Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ynni a Thwf Glân yn cynnig cyfleoedd delfrydol i gydweithio ar draws ffiniau, gan helpu i ddenu prosiectau mawr i'r Gogledd ac i Ogledd-orllewin Lloegr, meddai Ysgrifennydd dros yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Glân Gogledd Cymru a Mersi-Ddyfrdwy yn Runcorn ddydd Iau, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud:

"Mae gan Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr lawer sy'n gyffredin. Mae'n briodol iawn felly ystyried cydweithio ar draws ffiniau i hybu twf glân a datgarboneiddio.

"Rydyn ni yng Nghymru wrthi'n wynebu'r heriau hyn. Mae ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn esbonio sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i ymateb i'r dasg o'n blaenau. O hyn ymlaen, wrth asesu prosiectau, byddwn yn gofyn a ydyn nhw'n mynd i'r afael â'r angen am ddatgarboneiddio, a ydyn nhw'n arwyddo contractau economaidd â chwmnïau sy'n buddsoddi i leihau ôl troed carbon eu gweithgareddau ac yr un pryd, yn sicrhau twf economaidd trwy'r gadwyn gyflenwi ehangach.

"Mae'r rhagolygon ar gyfer y sector niwclear yn ein rhanbarthau hefyd yn dibynnu ar gydweithio ar draws ffiniau. Mae Wylfa Newydd ar Ynys Môn a'r potensial ar gyfer adweithydd bach yn Nhrawsfynydd yn gyfle i ddatblygu cadwyni cyflenwi ac i fuddsoddi yn ein pobl ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio'n glos â Bwrdd Ardal Fenter Eryri, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill i ystyried potensial Trawsfynydd i fod y cyntaf i ddefnyddio math newydd o dechnoleg SMR a'i datblygiadau cysylltiedig.

"Mae'r Cynllun Fit4Nuclear yn gweithio â busnesau Cymru i'w paratoi ar gyfer y cyfleoedd posibl ac mae ein rhaglenni sgiliau'n asesu sut y gallwn wneud yn siwr fod pobl leol, gan weithio â Horizon ac awdurdodau addysg lleol, yn gallu ysgwyddo amrywiaeth eang o'r rolau a fydd ar gael.

"Mae llawer iawn y gallwn ei wneud i ddod â budd tymor hir i'n cymunedau."