Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (23 Tachwedd), mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr drwy ganmol y rôl hynod bwysig y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn cymunedau ar draws Cymru, gan dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael iddynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan:  

Bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, rydyn ni’n nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a’n hymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a’r cymorth y maen nhw’n eu haeddu.

Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl hanfodol drwy ofalu am aelodau o’u teuluoedd, cymdogion, ac eraill yn ein cymunedau sydd ag angen gofal a chefnogaeth ychwanegol. 

Maen nhw wedi ymroi i gefnogi’r rheini y maen nhw’n eu caru drwy ofalu amdanynt, a rhaid sicrhau eu bod nhw yn eu tro yn gallu cael y cymorth angenrheidiol, ar yr amser iawn, er mwyn helpu i gefnogi eu llesiant a’u helpu i gydbwyso’r galwadau dyddiol yn eu bywydau.

Mae dros 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy’n rhoi cymorth a gofal i berthynas neu gyfaill sydd â salwch neu anabledd, neu os oes angen rhagor o gymorth arnyn nhw gan eu bod yn mynd yn hŷn. 

Mae gofalwyr di-dâl yn aml yn gorfod cydbwyso eu rôl ofalu ag addysg, hyfforddiant, neu waith, neu efallai eu bod wedi ymddeol ac ag anableddau neu gyflyrau iechyd eu hunain.

Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl o bob oed, gan sicrhau eu bod yn cael mwy o gyfleoedd i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 
Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru i fwynhau cyfnodau i ffwrdd oddi wrth eu rôl ofalu – er mwyn helpu i wella eu llesiant meddyliol a chorfforol. 

Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6m yn y cynllun, a fydd yn galluogi 30,000 o ofalwyr ychwanegol i gael seibiant i ymlacio, cymdeithasu, neu wneud gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt.   

Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â gofalwyr di-dâl yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru er mwyn clywed am eu profiadau o ddefnyddio’r Cynllun Seibiant Byr. 

Dywedodd gofalwr di-dâl a fanteisiodd ar y cyfle i gael seibiant byr drwy weithgarwch grŵp: 

Ar ôl ein trip diwrnod, roeddwn i’n teimlo’n llai ar fy mhen fy hun, ac roeddwn i’n teimlo hefyd mod i’n rhan o grŵp o gyd ofalwyr a oedd yn deall y pwysau sydd arnom i gyd fel gofalwyr. 

Mae hyn wedi fy helpu i ddeall mwy am y pwysau hyn, a bod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw, a hefyd i ddeall y cymorth sydd ar gael i fy helpu i barhau i ofalu yn y dyfodol. 

Weithiau rydych chi angen seibiant dim ond er mwyn ichi allu gweld y ffordd ymlaen. Rydyn ni wedi sefydlu grŵp sgwrsio i gadw mewn cysylltiad, a chefnogi ein gilydd yn y dyfodol.

Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Seibiant Byr Cymru:

Mae’r Cynllun Seibiant Byr Cenedlaethol eisoes wedi rhoi cymorth hanfodol i filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi gallu gweithio’n gyflym gyda sefydliadau trydydd sector ym mhob ardal yng Nghymru i greu mwy o gyfleoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd am gael seibiant rhag ei rôl ofalu ddyddiol.

Mae’n wych clywed bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cynllun trawsnewidiol hwn sy’n gam cyntaf hanfodol tuag at sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael y cyfle y maen nhw’n ei haeddu i orffwys ac ymlacio, ac i fwynhau eu hunain.

Mae’r rhaglen seibiant byr yn gallu cynnig budd amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr hwb y mae seibiant byr yn ei roi i iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl a’u gallu i gynnal eu rôl ofalu, ond hefyd oherwydd ei neges bwysig bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi, a bod eu hangen am gefnogaeth yn flaenoriaeth.

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i roi cynlluniau uchelgeisiol ar waith i alluogi hyd yn oed mwy o ofalwyr i fanteisio ar seibiannau buddiol a gwerth chweil.

Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gyfer 2022-2024 hefyd wedi galluogi 24,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel i brynu nwyddau sylfaenol hanfodol, neu i gael gwybodaeth a chyngor i’w helpu i reoli eu rôl ofalu.