a’r Senedd pan fydd ymgeiswyr wedi sefyll mewn etholiad ond heb gael eu hail-ethol. Mae’r taliadau weithiau’n cael eu trin fel taliadau dileu swydd i weithwyr ac maent yn gysylltiedig â hyd amser yn y swydd etholedig. Mae hyn yn cydnabod bod y rolau hyn yn rhai llawn amser a bod unigolion wedi mynd heb gyflogaeth amser llawn neu heb ddatblygu eu gyrfa er mwyn ymgymryd â’r rolau hyn. Mae’n bosibl y bu galwadau blaenorol am i daliadau parasiwt fod ar gael i aelodau etholedig lleol ar sail debyg. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn ynghylch a ddylid galluogi hyn.

Darpariaeth Arbed, Dechnegol, Ganlyniadol a Throsiannol

Rydym yn cynnig gwneud unrhyw ddarpariaeth arbed, ganlyniadol neu drosiannol angenrheidiol i gefnogi’r cynigion hyn yn ôl yr angen, er enghraifft, trosglwyddo swyddogaethau presennol y Panel yn raddol, gan arbed effaith unrhyw un o’i benderfyniadau blaenorol, a sicrhau bod adolygiadau etholiadol a chymunedol a ddechreuwyd o dan ddeddfwriaeth flaenorol yn gallu cael eu cwblhau a’u rhoi ar waith ar y sail y cychwynnwyd hwy. Hefyd, mae nifer fach o newidiadau cyfreithiol technegol y bwriadwn eu gwneud i adran 38 o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â phwerau gwneud gorchmynion y Comisiwn i sicrhau y gall wneud unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer y trefniadau ymarferol y gall fod eu hangen i roi gorchymyn adolygiad cymunedol ar waith, er enghraifft, trosglwyddo staff o un cyngor cymuned i un arall.

Cyllid ymgyrchu, treuliau a gwariant pleidiau gwleidyddol

Mae’r fframwaith rheoleiddio presennol sy’n rheoli gwariant a chyllid (cyllid gwleidyddol) ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr trydydd parti ac ymgyrchwyr eraill wedi’i gynnwys yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Roedd Rhan 4 o Ddeddf Etholiadau’r DU 2022 yn ehangu ac yn cryfhau’r gyfraith ynghylch cyllid gwleidyddol drwy:

  • egluro’r rheolau ar wariant tybiannol
  • cryfhau’r rheolau fel bod gwariant trydydd parti yn cael ei gyfyngu i endidau yn y DU ac etholwyr tramor cymwys yn unig
  • sicrhau mwy o dryloywder ynghylch ymgyrchu trydydd parti

Roedd hefyd yn darparu ar gyfer newidiadau i gofrestru pleidiau gwleidyddol ac yn gwahardd cofrestru deuol i atal pleidiau ac ymgyrchwyr rhag ymestyn eu terfynau gwario yn annheg.

Er y bydd y diwygiadau sy’n ymwneud â chofrestru pleidiau gwleidyddol yn berthnasol i etholiadau San Steffan, etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau datganoledig yng Nghymru, mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â gwariant tybiannol, a’r rheini sy’n cryfhau’r rheolau ynghylch gwariant trydydd parti, yn berthnasol i etholiadau San Steffan ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr yn unig. O ganlyniad, yn y dyfodol bydd gwahaniaeth yn y rheolau cyllid gwleidyddol fel y maent yn berthnasol i etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig yng Nghymru. Gall hyn greu dryswch ymhlith pleidleiswyr a chymhlethdod gweinyddol i'r gymuned etholiadol.

Bob tro y bydd polisïau’n cael eu cysoni, rydym am gael fframwaith rheoleiddio clir a chyson ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig yng Nghymru cyn belled ag y bo modd. Credwn y byddai hyn o fudd i bleidleiswyr, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr.  Felly, pan fo’n briodol, rydym yn cynnig cyflwyno darpariaethau cyfatebol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru. Gallai hyn olygu:

  • eglurhad o’r gyfraith mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol fel mai dim ond am wariant tybiannol y bydd angen i ymgeiswyr roi gwybod amdano (hynny yw, defnyddio eiddo ac ati ar ran ymgeiswyr neu eraill) maen nhw neu eu hasiant etholiadol wedi cyfarwyddo, awdurdodi neu annog rhywun arall i’w ddefnyddio ar ran yr ymgeisydd. Ni fyddent yn gyfrifol am roi gwybod am fuddion mewn nwyddau neu wasanaethau nad oeddent yn gwybod amdanynt.  Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i gymhwyso’r un egwyddor i wariant gan ymgyrchwyr eraill, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol, yn ystod cyfnodau a reoleiddir mewn perthynas ag etholiadau annibynnol y Senedd (hynny yw, lle nad yw’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd yn gorgyffwrdd â’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau senedd y DU)
  • cyfyngu ar ymgyrchu trydydd parti yn ystod cyfnod a reoleiddir cyn etholiadau annibynnol y Senedd i grwpiau sy’n gymwys i gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol yn unig, gan ddileu’r cwmpas ar gyfer gwariant gan ymgyrchwyr trydydd parti tramor nad ydynt yn gymwys. Gallai hyn hefyd olygu bod gan Weinidogion Cymru bŵer i ddiwygio’r rhestr o ymgyrchwyr cymwys a bennir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda ar gyfer cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau o’r fath
  • eglurhad o’r gyfraith mewn perthynas â thalu treuliau drwy asiantau etholiadol i sicrhau bod trydydd partïon yn gallu ysgwyddo a thalu am dreuliau awdurdodedig, yn hytrach na bod yn rhaid talu’r treuliau hynny drwy asiant yr ymgeisydd maen nhw’n ei hyrwyddo
  • cyflwyno terfyn gwariant haen is ar gyfer hysbysu gwariant ymgyrchwyr trydydd parti
  • byddai’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn gallu/wedi’i gyfarwyddo i ddarparu arweiniad mewn perthynas ag unrhyw newidiadau o’r fath

Cynlluniau Peilot Etholiadol

Ym mis Gorffennaf 2021, fe wnaethom wahodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion i dreialu gwahanol ffyrdd o bleidleisio, a arweiniodd at bedwar awdurdod yn treialu system pleidleisio ymlaen llaw yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Roeddem am weld a allem wneud y broses etholiadol yn fwy hygyrch, a chafodd pleidleiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen gyfle i bleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio, ac roedd ganddynt ddewis hefyd ynghylch lle roedden nhw’n pleidleisio.

Cyflwynwyd y cynlluniau peilot dan Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol amrywio rheolau etholiadol ar gyfer etholiadau lleol, os bydd Gweinidogion yn cymeradwyo hynny. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol dreialu prosesau arloesol yn y meysydd canlynol:

  • pryd, ble a sut mae’r pleidleisio yn cael ei gynnal yn yr etholiadau
  • sut mae'r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiadau i gael eu cyfrif a sut gweinyddir yr etholiad ar ôl bwrw'r pleidleisiau
  • ymgeiswyr yn anfon gohebiaeth etholiadol yn rhad ac am ddim drwy’r post

Cafodd gwerthusiad annibynnol o’r cynlluniau peilot a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol ei gyhoeddi ar 2 Awst 2022. Mae’r profiad o gynnal cynlluniau peilot a gwerthusiad y Comisiwn Etholiadol ohonynt wedi rhoi tystiolaeth ddefnyddiol ynghylch sut mae datblygiadau arloesol mewn etholiadau’n gweithio’n ymarferol, yn ogystal â nodi meysydd y byddai angen rhoi sylw iddynt cyn y gellid ystyried cyflwyno proses pleidleisio ymlaen llaw ymhellach.  O ran cynlluniau peilot posibl yn y dyfodol, rydym yn debygol o fod eisiau profi rhagor o ddatblygiadau ym maes gweinyddu etholiadol sy’n ymateb i newidiadau mewn ffordd o fyw a thechnolegau sy’n datblygu, a byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth a ddarperir gan y cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw ac adroddiad y Comisiwn Etholiadol i ystyried y ffyrdd gorau o gynllunio, datblygu a chyflwyno cynlluniau peilot mewn meysydd eraill o weinyddu etholiadol.  Er enghraifft, rydym wrthi’n ystyried cyfres o gynlluniau peilot ar gyfer cofrestru er mwyn pennu’r ffordd fwyaf effeithiol a chywir o gofrestru pleidleiswyr heb gais. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn am y mathau eraill o gynlluniau peilot yr hoffai’r gymuned etholiadol eu cyflwyno a pha ddatblygiadau etholiadol eraill y gellid eu treialu. Gallwn ystyried a oes modd cyflawni’r rhain o fewn y pwerau presennol neu a fyddai angen ehangu’r pwerau hynny er mwyn eu cyflawni.

Er bod yn rhaid i Weinidogion gymeradwyo cynigion peilot a gyflwynir gan awdurdodau, nid yw’r pŵer presennol yn caniatáu i Weinidogion gyfarwyddo awdurdodau i gynnal cynlluniau peilot. Er ei fod yn dda bod cynlluniau peilot mis Mai 2022 wedi cael eu cyd-gynllunio gan yr awdurdodau a gymerodd ran, y gymuned etholiadol a Llywodraeth Cymru, dim ond pedwar awdurdod, pob un yn ne Cymru, a ymatebodd yn gadarnhaol i’n gwahoddiad i gyflwyno cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw.

Ar gyfer cynlluniau peilot yn y dyfodol, byddai gennym ddiddordeb mewn cymysgedd mwy amrywiol o awdurdodau gan gynnwys mewn gwahanol ranbarthau neu awdurdodau gwledig. Rydym o’r farn y byddai’n bosibl cyflawni hyn drwy roi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau i gymryd rhan mewn cynllun peilot, neu drwy ddulliau cyfathrebu ac ymgysylltu cynharach ac amrywiol i’w hannog i gymryd rhan.

