Neidio i'r prif gynnwy

Rhodd i newid bywyd

Siaradwch am roi organau: Geraint John

Roedd Geraint John, 65 oed, yn byw bywyd iach tan iddo droi’n 48 oed, a dechrau profi poen na allai ei egluro yn ei ysgwydd. 

Rai wythnosau’n ddiweddarach ym mis Ionawr 2013, sylwodd Geraint fod ei wrin yn lliw oren tywyll felly aeth at y meddyg.

Dywedwyd wrth Geraint bod ei arennau wedi methu oherwydd fasgwlitis, sef llid ar eich pibellau gwaed, a oedd wedi achosi chwydd yn ei ysgwydd a methiant yr arennau.

Meddai:

Cyn i mi wybod, roeddwn i yng nghefn ambiwlans yn cael fy rhuthro i Ysbyty Treforys. Cefais fy nghyfarch gan feddyg a afaelodd yn fy llaw a dweud ei fod yn amau bod gen i fethiant yr arennau. Cymerodd fiopsi o fy aren ac ar ôl awr neu ddwy, roeddwn i’n derbyn triniaeth dialysis. Roeddwn i mewn sioc.

Ym mis Awst 2003, ar ôl dim ond chwe wythnos o driniaeth, roedd Geraint yn ôl yn y gwaith a chafodd ei roi ar y rhestr trawsblaniadau.

Ar 29 Medi 2003 am 4:00am, cafodd Geraint alwad ffôn a fyddai’n newid ei fywyd. Roedd aren addas wedi’i chanfod gan roddwr organau marw gyda chydsyniad ei deulu. Cafodd ei ruthro i Ysbyty Athrofaol Cymru ac erbyn 9:30am yr un diwrnod, roedd yn cael i lawdriniaeth.

Meddai:

Mae’r aren a roddwyd i mi wedi newid fy mywyd. Ers fy nhrawsblaniad, does dim na alla i ei wneud! Rydw i wedi cerdded Mur Hadrian a Basecamp Everest i godi arian i Gronfa Paul Popham, Rydw i hefyd wedi cerdded llwybr Taith Taf o Aberhonddu i Gaerdydd, mewn un diwrnod, a oedd yn daith gerdded 18 awr a hanner ac ym mis Ebrill eleni, cerddais 50,000 o gamau yn fy ngardd gefn yn ystod Covid-19 i godi arian.

Er bod y llawdriniaeth wedi trawsnewid fy mywyd yn llwyr ac wedi rhoi fy iechyd yn ôl i mi, weithiau rwy’n ei gweld hi’n od bod rhywun arall wedi gorfod marw er mwyn i mi gael byw. Gobeithio y caiff teulu fy rhoddwr gysur o gael gwybod nad oedd y farwolaeth yn ofer, a bod y rhodd a roddwyd i mi yn rhywbeth fydda i fyth yn ei anghofio.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.