Siaradwch am roi organau: Ellie Lacey
Ail gyfle i fyw bywyd yn llawn o antur.
Roedd Ellie Lacey (31) o Gaerdydd yn ifanc, yn iach, yn heini ac yn byw bywyd gweithgar nes iddi fynd yn ddifrifol wael am i’w hafu fethu. Roedd hi’n meddwl fod ei bywyd ar ben ond mae trawsblaniad wedi rhoi ail gyfle iddi fyw bywyd yn llawn o antur. Dyma Ellie i ddweud ei stori:
“Roeddwn i wedi dechrau teimlo’n flinedig iawn, ond roeddwn i’n meddwl mai’r rheswm dros hynny oedd mai dim ond newydd ddod yn ôl o daith seiclo bum mis o hyd o gwmpas Ewrop roedden ni, felly wnes i ddim meddwl gormod am y peth. Ar ôl i’r blinder ddechrau parhau, fe benderfynais fynd i weld y meddyg teulu i gael profion gwaed; dangosodd y canlyniadau fod problem gyda fy afu, ond dywedodd y meddyg mai feirws oedd yn fwyaf tebygol o fod yn achosi hynny, ac y byddwn i’n gwella, fwy na thebyg. O fewn mater o wythnosau, roedd fy nghorff wedi chwyddo, roeddwn wedi dechrau troi’n felyn, ac fe ges i fynd i’r ysbyty ym mis Ionawr 2017.
“Fel sawl un arall, doeddwn i erioed wedi bod yn sâl iawn o’r blaen, ac roeddwn i bob amser yn iach a heini. Roedd fy nirywiad mor sydyn nes y bu’n rhaid mynd â fi mewn ambiwlans â golau glas yn fflachio i Ysbyty’r Royal Free yn Llundain; ces fy rhoi ar y rhestr aros frys iawn am drawsblaniad wythnos yn ddiweddarach. Pan ddaethpwyd o hyd i organ i mi dridiau’n ddiweddarach, roedd hwnnw’n gyfnod emosiynol iawn i mi a’r teulu. Fe ges i fy nhrawsblaniad o fewn pythefnos o fynd i’r ysbyty, a diolch byth, fe aeth popeth yn dda.
“Mi fydda i’n meddwl am fy rhoddwr drwy’r amser, ac rwy’n hoffi meddwl y galla i fyw bywyd sy’n ddigon llawn i’r ddau ohonom. Rwy’n meddwl y byd ohoni, ac fydda i byth yn peidio â bod yn ddiolchgar iddi hi am benderfynu rhoi rhodd o fywyd. Ei theulu hi yw fy arwyr, yn ystod amser oedd o reidrwydd yn ofnadwy iddyn nhw, ac fe wnaethon nhw ddewis parchu’i phenderfyniad hi. Roeddwn i mor ffodus i gael rhodd mor werthfawr. Brin chwe mis ar ôl i mi gael fy nhrawsblaniad, roeddwn i’n gallu cymryd rhan yng Ngemau Trawsblannu Prydain 2017, ac roeddwn mor falch o allu ennill aur yn y ras 800m. Dyna gyfle i ddathlu byw bywyd fel yr oeddwn i wedi bwriadu’i fyw. Mae’r holl brofiad wedi newid fy ffordd o edrych yn llwyr ar y gwahaniaeth y gall rhoi organau’i wneud i fywyd rhywun.
“Y peth wnaeth wir fy nharo i oedd y ffaith fod fy mywyd wedi newid mor syfrdanol o fewn cyfnod mor fyr o amser. Roedd aros am roddwr yn gwneud i mi deimlo’n euog, yn rhannol am fy mod i’n gwybod cynifer o bobl eraill sydd ar y rhestr aros, ac yn rhannol am mai’r gwirionedd yw eich bod chi’n aros i rywun arall farw er eich mwyn chi. Mae’n gyfnod anodd iawn, yn gorfforol ac yn feddyliol.
“Mae’n fy ypsetio i glywed fod 21 teulu wedi gwrthod cefnogi caniatâd eu perthynas i roi organau yn ystod 2016-17. Mae’n fy mwrw mor galed am mai fi allai fod yn un o’r bobl oedd yn aros i gael organ i achub fy mywyd, na fyddai wedi dod mewn pryd. Mae hi mor bwysig os ydych chi’n penderfynu eich bod chi eisiau rhoi eich organau, eich bod chi’n cael sgwrs am roi organau gyda’ch teulu, mae angen iddyn nhw wybod beth yw eich penderfyniad, er mwyn iddyn nhw gefnogi eich penderfyniad, os byth y byddan nhw yn y sefyllfa honno.”
Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.