Neidio i'r prif gynnwy

Privacy notice for the public appointments stakeholder enagement.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Cefndir

Mae'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth, eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau, ac i geisio adborth ar Benodiadau Cyhoeddus. Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn cadw rhestrau cyswllt o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn penodiadau cyhoeddus.

Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut mae eich data personol yn cael ei brosesu a'ch hawliau o dan Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Pa ddata personol sy'n cael ei brosesu gennym?

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu’r data personol canlynol:

  • enw
  • cyfeiriad e-bost
  • sefydliad
  • teitl y swydd
  • manylion cyfarfodydd lle mae angen i swyddogion gymryd camau gweithredu 

Sut byddwn yn casglu eich data

Rydym yn casglu data personol:

  • yn uniongyrchol oddi wrthych chi (er enghraifft, lle'r ydych yn gofyn am gael eich ychwanegu at restr gyswllt, rhoi adborth, neu gysylltu â ni)
  • o ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd, megis gwefannau sefydliadol neu wybodaeth broffesiynol arall
  • drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd, digwyddiadau, neu grwpiau rhanddeiliaid 

Diben prosesu

Rydym yn defnyddio data personol i wneud y canlynol:

  • cyfathrebu diweddariadau neu gyhoeddiadau polisi
  • ceisio adborth i lywio datblygiad polisi
  • eich gwahodd i gyfarfodydd, digwyddiadau neu hyfforddiant
  • ymateb i ymholiadau a cheisiadau ymgysylltu
  • rhannu gwybodaeth am gyfleoedd penodiadau cyhoeddus 

Y sail gyfreithiol dros brosesu

Gwneir prosesu o dan Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU (tasg gyhoeddus), wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yng Ngweinidogion Cymru.

Cefnogir hyn gan:

  • Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar Benodiadau Cyhoeddus (Rhif 2) 2023; a’r
  • Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i benodiadau gael eu gwneud ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, gan ddefnyddio cronfa mor eang ac amrywiol o ymgeiswyr â phosibl, ac sy'n cefnogi ymgysylltu rhagweithiol i sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch i bobl o ystod eang o gefndiroedd. 

Data categori arbennig

Nid ydym yn prosesu data personol categori arbennig fel mater o drefn. Pan gaiff ei darparu yn wirfoddol (er enghraifft drwy adborth neu weithgarwch ymgysylltu), ni chaiff ei brosesu ond lle bo angen ac yn unol ag Erthygl 9 GDPR y DU. 

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth?

Gellir rhannu data personol o fewn y Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru at y dibenion a nodir uchod. Nid ydym yn rhannu'r data hwn ag adrannau eraill y fel mater o drefn. 

Pa mor hir y byddwn ni'n cadw'ch data

Mae data personol yn cael ei gadw yn unol â Chofrestr Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.

Mae manylion cyswllt rhanddeiliaid yn cael eu cadw fel arfer am hyd at dair blynedd. Gall hyn gael ei ymestyn pan fo ymgysylltu parhaus neu ei fyrhau lle'r ydych chi'n gofyn i’ch manylion gael eu dileu.

Mae rhestrau cysylltiadau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac mae data yn cael ei ddileu lle nad oes ei angen mwyach.

Trosglwyddo yn rhyngwladol

Mae eich data personol yn cael ei brosesu yn y DU. 

Gwneud penderfyniadau awtomataidd

Nid ydym yn defnyddio eich data personol i wneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio. 

Eich hawliau

O dan GDPR y DU mae gennych chi hawl i'r canlynol:

  • gweld eich data personol
  • gofyn bod data anghywir yn cael ei gywiro
  • gofyn am gwblhau data anghyflawn
  • gofyn am ddileu data lle nad oes sail gyfreithlon dros ei brosesu
  • gofyn am gyfyngu ar brosesu mewn amgylchiadau penodol
  • gwrthwynebu prosesu, gan gynnwys at ddibenion marchnata uniongyrchol 
  • i arfer eich hawliau, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion isod.

Manylion cyswllt

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cwynion

Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich data personol wedi'i drin, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Mae gennych yr hawl hefyd i geisio iawn drwy'r llysoedd.