Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cytunodd y Panel Blaenoriaethu Adnoddau (PRP) y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen i recriwtio prentisiaid yn 2022. Nod y cynllun hwn yw mynd i'r afael â'r canlynol:

  • ymrwymiadau Gweinidogol i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol ac sy'n mynd ymlaen i wneud prentisiaeth
  • prinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau mewn sectorau sy'n datblygu a sectorau sy'n dod i'r amlwg
  • y pwysau cynyddol am fwy o adnoddau i ymateb i'r cyfnod Pontio o'r UE, COVID-19 a gofynion ‘busnes fel arfer’ critigol
  • yr angen i ehangu sgiliau ac amrywiaeth y rhai a gaiff eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru er budd y sefydliad cyfan a'r bobl a wasanaethir ganddo

Caiff cynigion eu coladu o bob maes Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Prentisiaethau addas. Caiff addasrwydd y rolau hyn ei asesu mewn partneriaeth â'r darparwr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau (ALS), yn ogystal â sicrhau bod cymeradwyaethau perthnasol eraill ar waith (JEGS, cyllid ac ati).

Caiff y prentisiaethau eu rhannu'n dri llwybr:

  • Busnes a Gweinyddu
  • Cyllid
  • Digidol, Data a Thechnoleg

Er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch prentisiaeth yn sicrhau cadernid hirdymor, yn fforddiadwy ac yn lleihau ein dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth, contractwyr neu benodiadau uniongyrchol, cytunwyd y bydd yn unol â'r egwyddorion canlynol:

  • Caiff yr hysbyseb a phob penodiad o'r hysbyseb eu gwneud mewn ffordd deg, agored ac ar sail teilyngdod yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
  • Gwneir penodiadau ar sail cyfnod penodol am 18 mis er mwyn rhoi cyfle i brentisiaid gyflawni eu modiwlau hyfforddiant. Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus ac yn foddhaol, gall ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r holl feini prawf a chwblhau'r modiwlau dysgu gael eu symud i gontract parhaol yn amodol ar gyllid a chymeradwyaethau.
  • Caiff pob swydd ei hariannu drwy Gostau Rhedeg Dirprwyedig (DRC) a bydd hyn yn cynnwys yr ‘argostau’ a fydd yn deillio o'r penodiad. (Os na chaiff cyllid DRC ei gymeradwyo, dim ond swyddi a ariennir drwy'r Rhaglen a gaiff eu hysbysebu).

Bydd y mwyafrif o'r rolau a gaiff eu cymeradwyo i'w llenwi gan y Cynllun Prentisiaeth yn ‘gyffredinol’ eu natur, a chanolbwyntir ar Fusnes a Gweinyddu. Fodd bynnag, bydd rhai rolau mwy ‘arbenigol’ yn y meysydd Digidol, Data a Thechnoleg a Chyllid; er na fydd angen penodi'n uniongyrchol i'r rhain, efallai y bydd angen proses ymgeisio ac asesu ychydig yn wahanol arnynt oherwydd natur y rolau.

Bydd tair hysbyseb (un fesul llwybr Prentisiaeth) a'r raddfa gyflog a gynigir fydd Cymorth Tîm. Bydd yr holl newydd-ddyfodiaid yn dechrau ar waelod yr ystod gyflog ar gyfer Cymorth Tîm a byddant yn gymwys i gael cynnydd cynyddrannol i'w cyflogau yn unol â Pholisi Tâl a Gwobrwyo y sefydliad.

Hirdymor

Nid oes tueddiadau, heriau na chyfleoedd hirdymor a fydd yn effeithio ar y cynnig gan y bydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod cymharol fyr. Fodd bynnag, mae gan y cynnig ei hun oblygiadau tymor hwy i'r sefydliad, gan gynnwys cynyddu adnoddau, nifer y staff a gwariant DRC. Yn ogystal, mae'r cynllun yn bwriadu ehangu sgiliau ac amrywiaeth y rhai a gaiff eu cyflogi gan y sefydliad er budd y sefydliad cyfan a'r bobl a wasanaethir ganddo.

