Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ar hyd a lled y wlad i ymuno ag ymgynghoriad cenedlaethol a fydd yn helpu i lunio ei strategaeth i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn allweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ddi-fwg cyn diwedd y degawd.

Ar hyn o bryd, mae tua 14% o bobl yng Nghymru yn smygu ac mae cysylltiadau cryf rhwng smygu ac amddifadedd. Mae pobl mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o smygu. Uchelgais strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli tybaco, Cymru Ddi-fwg, yw bod llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu erbyn 2030.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2021 i helpu i lunio strategaeth tybaco hirdymor Cymru, ac mae ar agor tan 31 Mawrth 2022.

Mae felly lai na mis i fynd ac mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gymunedau ledled y wlad i fanteisio ar y cyfle i ymuno â’r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu barn ar greu dyfodol di-fwg ar gyfer Cymru.

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau mai byw’n ddi-fwg yw’r norm yng Nghymru. O ganlyniad i ymdrechion i gefnogi’r nod hwnnw, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno meysydd chwarae, tiroedd ysgol a thiroedd ysbyty di-fwg.

Yn fwy diweddar, ar 1 Mawrth 2022, mae smygu mewn llofftydd gwestai a thai llety wedi’i wahardd ac mae gofynion di-fwg wedi’u cyflwyno mewn llety gwyliau hunangynhwysol megis bythynnod a charafannau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Ein huchelgais yw gwneud Cymru’n ddi-fwg a helpu pobl i wneud dewisiadau i wella eu hiechyd a’u llesiant. Rydym eisoes yn arwain y ffordd yn hyn o beth, ond rydym yn gwybod y gellir gwneud mwy.

“Rydym am i bobl ledled Cymru rannu eu syniadau ar yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sylweddol y mae smygu’n eu hachosi. Drwy ymuno â’r ymgynghoriad, byddwch yn chwarae rhan weithgar yn yr ymdrech i sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf a phawb yng Nghymru fyw bywydau iachach, di-fwg.”

Bydd y cynlluniau newydd hefyd yn ystyried sut y gellir rhoi cymorth ychwanegol i helpu mwy o bobl i roi’r gorau iddi drwy wasanaeth am ddim y GIG, Helpa Fi i Stopio. Byddant hefyd yn ystyried sut y gellid gofyn i sefydliadau a ariennir gan gyllid cyhoeddus fod yn ddi-fwg ac yn helpu gweithluoedd i gael cyngor a chymorth i roi’r gorau iddi.

I gael dweud eich dweud am sut y dylai Cymru greu cymdeithas ddi-fwg, ewch i llyw.cymru/ymgyngoriadau ac ymuno â’r ymgynghoriad.