Yr amserlen ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig: 2025 i 2026
Y dyddiadau y bydd angen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyflwyno eu data.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26 ac mae’n rhoi arweiniad ar y cyflwyniadau hynny yn ôl y gofyn. Bydd templedi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (Ffurflenni rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai) lle bo angen cyflwyno mewn fformat penodol.
Dyddiad dod i rym: 31 Mawrth 2025
Dogfennau cysylltiedig: Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru (2022)
Dosberthir i: LCC Cymru
Gwybodaeth ofynnol
Er mwyn cyflawni ein rôl reoleiddio, mae arnom angen y wybodaeth sydd wedi’i nodi erbyn y dyddiadau a ddangosir yn Atodiad A:
Sylwer mai'r dyddiadau olaf ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth yw’r rhain. Rydym yn croesawu gwybodaeth yn gynharach, unwaith y bydd y dogfennau wedi cael y gymeradwyaeth briodol.
Bydd cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol yn hwyr yn aml yn ystyriaeth wrth fynd ati i lunio Dyfarniadau Rheoleiddio.
Os bydd unrhyw un o'r dyddiadau cyflwyno yn peri anhawster ichi neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â'r gofynion o ran cyflwyno, cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai i drafod.
Cyfrifon Statudol
Dylid anfon copïau wedi eu llofnodi a’u cymeradwyo gan y Bwrdd a’r Archwilwyr Allanol.
Dylid cyhoeddi Cyfrifon Statudol ar wefan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig erbyn y dyddiad cyflwyno.
Cyfrifon Rheoli
Fel y'u cymeradwyir gan y Bwrdd â'r gofynion sylfaenol canlynol:
- Cyfrifon incwm a gwariant manwl, ynghyd â mantolen
- Incwm a gwariant fesul ffrwd fusnes (lle bo’n berthnasol)
- Naratif yn esbonio unrhyw amrywiant mawr (gan gynnwys yr achosion sy’n ymwneud ag incwm a gwariant cyfalaf)
- Monitro cyfamodau benthyciadau, gan gynnwys rhagolygon o’r hyn a ddisgwylir ar gyfer diwedd y flwyddyn
- Rhagolwg llif arian, gan gynnwys manylion yr arian parod presennol a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer o leiaf y 18 mis nesaf.
Gellir darparu rhai o’r gofynion hyn mewn Adroddiad Trysorlys – gweler isod.
Os nad yw cylch cyfarfodydd y Bwrdd yn caniatáu cymeradwyo’r cyfrifon o fewn y terfyn amser 42 dydd, cyflwynwch gopi ddrafft o’r cyfrifon erbyn y dyddiad a bennwyd ac anfonwch gadarnhad eu bod wedi cael eu cymeradwyo yn ddiweddarach.
Adroddiad Trysorlys
Mae nifer cynyddol o LCC yn llunio adroddiad ar eu swyddogaeth trysorlys, ar wahân i’w Cyfrifon Rheoli. Pan fo LCC yn llunio un o’r rhain, dylid darparu copi ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd neu’r Pwyllgor perthnasol.
Rhagolygon Ariannol 30 Mlynedd
Bydd y gofynion cyflwyno manwl ar gyfer y rhagolygon ariannol 30 mlynedd yn cael eu darparu ar wahân.
Y dyddiad cau ar 31 Awst yw'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno. Dylid cyflwyno’r Rhagolwg ar ôl i'r Bwrdd ei gymeradwyo.
Cynllun Busnes Strategol
Mae rhai LCC yn llunio Cynllun Busnes Strategol, dros bum mlynedd fel arfer, yn ogystal â Rhagolwg Ariannol 30 Mlynedd.
Pan fo hyn yn digwydd, dylid cyflwyno hwnnw hefyd, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.
Canlyniadau’r Arolwg Boddhad Tenantiaid
Bydd canllawiau ar wahân yn cael eu cyhoeddi. Cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai os nad ydych yn siŵr o'r gofynion hyn.
