Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth sy'n ofynnol yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25 ac mae yn rhoi arweiniad ar y cyflwyniadau hynny yn ôl y gofyn. Bydd templedi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Ffurflenni rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai arn gyfer ffurflenni sy'n gofyn am gyflwyniad mewn fformat penodol.

Dyddiad dod i rym:          31 Mawrth 2024

Dogfennau cysylltiedig: Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru (2022)

Dosberthir i:                     LCC Cymru

Gwybodaeth ofynnol

Er mwyn cyflawni ein rôl reoleiddio, mae arnom angen yr wybodaeth sydd wedi’i nodi, gyda’r dyddiad cyflwyno cyfatebol yn Atodiad A:

Sylwer mai'r dyddiadau a ddarperir yw'r dyddiadau olaf ar gyfer cyflwyno. Rydym yn croesawu gwybodaeth yn gynharach, unwaith y bydd y dogfennau wedi cael y gymeradwyaeth briodol.

Bydd cyflwyno gwybodaeth ofynnol yn hwyr yn aml yn ystyriaeth wrth fynd ati i lunio Dyfarniadau Rheoleiddio.

Os bydd unrhyw un o'r dyddiadau cyflwyno yn peri anhawster ichi neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â'r gofynion o ran cyflwyno, cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai i drafod.

Cyfrifon Statudol

Dylid anfon copïau wedi eu llofnodi a’u cymeradwyo gan y Bwrdd a’r Archwilwyr Allanol. 

Dylid cyhoeddi Cyfrifon Statudol ar wefan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig erbyn y dyddiad cyflwyno.

Cyfrifon Rheoli

Fel y'u cymeradwyir gan y Bwrdd â'r gofynion sylfaenol canlynol:

  1. Cyfrifon incwm a gwariant manwl, ynghyd â mantolen
  2. Incwm a gwariant fesul ffrwd fusnes (lle bo’n berthnasol)
  3. Naratif yn esbonio unrhyw amrywiant mawr (gan gynnwys yr achosion sy’n ymwneud ag incwm a gwariant cyfalaf)
  4. Monitro cyfamodau benthyciadau, gan gynnwys rhagolygon o’r hyn a ddisgwylir ar gyfer diwedd y flwyddyn
  5. Rhagolwg llif arian, gan gynnwys manylion yr arian parod presennol a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer o leiaf y 18 mis nesaf.

Gellir darparu rhai o’r gofynion hyn mewn Adroddiad Trysorlys – gweler isod.

Os nad yw cylch cyfarfodydd y Bwrdd yn ei gwneud yn bosibl cymeradwyo’r cyfrifon mewn pryd ar gyfer y terfyn amser 42 dydd, cyflwynwch set ddrafft o’r cyfrifon erbyn y dyddiad a bennwyd ac anfon cadarnhad eu bod wedi cael eu cymeradwyo yn hwyrach.

Adroddiad Trysorlys

Mae nifer cynyddol o LCC yn llunio adroddiad ar eu swyddogaeth trysorlys, ar wahân i’w Cyfrifon Rheoli. Pan fo LCC yn llunio un o’r rhain, dylid darparu copi ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd neu’r Pwyllgor perthnasol.

Rhagolygon Ariannol 30 Mlynedd

Bydd y gofynion cyflwyno manwl ar gyfer y rhagolygon ariannol 30 mlynedd yn cael eu darparu ar wahân.

Y dyddiad cau ar 31 Awst yw'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno. Dylid cyflwyno’r Rhagolwg ar ôl i'r Bwrdd ei gymeradwyo.

Cynllun Busnes Strategol

Mae rhai LCC yn llunio Cynllun Busnes Strategol, dros bum mlynedd fel arfer, yn ogystal â Rhagolwg Ariannol 30 Mlynedd.

Pan fo hyn yn digwydd, dylid cyflwyno hwnnw hefyd, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Canlyniadau’r Arolwg Boddhad Tenantiaid 

Bydd canllawiau ar wahân yn cael eu cyhoeddi. Cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai os nad ydych yn siŵr o'r gofynion hyn.