Swyddogion Canlyniadau a gofynion yn ymwneud â’r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg pan fydd etholiadau’n cael eu cynnal yng Nghymru.

Yn ystod y craffu deddfwriaethol ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mynegwyd pryderon nad oedd swydd Swyddogion Canlyniadau yn gorfod dilyn unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â’r Gymraeg. Felly, ymrwymodd Gweinidogion i ystyried y mater hwn mewn deddfwriaeth yn y dyfodol ar ddiwygio prosesau gweinyddu etholiadol.

Hyd yma, mae Swyddogion Canlyniadau, yn ymarferol, wedi bod yn cydymffurfio ag ysbryd Safonau’r Gymraeg wrth ddarparu rhai gwasanaethau. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu ar gyfer pennu safonau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg, a elwir yn Safonau'r Gymraeg.

Fodd bynnag, mae’r mater hwn yn eithaf cymhleth oherwydd mae rhai materion rhyng-gysylltiedig i’w hystyried. Yn gyntaf, mae rôl y Swyddogion Canlyniadau yn amrywiol ac yn dibynnu ar y math o etholiad a’i ofynion cyfreithiol (gan gynnwys pan fydd pleidleisiau cyfun mewn etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl); yn ail, eu hannibyniaeth statudol fel deiliaid swydd, ac yn olaf, eu hatebolrwydd dros yr etholiadau sy’n cael eu gweinyddu.

Nid yw Swyddogion Canlyniadau yn dod o dan un o’r categorïau o gyrff a restrir yn Atodlen 6  o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol arnynt ar hyn o bryd i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Fodd bynnag, mae canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn nodi bod:

“yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru hefyd ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy’n gofyn bod gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu darparu’n gyfartal yn Gymraeg ac yn Saesneg”.

Pennod 5: adeiladu iechyd democrataidd

Adran A: ar gyfer pleidleiswyr

Mae corff eang o ymchwil yn dadlau bod diffyg gwybodaeth ar gael i bleidleiswyr sydd o ansawdd ac sy’n hygyrch. Mae’r adroddiad The Doing Democracy Better, sy’n seiliedig ar ymchwil gan Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain, yn nodi bod:

“pleidleiswyr yn cael eu siomi’n ddifrifol ar hyn o bryd gan ansawdd gwybodaeth a thrafodaeth ymgyrchoedd.”

Mae diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth yn rhwystr allweddol i bobl rhag cymryd rhan mewn bywyd democrataidd, gan gynnwys etholiadau. Un o ganfyddiadau allweddol ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2020 oedd bod:

“diffyg gwybodaeth, meddwl bod gwleidyddiaeth yn anneniadol a dadrithiad cyffredinol gyda gwleidyddion yn rhwystrau blaenllaw i bleidleisio.”

Nid dim ond i etholiadau y mae’r diffyg gwybodaeth hwn yn berthnasol, ond i wleidyddiaeth yn fwy cyffredinol. Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil eu bod yn drysu ynghylch y gwahaniaethau rhwng lefelau’r llywodraeth a phwy sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau.

Mae awdurdodau lleol a’r Comisiwn Etholiadol yn darparu gwybodaeth i bleidleiswyr am y gofrestr etholiadol, y ffyrdd o bleidleisio, pryd mae etholiad yn cael ei gynnal, a manylion pleidleisio. Ond, nid yw gwybodaeth am ymgeiswyr a/neu bleidiau gwleidyddol i helpu pleidleiswyr i wneud penderfyniad gwybodus ar gael neu nid yw’n hygyrch. Mae gwybodaeth ehangach am bwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiad yn fwy amrywiol byth.

Gwybodaeth Hygyrch i Bleidleiswyr

 Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth o sefydliadau’n darparu gwybodaeth i bleidleiswyr. Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae ganddo ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o systemau etholiadol (adran 13 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000). Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynnal ymgyrchoedd, er mwyn i bobl wybod pryd mae’r dyddiadau cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio, a gwneud cais am bleidleisiau drwy’r post a thrwy ddirprwy, yn ogystal â sicrhau bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bleidleisio, gan gynnwys sut i ddod o hyd i’w gorsaf bleidleisio.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu ‘gwybodaeth weithdrefnol’ i bleidleiswyr am faterion fel pan fydd etholiad yn cael ei gynnal a sut a ble y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais. Fel arfer, mae’r wybodaeth hon yn cael ei darparu gan y cyngor drwy ddulliau cyfathrebu fel y canfasio blynyddol, Llythyrau Hysbysu i Gartrefi, a chardiau pleidleisio.

Erbyn hyn, mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol ddatgan a ydynt wedi bod yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig, ar wahân i’r hyn a ddangosir yn eu cais ymgeisio, yn ystod y deuddeg mis cyn yr etholiad. Ond, nid oes gofyniad cyfreithiol i ‘wybodaeth ffeithiol’ ychwanegol gael ei chasglu a’i darparu i bleidleiswyr am ymgeiswyr a/neu bleidiau gwleidyddol i helpu pleidleiswyr i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch sut i fwrw eu pleidlais.

Roedd ein Papur Gwyn Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2017 yn gofyn ynghylch datganiadau gan ymgeiswyr yn cael eu darparu, ac a oedd yr ymatebwyr yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu datganiad personol i’w gynnwys ar wefan a ddarperir gan yr awdurdod maen nhw’n ceisio cael eu hethol iddo. Roedd 84% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig hwn, neu 89% o’r ymatebwyr a atebodd y fersiwn i bobl ifanc. Un o’r prif resymau a nodwyd o blaid y cynnig oedd y byddai symudiad o’r fath yn gwella democratiaeth a dealltwriaeth pleidleiswyr o’r hyn yr oedd ymgeisydd yn sefyll drosto.

Yn wreiddiol, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddarpariaeth ar gyfer cyhoeddi datganiadau ymgeiswyr yn y Rheolau drafft ar gyfer etholiadau lleol 2021, ac fe ymgynghorwyd yn eu cylch gyda rhanddeiliaid. Yn dilyn ymatebion i’r ymgynghoriad, fe wnaethom benderfynu tynnu’r darpariaethau hyn o’r Rheolau terfynol yn sgil pryderon a fynegwyd am y beichiau gweinyddol a chyfreithiol ar Swyddogion Canlyniadau.

Mae atebion digidol i’r bwlch hwn mewn gwybodaeth wedi cael eu datblygu gan sefydliadau nid-er-elw fel y Democracy Club, sy’n darparu gwybodaeth i ddinasyddion er mwyn ei gwneud hi’n haws cymryd rhan. Ond, mae’r atebion hyn yn dueddol o gael eu darparu gan fudiadau sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr ac sydd â chronfeydd arian ansefydlog.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellir bwrw ymlaen â’r ddarpariaeth ar gyfer datganiadau gan ymgeiswyr, gan gynnwys a ddylai corff sydd â mynediad at gyllid diogel fod yn gyfrifol yn statudol am ganoli a symleiddio’r broses o ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr.

Gwella hygyrchedd y broses etholiadol ar gyfer pobl heb gynrychiolaeth ddigonol

Gall rhai pobl, yn enwedig pobl anabl, ei chael yn arbennig o anodd bod yn rhan o’r broses etholiadol. Mae hyn yn cynnwys mater arbennig o ddifrifol yn ymwneud â hygyrchedd yr wybodaeth, fel y trafodir uchod, a rhai rhwystrau corfforol a wynebir wrth fwrw pleidlais yn annibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn dweud wrthym y gall unigolion fod â nam neu wahaniaeth, ond mai cymdeithas sy’n eu gwneud yn anabl drwy roi rhwystrau yn eu ffordd. I ddefnyddio’r Model Cymdeithasol, mae’n rhaid dileu’r rhwystrau er mwyn i bobl anabl allu cyfranogi’n llawn.

Mae trafodaethau gyda rhanddeiliaid wedi awgrymu cefnogaeth ar gyfer ffynhonnell o wybodaeth sicr, ddibynadwy a hawdd cael gafael arni, a ddylai ystyried bod angen darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill, er enghraifft, fersiwn hawdd ei deall. Dywedwyd wrthym nad yw rhai pobl anabl, yn enwedig pobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr, yn ymwybodol eu bod yn gymwys i bleidleisio. Efallai fod gwybodaeth ar gael, ond nid yw bob amser yn hawdd cael gafael arni.

Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau sy’n cefnogi pobl anabl a gofalwyr i annog pleidleiswyr i gofrestru a’u cyfeirio at y cymorth sydd ar gael i'w helpu i ddefnyddio eu pleidlais. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn ystyried anghenion gwybodaeth mewn ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg, a sut mae modd darparu gwybodaeth mewn ffordd gyfleus, hygyrch a dibynadwy – gan gynnwys ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn gallu cael gafael ar wybodaeth yn ddigidol, neu rai nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Rydym hefyd yn awyddus i edrych ar sut y gallwn annog pleidiau gwleidyddol i gynhyrchu deunyddiau hygyrch. Rydym yn ymwybodol o nifer o sefydliadau sy’n gallu cefnogi arferion gorau o ran ymgysylltu, ac rydym yn bwriadu gweithio ar y cyd â’r sefydliadau hyn, y pleidiau gwleidyddol, y Comisiwn Etholiadol ac eraill i lunio canllawiau arfer gorau, ac i nodi safonau hygyrchedd y dylid eu hystyried wrth ddylunio deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer etholiadau.

Mae tystiolaeth gadarn ar gael (er enghraifft, adroddiad y Comisiwn Etholiadol, ‘Elections for Everyone’ a ‘Access to Elections: Call for Evidence’) fod pobl anabl yn wynebu rhwystrau corfforol wrth geisio arfer eu hawl i bleidleisio. Rydym am sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol lle mae pleidleisio’n digwydd yn hygyrch i bawb sy’n pleidleisio, ac rydym yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol, gweinyddwyr etholiadol a rhanddeiliaid eraill i ystyried a oes modd gwneud newidiadau i arweiniad a hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn cefnogi pobl anabl yn well.