Hysbysiadau Gwaredu
Mae Hysbysiadau Gwaredu heb Flaenoriaeth yn ofynnol bob chwarter, yn ogystal â hysbysiadau â blaenoriaeth, sy’n ofynnol o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant.
Ewch i: ffurflenni hysbysu am waredu ynghyd â chanllawiau cyfarwyddyd ynghylch hysbysu am waredu.
Arolwg Rheoleiddio Chwarterol
Mae arolwg yn cael ei anfon yn uniongyrchol at LCCau bob chwarter. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a'r arolwg yn ofalus.
Dull Cyflwyno
Dylid cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn electronig i
housingregulation@llyw.cymru
Sylwer na chaiff copïau caled eu derbyn.
Manylion cyswllt
Gellir cysylltu â’r Tîm Rheoleiddio Tai drwy:
E-bost: housingregulation@llyw.cymru
Atodiad A: Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026
| Cyflwyno gwybodaeth | Manylion | Dyddiad cyflwyno | Fformat y cyflwyniad |
|---|---|---|---|
| 1. Datganiadau ariannol wedi’u harchwilio | Ar gyfer LCC sy'n gweithredu mewn strwythur Grŵp – mae datganiadau ariannol cyfunol a datganiadau ariannol ar gyfer is-gwmnïau unigol yn ofynnol. | 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn | |
| 2. Llythyr yr Archwilydd ac ymateb y Bwrdd | Fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio neu’r Bwrdd | 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn | |
| 3. Cysoni cyfrifon rheoli â datganiadau ariannol | Cysoni'r ffigurau yn y datganiadau ariannol â'r rhai a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn y cyfrifon rheoli. | 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn | |
| 4. Cyfrifon rheoli chwarterol | Fel y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd | 42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter | |
| 5. Adroddiad trysorlys (lle y’i lluniwyd) | Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd / Pwyllgor | 42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter | |
| 6. Datganiad cyllid preifat (PFR) | Lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr, mae datganiad ar gyfer 31 Rhagfyr 2024 yn ofynnol hefyd. | 31 Mai 2025 | Defnyddiwch demplad Excel 2025 |
| 7. Rhagolygon ariannol 30 mlynedd | Yn unol â’r canllawiau manwl | 31 Awst 2025 | Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
| 8. Cynllun busnes strategol/corfforaethol | Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd | Pan fo ar gael | |
| 9. Crynodeb o’r Archwiliad Mewnol | Fel y’i cyflwynwyd i’r Bwrdd a / neu’r Pwyllgor Archwilio neu 30 Ebrill 2025 (lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr) | 31 Gorffennaf 2025 | |
| 10. Datganiad blynyddol o esemptiadau atodlen 1 | Yn unol â Chylchlythyr Cymdeithasau Tai 005/10. Mae datganiad yn ofynnol hyd yn oed os na wnaed unrhyw esemptiadau yn ystod y cyfnod | 31 Mai 2025 neu 28 Chwefror 2026 (lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr) | |
| 11. Canlyniadau’r arolwg boddhad tenantiaid | Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir | 28 Chwefror 2026 | Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
| 12. Datganiad amrywiaeth y Bwrdd | Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir, asesu cyfansoddiad y Bwrdd ar 30 Medi 2025 | 31 Hydref 2025 | Canllawiau/templad ar wahan i ddilyn |
| 13. Hunan-werthusiad gan gynnwys cynllun gwelliant parhaus | Dim fformat benodol – gweler y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai wedi’u Cofrestru yng Nghymru. | Bob blwyddyn | |
| 14. Hysbysiadau gwaredu | Gweler y ddolen uchod | Heb Flaenoriaeth - 21 diwrnod ar ôl diwedd Blaenoriaeth – o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant | Defnyddio y ffurflen Hysbysiadau Gwaredu Excel safonol |
| 15. Arolwg Rheoleiddio Chwarterol | Gweler yr ebost a ddaw gyda bob arolwg | Gweler yr ebost a ddaw gyda bob arolwg | Defnyddio’r templad a ddarparwyd cyn cyflwyno bob chwarter |
