Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddodd fy nhrawsblaniad ryddid i mi.

Siaradwch am roi organau: Abeer Hussein

Derbyniodd Abeer, o ardal Lakeside, Caerdydd, drawsblaniad aren a newidiodd ei bywyd dair blynedd yn ôl, ond mae rhai pobl yn ei chymuned na fydd mor ffodus.

Cafodd y cyn-gynorthwyydd addysgu, sydd bellach yn ei 50au cynnar, ddiagnosis o adlif fesicoureterig, llif annormal o wrin o’r bledren i’r arennau, pan oedd yn ei thridegau.

Dywedodd:

Rwy’n cofio ymweld â meddygon yn achlysurol am flynyddoedd. Dywedwyd wrthyf fod gen i haint wrin a chefais wrthfiotigau ar bresgripsiwn. Pan oedd yr haint yn dychwelyd o hyd, roeddwn yn siŵr ei fod yn rhywbeth mwy difrifol.

Ar ôl blynyddoedd o’r broblem yn codi’n rheolaidd, cefais fwy o brofion, a sgan uwchsain i wirio fy aren, a dyna ddangosodd bod yr adlif fesicoureterig arna i, wnaeth arwain at ei aren yn methu.

Ar ôl ychydig fisoedd ar ddialysis bob wythnos am 4 awr y sesiwn, cefais fy rhoi ar y rhestr drawsblannu yn y gobaith y gallwn ddod o hyd i roddwr.

Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn wynebu dialysis. Ambell ddiwrnod, roeddwn i’n rhy sâl i fynd i’r uned. Un diwrnod ym mis Mawrth, rwy’n cofio cwrdd â ffrind a dweud wrthi fy mod i wedi cael cymaint o lond bol fel nad oeddwn i’n mynd i’r sesiwn yr wythnos honno.

Wedi i fi fynd adref y noson honno, doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc pan gefais alwad gan yr ysbyty i ddweud wrthyf fod rhoddwr addas ar gael. Gofynnodd y nyrs i mi a fyddwn i’n gallu bod yn yr ysbyty mewn hanner awr, a chefais y trawsblaniad drannoeth.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae’r aren a dderbyniodd Abeer yn gweithio’n dda, ac er ei bod yn dal i orfod defnyddio meddyginiaeth i reoli’r organ a drawsblannwyd, mae’n dweud bod y trawsblaniad wedi newid ei bywyd.

Meddai:

Mae fy nhrawsblaniad wedi rhoi rhyddid i mi, rwy’n gallu bwyta’r hyn rydw i ei eisiau, rwy’n gallu ymweld â ffrindiau; rydw i wedi cael fy annibyniaeth yn ôl.

Mae fy mhlant wedi gweld y gwahaniaeth mae’r trawsblaniad wedi’i gael ar ein bywydau, ac maen nhw i gyd o blaid rhoi organau. Mae’n bosib bod rhai yn meddwl nad yw Islam yn caniatáu’r broses, ond dydy hynny ddim yn wir. Rwy’n credu bod llawer o wybodaeth gamarweiniol am roi organau ymhlith cymunedau Asiaidd – a dyna pam mae angen i fwy o bobl drafod y pwnc a sylweddoli y gall achub bywydau unigolion.

Yn fy mamwlad, Gwlad yr Iorddonen, diwylliant pobl yn aml iawn sy’n eu hatal rhag cefnogi rhoi organau, yn hytrach na’u crefydd. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn deall y broses a’r gwahaniaeth enfawr maen nhw’n gallu’i wneud wrth roi organ i berson arall.

Rydw i mor ddiolchgar am gael y rhodd hwn o fywyd, ac mae fy stori i’n dangos bod yna obaith ac rwy’n annog pobl o gymunedau Asiaidd i drafod rhoi organau.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.