Er mwyn denu casgliad mwy amrywiol o ymgeiswyr – i adlewyrchu pobl Cymru yn well – rhoddwyd sylw penodol i'r iaith a'r strategaethau allgymorth a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r hysbyseb. O ystyried y ffaith y gall prentisiaid sy'n cwblhau'r cynllun yn llwyddiannus ddod yn gyflogeion parhaol, gallai hyn wella targedau amrywiaeth hirdymor y sefydliad a chyfrannu at ymrwymiadau sefydliadol fel rhan o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu: 2021 i 2026.

Drwy gefnogi carfan o brentisiaid drwy eu taith ddysgu seiliedig ar waith a chynnig cyflogaeth barhaus gyda'r sefydliad ar ôl cwblhau'r rhaglen brentisiaeth yn llwyddiannus o bosibl, byddai'r cynllun hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiadau Gweinidogol i ariannu mwy o brentisiaethau a chefnogi pobl i ymuno â'r byd gwaith. Yn ogystal, drwy recriwtio unigolion sydd â'r anghenion sydd eu hangen ar y sefydliad, mae ganddo'r potensial i gyfrannu at brosesau gwell o ddatblygu a chyflwyno polisi a deddfwriaeth ym mhob rhan o'r sefydliad.

Atal

Mae'r cynnig yn cefnogi ymdrechion i dorri cylchoedd negyddol (tlodi, iechyd gwael, difrod amgylcheddol) drwy recriwtio a hyfforddi prentisiaid i weithio mewn meysydd sy'n datblygu atebion polisi i fynd i'r afael â'r cylchoedd hyn. Mae'r cynnig hefyd yn cefnogi mwy o unigolion i ddod o hyd i waith ac ymgymryd â hyfforddiant seiliedig ar waith yn unol ag ymrwymiadau Gweinidogol diweddar.

Yn ogystal, bydd y cynllun yn ceisio cynyddu amrywiaeth y rhai a gyflogir gan Lywodraeth Cymru drwy nodi'n glir (drwy hysbysebion, canllawiau a gweithgarwch allgymorth) fod Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl â nodweddion gwarchodedig.

Gall cynyddu amrywiaeth cyflogeion i lefelau sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well helpu'r sefydliad i ddatblygu a chyflwyno polisïau mewn ffordd fwy ystyriol, cynhwysol a chynrychiadol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.

Mae gan y dull recriwtio teg, agored ac ar sail teilyngdod y potensial i ennyn diddordeb nifer mawr o unigolion, felly rydym yn disgwyl nifer sylweddol o geisiadau gan unigolion sydd wedi wynebu anfantais ariannol neu sy'n ddi-waith o ganlyniad i bandemig COVID-19. Byddai'r cynllun yn ceisio cefnogi'r rhai a all fod wedi colli eu gwaith i ailhyfforddi ar lwybr gyrfa arall neu mewn galwedigaeth wahanol.

O ystyried natur y cynllun, ni fyddai llawer o effeithiau negyddol i'w lleihau. Bwriedir cynnal pob cyfweliad o bell ac yn rhithwir sy'n lleihau allyriadau posibl gan na fydd angen i unigolion deithio i safleoedd Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio eu trafnidiaeth eu hunain neu drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai hyn yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig a all fod yn eithaf pell o un o safleoedd Llywodraeth Cymru. Gan y byddai cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir, byddai nodiadau a dogfennau o'r cyfweliadau yn cael eu cwblhau a'u dosbarthu'n electronig, a fydd hefyd yn lleihau'r angen i argraffu a'r angen i staff fynychu swyddfeydd.

Integreiddio

Drwy gynnig y cyfle hwn, bydd y Cynllun Prentisiaeth yn ceisio mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â bod heb waith drwy greu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant ac uwchsgilio ymgeiswyr i gefnogi Gweinidogion â'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni ymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Gan y bydd swyddi gwag ym mhob rhan o'r sefydliad, bydd y cynllun felly o fudd i amrywiaeth o feysydd polisi gwahanol a rhaglenni cyfredol.