Byddwn hefyd yn ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth etholiadol i sicrhau bod modd gweinyddu etholiadau datganoledig mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb, gan ddiogelu uniondeb yr etholiadau ar yr un pryd. Mae ein sgyrsiau parhaus â rhanddeiliaid a llywodraethau eraill yn y DU wedi nodi datblygiadau arloesol y gellid eu defnyddio i helpu pobl anabl i bleidleisio, a hefyd diogelu eu hawl i fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol. Fe wnaeth Deddf Etholiadau 2022 ddiwygio Atodlen 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a oedd yn arfer ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau mewn etholiadau a gadwyd yn ôl roi dyfais i bob gorsaf bleidleisio ar gyfer pleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg. Mae Deddf 2022 yn disodli hyn gyda gofyniad ehangach newydd i ddarparu unrhyw offer sy’n rhesymol at ddibenion galluogi, neu ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio’n annibynnol.

Rydym am ystyried pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i’w gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio’n annibynnol, a sut y gellir cyflawni hynny mewn ffordd sy’n hyblyg ac sy’n sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn adlewyrchu anghenion pleidleiswyr. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, ac ystyried y ffordd orau o weithredu diwygiad i ddeddfwriaeth, tebyg i’r un yn Neddf Etholiadau 2022.

Addysg

Mae ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn caniatáu iddynt gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd pan maen nhw’n fwy tebygol o fod mewn amgylchedd sefydlog ac mewn addysg. Nid yw hyn yn wir am bob person ifanc, a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i sicrhau bod pob person ifanc yn cael yr un cyfleoedd i gymryd rhan, beth bynnag fo’i amgylchiadau.

Dechreuwyd cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, a dyma’r diwygiad mwyaf mewn addysg ddatganoledig yng Nghymru hyd yma. Datblygwyd sylfeini’r cwricwlwm blaenorol dros 30 mlynedd yn ôl mewn cyd-destun diwylliannol a thechnolegol cwbl wahanol. Er mwyn adlewyrchu’r byd rydym yn byw ynddo yn well a sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer y byd o newid technolegol, cymdeithasol ac economaidd cyflym, mae’r Cwricwlwm newydd wedi’i gynllunio i baratoi ein plant a’n pobl ifanc yn well i ffynnu mewn dyfodol lle mae sgiliau digidol, y gallu i addasu a chreadigrwydd, ochr yn ochr â gwybodaeth, yn hanfodol.

Yr hyn rydym am ei adael i’n cenhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yw eu bod yn gallu byw bywyd personol, dinesig a phroffesiynol cyflawn yn ein democratiaeth fodern. Dyna pam mae’r pedwar diben wrth galon fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac mae’n amlinellu ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Yn hollbwysig, un o’r rhain yw helpu dysgwyr i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Er mwyn i’n dysgwyr wireddu’r pedwar diben, mae disgwyliadau uchel yn cael eu gosod ar gyfer pawb, gan hyrwyddo lles unigol a chenedlaethol, mynd i’r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac annog ymgysylltiad dinesig a beirniadol.

Cefnogir y pedwar diben gan 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig, ar draws chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynrychioli’r hyn rydym ei eisiau ar gyfer pob dysgwr 16 oed sy’n cael addysg yng Nghymru. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn orfodol o dan y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yng nghwricwlwm pob ysgol gan sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, yn ogystal â’r Maes Iechyd a Lles yn cynnwys datganiadau “o’r hyn sy’n bwysig” sy’n amlinellu’r dysgu gorfodol i bob dysgwr. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu sy’n helpu dysgwyr i ddeall a chymhwyso eu hawliau a’u gwarchodaeth ddemocrataidd a chyfreithiol. Un enghraifft o ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yw bod Dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a rhannu barn a thystiolaeth â’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn eu cymuned. Mae agweddau gorfodol ar y datganiad hwn yn cynnwys:

  • helpu dysgwyr i ystyried effaith eu gweithredoedd wrth iddynt arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd
  • datblygu dealltwriaeth dysgwyr o’u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru
  • helpu dysgwyr i uniaethu â’u cymunedau a chyfrannu atynt
  • datblygu dysgwyr fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol

Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid addysg yn ein rhanbarthau a’n hawdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cydlynol a chynaliadwy ar gyfer cefnogi ysgolion i sicrhau cynnydd dysgwyr yn y maes dysgu hwn. Rydym am sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i wella eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth a’r rôl y mae’n rhaid iddynt ei chwarae fel dinasyddion mewn ffordd sy’n hyrwyddo arfer gydol oes o gyfranogi.

Er mwyn cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn effeithiol a gwireddu ein gweledigaeth gyffredin, mae’n hanfodol bod gan ein hysgolion y gefnogaeth, y ddealltwriaeth a’r adnoddau. Rydym wedi datblygu adnoddau i helpu ein pobl ifanc i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n deall eu hawliau ac yn ymarfer eu cyfrifoldebau democrataidd, a sicrhau deunyddiau sy’n wleidyddol niwtral i’n hathrawon ddysgu’r maes hwn yn hyderus.

Adran B: ar gyfer ymgeiswyr

Mae diogelwch pobl sy’n sefyll i gynrychioli eu cymunedau lleol fel ymgeiswyr i’r Senedd neu awdurdodau lleol wedi dod yn fwy a mwy o bryder dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod digwyddiadau difrifol yn dal i fod yn brin, diolch byth, yn ôl Canllaw’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Councillors’ Guide to Handling Harassment, Abuse and Intimidation, rydym yn bwriadu cefnogi ymgeiswyr mewn dau faes yn fras: newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’r Drosedd Dylanwad Gormodol a mesurau ehangach y bwriadwn eu rhoi ar waith i fonitro a mynd i’r afael â phroblem gynyddol.

Cryfhau’r Drosedd Dylanwad Gormodol mewn Etholiadau

Ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl, cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 iaith newydd i foderneiddio a chryfhau un o’r troseddau etholiadol clasurol Dylanwad Gormodol. ‘Llwgrwobrwyo’ a ‘tretio’ yw troseddau etholiadol eraill. Mae pob un wedi’i labelu’n ‘arferion llwgr’ mewn cyfraith etholiadol ac mae cosb etholiadol ychwanegol ar eu cyfer.

Daeth y newid hwn ar ôl nifer o wahanol adroddiadau ac ymgyngoriadau ar droseddau etholiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ei adolygiad o gyfraith etholiadol yn 2016, argymhellodd y Comisiwn Etholiadol y dylid ailddrafftio a moderneiddio’r drosedd. Hefyd, dywedodd Syr Eric Pickles yn ei adroddiad Securing the Ballot y dylid cryfhau’r drosedd. Yn 2018, lansiodd Llywodraeth y DU yr ymgynghoriad ‘Protecting the Debate:Intimidation, influence and information’ yn gofyn a ddylid ail-ddrafftio’r drosedd a beth ddylai ei gynnwys.  Mae’r iaith a fewnosodwyd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 gan Ddeddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU wedyn, yn egluro’r drosedd mewn dwy ffordd bwysig, niweidio enw da person a phwysigrwydd bwriad.

Rydym nawr hefyd yn bwriadu diweddaru’r diffiniad o’r drosedd mewn perthynas ag etholiadau datganoledig, gan ailadrodd yr iaith ddiwygiedig sydd wedi’i nodi yn Neddf Etholiadau 2022. Bydd hyn yn cryfhau’r diffiniad o Ddylanwad Gormodol o ran y bwriad i gyflawni gweithred a hefyd o ran niweidio enw da person.

Mesurau eraill rydym yn bwriadu eu cyflwyno ar ddiogelwch ymgeiswyr

Yn ddiweddar, cafodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch nifer o faterion etholiadol allweddol. Roedd hyn yn cynnwys a yw ymgeiswyr etholiadol, yn enwedig y rheini o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cael eu rhwystro rhag sefyll etholiad oherwydd eu bod yn ofni cael eu cam-drin, gan gynnwys aflonyddu a bygythiadau.

Roedd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Diwygio Cyfraith ac Arferion Etholiadol, yn nodi, lle roedd tystiolaeth ar gael, fod cam-drin yn gallu bod ar sail rhyw ac ar sail hil. Er gwaethaf y diffyg data manwl, mae tystiolaeth hefyd sy’n awgrymu bod hyn yn gallu bod yn broblem i rai ymgeiswyr. Adlewyrchir hyn mewn tystiolaeth a gasglwyd gan gynghorwyr lleol, Arolwg Etholiad Cyffredinol 2017 ac adroddiadau yn y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg, sy’n manylu ar gam-drin ar-lein, a bygythiadau i ddiogelwch corfforol yr ymgeisydd, teuluoedd ac eiddo.

Mae rhanddeiliaid allweddol eisoes yn cymryd nifer o gamau. Er enghraifft, cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol, a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, eu Canllaw ar y Cyd i bob Ymgeisydd ar fesurau diogelwch y gellid eu cymryd. Mae CLlLC hefyd yn darparu deunydd ategol sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i aelodau etholedig, ac aeth ati hefyd i helpu gydag addewid Ymgyrch Deg a Pharchus cyn yr etholiad diweddar.

