Ynni Cymunedol Cymru
Cyfeirnod y Cymhorthdal: SC11303 - cymhorthdal i'r weinyddiaeth aelodaeth nid-er-elw sy'n cefnogi ac yn cynrychioli prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Ynni Cymunedol Cymru
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan y cymhorthdal yw cynnal rhaglen sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i grwpiau cymunedol ar gyfer gwireddu eu huchelgeisiau o ran adfywio ynni cymunedol. Mae hyn yn cefnogi ein hamcanion ehangach i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio’r gwarged o ynni a gynhyrchir i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd hyn yn cael ei gyflawni’n rhannol drwy gyflymu’r camau gweithredu i leihau’r galw am ynni a chynyddu perchnogaeth leol i’r eithaf, gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.
Mae amcan y cymhorthdal hwn a chyflawni Ynni Cymunedol Cymru yn ymateb yn uniongyrchol i dargedau ynni Cymru, a fabwysiadwyd yn 2023:
- I Gymru ddiwallu cyfwerth â 100% o’r trydan a ddefnyddir ganddi bob blwyddyn o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
- I o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2035, gan gynyddu’r targed o 1 GW a osodwyd gennym yn wreiddiol erbyn 2030.
Mae’r cynllun yn gyson â Dyfodol Cymru, sef y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy’n gosod y cyfeiriad o ran datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae’n ceisio gwneud y canlynol:
Hwyluso’r broses o ddatgarboneiddio’r economi, gan gynnwys dewisiadau o ran ynni a thrafnidiaeth, a hyrwyddo egwyddorion economi gylchol.
Mae datganiad polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 18 Chwefror 2020 yn nodi sut y bydd cynyddu perchnogaeth Gymreig o gynhyrchu ynni yn cynyddu ffyniant yng Nghymru. Mae’r datganiad polisi hwn yn amlinellu sefyllfa Llywodraeth Cymru i gefnogi’r sector ynni cymunedol, gan adlewyrchu’r diffyg capasiti, adnoddau a chefnogaeth i ddatblygu prosiectau heb gymorth mewn marchnad hynod gystadleuol.
Mae ein cefnogaeth ar gyfer ynni cymunedol wedi’i chynllunio i alluogi grwpiau cymunedol i ddiwallu anghenion ynni lleol o adnoddau adnewyddadwy a chadw unrhyw fuddion yn lleol.
5. Diben y cynllun
Mae’r cymhorthdal ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru, y sefydliad nid-er-elw a weinyddir ar gyfer aelodau sy’n cefnogi ac yn cynrychioli prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Sefydlwyd Ynni Teg, cangen datblygwyr y bartneriaeth, i ddarparu cymorth ymarferol uniongyrchol i reolwyr prosiect yn y sector. Mae Ynni Teg hefyd yn datblygu ac yn gweithredu ei brosiectau ei hun i ddarparu refeniw i ariannu gweithgareddau’r ddau sefydliad yn y dyfodol. Bydd y cymhorthdal ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Cynnal rhaglen sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i grwpiau cymunedol i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer adfywio ynni cymunedol. Mae hyn yn cefnogi ein hamcanion ehangach i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio’r gwarged o ynni a gynhyrchir i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd hyn yn cael ei gyflawni’n rhannol drwy gyflymu’r camau gweithredu i leihau’r galw am ynni a chynyddu perchnogaeth leol i’r eithaf, gan gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.
8. Sectorau i'w cefnogi
Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru.
9. Hyd y cynllun
01 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2028.
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£1,300,000
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd y cymorth yn helpu grwpiau cymunedol i gefnogi amcanion ehangach ar gyfer adfywio ynni cymunedol.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bydd y cymorth yn cael ei dargedu’n ofalus i sicrhau cyflawni amcanion y cymhorthdal, a bydd y cytundeb cyllid yn cynnwys ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol (KPI), a fydd yn cael eu defnyddio fel offeryn rheoli i asesu perfformiad Ynni Cymunedol Cymru.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£99,000
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
