Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch

Gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn gweithredu ar y lefel democratiaeth fwyaf lleol.  Yn dilyn dadansoddiad o etholiadau cynghorau cymuned a thref ym mis Mai 2022, cododd y data bryderon ynghylch lefel yr ymgysylltiad rhwng y cymunedau a'u cynghorau. 

Sefydlodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd. Bydd y Grŵp yn adrodd i'r Gweinidog yn 2024, a bydd yn darparu opsiynau ar gyfer camau gweithredu ar gyfer cynghorau cymuned a thref, cyrff sy'n cynrychioli'r sector a'r llywodraeth i:

  • gwella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned
  • cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy'n sefyll am etholiad i gynghorau cymuned a thref

Y cymunedau dan sylw

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd yn gofyn am dystiolaeth yn enwedig gan y grwpiau canlynol:

  • aelodau o'r cyhoedd sy'n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli yn eu cymunedau
  • preswylwyr sy'n byw mewn cymuned sydd â chyngor cymuned neu dref
  • aelodau o'r cyhoedd sydd, neu a oedd, yn ymwneud â gweithgareddau cynghorau cymuned a thref
  • aelodau o'r cyhoedd nad ydynt erioed wedi ymwneud â chynghorau cymuned a thref, a'u gweithgareddau
  • sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru
  • cynghorwyr cymuned a chynghorwyr tref presennol a chyn-gynghorwyr
  • y prif gynghorau a sefydliadau a rhanddeiliaid eraill sy'n gweithio mewn cymunedau ledled Cymru

Pam gofyn am dystiolaeth?

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd yn defnyddio hyn, a thystiolaeth arall, i ddatblygu cyfres o sgyrsiau ychwanegol i archwilio rhai themâu allweddol. 

Os hoffech gymryd rhan yn y sgyrsiau ychwanegol hyn, cewch gyfle i gofrestru eich diddordeb fel rhan o'r wybodaeth y gofynnir amdani yn yr arolwg. 

Bydd yr arolwg a'r sgyrsiau ychwanegol yn helpu'r Grŵp i baratoi ei adroddiad ac ystyried opsiynau ar gyfer camau gweithredu i'w cyflwyno i'r Gweinidog. 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Prif Gynghorau

Beth yw eich rôl chi yn y Prif Gyngor?

Faint, os o gwbl, fyddech chi'n dweud rydych chi'n ei wybod am gynghorau cymuned neu gynghorau tref?

Ydych chi wedi ymwneud â chyngor cymuned neu gyngor tref?

Ydych chi eisiau sefyll, neu ydych chi erioed wedi sefyll i fod yn Gynghorydd ar gyngor cymuned neu gyngor tref?

Os ydych chi'n fodlon cymryd rhan mewn grwpiau ffocws i drafod themâu sy'n deillio o ganfyddiadau'r arolwg, rhowch eich manylion cyswllt isod:

Beth yw eich grŵp oedran?

Beth oedd y rhywedd a bennwyd ichi neu a gofrestrwyd ar eich cyfer ar adeg eich geni?

Beth yw eich hunaniaeth rhywedd?

Ym mha ardal Awdurdod Lleol rydych chi wedi'ch lleoli?

Beth yw eich grŵp ethnig?

Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref

Beth yw eich rôl chi ar y cyngor cymuned neu'r cyngor tref?

Os ydych chi’n gynghorydd cymuned neu'n gynghorydd tref, fyddech chi'n sefyll i gael eich ethol yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf?

Ydych chi wedi ymwneud â'ch Prif Gyngor?

Os ydych chi'n fodlon cymryd rhan mewn grwpiau ffocws i drafod themâu sy'n deillio o ganfyddiadau'r arolwg, rhowch eich manylion cyswllt isod:

Beth yw eich grŵp oedran?

Beth oedd y rhywedd a bennwyd ichi neu a gofrestrwyd ar eich cyfer ar adeg eich geni?

Beth yw eich hunaniaeth rhywedd?

Ym mha ardal Awdurdod Lleol rydych chi wedi'ch lleoli?

Beth yw eich grŵp ethnig?

Aelodau o'r cyhoedd a'r Trydydd Sector

Ydych chi'n ymwybodol o'ch Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref lleol?

Rhestrwch hyd at dri pheth rydych chi'n credu mae cyngor cymuned neu gyngor tref yn eu gwneud

Ydych chi wedi cael unrhyw gyswllt â'ch cyngor cymuned neu gyngor tref yn ystod y 12 mis diwethaf; er enghraifft, gweithgareddau neu ddigwyddiadau cymunedol, cyfarfodydd y Cyngor (gan gynnwys cael eich cyfethol i grŵp), neu gysylltu â chynghorydd?

Faint, os o gwbl, o ddiddordeb sydd gennych chi mewn cymryd rhan yng ngwaith eich cyngor cymuned neu gyngor tref?

Ydych chi eisiau sefyll, neu ydych chi erioed wedi sefyll i fod yn Gynghorydd ar gyngor cymuned neu gyngor tref?

Faint, os o gwbl, o ddiddordeb sydd gennych chi mewn cymryd rhan yn eich cymuned leol drwy wneud gwaith gwirfoddol?

Os ydych chi'n fodlon cymryd rhan mewn grwpiau ffocws i drafod themâu sy'n deillio o ganfyddiadau'r arolwg, rhowch eich manylion cyswllt isod:

Beth yw eich grŵp oedran?

Beth oedd y rhywedd a bennwyd ichi neu a gofrestrwyd ar eich cyfer ar adeg eich geni?

Beth yw eich hunaniaeth rhywedd?

Ym mha ardal Awdurdod Lleol rydych chi wedi'ch lleoli?

Beth yw eich grŵp ethnig?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Rhagfyr 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at LGPolicy.correspondence@llyw.cymru
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.