Fodd bynnag, er ein bod yn datblygu’r sylfaen dystiolaeth i ganiatáu i ni gymryd camau mwy penodol i helpu i leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr etholiadol, rydym yn cynnig canolbwyntio ar y camau gweithredu tymor byr a thymor hir canlynol:

  • tystiolaeth: hoffem gasglu gwybodaeth gan ymgeiswyr ar ôl yr etholiad i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth ynghylch y math o gam-drin a pha mor aml y bydden nhw’n wynebu hyn a’r effaith bersonol y gallai hynny ei chael
  • cyfathrebu: rydym yn ystyried pa ddulliau cyfathrebu allai fod yn ddefnyddiol i leihau achosion o gam-drin mewn ymgyrchoedd gallai hyn gynnwys mewn ysgolion, neu mewn ymgyrch gyfathrebu genedlaethol cyn etholiadau mawr
  • costau: rr mwyn sicrhau tegwch mewn ymgyrchoedd etholiadol, dim ond swm penodol y caiff ymgeiswyr ei wario ar eu hymgyrch, a chyfeirir at hyn yn aml fel terfynau gwariant etholiadol. Gallem gyflwyno deddfwriaeth i eithrio gwariant ar hanfodion sy’n ymwneud â diogelwch neu i ddiogelu pobl neu eiddo yn ystod ymgyrchoedd
  • cefnogaeth a chyngor: mae rhywfaint o gefnogaeth eisoes ar gael i ymgeiswyr ar ddiogelwch personol a cham-drin ar-lein. Efallai y byddai’n ddefnyddiol cyfeirio’r wybodaeth hon yn well at ymgeiswyr, gyda hyfforddiant o bosibl cyn etholiadau mawr. Gallai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a drafodwyd uchod fod yn gyfrifol am hyn
  • addewid Ymgyrch: hefyd, gellid ystyried annog pob ymgeisydd i ymrwymo i addewid ymgyrch, yn debyg i addewid ”Ymgyrch Deg a Pharchus” CLlLC cyn etholiadau lleol 2022
  • cam-drin ar-lein: mae Mesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU wrthi’n cael ei ystyried yn Senedd y DU. Bydd hyn yn rhoi dyletswyddau ar rai cwmnïau i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon ac i fynd i’r afael â deunydd niweidiol yn unol â’u telerau ac amodau, a bydd yn gosod dyletswyddau pellach ar Ofcom fel y rheoleiddiwr. Rydym yn monitro’r goblygiadau o ran etholiadau datganoledig wrth i’r Mesur hwn fynd drwy Senedd y DU
  • datganiad am y Sawl a Enwebwyd: gellid diwygio’r rheolau ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau’r Senedd fel ei bod yn ofynnol i’r ffurflen Datganiad am y Sawl a Enwebwyd gynnwys disgrifiad safonol o’r cymwysterau daearyddol ar gyfer sefyll fel ymgeisydd i dynnu pwysau lleol oddi ar ymgeiswyr i gyhoeddi cyfeiriad eu cartref

Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig 

Elfen arall o’n gwaith i hyrwyddo mwy o amrywiaeth ymhlith cynrychiolwyr etholedig yw sefydlu’r ‘Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig’. Nod y gronfa bresennol yw cefnogi ymgeiswyr anabl mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru gyda’r costau maen nhw’n eu hwynebu wrth ymgyrchu, fel palanteipyddion. Mae unrhyw gymorth a dderbynnir gan y Gronfa wedi’i eithrio o derfynau gwario’r ymgeiswyr. Cafodd y Gronfa ei sefydlu a’i threialu ar gyfer etholiadau’r Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Rydym yn aros am yr adroddiad gwerthuso terfynol, ond mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod unigolion yn gwerthfawrogi ac yn croesawu'r Gronfa.

Yng ngoleuni hyn, a’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymestyn y Gronfa i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, rydym yn cynnig deddfu i fynnu bod Gweinidogion Cymru yn cynnal ‘y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig’ sydd ar gael i bob etholiad cyffredin datganoledig ac isetholiadau yng Nghymru. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb, rydym yn cynnig y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu nodi cwmpas y cynllun mewn rheoliadau o fewn paramedrau sy’n gysylltiedig â diben y Gronfa a nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol. Y paramedrau a gynigir yw darparu cefnogaeth i ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.  

Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol

Ers 2011, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth ymgeiswyr sy’n ceisio cael eu hethol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned a thref. Mae’n bosibl y gofynnir cwestiynau am rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred, iechyd, addysg neu gymhwyster, cyflogaeth, a gwaith fel cynghorydd.

Pwrpas yr arolwg yw deall nodweddion yr ymgeiswyr, a’r rheini sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr; a deall sut mae proffil y grŵp hwn yn newid dros amser. Mae’r wybodaeth a gesglir o’r arolygon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddeall effaith polisïau sy’n ceisio ehangu cyfranogiad mewn llywodraeth leol a chefnogi datblygiad polisi yn y dyfodol.

Cynhaliwyd arolygon yn 2012, 2017 ac eto ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Cyn pob etholiad, mae cwestiynau’r arolwg wedi cael eu hadolygu, a gwnaed newidiadau i’r cwestiynau hynny mewn rheoliadau. Y rheswm am hyn yw nad oes modd newid yr arolwg ar ôl ei osod heb wneud rheoliadau. Hefyd, nid oes hyblygrwydd i awdurdodau lleol gynnwys cwestiynau yr hoffent eu gofyn a fyddai’n sail i bolisïau lleol.

Bydd dileu’r gofyniad i osod geiriad penodol yr arolwg mewn rheoliadau (is-ddeddfwriaeth) yn ei gwneud yn haws i newid elfennau ohono wrth i bolisi ddatblygu. Yn y dyfodol, credwn y dylai geiriad yr arolwg gael ei adolygu gan grŵp o bartneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol, cynrychiolwyr grwpiau cydraddoldeb a phartïon eraill â diddordeb. Byddai argymhellion wedyn yn cael eu gwneud i Weinidogion Cymru i newid neu wella’r arolwg. Credwn y byddai’r argymhellion hyn yn ffurfio set graidd o gwestiynau ar gyfer Cymru. Byddai peidio â diffinio’r set graidd hon o gwestiynau mewn rheoliadau hefyd yn golygu y gallai prif gynghorau ychwanegu cwestiynau gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth am gynlluniau lleol. Credwn fod y dull hwn yn sicrhau cysondeb ar draws Cymru, parhad i gyfres amser y set ddata, a hefyd yn galluogi hyblygrwydd lleol i ychwanegu cwestiynau.

Pennod 6: moderneiddio etholiadau Cymru

Pleidleisio ymlaen llaw

Ym mis Mai 2022, fel rhan o bedwar cynllun peilot a gynhaliwyd mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol, cafodd pleidleiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen gyfle i bleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio, ac roedd ganddynt hyblygrwydd ychwanegol o ran lle roedden nhw’n pleidleisio. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r Comisiwn Etholiadol werthuso unrhyw gynlluniau peilot o’r fath, a chyhoeddodd ei adroddiad ar y cynlluniau hyn ar 2 Awst 2022.

Canfu’r Comisiwn Etholiadol fod y cynlluniau peilot wedi cael eu rhedeg yn dda ac nad oedd unrhyw broblemau amlwg ar y diwrnodau pleidleisio ymlaen llaw na’r diwrnod pleidleisio. Roedd pleidleiswyr yn fodlon ar eu profiad o bleidleisio’n gynnar ac yn croesawu’r hyblygrwydd a’r dewis ychwanegol y rhoddai hyn iddynt.  Fodd bynnag, ni wnaeth y cyfle i bleidleisio’n gynnar gynyddu nifer y bobl a bleidleisiodd yn yr ardaloedd a oedd yn treialu’r cynlluniau peilot. Daeth y Comisiwn Etholiadol i’r casgliad nad oedd hyn yn annisgwyl gan fod nifer o ffactorau’n dylanwadu ar benderfyniad pobl i bleidleisio. Nid oedd y Comisiwn Etholiadol yn gallu barnu o’r dystiolaeth o’r cynlluniau peilot pa effaith, dros amser, y byddai pleidleisio ymlaen llaw, petai’n cael ei gyflwyno’n ehangach, yn ei chael ar nifer y pleidleiswyr sy’n pleidleisio. Er bod y cynlluniau peilot wedi’u cynnal yn dda, roedd y Comisiwn Etholiadol yn glir y byddai angen gwneud rhagor o waith i ddatblygu unrhyw bolisi yn y dyfodol a chefnogi strwythur gweinyddol cyn y gellid penderfynu a ddylid cyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yn ehangach.

Rydym yn awyddus i ddod â’r blwch pleidleisio’n nes at fywydau pobl a sicrhau bod pleidleisio mor hawdd â phosibl i bleidleiswyr.  Mae angen i ni ystyried adroddiad gwerthuso’r Comisiwn Etholiadol yn ofalus i weld a fyddai galluogi pleidleisio ymlaen llaw a phleidleisio mewn lleoliadau eraill, fel colegau, ysgolion, gweithleoedd neu fannau lle mae llawer o bobl yn ymgynnull, yn helpu i gyflawni’r nod hwn, ac a ddylai hyn ddod yn arfer mewn etholiadau datganoledig (etholiadau llywodraeth leol a Senedd Cymru) yn yr un modd ag y mae pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy wedi’i wneud. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynnig hwn.

Diwygio pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy

Rydym yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng etholiadau a gadwyd yn ôl a’n system bresennol yn dilyn Deddf Etholiadau 2022, a gallai hyn greu dryswch a chymhlethdod i weinyddwyr a phleidleiswyr. Gallai hyn gael effaith wedyn ar bobl o ran eu gallu i bleidleisio absennol. Rhaid ystyried effaith newid Llywodraeth y DU i gylch adnewyddu 3 blynedd ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol yn erbyn goblygiadau’r gwahaniaeth. Heb newid, gallai’r gwahaniaeth presennol mewn amseroedd adnewyddu olygu bod setiau gwahanol neu ddynodydd personol yn cael eu cadw ar gyfer yr un etholwr. 

