Neidio i'r prif gynnwy

Mae yr amser honno o'r flwyddyn eto. Mae'r Nadolig yn agosáu ac rydych mewn penbleth yn ceisio meddwl am yr anrheg perffaith i'ch plentyn, bartner neu ffrind.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gallech feddwl bod anifail anwes yn syniad da, ond nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai mis Ionawr yw yr amser o'r flwyddyn pan fyddwn yn gweld y nifer uchaf o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael mewn llochesi anifeiliaid.

Mae anifail anwes yn ymrwymiad hirdymor, felly mae'n bwysig ichi wneud eich gwaith ymchwil ac i ystyried eich amgylchiadau yn ofalus. Dyma ychydig bethau y dylech eu hystyried cyn croesawu anifail anwes i'ch cartref y Nadolig hwn.

  1. Allwch chi roi cartref da i'r anifail?
    Mae pob anifail yn haeddu byw bywyd hapus di-boen. Gwnewch yn siŵr y gallwch roi amgylchedd addas i'ch anifail anwes, y lle i ymddwyn mewn ffordd naturiol (er enghraifft redeg neu hedfan), deiet addas, cwmni a gofal iechyd. 
  2. Allwch chi fforddio anifail anwes?
    Mae'n cymryd lle, amser ac arian i edrych ar ôl anifail yn iawn. Mae ar rai anifeiliaid angen mwy o ofal, sylw ac mae y gost yn amrywio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i ymrwymo i hyn am oes yr anifail o'ch dewis.
  3. O ble mae nhw wedi dod?
    Heb wybod hanes yr anifail, nid oes gennych unrhyw sicrwydd ei fod wedi derbyn gofal neu wedi ei wneud yn anifail cymdeithasol. Gallai hyn arwain at broblemau ymddygiad yn y dyfodol a chostau milfeddygol uchel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eu hanes cyn penderfynu dod ag anifail adref.
  4. Ydych chi wedi gwneud eich gwaith ymchwil?
    Peidiwch byth â prynu ar funud wan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu eich anifail o werthwr dibynadwy, yn enwedig os yw'r anifail wedi ei hysbysebu ar y rhyngrwyd neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch y caiff anifeiliaid anwes eu hysbysebu mewn ffordd gamarweiniol weithiau, er enghraifft celwydd am hanes yr anifail, ei frîd neu ei bedigri. Mae rhai bridiau yn fwy tebygol o ddioddef problemau sydd angen triniaeth filfeddygol reolaidd.
  5. Ydych chi wedi cyfarfod eich anifail?
    Treuliwch amser yn ymweld â'r anifail a'r gwerthwr cyn ichi ei brynu. Dyma gyfle da i wneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau gennych. Os cafodd yr anifail ei brynu y tu allan i'r DU mae'n rhaid iddo gael naill ai basbort anifail anwes neu dystysgrif milfeddygol. Os ydych yn prynu ci bach, gwneud yn siŵr fod ganddo feicrosglodyn. 

Os nad ydych yn siŵr, siaradwch â milfeddyg cyn cytuno i brynu. Os ydych yn pryderu ynghylch lles anifail yr ydych wedi ei weld, dywedwch wrth y cyngor ble y mae yn byw.

A oes gennych unrhyw gynghorion i unrhyw un sy'n ystyried cael anifail anwes? Gadewch inni wybod drwy ddefnyddio'r hashnod #PawsPreventProtect ar Twitter, neu roi sylwadau ar Facebook.

Twitter: @WelshGovernment / @LlywodraethCym
Facebook: WelshGovernment / LlywodraethCymru

Adnoddau:

Mae rhai adnoddau gwych i unrhyw un sy'n bwriadu croesawu anifail anwes i'w bywydau. Edrychwch ar wefannau y Kennel Club, Dogs Trust, Cats Protection, PDSA a'r RSPCA am ragor o wybodaeth.