Neidio i'r prif gynnwy

Gobeithio y bydd fy stori’n annog hyd yn oed mwy o bobl i siarad am roi organau.

Siaradwch am roi organau: Mark Irwin

Mae Mark Irwin, 56, o Ddoc Penfro yn cofio eistedd yn ei gar gyda’i wraig, gan feddwl na fyddai’n byw am wythnos arall.

Y noson honno, ar 2 Mehefin 2012, byddai Mark yn cael yr alwad ffôn a fyddai’n newid ei fywyd am byth.

Dywedodd: 

Fel dyn ifanc, dwi’n cofio cael cyfnodau penysgafn wrth chwarae rygbi. Adroddais fy symptomau i’m meddyg teulu, ond ni chafodd dim ei ganfod.

Ond ni arweiniodd symptomau Mark at ddiagnosis gan mai dim ond wrth ymarfer y byddai ei symptomau yn dod i’r amlwg.

Meddai:  

Dros gyfnod o amser, daethpwyd i’r casgliad fy mod i’n dioddef o Gardiomyopathi Lledagored (DCM) a Chardiomyopathi Arrhythmogenig (ARVC).

Ar ôl i Mark gael diagnosis, ac er gwaethaf meddyginiaeth, dechreuodd ei iechyd ddirywio pan ddatblygodd anoddefgarwch i’r feddyginiaeth a oedd i fod i helpu i reoli’r arrhythmia.

Roeddwn i’n gwybod mai siawns fach iawn oedd dod o hyd i rodd o galon, felly fe wnes i dderbyn bod angen i mi ofalu ar ôl fy hun cystal ag y gallwn – er ei fod yng nghefn fy meddwl o hyd, roedd yn rhaid i mi beidio â meddwl am y peth. Roedd yn gyfnod anodd iawn.

Yn groes i bob disgwyl, goroesodd Mark heb fod angen trawsblaniad am 15 mlynedd, nes bod newidiadau i’w feddyginiaeth yn golygu bod ei broblemau thyroid wedi codi eto, a dirywiodd ei iechyd yn gyflym.

Meddai:

Un noson ym mis Mehefin 2012, gyrrodd fy ngwraig a finnau i draeth Freshwater West i fyfyrio ac edrych ar y tonnau. Fe wnaethon ni prin siarad, roeddwn i mor sâl fel na allwn i hyd yn oed fynd allan o’r car. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gweld diwedd yr wythnos.

Y noson honno, fel pe bai ffawd yn gwenu arna i, ychydig ar ôl 2 o’r gloch y bore, fe ganodd fy ffôn symudol – clywais lais fy nghydlynydd trawsblaniad yn dweud fod organ ar gael, a bod tacsi 15 munud i ffwrdd.

Cyrhaeddodd Mark Ysbyty Brenhinol Papworth i gael trawsblaniad y galon.

Bu Mark yn y theatr am chwe awr a phrofi’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘enghraifft benigamp o drawsblaniad’.

Ar ôl y trawsblaniad, treuliais 25 diwrnod yn yr ysbyty, gan gynnwys llety mewn fflat ar safle’r ysbyty ar gyfer yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘gyfnod addasu’.

Roeddwn i’n dioddef gorbryder ar ôl y llawdriniaeth, ac yn cael anawsterau wrth addasu i’r organ newydd. Roedd fy hen galon mor wan, a doeddwn i ddim gallu rheoli sut roedd y galon bwerus newydd yn curo, felly roeddwn i’n aml yn sylwi fy mod i’n dal fy ngwynt. Roedd hynny ynddo’i hun yn galw am gryn dipyn o addasu. Arhosodd fy nhad gyda mi yn ystod y cyfnod addasu ac ar ôl ychydig wythnosau, dechreuais gydnabod fy nghalon newydd fel fy nghalon fy hun.

Dwi’n gobeithio y bydd fy stori’n annog hyd yn oed mwy o bobl i siarad am roi organau. Dwi’n credu y dylid trafod y pwnc hyd yn oed mor gynnar ag yn yr ysgol, fel nad yw’n bwnc tabŵ ac fel bod o fywydau nag erioed yn cael eu hachub.”

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.