Mae Deddf Etholiadau’r DU 2022 yn cynnwys pwerau i sefydlu system Ceisiadau am Bleidlais Absennol Ar-lein ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl. Er bod y system a’r dull gweithredu i’w croesawu, ac y byddai un system wedi bod yn symlach i bleidleiswyr, roedd cynnwys dull dilysu ID manylach yn y system yn gwneud hyn yn amhriodol. Cafodd diwygiadau eu cyflwyno i dynnu etholiadau a oedd heb eu cadw’n ôl o’r darpariaethau.

Rydym wrthi’n ystyried opsiynau tymor byr a thymor hir ar gyfer system debyg ar gyfer etholiadau datganoledig. Rydym yn awyddus i gael barn am yr ystod o opsiynau o system gwbl ar-lein sy’n debyg i’r un a fwriadwyd gan Lywodraeth y DU i borth canolog sy’n darparu ceisiadau wedi’u llenwi ymlaen llaw i bleidleiswyr er mwyn iddynt eu dychwelyd drwy’r post.

Olrhain pleidleisiau drwy’r post

Mae nifer y pleidleiswyr yng Nghymru sy’n pleidleisio drwy’r post wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.  Yn etholiad y Senedd yn 2021, cafodd dros 458,000 o bleidleisiau drwy’r post eu cyflwyno yng Nghymru, sy’n gynnydd o dros 16% ers 2016.

Un o’r prif bryderon i etholwyr ynghylch pleidleisio drwy’r post yw na fydd pecynnau papur pleidleisio drwy'r post yn cael eu danfon mewn pryd i gael eu cyfrif.  Er gwaethaf y ffaith fod y system bleidleisio drwy’r post yn ddibynadwy a bod y gyfradd gwrthod yn isel ar gyfer pleidleisiau drwy’r post, mae hyder y cyhoedd o ran diogelwch pleidleisio drwy’r post yn isel ar 68% yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol.

Ar ben hynny, nid oes ffordd ar hyn o bryd i Weinyddwyr Etholiadol roi gwybod i etholwr am wall yn ei Ddatganiad Pleidlais drwy’r Post neu ofyn am gywiriad. Dim ond ar ôl yr etholiad y caiff pleidleiswyr wybod fel arfer na chafodd eu pleidlais ei chyfrif. Mae’r gwallau mwyaf cyffredin yn ymwneud â darparu’r dynodyddion personol gofynnol, llofnod a dyddiad geni’r pleidleisiwr (neu’r dyddiad geni yn achos pleidleisiwr dienw), ar y Datganiad Pleidlais Drwy'r Post.  Yng Nghymru, cafodd 3.8% o’r holl bleidleisiau drwy’r post eu gwrthod yn ystod etholiad y Senedd 2021, oherwydd gwallau.

Un o brif argymhellion adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar Ddiwygio Etholiadol oedd darparu proses i bleidleiswyr allu cywiro gwall yn eu Datganiad Pleidlais drwy’r Post er mwyn lleihau nifer y pleidleisiau sy’n cael eu gwrthod.  Gan nad oes modd rhagweld faint o bleidleisiau drwy’r post a ddaw i law yn y cyfnod cyn etholiad a bod y nifer honno yn anghyson, mae Gweinyddwyr Etholiadol wedi ystyried, ar y cyfan, fod defnyddio dulliau heb fod yn awtomatig i ddatrys y problemau yn cymryd gormod o amser ac yn ddrud i’w rheoli yn eu timau etholiadol presennol.

Cafodd cyfleusterau olrhain ffurflenni pleidleisio drwy’r post eu treialu’n llwyddiannus gan ddwy ardal awdurdod lleol yn Lloegr yn ystod etholiadau llywodraeth leol 2006.  Daeth y Comisiwn Etholiadol i’r casgliad bod gan y mathau hyn o gyfleusterau olrhain electronig y potensial i fynd i’r afael â phryderon pleidleiswyr sy’n poeni nad yw’r gwasanaeth danfon drwy’r post yn ddibynadwy. Roedd y systemau olrhain a dreialwyd yn ystod y cynlluniau peilot hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol sganio a chroes-gyfateb datganiadau pleidleisiau drwy’r post yn electronig er mwyn canfod pa becynnau pleidleisio a oedd wedi cael eu dychwelyd. Darparwyd cyfleuster ar y we a oedd yn galluogi pleidleiswyr i weld a oedd y Swyddog Canlyniadau wedi derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy’r post. 

Mae gennym ddiddordeb mewn cyflwyno system e-dracio pleidleisiau drwy’r post a fyddai’n caniatáu prosesu Datganiadau Pleidleisiau drwy’r Post sy’n dod i mewn ac yn darparu ffordd i hysbysu etholwyr am wallau fel bod modd gwneud cywiriadau mewn pryd i sicrhau bod eu pleidleisiau drwy’r post yn cael eu cyfrif.  Credwn y byddai system electronig fel hon yn helpu i leihau nifer y pleidleisiau drwy’r post a wrthodir, ac y byddai’n cael effaith gadarnhaol ar hyder y cyhoedd yn y system bleidleisio drwy’r post drwy roi diweddariadau byw i etholwyr ar hynt eu pleidlais drwy’r post.

Mae’n debygol y byddai datblygu a chyflwyno system e-dracio pleidleisiau drwy’r post yng Nghymru yn digwydd yn raddol.  I ddechrau, gallai hyn gynnwys creu system hysbysu syml am ddanfon a derbyn, a system hysbysu am wallau.  Yn y dyfodol, mae’n bosibl y bydd yn darparu system ehangach ar gyfer ymgysylltu â phleidleiswyr drwy gynnwys pethau fel gwybodaeth i bleidleiswyr, datganiadau gan ymgeiswyr, canlyniadau etholiadau, ac ymgysylltu ar ôl yr etholiad.

Cofrestrau Digidol

Cafodd cofrestrau digidol eu defnyddio mewn rhai awdurdodau lleol yn ystod y cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg ym mis Mai 2022, a dangosodd hyn eu bod yn ymarferol i’w defnyddio yn lle Cofrestrau copi caled a rhestrau rhifau cyfatebol. Mae Gweinyddwyr Etholiadol sydd wedi mabwysiadu’r system wedi nodi manteision o ran effeithlonrwydd a defnyddioldeb i staff.

Cafodd yr hyblygrwydd ychwanegol wrth gynnal etholiadau ei ddangos yng ngwerthusiad y Comisiwn Etholiadol o Gynlluniau Peilot 2022. Roedden nhw’n rhoi cyfle i gael trosiant cyflymach ar gyfer cynhyrchu cofrestrau wedi’u marcio rhwng diwrnodau pleidleisio ar gyfer pleidleisio ymlaen llaw. Roedd y gofrestr fyw hefyd yn rhoi cyfle i etholwyr fod yn gymwys i bleidleisio mewn mwy nag un lleoliad. Byddai hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddiwygiadau etholiadol yn y dyfodol sy’n awyddus i ganiatáu i etholwyr bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn eu hardal.  

Mae adborth gan Weinyddwyr Etholiadol sydd wedi defnyddio’r system wedi bod yn gadarnhaol gyda llawer yn awyddus i barhau i ddefnyddio’r system. Mae adborth gan Weinyddwyr Etholiadol eraill wedi bod yn gymysg, gyda rhai’n gofyn cwestiynau ynghylch cost a dibynadwyedd y system.

Mae archwilio a phrofi’r systemau Cofrestr Ddigidol presennol wedi dangos bod ganddynt lefelau tebyg o ddiogelwch o’u cymharu â’r broses draddodiadol. Bydd angen adolygu’r rheolau ar gynnal etholiadau llywodraeth leol, yn enwedig o ran storio cofrestrau ar ôl yr etholiad, er mwyn hwyluso defnydd mwy cyfleus o gofrestrau digidol.

Mae tystiolaeth gref erbyn hyn o fanteision defnyddio Cofrestrau Digidol o ran hwylustod i bleidleiswyr, staff etholiadau a gweinyddwyr. Er nad ydym yn cynnig gorfodi’r defnydd o Gofrestrau Digidol ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yn y tymor byr, byddwn yn parhau i hwyluso ac annog pobl i’w defnyddio.

Byddai gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn am ddefnyddio Cofrestrau Digidol ar gyfer etholiadau nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl yng Nghymru.

Pennod 7: gwella ein democratiaeth

Hyfforddiant i Aelodau Etholedig

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sicrhau y darperir cyfleoedd ‘hyfforddi a datblygu rhesymol’ i’w haelodau. Er nad yw’r term ‘hyfforddi a datblygu rhesymol’ wedi’i ddiffinio, mae canllawiau i awdurdodau lleol yn nodi pynciau y dylid eu cynnwys mewn rhaglenni hyfforddi aelodau. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys cynefino, safonau ymddygiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymgymryd â’u rôl fel aelod lleol. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynnu bod cynghorau tref a chymuned yn paratoi ac yn cyhoeddi cynlluniau hyfforddi ar gyfer eu haelodau, ac mae canllawiau’n awgrymu y dylai’r hyfforddiant ymdrin â meysydd pwnc tebyg.

Ar hyn o bryd, mae’r holl hyfforddi a datblygu ar gyfer cynghorwyr yn cael ei wneud yn wirfoddol, gyda chynghorwyr unigol yn dewis a ydynt am fod yn bresennol ai peidio. Er bod llawer o gynghorwyr yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir iddynt, mae eraill o’r farn na ddylid eu gorfodi i fynychu gweithgareddau hyfforddi fel gwirfoddolwyr a etholir gan y cyhoedd. Er ein bod yn derbyn bod unigolion yn gwirfoddoli i sefyll mewn etholiad, ar ôl cael eu hethol mae cynghorwyr yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas ac mae ganddynt lawer o gyfrifoldebau.  Er enghraifft, rhan o waith achos cynghorwyr yw helpu pobl, yn aml pan fyddant yn fwyaf agored i niwed. Gall cynghorwyr ddylanwadu hefyd ar benderfyniadau am fywydau bob dydd pobl yn eu hardal drwy brosesau penderfynu amrywiol, megis bod yn aelod o bwyllgorau cynllunio a thrwyddedu.  

