Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r hysbyseb drawiadol yn dangos dewis unigolyn i roi ei organau yn cael ei ddiystyru gan aelodau o'i deulu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r hysbyseb drawiadol yn dangos dewis unigolyn i roi ei organau yn cael ei ddiystyru gan aelodau o'i deulu gan na wnaeth drafod ei benderfyniad â nhw na'i fod wedi cofrestru ar y gofrestr rhoddwyr organau. Yn 2016-17, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 21 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi'r cydsyniad tybiedig. 

O ystyried y cafwyd 3.1 o organau ar gyfartaledd fesul rhoddwr yng Nghymru yn 2016-17, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 65 o drawsblaniadau ychwanegol. 

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn gydsyniad tybiedig. Er hyn, os nad yw'r unigolion yn trafod eu penderfyniad i roi organau ag aelodau eu teulu, efallai na fyddant yn parchu'r penderfyniad hwnnw ac yn diystyru'r gofrestr rhoddwyr organau neu'r cydsyniad tybiedig. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Rydyn ni'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Rydyn ni'n gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn cynyddu, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn allan at bobl Cymru ar y mater hwn. 

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio. Ym mis Mawrth 2013, dim ond 50% oedd yn rhoi caniatâd ond ym mis Mawrth 2017, roedd wedi cynyddu i 64%. Ond gan fod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach i gynyddu canran y boblogaeth sy'n cydsynio er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad. 

"Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaeth am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw. Gallai hyn achosi mwy o boen meddwl mewn cyfnod anodd i deuluoedd sydd erioed wedi trafod rhoi organau. 

“Rwy'n annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei barchu.”

Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl Cymru a'r Deyrnas Unedig drwy leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau pobl eraill.

Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), mynd i rhoiorganau.org neu drwy ddweud wrth eich teulu (a'ch ffrindiau).