Drwy nodi'n glir yn ein gweithgarwch allgymorth ac yng ngeiriad ein hysbyseb y gall pobl o amrywiaeth o gefndiroedd neu'r trydydd sector wneud cais am y cyfle hwn, bydd y cynllun yn ein galluogi i rannu gwybodaeth a phrofiadau gan unigolion a all fod wedi gweithio mewn sefydliadau eraill eisoes. Byddai hyn yn cysylltu â'r strategaeth Ffyniant i Bawb er mwyn galluogi gwasanaethau cyhoeddus a'r sector gwirfoddol i gydweithio er lles pobl Cymru ac, yn ei dro, gyfrannu at sicrhau bod gweithlu'r sefydliad yn adlewyrchu'r bobl a wasanaethir ganddo yn well.

Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi'r ymrwymiadau yn y Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau fel a ganlyn:

  • Cynyddu nifer y prentisiaid rhwng 16 a 19 oed drwy gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol sy'n manteisio ar brentisiaethau o safon
  • Mynd i'r afael â phrinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau, yn enwedig mewn sectorau sy'n datblygu ac yn dod i'r amlwg megis TGCh, Peirianneg, Adeiladu, a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
  • Datblygu sgiliau lefel uwch drwy ganolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 4 ac uwch lle mae'r enillion yn tueddu i fod yn uwch
  • Datblygu llwybrau sgiliau drwy integreiddio prentisiaethau yn y system addysg ehangach a'i gwneud hi'n haws i rywun ddechrau prentisiaeth o lwybr dysgu arall.

Cydweithio

Mae'r Tîm Pontio Adnoddau Dynol wedi cydgysylltu ac ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid wrth gynllunio a datblygu'r Cynllun Prentisiaeth. Mae'r rhanddeiliaid hyn yn cynnwys:

  • ALS (y Darparwr Hyfforddiant ar gyfer Prentisiaethau)
  • y Panel Blaenoriaethu Adnoddau
  • Paneli Adnoddau Grŵp
  • Penaethiaid/Arweinwyr Proffesiwn lle y bo'n berthnasol
  • Timau Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau Arbenigol Adnoddau Dynol
  • y Ganolfan Cydwasanaethau (Adnoddau Dynol)
  • Cyllid
  • Ochr yr Undebau Llafur
  • y Tîm Sicrhau Amrywiaeth wrth Recriwtio
  • Tîm y Gymraeg
  • y Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle
  • Timau Cyfathrebu Allanol a Mewnol
  • Tîm Creadigol

Mae'r rhanddeiliaid hyn wedi helpu i bennu graddfa'r ymgyrch, gan gynnwys blaenoriaethau, dyluniad, costau ac effaith y cynllun ynghyd ag ymdrin â materion cydymffurfio a llywodraethu'r broses yn ei chyfanrwydd.

Cynnwys

Bydd y Cynllun Prentisiaeth yn galluogi timau o bob rhan o Lywodraeth Cymru i gael adnoddau ychwanegol, â phwyslais newydd, i'w helpu i gyflawni ymrwymiadau Gweinidogol. Caiff pob maes Cyfarwyddwr Cyffredinol ei gynnwys ar y cam comisiynu er mwyn ei alluogi i nodi pa feysydd sy'n flaenoriaeth ar gyfer yr adnodd Prentisiaethau. Gofynnir iddynt sicrhau bod y rolau a gynigir ganddynt yn rhai o ansawdd uchel sy'n cynnig lefel dda o gefnogaeth a datblygiad i Brentis. Rhaid i'r rolau hyn gael eu cymeradwyo gan Baneli Adnoddau Lleol a'r Panel Blaenoriaethu Adnoddau. Byddant hefyd yn cael eu hasesu gan ALS er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.

Ni fydd y cynllun yn cael unrhyw effaith ar y cynllun Porth Asesu ar gyfer cynnydd mewnol TS-G7. Ymgynghorir ag Ochr yr Undebau Llafur er mwyn sicrhau y caiff pob safbwynt ei ystyried a bod y rhaglen recriwtio yn deg. Bydd y broses ddethol yn Deg, yn Agored ac ar sail Teilyngdod.

