Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau canser yn dal i fod ar gael yn ystod pandemig COVID-19 ac mae pobl sydd â symptomau canser posibl yn cael eu hannog i ofyn am gymorth a chyngor, meddai’r Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Mercher, 17 Mehefin).

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd parhau i ddefnyddio gwasanaethau canser hanfodol wedi’i lansio yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl wedi bod yn osgoi eu meddygfa neu’r ysbyty oherwydd COVID-19 ond mae profion a thriniaeth ar gyfer canser ar gael ac rwyf eisiau i’r rhai sydd angen gofal a thriniaeth barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.

Bydd y gwasanaethau yn edrych yn wahanol, gyda rhai apwyntiadau’n cael eu cynnal o bell. Os oes angen ichi fynd i gael eich gweld yna efallai y bydd clinigwyr yn gwisgo cyfarpar diogelu er mwyn lleihau risg pawb o ddal COVID-19 wrth gael eich gweld ar gyfer canser posibl neu wrth gael triniaeth ar gyfer canser.

Rydyn ni wedi gweithio’n galed gyda’r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau y gall gwasanaethau canser barhau ond mae’r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau. Nid yw hynny’n golygu nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yno ichi ond mae’n golygu bod gofal a thriniaeth wedi gorfod addasu er mwyn eu cynnal mewn byd gyda COVID-19. Byddwn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod gwasanaethau canser yno ichi pan fydd arnoch eu hangen.

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru:

Os ydych yn sâl gyda symptomau sy’n eich poeni neu sy’n barhaus yna gofynnwch am gymorth gan eich timau gofal iechyd sylfaenol a chymunedol. Maen nhw ar agor ac fe fyddan nhw’n gallu’ch asesu’n ddiogel a phan fo angen, eich sicrhau neu eich cyfeirio ymlaen ar gyfer profion pellach neu driniaeth.
 
Os cewch eich cyfeirio ar gyfer profion pellach a/neu driniaeth, mae byrddau iechyd ac ysbytai wedi gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod gwasanaethau mor ddiogel â phosibl. Bydd apwyntiadau ar gyfer profion a thriniaeth wedi cael eu gwneud am ei bod yn bwysig iawn archwilio pethau ymhellach, i’ch sicrhau cyn gynted â phosibl os nad oes gennych broblem ddifrifol, neu i’ch trin cyn gynted â phosibl os oes angen. Os ydych chi’n pryderu ynghylch a yw hi’n ddiogel mynd i’ch apwyntiad, gofynnwch i’ch meddygfa neu’r ysbyty ba gamau sy’n cael eu cymryd i’ch diogelu chi yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Felindre:

Mae Canolfan Ganser Felindre ar agor o hyd – rydyn ni’n trin ac yn cefnogi cleifion canser heddiw fel yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y tri mis diwethaf. Mae’r feirws wedi bod yn heriol dros ben inni ond rydyn ni wedi gweithio’n gyflym i feddwl mewn ffyrdd gwahanol er mwyn parhau i ddarparu triniaeth a gofal o’r radd flaenaf i’n cleifion.

Rydyn ni wedi manteisio ar dechnoleg newydd i gynnal y berthynas rhwng y claf a’r meddyg ac wedi cynyddu ein gwaith ar-lein i gyfeirio pobl at wasanaethau a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, sydd wrth gwrs yn bryderus. Yng nghanol hyn oll, nid wyf erioed wedi bod yn fwy balch o’n staff sydd wedi mynd yr ail filltir i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru:

Mae’n gyfnod pryderus iawn i bobl sy’n byw â chanser a’r rhai sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth. Mae’r rhain yn amgylchiadau eithriadol i wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru, sydd wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed i ymateb i heriau pandemig COVID-19.

Rydyn ni’n croesawu’r neges glir gan Lywodraeth Cymru na ddylai neb oedi cyn cael cymorth am symptomau canser ac yma ym Macmillan rydyn ni’n annog pobl i ymateb i hynny drwy sicrhau bod unrhyw arwyddion o ganser neu symptomau yn cael eu gweld ar unwaith. Er na fydd canser gan lawer o’r bobl sy’n cael prawf, mae’n hanfodol bod symptomau yn cael eu harchwilio cyn gynted â phosibl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn ailddechrau anfon gwahoddiadau a llythyrau atgoffa at bobl sy’n gymwys i gael eu sgrinio ar gyfer canser ceg y groth, canser y fron a chanser y coluddyn, gan ddechrau gyda Sgrinio Serfigol Cymru o ddiwedd mis Mehefin ymlaen.

Mae sgrinio yn targedu pobl sydd â risg uwch o ganser penodol ac mae’n wahanol i archwilio symptomau canser.

Os oes gennych chi symptomau posibl canser, megis newidiadau estynedig neu sylweddol i’ch iechyd corfforol, yna cysylltwch â’ch meddygfa i gael cyngor. Byddan nhw eisiau clywed gennych.

Os ydych chi wedi cael diagnosis o ganser ac wrthi’n cael triniaeth, mae’n bwysig ichi gadw mewn cysylltiad â’ch clinigydd a’ch gweithiwr allweddol i gytuno ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer eich gofal.

Os oes diagnosis o ganser eisoes wedi effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol neu’ch gallu i fwyta ac yfed, mae’n bwysig gofyn am gyngor a chymorth pellach. Mae cadw’n iach yn gorfforol, yn feddyliol ac o ran maeth, yn barod ar gyfer unrhyw driniaeth bosibl, yn helpu i leihau’r risg o sgil-effeithiau a hefyd yn eich helpu i adfer yn gynt.

Mae nawr hefyd yn amser da i roi’r gorau i ysmygu ac mae cymorth ar gael gan GIG Cymru yn www.helpafiistopio.cymru/

Mae ysbytai wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gwasanaethau mor ddiogel â phosibl. Mae apwyntiadau yn parhau i gael eu gwneud gan ei bod yn bwysig archwilio pethau ymhellach a darparu triniaeth pan fo angen.
Ni ddylai pobl sy’n pryderu am ddiogelwch fethu apwyntiadau. Yn hytrach, dylen nhw drafod â’u meddygfa neu’r ysbyty ba gamau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu cleifion.

Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael gan Gymorth Canser Macmillan. Mae’r llinell gymorth ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am ac 8pm ar 0808 808 00 00.

Mae gwybodaeth a chymorth cynhwysfawr, gan gynnwys canllawiau a chyngor diweddaraf Macmillan ar effaith y coronafeirws ar ofal canser.

Hefyd, mae gan Gynghrair Canser Cymru gyfeirlyfr o wasanaethau ei aelodau 

Mae ei gymuned ar-lein yn parhau i ddarparu cymorth emosiynol hanfodol a chymorth gan gleifion canser eraill.