Neidio i'r prif gynnwy

Menyw o Sir Ddinbych yn annog pobl i roi cornbilennau er cof am ei diweddar ŵr

Siaradwch am roi organau: Avril Carter

Mae Avril Carter, o Ruthun, yn annog pobl i siarad â’u hanwyliaid am roi meinweoedd.

Roedd gwr Avril, John  yn 62 oed pan ddechreuodd gael anhawster llyncu. Cafodd ddiagnosis ym mis Mai 2014 a chael gwybod bod ganddo ganser yr oesoffagws cam 2 Cafodd wellhad dros dro am dair blynedd, ond ym mis Gorffennaf 2017, dechreuodd John golli pwysau a chael anhawster gyda gweithgareddau bob dydd.

Ar ôl profion a thriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, trosglwyddwyd John i Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth ar gyfer gofal diwedd oes.

Meddai Avril:

“Fel teulu, mae rhoi rhywbeth yn ôl wedi bod yn bwysig iawn i ni erioed. Roedd John yn credu’n gryf mewn helpu eraill drwy roi organau, felly pan glywodd fod y canser wedi lladd unrhyw obaith iddo roi ei organau mewnol, holodd am ei opsiynau. Roedd yn ddyn camera proffesiynol ac yn gwirioni ar ffotograffiaeth, felly roedd ei olwg yn bwysig dros ben iddo. Dyna pam y penderfynodd ei fod am roi ei gornbilennau.

“Addawodd yr hosbis i godi ymwybyddiaeth o roi cornbilennau ymysg cleifion sy’n derbyn gofal diwedd oes ac mae’n annog pawb i siarad am eu penderfyniad gyda’u hanwyliaid.

“Wrth i mi edrych yn ôl ar gadarnhau penderfyniad John i roi, roeddwn i’n gwybod mai dyma’r penderfyniad cywir. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig siarad â’r rhai sy’n agos atoch chi er mwyn iddyn nhw ddeall eich penderfyniad ar gyfer y dyfodol.”

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.