Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ail gyfnod ymgyrch fawr sy'n canolbwyntio ar rôl teuluoedd yn y broses rhoi organau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae tair hysbyseb drawiadol yn dangos dewis unigolyn i roi ei organau yn cael ei ddiystyru gan aelodau o'i deulu gan na wnaeth drafod ei benderfyniad â nhw na dweud wrthyn nhw ei fod ar y gofrestr rhoddwyr organau. 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i siarad yn ystod Wythnos Rhoi Organau (3 i 9 Medi) er mwyn atal trawsblaniadau sy'n achub bywyd rhag cael eu colli gan nad oedd teuluoedd yn gwybod am benderfyniad eu hanwyliaid i roi organau.
 

Mae arolygon yn dangos bod tua 80% o bobl yn y DU yn cefnogi rhoi organau, fodd bynnag dim ond 33% o bobl sydd wedi dweud wrth eu teulu eu bod eisiau rhoi organau. Dan amgylchiadau pan na fo teulu yn gwybod beth yw penderfyniad rhywun agos, maent yn llawer mwy tebygol o wrthod caniatáu rhoi organau. 
 

Yn 2017-18, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 22 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniadau eu perthnasau i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi'r cydsyniad tybiedig. 
 

O ystyried bod 3.2 o organau ar gyfartaledd wedi’u tynnu fesul rhoddwr yng Nghymru yn 2017-18, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 70 o drawsblaniadau ychwanegol.
 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 
 

“Rydyn ni'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Rydyn ni'n gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn allan at bobl Cymru ar y mater hwn.

 

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio, sydd wedi cynyddu o 59% yn 2015-16 i 70% yn 2017-18. Fodd bynnag, gan fod pobl yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach byth i gynyddu'r gyfradd cydsynio ymhellach er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.

 

“Os ydych chi'n gwybod eich bod chi eisiau rhoi eich organau, dywedwch wrth eich anwyliaid. Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaethau am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw. Gallai hyn achosi mwy o boen meddwl mewn cyfnod anodd i deuluoedd nad ydyn nhw erioed wedi trafod rhoi organau. 

 

“Os ydych chi’n cefnogi rhoi organau, cofiwch siarad â'ch teulu a'ch ffrindiau amdano.”

Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl Cymru a'r DU drwy leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau pobl eraill.

 

Chi sydd i benderfynu a hoffech roi eich organau ar ôl marw ai peidio. 
 

Pan fyddwch wedi penderfynu, gallwch ddewis:

  • Optio i mewn – bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu bod yn rhoddwr organau. 
  • Gwneud dim - bydd hyn yn dangos nad ydych chi'n gwrthwynebu bod yn rhoddwr organau a thybir eich bod chi wedi rhoi eich cydsyniad.  
  • Optio allan – bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu peidio â bod yn rhoddwr organau.
  • Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), mynd i Peidiwch â gwneud i’ch anwyliaid ddyfalu a ydych chi am roi organau neu drwy ddweud wrth eich teulu (a'ch ffrindiau).