Caiff y timau Cydraddoldeb yn y Gweithle a Sicrhau Amrywiaeth wrth Recriwtio eu cynnwys yn llawn yn y broses o ddatblygu'r cynllun hwn a'i holl weithgarwch allgymorth. Diben hyn yw sicrhau ei fod yn gynhwysol ac mor ddeniadol â phosibl i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngweithlu Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, defnyddir proses sifftio ddienw er mwyn lleihau'r risg o ragfarn ddiarwybod. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hon yn helpu'r sefydliad i gyflawni ei dargedau amrywiaeth.

Bydd tîm Safonau’r Gymraeg yn cael ei gynnwys yn llawn hefyd er mwyn cynghori ar gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Effaith

Nodir y prif ddadleuon o blaid y cynllun isod:

  • Mae ymateb i effaith y cyfnod Pontio o'r UE a phandemig y Coronafeirws wedi dangos bod angen mwy o bobl ar y sefydliad er mwyn ymgymryd â rolau craidd i ymateb i'r cyfnod Pontio o'r UE a COVID-19.
  • Bydd y cynllun yn sicrhau bod timau sy'n cyflawni blaenoriaethau hanfodol y llywodraeth yn cael adnoddau priodol gan gyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o brentisiaethau i bobl Cymru ar yr un pryd.
  • O ganlyniad i gyfraddau boddhad uchel a moratoriwm ar y rhan fwyaf o ymgyrchoedd recriwtio allanol nad ydynt yn arbenigol (ac eithrio cynlluniau Penodiadau Tymor Penodol/Secondiadau allanol diweddar), mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad disymud i raddau helaeth. Mae recriwtio prentisiaid yn allanol yn cynnig cyfle i gynyddu amrywiaeth gweithlu Llywodraeth Cymru a dod â syniadau a safbwyntiau newydd i'r sefydliad.

Nodir y prif ddadleuon yn erbyn y cynllun isod:

  • Bydd effaith ar nifer y staff yn y sefydliad a gwariant DRC gan y caiff prentisiaethau eu cynnig am gyfnod penodol nes y caiff y cymhwyster ei gwblhau a phennir bod perfformiad/presenoldeb yn foddhaol – ar y pwynt hwn, fel arfer caiff contractau eu gwneud yn rhai parhaol (ond nid yw hyn wedi'i warantu).
  • Bydd rhaglen allgymorth gynhwysfawr yn rhoi'r cyfle gorau posib i Lywodraeth Cymru recriwtio gweithlu mwy amrywiol. Fodd bynnag, os bydd yn llwyddiannus, bydd yn cynyddu nifer y ceisiadau a geir ar gyfer y cynllun, a all gynyddu'r amser a gymerir i gynnal y cynllun a chynefino ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n bosibl hefyd y bydd yr adnoddau y bydd eu hangen gan y busnes ar gyfer sifftio a chyfweld yn sylweddol uwch yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law.

Costau ac arbedion

Costau adnoddau

Defnyddir aelodau o staff o'r Tîm ‘Pontio Adnoddau Dynol/Recriwtio Allanol’ presennol i gyflawni'r cynllun. Efallai y bydd angen adnodd Cymorth Tîm ychwanegol er mwyn helpu i gyflawni'r cynllun a all effeithio ar gostau rhedeg.

Cyllid

Mae'r Panel Blaenoriaethu Adnoddau wedi cytuno y darperir cyllid DRC yn ganolog ar gyfer hyd at 50 o Brentisiaid Busnes a Gweinyddu a Phrentisiaid Cyllid dros gyfnod 18 mis y Brentisiaeth. Disgwylir y bydd y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn recriwtio hyd at 10 Prentis a ariennir drwy DRC dros y 18 mis yma hefyd. Bydd y cyllid hwn yn cynnwys argostau cysylltiedig (e.e. caledwedd/meddalwedd TG, Cyfleusterau, swyddogaethau cymorth Adnoddau Dynol ac ati).

Arbedion

Gellir gwneud arbedion drwy grwpio'r holl rolau ar dair hysbyseb benodol ar gyfer y fframwaith prentisiaeth, yn hytrach na chyhoeddi sawl hysbyseb ag un rôl.

