Neidio i'r prif gynnwy

Developing the site development of Cwmni Egino (CE).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Trawsfynydd

Sefydlwyd Cwmni Egino (CE) yn 2021 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni cynllun datblygu safle ar gyfer Trawsfynydd, yn canolbwyntio ar dwf economaidd-gymdeithasol. Ers hynny, bu mwy o ffocws polisi ar gynhyrchu ynni niwclear newydd fel modd o sicrhau sero net a chynyddu diogelwch ynni.

Mae CE wedi diffinio ei weledigaeth ar gyfer Trawsfynydd, sef i fod yn safle’r adweithydd modiwlaidd bach cyntaf i gael ei adeiladu yn y DU erbyn 2027, gyda Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni carbon isel.

Bydd sicrhau datblygiadau o’r fath yn dod â swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd twf y mae mawr eu hangen i ardal Trawsfynydd, ardal sydd yn hanesyddol wedi dioddef heriau economaidd sydd wedi’u gwaethygu ymhellach yn ddiweddar gan effaith pandemig COVID-19 ar sectorau allweddol megis twristiaeth a lletygarwch. Yn nodweddiadol, mae llawer o’r cyfleoedd cyflogaeth hirdymor sy’n talu’n dda yn y sector peirianneg (er enghraifft, Peirianwyr Cyfarpar ac Offerynnau, Peirianwyr Trydanol, Peirianwyr Mecanyddol, Peirianwyr Systemau, Peirianwyr ac Arolygwyr Achosion Diogelwch).

Amcangyfrifodd y bydd cyflogaeth ar ei hanterth yn y 2020au hwyr, yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda 2,600 o weithwyr ar y safle, a bydd gweithlu comisiynu a gweithredol o tua 450 ar y safle am y tymor hir o ddechrau’r 2030au ymlaen. Mae'n hanfodol bod cymorth datblygu sgiliau amserol ar gael i wneud y mwyaf o gyfleoedd a chynnwys lleol a rhanbarthol yn y prosiect wrth iddo ddatblygu.