Hysbysiadau Gwaredu

Mae Hysbysiadau Gwaredu heb Flaenoriaeth yn ofynnol bob chwarter, yn ogystal â hysbysiadau â blaenoriaeth, sy’n ofynnol o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant.

Mae’r ffurflenni hysbysu ar gael yma: ffurflenni hysbysu am waredu ynghyd â chanllawiau cyfarwyddyd ynghylch hysbysu am waredu.

Arolwg Rheoleiddio Chwarterol

Mae arolwg newydd yn cael ei gyhoeddi'n uniongyrchol i LCCau bob chwarter. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus yn yr e-bost a'r arolwg ei hun. 

Dull Cyflwyno

Dylid cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn electronig i 

housingregulation@llyw.cymru 

Sylwer na chaiff copïau caled eu derbyn.

Manylion cyswllt

Tîm Rheoleiddio Tai drwy

Rhif ffôn: 03000 628906

Atodiad A: Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025

Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025
Cyflwyno gwybodaethManylionDyddiad cyflwynoFformat y cyflwyniad
1. Datganiadau ariannol wedi’u harchwilioAr gyfer LCC sy'n gweithredu mewn strwythur Grŵp – mae datganiadau ariannol cyfunol a datganiadau ariannol ar gyfer is-gwmnïau unigol yn ofynnol. 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn 
2. Llythyr yr Archwilydd ac ymateb y BwrddFel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio neu’r Bwrdd6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn  
3. Cysoni cyfrifon rheoli â datganiadau ariannolCysoni'r ffigurau yn y datganiadau ariannol â'r rhai a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn y cyfrifon rheoli.6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn  
4. Cyfrifon rheoli chwarterolFel y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd 42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter   
5. Adroddiad trysorlys
(lle y’i lluniwyd)
Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd / Pwyllgor42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter  
6. Datganiad cyllid preifat (PFR)Lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr, mae datganiad o’r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2023 yn ofynnol hefyd. 31 Mai 2024Defnyddiwch demplad Excel 2024 
7. Rhagolygon ariannol 30 mlyneddYn unol â’r canllawiau manwl31 Awst 2024

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
8. Cynllun busnes strategol/corfforaetholFel y’i cymeradwywyd gan y BwrddPan fo ar gael  
9. Crynodeb o’r Archwiliad MewnolFel y’i cyflwynwyd i’r Bwrdd a / neu’r Pwyllgor Archwilio

31 Gorffennaf 2024

neu 30 Ebrill 2024 (lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr)

  
10. Datganiad blynyddol o esemptiadau atodlen 1Yn unol â Chylchlythyr Cymdeithasau Tai 005/10. Mae datganiad yn ofynnol hyd yn oed os na wnaed unrhyw esemptiadau yn ystod y cyfnod

31 Mai 2024

neu 28 Chwefror 2024 (lle daw’r flwyddyn i ben ym mis Rhagfyr)

  
11. Canlyniadau’r arolwg boddhad tenantiaidGan ddefnyddio’r templed a ddarperir28 Chwefror 2024

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
12. Datganiad amrywiaeth y BwrddGan ddefnyddio’r templed a ddarperir, asesu cyfansoddiad y Bwrdd ar 30 Medi 202431 Hydref 2024

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
13. Hunan-werthusiad gan gynnwys cynllun gwelliant parhausDim fformat benodol – gweler y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai wedi’u Cofrestru yng Nghymru.Bob blwyddyn  
14.  Hysbysiadau gwaredu

Gweler y ddolen uchod

 

Heb Flaenoriaeth - 21 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter

Blaenoriaeth – o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant

Defnyddio y ffurflen Hysbysiadau Gwaredu Excel safonol 
15. Arolwg Rheoliad Chwarterol

Gweler yr ebost cyffredinol ddaw gyda bob arolwg

 

Gweler yr ebost cyffredinol ddaw gyda bob arolwgDefnyddio’r templad a ddarparwyd cyn cyflwyno bob chwarter