Neidio i'r prif gynnwy

Doedd Carwyn ddim yn meddwl y byddai’n digwydd iddo fe.

Siaradwch am roi organau: Carwyn Jones

Ar ôl aros am bedair blynedd, cafodd Carwyn Jones, sy'n 33 oed, y newyddion da roedd e wedi bod yn aros amdano pan gafodd ail gyfle ar fywyd ar ôl cael trawsblaniad aren a phancreas ym mis Awst 2020.

Er bod ganddo diabetes math 1 ers iddo fod yn ddwy oed, feddyliodd Carwyn, o Bont-siân, erioed y byddai'n mynd yn sâl mor gynnar yn ei fywyd fel oedolyn. Ond yn 2016, yn 29 oed, newidiodd bywyd Carwyn yn llwyr ar ôl iddo lewygu ar y ffordd i'r gwaith.

Meddai:

Cefais fy rhuthro i'r adran achosion brys yng Nghaerfyrddin, ac ar ôl cyfres o brofion, fe welon nhw nad oedd fy nghalon i'n gweithio'n iawn. Dywedon nhw wrtha i bod fy arennau'n methu ac y byddai angen triniaeth dialysis arna i er mwyn fy nghadw i'n fyw.

Roedd dialysis yn gwneud i fi deimlo'n isel, yn flinedig ac wedi ymlâdd. Fi oedd y person ifancaf o bell ffordd ar yr uned ddialysis, ac roedd hynny ynddo'i hunan yn anodd ei dderbyn.

Tri chynnig i Gymro

Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 2019, cafodd Carwyn alwad yn rhoi gwybod am organau cyfatebol posib.

Meddai:

Ar ôl tair blynedd ar y rhestr drawsblaniad, o'r diwedd ces i'r alwad o'n i'n aros amdani. Maen nhw'n eich rhybuddio efallai na fydd pethau'n mynd yn eu blaen, ac yn anffodus dyna ddigwyddodd.

Gyda thri chynnig i Gymro, yn Awst 2020, gofynnwyd iddo fynd i Ysbyty Athroafol Cymru yng Nghaerdydd i gael trawsblaniad dwbl y pancreas a'r aren gyda phandemig COVID-19 yn ei anterth.

Meddai:

Mae'n anodd credu mewn cyfnod o anobaith o'r fath, fy mod i wedi cael ail gyfle ar fywyd.

Dyfodol addawol

Alla i ddim diolch teulu fy rhoddwr digon. Mae'r penderfyniad maen nhw wedi'i wneud yn golygu bod modd i fi ddychwelyd i'r gwaith yn y pen draw, gweld fy nithoedd yn tyfu lan, a mwynhau bywyd i'r eithaf o'r diwedd.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n hanfodol bod pobl yn siarad gyda'u teuluoedd ac yn cofrestru eu penderfyniad i roi organau. Mae'n effeithio ar bobl o bob oed, ac i'r mwyafrif o bobl, cael organau yw eu cyfle olaf i gael bywyd 'normal'.

Mae fy iechyd i'n gwella bob dydd. Mae gen i fwy o egni a dw i mewn llai o boen; o'r diwedd galla i weld y goleuni ym mhen draw'r twnnel.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.