Cymorth ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol.
Mae Ynni Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned a Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES). Mae SLES yn dod â chynhyrchu ynni, storio, galw a seilwaith at ei gilydd mewn ardal leol. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd ac yn darparu'r manteision lleol mwyaf. Rydym wedi creu rhaglen ariannu grant cyfalaf gwerth £10 miliwn.
Gall sefydliadau'r sector cyhoeddus a chymunedol, a mentrau bach a chanolig sy'n dymuno datblygu SLES yng Nghymru wneud cais am gyllid.
Bydd angen cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026.
Gwnewch gais am Grant Cyfalaf Ynni Cymru
Mae ceisiadau bellach yn cau.
