Neidio i'r prif gynnwy

Mae nyrs 36 oed o'r Wyddgrug yn dweud bod ei drawsblaniad aren a phancreas yn golygu nad oes angen iddo chwistrellu inswlin mwyach, wedi blynyddoedd o orfod gwneud hynny.

Siaradwch am roi organau: Jon Baldwin

Pan oedd bron yn ddwy oed, cafodd Jon ddiagnosis o ddiabetes math 1.  

Dywedodd:

“Ar ôl i mi gael diagnosis, bues i'n byw gyda diabetes gydol fy mhlentyndod heb fawr o drafferth. Erbyn fy ugeiniau hwyr, dechreuais deimlo'n flinedig a di-hwyl, gan feddwl taw henaint oedd e ar y pryd. 

Yn 2016, pan oedd yn 30 oed, cafodd Jon wybod bod ei arennau a'i bancreas yn methu. 

Sgyrsiau wedi'u troi at roi organau

Dywedodd:

“Rwy'n cofio'r meddygon yn siarad am drawsblaniadau'n eithaf cynnar ac felly roeddwn yn gwybod bod fy sefyllfa yn reit ddifrifol.

Dywedodd Jon:

“Fe wnaeth gweithrediad fy arennau ostwng i chwech y cant, ac fe'm rhoddwyd ar y rhestr. Byddai angen imi ystyried dialysis mwy na thebyg, gan nad oedd modd rhagweld am ba hyd y gallai rhywun fod ar restr trawsblaniad. Hefyd, dywedwyd wrthyf y gallwn i fod ar y rhestr yn hirach nag arfer, gan fod mwy o amser aros am drawsblaniad aren a phancreas gyda'i gilydd nag ar gyfer trawsblaniadau ar wahân."

Yr alwad ffôn y bu'n aros amdano

Daeth galwad Jon am organau flwyddyn ar ôl dwy ymgais aflwyddiannus, ac ar 12 Gorffennaf 2018, cafodd drawsblaniad aren a phancreas llwyddiannus.

Dywedodd:

“Cefais fy rhyddhau o'r ysbyty 10 diwrnod yn ddiweddarach, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd, doedd dim angen i mi chwistrellu inswlin mwyach. Fe wnaeth fy symptomau methiant arennol ostwng yn sylweddol, a dechreuodd wella dros amser. Roedd yn anhygoel.

“Dw i'n gwbl ymwybodol nad oes gan bancreas wedi'i drawsblannu oes hir, a'i bod yn debygol y byddaf yn cael diabetes math 1 eto. Ond hyd yma, mae wedi rhoi dwy flynedd o ansawdd bywyd gwell i mi a dw i’n ddiolchgar iawn i'm rhoddwr am hynny ac am achub fy mywyd hefyd.

Gobeithio y gall pobl weld beth mae rhoi organau yn gallu ei wneud i ansawdd bywyd unigolyn, ac y bydd mwy o bobl yn cael y sgwrs er mwyn cynnal mwy o drawsblaniadau nag erioed."

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.