Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dilyn adroddiad am y methiannau rheoli ac arwain yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sydd wedi digwydd?

Cyhoeddwyd adroddiad annibynnol ar yr Adolygiad o Ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan  Fenella Morris CB ar 3 Ionawr 2024.

O ganlyniad, gwnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ddatganiad llafar ar 9 Ionawr 2024. Ar 6 Chwefror 2024, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar pellach a chyhoeddodd Gyfarwyddydau i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Mae'r Cyfarwyddydau yn rhoi holl swyddogaethau'r Awdurdod Tân ac Achub i 4 Comisiynydd:

  • Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru
  • Kirsty Williams, cyn-Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed
  • Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Carl Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru

Yr hyn y bydd y Comisiynwyr yn ei wneud

  • Gweithredu holl argymhellion yr adolygiad o ddiwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o fewn y terfynau amser a nodir ynddo.
  • Sefydlu a goruchwylio uwch dîm rheoli newydd a phrosesau cysylltiedig nad ydynt wedi'u handwyo gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Fel cam cyntaf, byddant yn penodi Prif Swyddog Tân ac, yn ôl yr angen, uwch staff angenrheidiol eraill i gyfrannu'n llawn ac yn effeithiol at adferiad yr Awdurdod Tân ac Achub.
  • Sefydlu a gweithredu proses i nodi'r cwynion a wnaed yn ystod cyfnod yr adroddiad y mae'n bosibl eu bod wedi'u trin yn amhriodol a/neu'n annheg. Byddant hefyd yn sicrhau bod yr achosion hynny'n cael eu hailagor a'u hailarchwilio, gan arwain at ganlyniad teg a chyfiawn.
  • Gweithredu'r holl argymhellion a wnaed yn adolygiadau thematig y Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar y canlynol:
  • Gwneud trefniadau ar gyfer gostyngiad sylweddol a pharhaus yn nifer y galwadau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb iddynt sy'n alwadau ffug.
  • Datblygu cynigion ar gyfer system lywodraethiant Awdurdod Tân ac Achub De Cymru i'r dyfodol a fydd yn lleihau'r risg o fethiannau tebyg pellach.
  • Cyflawni swyddogaethau eraill sydd gan yr Awdurdod Tân ac Achub a'i aelodau, a nodir mewn statud ac yn rheolau sefydlog yr Awdurdod. 
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar y cynnydd a wneir mewn perthynas â'r uchod, ac ar y potensial i ddod â'r ymyrraeth i ben.
  • Ymgymryd â'u holl waith yn ysbryd llawnaf partneriaeth gymdeithasol, a thrwy feithrin cysylltiadau yn barhaus ac yn effeithiol â staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac â chyrff cynrychioliadol eraill.

Diweddariadau

Dilynwch y cynnydd ar waith y Comisiynwyr ar wefan SWFRA.