Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau twristiaeth yn 2021 er mwyn darparu dealltwriaeth well o’r sector i sefydliadau diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Prif ganfyddiadau

  • Gwnaed 17.4 miliwn o ymweliadau ag atyniadau a ddarparodd ddata yn 2021
  • Roedd 64% o'r ymweliadau hyn ag atyniadau rhad ac am ddim, ac roedd 36% yn ymweliadau ag atyniadau â thâl.
  • Gwarchodfeydd bywyd gwyllt neu natur oedd y math o atyniad yr ymwelwyd ag ef fwyaf, a oedd yn cyfrif am 28% o’r ymweliadau ag atyniadau yn 2021
  • Cynyddodd ymweliadau ag atyniadau 68% rhwng 2020 a  2021, ond roedd ymweliadau 33% yn is o hyd na’r ymweliadau yn 2019.
  • Roedd cyfran yr atyniadau a oedd ar agor bob mis yn 2021 ar ei huchaf ym mis Awst a mis Medi, pan oedd 83% ar agor
  • Mae'r canlyniadau'n amrywio yn ôl y math o leoliad sydd o dan sylw. Ym mis Awst 2021, dim ond 62% o atyniadau dan do yn unig oedd ar agor, o gymharu â 95% o atyniadau awyr agored, a 93% o atyniadau sydd ag elfennau dan do ac awyr agored.
  • Dywedodd tua hanner (48%) o’r atyniadau fod eu capasiti gweithredu cyfartalog pan oeddent ar agor yn 2021 rhwng 80% a chapasiti llawn.
  • Adroddodd y rhan fwyaf o atyniadau y bu cynnydd mewn ymwelwyr yn ystod 2021 (85%). dywedodd 3% eu bod wedi aros yr un peth, a dywedodd 12% fod nifer eu hymwelwyr wedi gostwng.
  • Cododd taliadau mynediad cyfartalog 6% i oedolion a 10% i blant.
  • Mae sylwadau ansoddol yn awgrymu y bu recriwtio yn her sylweddol yn 2021. Hyd yn oed pe bai atyniadau am gyflogi mwy o staff, nid oedd pob un yn gallu llenwi'r swyddi yr oeddent yn recriwtio ar eu cyfer. Mae’r broblem hon wedi parhau i rai i mewn i 2022.

Adroddiadau

Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth, 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.