Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bosibl y bydd ditectifs amatur wedi sylwi bod rhywbeth dirgel wedi bod ar y gweill yn ddiweddar ym maestref Llaneirwg yng Nghaerdydd, lleoliad sydd fel arfer yn gysglyd iawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yno, ar ystad ddiwydiannol ddirodres, mae anturiaethau mawr wedi bod yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig – sef ffilmio ar gyfer cyfres deledu ddiweddaraf Prime Video, Young Sherlock.

Mae'r gyfres deledu newydd sbon hon yn cael ei chyfarwyddo gan Guy Ritchie a'i chefnogi gan Gymru Greadigol ‒ drwy Gronfa Gynhyrchu Llywodraeth Cymru. Mae'n gyfres ansawdd uchel ac iddi wyth ran, ac mae'n rhaghanes i stori wreiddiol ditectif ffuglennol eiconig Syr Arthur Conan Doyle, Sherlock Holmes, sy'n ailddychmygu bywyd y cymeriad wrth iddo dyfu’n oedolyn.

O ganlyniad i'r cymorth hwn, rhagwelir y bydd y cynhyrchiad yn ychwanegu degau o filiynau o bunnoedd at werth yr economi leol.

Yn ogystal, bydd y tîm sydd y tu ôl i Young Sherlock wedi cyflogi dros 340 o bobl yn eu criw yng Nghymru am dros flwyddyn, ac wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n cynnig lleoliadau lefel uchel ar gyfer deg o hyfforddeion, a 45 o leoliadau cysgodi gwaith, ar draws amrediad o ddisgyblaethau.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi bod o gymorth hefyd i adeiladu setiau helaeth yn y ganolfan ffilmio, Great Point Studios.

Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant, â'r set. Dywedodd:

Hyd yn hyn, Young Sherlock yw'r cynhyrchiad mwyaf i gael ei ffilmio yn Great Point Studios yng Nghaerdydd. Roedd yn wirioneddol anhygoel gweld beth mae Motive Pictures, Inspirational Entertainment a Prime Video wedi’i wneud yng Nghymru, nid yn unig yn ffisegol ond hefyd gyda’u brandiau, sy'n enwog yn fyd-eang.

Mae hyn wir yn dangos bod Cymru yn gallu darparu seilwaith o'r radd flaenaf ar gyfer ffilm a theledu, ac mae Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan annatod wrth ddod â'r cynhyrchiad i'n prifddinas. Mae'n gyfle enfawr sy'n dod â manteision economaidd i Gymru ac i’n diwydiant sgrin ac mae’n gryn hwb i’n henw da.

Mae’n bwysig nodi y bydd y cyfleoedd hyfforddi lefel uchel y mae’n harian wedi helpu i'w sicrhau hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein nod o gryfhau a diogelu dyfodol y diwydiant sgrin yma yng Nghymru ‒ nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd Simon Maxwell o'r cwmni cynhyrchu Motive Pictures, sy'n dod â Young Sherlock yn fyw: 

Mae ffilmio yma yng Nghymru, gyda'r cyfan sydd gan y wlad i'w gynnig yn bleser gwirioneddol – gyda chriwiau o'r radd flaenaf a rhai o dirweddau a lleoliadau mwyaf trawiadol y DU. Mae'n lle perffaith i ddod â stori fywiog Sherlock Ifanc yn fyw ac i roi llwyfan i’r enghreifftiau perffaith o Brydeindod sydd i’w gweld yn storïau Sherlock Holmes.

Matthew Parkhill (Deep State, Rogue) yw awdur a chynhyrchydd gweithredol Young Sherlock, ar y cyd â’r cynhyrchwyr gweithredol Simon Kelton (Eddie the Eagle), Ivan Atkinson (The Gentlemen), Simon Maxwell (The Woman in the Wall, Deep State), Dhana Gilbert (The Marvelous Mrs. Maisel), Colin Wilson (The Mandalorian), Marc Resteghini, a'r cyd-gynhyrchydd gweithredol Harriet Creelman.

Ysbrydolwyd y cynhyrchiad gan gyfres lyfrau Andy Lane, Young Sherlock Holmes, a gafodd gryn ganmoliaeth gan yr adolygwyr, ac mae'r cynhyrchiad ffisegol yn cael ei redeg drwy Motive Pictures.

Kelton gafodd y syniad gwreiddiol am y prosiect, gan fynd ati wedyn ar y cyd ag Atkinson i’w becynnu, cyn mynd ati mewn partneriaeth â Motive, Gilbert a Resteghini i’w ddatblygu a dod â'r gyfres i Amazon MGM Studios.