Mae gan bob cynghorydd set wahanol o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau bywyd. Ond, gydag unrhyw rôl mewn cymdeithas, yn enwedig y rheini sy’n bodoli i gynorthwyo a chynrychioli eraill, disgwylir y bydd gan gynghorwyr y lefel angenrheidiol o wybodaeth ac arbenigedd i ymgymryd â gweithgareddau ar ran eraill. Yn ogystal, mae angen i gynghorwyr roi eu hunain mewn sefyllfa lle nad ydynt yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth nac yn peryglu eu diogelwch personol na diogelwch pobl eraill. Er mwyn gwneud hyn, mae angen iddynt feddu ar ddealltwriaeth dda o bethau fel deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth, safonau ymddygiad, gweithio drwy gyfryngau cymdeithasol, a gweithio ar eu pen eu hunain.  

Fel rhan o’n gwaith i gefnogi ac annog amrywiaeth ymysg aelodau etholedig, mae rhanddeiliaid wedi awgrymu ei gwneud yn ofynnol i gynghorwyr gael hyfforddiant gorfodol. Rhaglen sy’n nodi meysydd o ymwybyddiaeth a hyfforddiant y dylai pob cynghorydd eu cael, gyda’r gofynion hyfforddi’n datblygu wrth i gynghorwyr ymgymryd â rolau ychwanegol, fel aelod neu gadeirydd pwyllgor. 

Pe byddai hyfforddiant gorfodol yn cael ei gyflwyno, byddai dwy agwedd i'w hystyried. Y cyntaf fyddai’r gofyniad i gynghorau ddarparu’r hyfforddiant gan gynnwys ystyried pa lefelau, math a faint o hyfforddiant fyddai’n orfodol. Byddai angen ystyried hyn er mwyn sicrhau bod cynghorwyr ledled Cymru yn cael mynediad at yr un faint o hyfforddiant gorfodol a’r un safon.

Yn ail, credwn y byddai’n bwysig i ymgeiswyr ddeall a chytuno i ymgymryd â’r hyfforddiant cyn cael eu hethol. Gellid cyflawni hyn drwy ddatganiad adeg yr enwebu fod unigolion yn deall ac yn fodlon ymgymryd â hyfforddiant gorfodol a bod hyn yn cael ei atgyfnerthu drwy dyngu llw os byddant yn cael eu hethol. Mae’r olaf yn rhoi cyfle i gyflwyno sancsiynau dan y cod ymddygiad moesegol os na wneir hyfforddiant gorfodol heb reswm da. Byddai hyn yn rhoi neges glir i’r ymgeisydd y disgwylir iddo ymgymryd â hyfforddiant priodol, a byddai’n osgoi sefyllfa lle mae unigolion yn cael eu hethol ac yn canfod wedyn fod angen iddynt wneud hyfforddiant penodol. 

Er nad ydym yn bwriadu deddfu ar y mater hwn yn nhymor y Senedd hon, mae gennym ddiddordeb clywed eich barn chi i lywio gwaith datblygu polisi yn y dyfodol. 

Newidiadau i’r gyfundrefn anghymhwyso Cynghorwyr Lleol rhag gwasanaethu hefyd fel Aelodau o’r Senedd

Rydym yn ystyried a ddylid gwneud newidiadau i’r gyfundrefn anghymhwyso bresennol ar gyfer cael eich ethol i’r Senedd yn benodol:

  • anghymhwyso cynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru rhag gwasanaethu fel Aelodau o'r Senedd, gan sicrhau bod y trefniadau'n cyd-fynd â'r gyfundrefn anghymhwyso aelodau prif gynghorau Cymru
  • diddymu’r “cyfnod gras” ar gyfer pob cynghorydd sy’n cael ei ethol i’r Senedd, ac ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr. Caiff pob newid a gynigir ei egluro yn ei dro

Anghymhwyso Cynghorwyr Tref a Chymuned rhag gwasanaethu fel Aelodau o'r Senedd

Yn 2014, galwodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd ar Lywodraeth Cymru i adolygu a oedd yn briodol i Aelod Cynulliad (a elwir yn Aelod o’r Senedd (AS) ers 6 Mai 2020) wasanaethu hefyd fel cynghorydd sir. Roedd Llywodraeth Cymru yn teimlo nad oedd aelodaeth ddeuol o’r Senedd a phrif gyngor yn dderbyniol. Roedd yr ymrwymiadau amser o fod â swyddi deuol yn anghydnaws ac yn arwain at wrthdaro posibl rhwng buddiannau. Am y rheswm hwn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddarpariaethau fel diwygiadau i’w cynnwys yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (rhan 4 Anghymhwyso) fel bod aelodau prif gynghorau wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Senedd.

Bryd hynny, teimlwyd bod y pryderon a’r materion a nodwyd ar gyfer prif gynghorwyr yn llai perthnasol i gynghorwyr tref a chymuned yr oedd eu rôl a’u cyfrifoldebau, i bob golwg, yn wahanol i rôl a chyfrifoldebau cynghorwyr y prif gynghorau. Mae’r gwahaniaeth hwn yn llai amlwg dros amser, yn enwedig yn sgil cyflwyno’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned cymwys yn ddiweddar (gweler adran 24 a Phennod 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021) sy’n rhoi’r un pŵer i gyngor cymwys weithredu fel sydd gan unigolyn yn gyffredinol, a’i alluogi i weithredu mewn ffyrdd arloesol.

Yn ogystal, mae cynghorwyr tref a chymuned yn chwarae rhan hollbwysig yn cynrychioli buddiannau eu cymunedau ac yn dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau (gweler The Good Councillor’s Guide for Community and Town Councillors). Gallant fod â sawl rôl yn eu cymunedau, bod â nifer o bwerau cyfreithiol, a gallant benderfynu ar wasanaethau ac asedau. Felly, teimlir bod y pryderon a’r materion a nodwyd ar gyfer cynghorwyr y prif gynghorau yn berthnasol hefyd i gynghorwyr tref a chymuned. Mae nifer sylweddol o gynghorwyr y prif gynghorau yn gynghorwyr tref a chymuned hefyd (“gwisgo dwy het”), yn enwedig mewn cynghorau mawr. Mae hyn yn cryfhau’r angen i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer cynghorwyr tref a chymuned yn cyd-fynd â’r gyfundrefn anghymhwyso ar gyfer aelodau prif gynghorau.

Felly, rydym yn cynnig anghymhwyso cynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru rhag gwasanaethu fel Aelodau o'r Senedd, gan sicrhau bod y trefniadau'n cyd-fynd â'r gyfundrefn anghymhwyso aelodau prif gynghorau.

Diddymu’r “cyfnod gras” ar gyfer pob cynghorydd sy’n cael ei ethol i’r Senedd ac ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr.

Diddymu’r cyfnod gras ar gyfer cynghorwyr sy’n cael eu hethol i’r Senedd

Mae adran 17E o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu nad yw cynghorwyr prif gynghorau yn cael eu hanghymhwyso rhag dod yn Aelod o’r Senedd os yw etholiad cyffredin nesaf y cyngor i fod i ddigwydd o fewn 372 diwrnod (“y cyfnod gras”).

Cafodd y cyfnod gras ei lunio i osgoi sedd sy’n digwydd dod yn wag ac is-etholiad posibl neu sedd wag am hyd at chwe mis ar lefel cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yn y 12 mis cyn etholiad cyffredin.  Os bydd y swydd wag hon yn codi y tu allan i’r cyfnod gras a bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o brif gyngor, yna (yn amodol ar adran 17D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) bydd yn sbarduno isetholiad ym mhrif gyngor yr aelod hwnnw.

Yn ystod y cyfnod gras, mae gan gynghorwyr prif gynghorau hawl i gael tâl am y ddwy swydd. Mae hyn yn rhoi rhai cynghorwyr prif gynghorau mewn sefyllfa freintiedig.

Er nad yw cynghorwyr tref a chymuned yn cael eu talu yn yr un ffordd, mae’r materion sy’n ymwneud â gwrthdaro rhwng buddiannau yn dal yn berthnasol, a gallai ymddangos bod yr aelodau hynny o’r Senedd sy’n gynghorwyr tref a chymuned mewn sefyllfa fwy manteisiol na’u cymheiriaid yn ystod y cyfnod gras. Y rheswm am hyn yw bod ganddynt fwy o fynediad at Weinidogion Cymru drwy egwyddor agosatrwydd a thrwy’r broses graffu, ac maen nhw’n rhan o’r corff deddfu sy’n gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynghorau tref a chymuned.

Rydym â diddordeb mewn clywed barnau ynglŷn ag a ddylid cadw’r cyfnod gras presennol ar gyfer cynghorwyr prif gynghorau sy’n cael eu hethol yn Aelodau’r Senedd ac a ddylid cael cyfnod gras ar gyfer cynghorwyr tref a chymuned sy’n cael eu hethol yn Aelodau’r Senedd.

Byddai cael gwared o’r cyfnod gras yn golygu os bydd aelod o brif gyngor neu gyngor tref neu gyngor cymuned yn cael ei ethol yn Aelod o’r Senedd ac yn derbyn y sedd honno, y bydd sedd y cynghorydd yn dod yn wag, a gallai hyn sbarduno isetholiad ar y lefel leol (bydd y canlyniad yn dibynnu ar a yw’r person perthnasol yn aelod o brif gyngor neu gyngor tref neu gyngor cymuned a hefyd pryd bydd y swydd wag yn codi).

