Neidio i'r prif gynnwy

Achubodd rhoddwr organau fy mywyd

Siaradwch am roi organau: Nathan Rogowski

Cafodd Nathan Rogowski o Bwllheli drawsblaniad afu ar ôl byw â chlefyd cronig yr afu am dros 10 mlynedd.  

Mae'r gŵr 36 oed wedi dioddef clefydau treuliol hirdymor drwy gydol ei oes, ar ôl cael diagnosis o colitis briwiol a chael stoma pan oedd yn 16 oed.  Yna cafodd Nathan ddiagnosis o glefyd yr afu yn 2007, a chafod

Rhoddwyd ei enw ar y rhestr aros am drawsblaniad ar ddechrau 2016, ond oherwydd bod ei grŵp gwaed, B negatif, yn brin, cafodd wybod y gallai gymryd amser i ddod o hyd i afu a oedd yn cydweddu. Ar ôl byw gyda'r clefyd am ddegawd, dechreuodd iechyd Nathan ddirywio. 

Ym mis Ionawr 2017, rhuthrwyd Nathan i'r ysbyty leol i gael llawdriniaeth ar wythïen a oedd wedi byrstio:

Pan aeth pethau'n ddifrifol iawn, ac roedden nhw methu â stopio'r gwaedu, fe symudwyd fi i Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham. A dyna pryd y dywedodd un o nyrsys yr uned gofal dwys ym Mangor y gallai fod afu ar gael i mi yn Birmingham, ond na ddylwn i godi fy ngobeithion, gan mai claf wrth gefn oeddwn i rhag ofn na fyddai'r afu yn addas i'r prif glaf.

Ar ôl cyrraedd Birmingham tua 8pm, daeth y cydlynydd trawsblaniadau i'm gweld, a dywedodd fod yr afu yn addas i mi, ac y byddwn yn mynd i'r theatr am 10pm.

Digwyddodd y cyfan mor gyflym, ches i ddim amser mewn gwirionedd i feddwl am y peth, ond mae hynny'n well weithiau.

Bellach, mae 3 blynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy afu newydd, ac rwy'n llawn gobaith am y dyfodol ac am fy mreuddwyd o gael gweithio yn y sector iechyd, a'r cyfan diolch i garedigrwydd y rhoddwr a'i deulu. 

Ni allaf ddechrau deall eu poen, o golli un oedd yn annwyl iddynt, ond rydw i mor ddiolchgar eu bod wedi gwneud y penderfyniad, ac wedi rhoi eu caniatâd ar gyfer y trawsblaniad. Y nhw yw'r rheswm rydw i yma heddiw. 

Cefais ail gyfle i fyw, diolch iddyn nhw.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.