Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Mehefin 2021.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar y strategaeth arfaethedig i sicrhau a/neu gynnal statws cadwraeth ffafriol Dolffiniaid a Llamhidyddion yn nyfroedd y DU.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Diben y Strategaeth yw sicrhau a/neu gynnal statws cadwraeth ffafriol drwy:
- fynd i'r afael â phwysau presennol a phwysau sy'n dod i'r amlwg yn yr amgylchedd morol, gyda'r nod o warchod poblogaethau Dolffiniaid, Llamhidyddion a Morfilod Pigfain (Minke) yn y DU
- cydnabod lle mae gwaith eisoes wedi'i gynllunio neu ar y gweill i gyrraedd targedau cadwraeth
- creu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu sectoraidd
Strategaeth Cadwraeth Dolffiniaid a Llamidyddion y DU 2019
Strategaeth Cadwraeth Dolffiniaid a Llamidyddion y DU: cynllun gweithredu
Strategaeth Cadwraeth Dolffiniaid a Llamidyddion y DU: adroddiad technegol
I ddarparu ymateb yn Gymraeg, anfonwch e-bost at Marine@gov.uk.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gov.scot