Diddymu’r cyfnod gras ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr

Mae adran 17F o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud darpariaeth gyfatebol ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr prif gynghorau. Yn y senario hwn, nid yw’r AS wedi’i anghymhwyso os yw etholiad cyffredin nesaf y Senedd i fod i gael ei gynnal mewn 372 diwrnod (“y cyfnod gras”).  Am yr un rhesymau fel yr amlinellwyd mewn perthynas â chynghorwyr prif gynghorau sy’n cael eu hethol yn Aelodau’r Senedd, rydym felly’n cynnig diddymu’r cyfnod gras presennol ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr prif gynghorau a pheidio â chyflwyno cyfnod gras i Aelodau’r Senedd sy’n cael eu hethol yn gynghorwyr tref a chymuned.

Ar hyn o bryd, os bydd sedd yn y Senedd yn dod yn wag yn ystod tymor y Senedd, bydd hyn naill ai’n arwain at is-etholiad etholaethol (oni bai fod y swydd wag yn cael ei chreu o fewn y cyfnod o 3 mis cyn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf), neu ar gyfer seddi rhanbarthol, bydd yr ymgeisydd nesaf ar y rhestr yn cael ei alw i dyngu llw fel arfer.

Bydd yr olaf yn wir o dan y system rhestr gyfrannol, a gynigir o dan Raglen Ddiwygio’r Senedd. Pan fydd sedd wag yn codi (er enghraifft, oherwydd bod aelod yn ymddiswyddo neu’n marw), byddai hon fel arfer yn cael ei llenwi wrth i’r ymgeisydd nesaf ar restr plaid ennill y sedd honno. Felly, fel arfer, ni fyddai angen cynnal is-etholiad ar gyfer sedd y Senedd. Bydd datblygu polisi ar swyddi sy’n digwydd dod yn wag yn cael ei ystyried fel rhan o raglen Ddiwygio’r Senedd.

Asesu’r effaith

Rydym wedi cyhoeddi fersiynau drafft o Asesiad Effaith Integredig ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol ochr yn ochr â’r Papur Gwyn hwn, er mwyn darparu’r amcangyfrifon gorau ar gyfer costau, manteision ac effeithiau’r cynigion. Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth i ategu’r asesiadau hyn wrth i ni ddatblygu cynigion yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Byddem yn ddiolchgar o gael eich barn am y tybiaethau a’r dull gweithredu a nodwyd.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Byddem yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion hyn, yn enwedig ynghylch:

Pennod 1

Cwestiwn 1

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r chwe egwyddor ar gyfer diwygio etholiadol sef tegwch, hygyrchedd, cyfranogiad, gwella profiad dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb?

Pennod 2

Cwestiwn 2

A ddylai Llywodraeth Cymru neilltuo adnoddau i ystyried sut y gallai pleidleisio electronig o bell weithio ar gyfer etholiadau datganoledig?

Cwestiwn 3

Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi’n meddwl y byddai cyflwyno cronfa ddata Cymru o ddata cofrestru etholiadol yn eu cael ar y broses etholiadol (fel cofrestru a gwasanaethau etholiadol)?

Meddyliwch am yr effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl, a rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ymateb, os yw ar gael. Rhowch sylwadau ar bob nodwedd yn unigol.

Cwestiwn 4

Beth yw eich barn am ddefnyddio darpariaethau Deddf Etholiadau 2022 deddfwriaeth bresennol o ran (a) argraffnodau digidol ar gyfer deunydd ymgyrchu digidol, a (b) enwebiadau ar-lein?

Cwestiwn 5

A ddylai prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned ddychwelyd i gyfnodau o bedair blynedd?

Pennod 3

Cwestiwn 6

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig mewn un Ddeddf ddwyieithog i Gymru?

Cwestiwn 7

O’ch safbwynt chi, a ddylai’r etholfraint adlewyrchu’r newidiadau yn statws dinasyddion yr UE gan fod y DU wedi gadael yr UE erbyn hyn?

Cwestiwn 8

Sut gallwn ni helpu pobl i ddeall eu bod wedi cael eu cofrestru’n awtomatig a theimlo’n hyderus bod eu data’n cael ei ddiogelu, yn enwedig ar gyfer pobl a allai fod yn agored i niwed neu sy’n dymuno cofrestru’n ddienw?     

Cwestiwn 9

I ba raddau rydych chi’n cytuno â dileu'r gofrestr agored mewn perthynas ag etholiadau datganoledig?

Cwestiwn 10

A ddylai Llywodraeth Cymru roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gael cytundebau rhannu data o fewn yr awdurdod ei hun a, lle bo’n berthnasol, gydag awdurdodau neu sefydliadau eraill?

Cwestiwn 11

A oes unrhyw agweddau penodol ar gofrestru awtomatig y dylid eu treialu cyn symud tuag at gyflwyno system ledled Cymru?

Cwestiwn 12

 I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai myfyrwyr gael dewis cofrestru i bleidleisio wrth gofrestru yn y brifysgol?

Cwestiwn 12a

A ddylid rhannu unrhyw ddata a ddarperir wedyn, drwy gytundeb rhannu data, gyda Thîm Gwasanaethau Etholiadol yr Awdurdod Lleol perthnasol?

Pennod 4

Cwestiwn 13

Ydych chi’n cytuno y dylid sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol statudol i Gymru?

Cwestiwn 14

Os ydych chi wedi rhoi Cytuno’n Gryf neu Cytuno i Gwestiwn 13, beth ddylai swyddogaethau’r Bwrdd fod?

Cwestiwn 15

A ddylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol gael pwerau i roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol?

Cwestiwn 16

A ddylai’r Bwrdd Rheoli Etholiadol gael y pŵer i roi cyngor i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch cyflawni eu swyddogaethau?

Cwestiwn 17

Beth yw eich barn am bwy ddylai fod yn aelodau o’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a sut y dylid eu penodi?

Cwestiwn 18

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i roi mwy o sicrwydd etholiadol drwy ymestyn yr amser statudol pan na fydd modd cyhoeddi unrhyw adroddiadau adolygiad etholiadol terfynol ac na fydd modd gwneud unrhyw orchmynion adolygiad etholiadol?

Cwestiwn 19a

Ar ba bwynt yn y cylch etholiadol y dylid atal y Comisiwn rhag cyhoeddi adroddiadau adolygiadau etholiadol?

Cwestiwn 19b

Ydych chi’n cytuno y dylai’r Comisiwn, cyn belled ag y bo’n bosibl, orfod trefnu adolygiadau etholiadol o fewn dwy flynedd i gwblhau adolygiad cymunedol?

Cwestiwn 20

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion a awgrymir ar gyfer pennu’r cyfnodau mwyaf ar gyfer adolygu a phenderfynu?

Cwestiwn 21

Beth yw eich barn ynghylch a ddylid cynnwys pŵer mewn deddfwriaeth i ohirio cynnal adolygiadau etholiadol?

Cwestiwn 22

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r egwyddor o gael rhestr gyffredin estynedig o ymgyngoreion gorfodol ar gyfer pob rhan o’r broses adolygu etholiadol?

Cwestiwn 23

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cryfhau’r gofynion i ymgysylltu â phleidleiswyr cymwys fel rhan o’r broses adolygu etholiadol, gan gynnwys mewn perthynas ag enwau wardiau?

Cwestiwn 24

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion i ddiwygio ac ymestyn yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r Comisiwn eu cymryd wrth benderfynu ar drefniadau etholiadol sy’n sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus, gymaint ag y bo modd?

Cwestiwn 25

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal ymgynghoriad pellach pan nad yw argymhelliad yn ei adroddiad adolygu terfynol arfaethedig yn un o’r opsiynau yr ymgynghorodd arno yn ei adroddiad drafft?

Cwestiwn 26

Ydych chi’n cytuno â’n cynigion i alluogi Gweinidogion Cymru i fynnu bod y Comisiwn yn ailedrych ar ran o adolygiad etholiadol cyn gwneud gorchymyn adolygiad etholiadol?

Cwestiwn 27

A ddylid ystyried unrhyw newidiadau eraill i’r broses adolygiad etholiadol?

Cwestiwn 28

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid egluro’r cyfnod sylwadau o chwe wythnos yn y ddeddfwriaeth?

Cwestiwn 29

Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod hwn cyn cymryd unrhyw gamau i gyfarwyddo’r Comisiwn i wneud gwaith pellach neu weithredu, addasu neu beidio â gweithredu’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad argymhellion terfynol?

Cwestiwn 30

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid diddymu’r gofynion cyfreithiol ar y Comisiwn i ddarparu copïau caled o ddogfennau, ac eithrio pan wneir cais amdanynt?

Cwestiwn 31

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion ar gyfer newid deddfwriaethol mewn perthynas ag adolygiadau cymunedol?

Cwestiwn 32

Rhowch unrhyw sylwadau eraill ar sut y gellid gwella’r broses o gynnal adolygiadau cymunedol yn eich barn chi.

Cwestiwn 33

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid diwygio trefniadau adolygu ffiniau atfor i gynnwys y gallu i’r Comisiwn gynnal adolygiadau sy’n ymwneud â mwy nag un ardal llywodraeth leol ac ehangu a chwtogi ffiniau atfor mewn un broses adolygu? A ddylid cynnwys y trefniadau hynny yn yr un gorchymyn adolygu?

Cwestiwn 34

Ydych chi'n cytuno â'n cynigion i drosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’r Comisiwn?

Cwestiwn 35

Ydych chi’n cytuno y dylid diddymu swyddogaethau sy’n ymwneud â phenderfynu ar gyflogau prif weithredwyr, ac nid eu trosglwyddo?

Cwestiwn 36

Beth yw eich barn am y syniad y dylid creu pwerau newydd er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch taliadau parasiwt i gynghorwyr?