Systemau

Nid oes angen deddfwriaeth ac felly ni fydd angen asesiad effaith rheoleiddiol.

Adran 8: Casgliad

8.1 Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Caiff Cynllun Prentisiaeth ei gynnal er mwyn llenwi swyddi hanfodol ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru, gan gynnig hyfforddiant seiliedig ar waith i bobl sy'n chwilio am yrfa neu her newydd. Gwnaed y prif waith ymgysylltu ac ymgynghori mewn perthynas â'r cynllun â Rhanddeiliaid Mewnol a'r darparwr hyfforddiant, ALS Training.

Ceir rhestr lawn o'r rhanddeiliaid mewnol yn adran un. Cafwyd cyngor, arweiniad, cymeradwyaeth (pan oedd angen) a chymorth gan y rhanddeiliaid hyn i ddatblygu a chyflawni'r broses o'r dechrau i'r diwedd.

Bydd y Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle a'r Tîm Sicrhau Amrywiaeth wrth Recriwtio yn adolygu'r holl ohebiaeth allanol, dogfennau canllaw a chynlluniau allgymorth cyn lansio'r Cynllun Prentisiaeth er mwyn sicrhau ei fod mor agored a chynhwysol â phosibl.

Bydd y gweithgarwch allgymorth yn targedu rhwydweithiau – sydd â chynrychiolwyr o grwpiau â nodweddion gwarchodedig – gyda ‘gohebiaeth cyn hysbysebu’ ar gyfer yr ymgyrch er mwyn annog ceisiadau gan ymgeiswyr amrywiol na chânt eu cynrychioli'n ddigonol yn y gweithlu ar hyn o bryd.

Ymgysylltir â Golley Slater yn benodol ar gyfer y cynllun, er mwyn darparu cyngor arbenigol ar ba gyfryngau i'w defnyddio i dargedu'r casgliad ehangaf o ymgeiswyr, a byddwn yn ceisio cyngor gan gydweithwyr Cyfathrebu Allanol hefyd.

Bydd Is-adran y Gymraeg yn ystyried cydymffurfiaeth y cynllun â deddfwriaeth berthnasol Safonau'r Gymraeg ac yn cynnig cyngor ar hyn.

Bydd ALS Training drwy Tribal PLC yn darparu'r prawf ar-lein a'r llwyfan profi a fydd yn rhan allweddol o'r asesiad. Mae'r cyflenwr hwn yn bodloni gofynion hygyrchedd y Llywodraeth a, thrwy wneud hynny, bydd yn bodloni rheoliadau hygyrchedd sy'n gymwys i sefydliadau'r sector cyhoeddus.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bydd y Cynllun Prentisiaeth yn cael dylanwad cadarnhaol ar allu'r sefydliad i gyflawni blaenoriaethau Gweinidogol drwy ddarparu adnoddau hanfodol mewn amrywiaeth o feysydd busnes er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i amrywiaeth eang o bobl sydd â sgiliau cyffredinol neu arbenigol, o fewn y gwasanaeth sifil neu'r tu allan iddo, sy'n gyflogedig neu'n ddi-waith ledled Cymru neu'r tu hwnt.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu yn osgoi, leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Adran 1, ynghyd â'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn Adran E yn cyfeirio at hyn (gellir darparu Asesiadau Effaith ar gais).

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Caiff adroddiadau rheolaidd a gwybodaeth am Reoli Cydraddoldeb ac Amrywiaeth eu hadolygu wrth i'r ymgyrch recriwtio fynd rhagddi.

Yn ogystal, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid allweddol (e.e. Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol, paneli adnoddau corfforaethol) y mae'r ymgyrch recriwtio yn effeithio arnynt pan gyrhaeddir cerrig milltir pwysig.

Bydd ymarfer ‘gwersi a ddysgwyd’ llawn yn dilyn yr ymgyrch recriwtio er mwyn nodi unrhyw gyfleoedd a gollwyd a sicrhau y bydd dyluniad ymgyrchoedd yn y dyfodol yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.