Cwestiwn 37

Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i Gymru gynnal un fframwaith rheoleiddio ar gyfer cyllid gwleidyddol ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl ac etholiadau datganoledig yng Nghymru?

Cwestiwn 38

Rhowch unrhyw sylwadau eraill ar y mesurau penodol sy’n cael eu hystyried ynghylch cyllid gwleidyddol.

Cwestiwn 39

Pa fathau o ddatblygiadau mewn gweinyddu etholiadol fyddech chi'n hoffi eu gweld yn cael eu treialu yn y dyfodol?

Cwestiwn 40

Sut gallem helpu i gael cymysgedd mwy amrywiol o awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn cynlluniau peilot yn y dyfodol?

Cwestiwn 41

Beth yw eich barn am bŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru a fyddai’n eu galluogi i orfodi awdurdod lleol i dreialu datblygiadau etholiadol arloesol?

Cwestiwn 42

A ddylai Swyddogion Canlyniadau orfod dilyn gofynion penodol o ran y Gymraeg pan gynhelir etholiadau?

Cwestiwn 43

A oes unrhyw fathau o wasanaethau yr hoffech chi weld Swyddogion Canlyniadau yn eu darparu yn y Gymraeg?

Cwestiwn 44

Ydych chi erioed wedi cael unrhyw broblem sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn ystod etholiadau?

Pennod 5

Cwestiwn 45

A ddylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu ar gyfer llwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein? Pa wybodaeth y dylid ei darparu ar y llwyfan a phwy ddylai ei gynnal?

Cwestiwn 46

Pwy fyddai angen darparu gwybodaeth i lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr ar-lein, a sut byddai modd eu cefnogi i wneud hynny?

Cwestiwn 47

Beth ddylid ei wneud i annog pleidiau gwleidyddol i gynhyrchu deunyddiau hygyrch?

Cwestiwn 48

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r swyddog canlyniadau mewn etholiad datganoledig fod â dyletswydd i ddarparu unrhyw offer sy’n rhesymol fel ei bod yn haws i bobl anabl bleidleisio?

Cwestiwn 49

Pa gefnogaeth y dylid ei chynnig i sicrhau bod y swyddog canlyniadau’n gallu cyflawni’r rôl honno’n effeithiol?

Cwestiwn 50

Ydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru bennu mewn rheoliadau y math o gymorth y mae’n rhaid ei gynnig i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio?

Cwestiwn 51

Yn eich barn chi, pa fath o gymorth ddylai gael ei gynnig i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio?

Cwestiwn 52

Yn ogystal â darpariaethau yn y Cwricwlwm i Gymru, a oes unrhyw fesurau eraill y dylai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith drwy’r system addysg i sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru gymryd rhan yn hyderus yn etholiadau Cymru?

Cwestiwn 53

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio’r diffiniad o drosedd etholiadol Dylanwad Gormodol a ddarperir gan adran 114A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ar gyfer etholiadau datganoledig?

Cwestiwn 54

Ydych chi’n meddwl y bydd rhai neu bob un o’r camau gweithredu hyn a gynigir ac a ddisgrifir yn y Papur Gwyn yn helpu i gyfrannu at leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr?

Cwestiwn 55

Os ceisir cael eithriad o derfynau gwario ymgeiswyr ar gyfer gwariant sy’n gysylltiedig â diogelwch, pa weithgareddau y dylid eu cynnwys yn yr eithriad hwnnw?

Cwestiwn 56

A fydd yr ychwanegiad a gynigir i’r geiriad safonol ar y ffurflen Datganiad am y Sawl a Enwebwyd yn cael yr effaith a ddymunir sef i leihau achosion o gam-drin, neu a fyddai mesurau gwahanol yn fwy effeithiol?

Cwestiwn 57

Pa gamau eraill fyddai’n cyfrannu at leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr?

Cwestiwn 58

A ddylai Gweinidogion Cymru ddeddfu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu a chynnal ‘Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig’?

Cwestiwn 59

A ddylai’r Gronfa hon fod ar gael i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer pob is-etholiad ac etholiad cyffredin datganoledig yng Nghymru?

Cwestiwn 60

Os ydych chi’n cytuno y dylai’r Gronfa fod yn ofyniad a nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol, beth ddylai’r paramedrau fod ar gyfer gweithredu’r Gronfa?

Cwestiwn 61

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid diddymu’r gofyniad i osod cwestiynau Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol mewn rheoliadau?

Cwestiwn 61a

Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno, a ddylai’r arolwg gael ei ddiweddaru drwy broses adolygu ffurfiol sy’n cynnwys partneriaid allweddol?

Cwestiwn 62

Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodau lleol gael hyblygrwydd i ofyn cwestiynau am fesurau lleol i ehangu cyfranogiad?

Cwestiwn 63

Ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys cwestiynau yn yr arolwg am brofiadau ymgeiswyr o gam-drin ac aflonyddu (gweler yr adran ar “mesurau eraill rydym yn eu cymryd i sicrhau diogelwch ymgeiswyr”)?

Cwestiwn 64

Ydych chi’n credu y dylai Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r set lawn o gwestiynau neu dim ond y cwestiynau craidd ar gyfer Cymru?

Pennod 6

Cwestiwn 65

Beth yw eich barn am effaith cadw at yr amser adnewyddu presennol o 5 mlynedd yng ngoleuni newidiadau Deddf Etholiadau 2022?

Cwestiwn 66

Hoffech chi weld pleidleisio ymlaen llaw a/neu bleidleisio mewn amryw o leoliadau yn cael ei gynnig mewn etholiadau datganoledig ledled Cymru?

Cwestiwn 67

Ydych chi’n cefnogi cyflwyno system ar-lein i bleidleisio absennol yng Nghymru? Os ydych, beth hoffech ei weld?

Cwestiwn 68a

Ydych chi’n meddwl y byddai system o’r fath yn helpu i leihau nifer y pleidleisiau drwy’r post a wrthodir oherwydd gwallau ar y Datganiad Pleidlais drwy'r Post, ac yn helpu i fagu hyder y cyhoedd yn y system bleidleisio drwy’r post?

Cwestiwn 68b

A fyddai modd defnyddio system heb fod yn awtomatig i wneud hyn?

Cwestiwn 69

A fyddai cyflwyno system olrhain pleidleisiau drwy'r post, fel yr un a ddisgrifir uchod, yn creu baich gweinyddol sylweddol ar dimau etholiadol awdurdodau lleol?

Cwestiwn 70

Ydych chi’n cefnogi cyflwyno system e-dracio pleidleisiau drwy'r post yng Nghymru?

Cwestiwn 71

Ydych chi’n cefnogi cyflwyno a defnyddio Cofrestrau Digidol yn ehangach ar gyfer etholiadau nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl yng Nghymru? Beth yw manteision neu anfanteision gwneud hyn?

Cwestiwn 72

A oes rhwystrau posibl rhag cyflwyno Cofrestrau Digidol yn ehangach?

Pennod 7

Cwestiwn 73

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu gorfodol i gynghorwyr? 

Cwestiwn 74

Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno i gwestiwn 73, a ddylai’r hyfforddi a’r datblygu gorfodol hwn ar gyfer cynghorwyr gynnwys prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned?

Cwestiwn 75

Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno i gwestiwn 74, a ddylai’r disgwyliadau ar gyfer hyfforddiant gorfodol fod yn wahanol rhwng prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned?

Cwestiwn 76

Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno i gwestiwn 75, pa gynigion fyddech chi’n gwneud ar gyfer meysydd i'w cynnwys mewn hyfforddiant gorfodol?

Cwestiwn 77

Os ydych chi’n Cytuno’n Gryf neu’n Cytuno y dylid cael hyfforddiant gorfodol, ydych chi’n meddwl y dylid gofyn i ymgeiswyr gadarnhau eu parodrwydd i ymgymryd â’r hyfforddiant fel rhan o’r broses enwebu ymgeiswyr? 

Cwestiwn 78

A ddylid wedyn gosod sancsiynau ar ymgeiswyr nad ydynt yn cadarnhau eu bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant gorfodol?

Cwestiwn 79

A ddylai ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddi a datblygu gorfodol fod yn rhan o’r llw y mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ei gymryd cyn gallu derbyn eu swydd?

Cwestiwn 80

Os mai Dylai oedd yr ateb yng nghwestiwn 79, pa sancsiynau ddylai fod yn berthnasol i aelodau etholedig am beidio ag ymgymryd â hyfforddi a datblygu gorfodol?  

Cwestiwn 81

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig polisi i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer cynghorwyr Tref a Chymuned yn cyd-fynd â’r gyfundrefn anghymhwyso ar gyfer aelodau prif gynghorau yng Nghymru, fel bod aelodau cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu hanghymhwyso rhag dod yn aelod o’r Senedd?

Cwestiwn 82

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cadw’r cyfnod gras i bob cynghorydd sy’n cael ei ethol i’r Senedd?

Cwestiwn 83

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r ffordd o asesu effeithiau’r cynigion a nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig drafft? Oes gennych chi unrhyw sylwadau?

Cwestiwn 84

I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â'r ffordd o asesu costau a manteision y cynigion deddfwriaethol a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft?

Cwestiwn 85

A oes meysydd eraill y dylid eu hystyried wrth i ni ddatblygu mwy ar yr Asesiad Effaith Integredig a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol?

Cwestiwn 86

Nodwch unrhyw ffynonellau data a gwybodaeth eraill y dylem eu hystyried yn yr Asesiad Effaith Integredig a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cwestiwn 87

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai ein cynigion ar ddiwygio etholiadol yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar:

  • gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 88

Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y polisi arfaethedig er mwyn cael:

  • effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a
  • dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Cwestiwn 89

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, mae croeso i chi ddweud wrthym isod:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 10 Ionawr 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG45246

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.